Agenda item

Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad a nodi’r sylwadau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn cynnwys adrodd ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r addewidion o fewn Cynllun y Cyngor 2023-28, yn ogystal â gwaith dydd i ddydd yr Adran. Datganwyd bod y pwnc ‘ymdrin ag argyfwng costau ynni a thlodi tanwydd’ wedi ei dynnu o Gynllun y Cyngor, a hynny oherwydd bod y tîm ynni bellach wedi ei sefydlu a bod gwaith yn mynd rhagddo i roi cyngor a chefnogaeth i drigolion.

 

Ymfalchïwyd bod y garreg filltir o adeiladau 500 o dai cymdeithasol wedi ei chyrraedd, ond er hyn, pryderwyd bod gwrthwynebiad wedi bod i godi tai cymdeithasol mewn ardal benodol o fewn y sir, gyda rhai aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio yn mynd yn groes i argymhellion swyddogion. Adroddwyd bod hyn yn achosi oedi a chostau di-angen, ac yn ei gwneud yn heriol i ddiwallu’r angen am dai cymdeithasol.

Amlygwyd bod y cynnydd yn yr allyriadau carbon o adeiladau’r Cyngor yn bryder. Nodwyd bod rhai o’r offer a ddefnyddiwyd yn flaenorol i adrodd ar hyn yn ddiffygiol, ac felly bod tan-adrodd wedi bod yn y gorffennol.

Aethpwyd ymlaen i adnabod mai’r brif risg i’r Adran yw’r ffaith nad oes modd sicrhau bod neb yn ddigartref yng Ngwynedd. Ychwanegwyd bod yr Adran yn gweithio’n galed i geisio mynd i’r afael â’r broblem.

Yn ogystal, mynegwyd balchder bod yr Adran wedi llwyddo i gadw o fewn ei chyllideb eto y llynedd.

 

Cwestiynwyd pam bod ceisiadau i ddatblygu tai cymdeithasol yn cael eu gwrthod, gan bwysleisio bod galw mawr am dai un neu ddwy lofft. Pryderwyd yn ogystal am y nifer o adeiladau’r Cyngor sydd allan o ddefnydd a holwyd pe bai modd defnyddio’r adeiladau hyn er mwyn creu fflatiau er enghraifft. Canmolwyd gwaith yr Adran ond datganwyd pryder pellach am y nifer uchel o bobl sy’n ddigartref yn y sir, a’r ffigwr o dai gwag yng Ngwynedd.

Wrth gyfeirio at y pryder am geisiadau cynllunio yn cael eu gwrthod, nodwyd bod y targed o 500 o dai cymdeithasol wedi ei gyrraedd serch hyn. Cynigiwyd efallai y caiff y ceisiadau hyn eu gwrthod oherwydd y camsyniad o ddiffyg angen mewn ardaloedd penodol.  Cadarnhawyd bod swyddogion yn edrych yn gyson ar eiddo gwag y Cyngor, gan waredu eiddo di angen a chwilio am safleoedd mwy addas ar gyfer nifer o’r cynlluniau sydd ar waith. Adnabuwyd nad yw’r niferoedd sydd ar restrau aros am dai cymdeithasol yn disgyn, er yr holl waith sy’n cael ei wneud, a hynny oherwydd y galw yn uchel iawn.  

Datgelwyd bod y cynllun tai gwag yn llwyddiannus, gan ychwanegu fod 145 o dai wedi dod yn ôl i ddefnydd a dros 200 o bobl wedi elwa o hynny. Adroddwyd bod mwy o swyddogion tai gwag wedi eu recriwtio, felly bod cynnydd pellach yn debygol o ganlyniad. Adnabuwyd amryw o eiddo gwag sydd o dan berchnogaeth y Cyngor ar draws y sir, ac er nad ydynt oll yn addas i’w datblygu, cadarnhawyd bod cynlluniau ar y gweill i ddatblygu nifer ohonynt.

 

Er bod cymaint o dai wedi eu hadeiladu a nifer o dai gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd, cwestiynwyd pam nad yw’r niferoedd sydd ar y rhestr aros yn dod i lawr. Datganwyd bod mwy o bobl yn dod i mewn i’r system na sydd yn mynd allan, a phwysleisiwyd bod yr angen yn llawer uwch na’r nifer o unedau sydd ar gael i gartrefu’r bobl hyn. Nodwyd bod costau byw uchel a lefelau rent uchel yn y sector breifat yn un o’r prif resymau bod cymaint yn dod i mewn i’r system, yn ogystal â thrais a chyflyrau iechyd meddwl.

 

Esboniwyd nad yw’r ceisiadau am dai cymdeithasol yn gyhoeddus, felly nad yw pobl yn sylweddoli fod cymaint ar y rhestr aros. Adroddwyd bod 97% o bob gosodiad sy’n mynd drwy bolisi gosod y Sir yn cael eu rhoi i bobl sydd â chysylltiad lleol i Wynedd, a chaiff y diffiniad o ‘lleol’ ei gynnwys yn y polisi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ffordd y caiff y nifer sydd ar y rhestr eu cyfri, cadarnhawyd mai unwaith mae cais yn cael ei gyfri waeth faint o ardaloedd sydd wedi ei nodi yn y cais hwnnw fel llefydd yr hoffai fyw ynddynt. Soniwyd os yw un cais yn nodi dwy ardal i fyw ynddynt, y byddai’n ymddangos ar restr y ddwy ardal, ond nad yw hynny’n newid y nifer ceisiadau sydd yn gyfan gwbl. Nodwyd bod y data am y nifer ceisiadau fesul ardal ar gael.

Sicrhawyd bod y tai newydd a gaiff eu hadeiladu yn cyfateb i’r math o dai y mae galw amdanynt, yn ogystal â lleoliadau. 

Holwyd am y resymeg y tu ôl i benderfynu pa unedau a gaiff eu prynu ac yn lle mae hynny. Mewn ymateb, amlygwyd mai swyddogion yr Adran sy’n penderfynu hyn drwy ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys yr angen, ac addasrwydd y tŷ i gyrraedd y safonau angenrheidiol. Diolchwyd i’r Cynghorwyr hynny sy’n dod a tai i sylw’r Adran, gan ategu y cânt eu pasio ymlaen i’r swyddog sy’n cynnal yr asesiadau yn erbyn y meini prawf angenrheidiol.

 

Atebwyd sylwad am y ffaith fod cymdeithasau tai yn cymryd amser hir i ail osod tai gwag gan amlygu rhwystredigaeth, a hynny oherwydd bod cymaint ar y rhestr yn disgwyl am dai. Cynigiwyd y dylid gofyn y cwestiwn teg hwnnw wrth y cymdeithasau tai pan fyddant yn dod gerbron y Pwyllgor hwn yn hwyrach eleni.

 

Adnabuwyd bod oedi wedi bod mewn rhai cynlluniau, a holwyd a yw hyn wedi costio i’r Adran. Cadarnhawyd nad oes oedi wedi bod, ond bod rhai targedau ddim wedi eu cyrraedd erbyn yr amser a obeithiwyd gan yr Adran. Ychwanegwyd nad oes cost uniongyrchol wedi deillio o beidio cyrraedd y targedau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am darged pellach yn dilyn cyrraedd 500 o dai cymdeithasol, amlygwyd bod bwriad o adeiladu 200 uned ychwanegol erbyn diwedd y Cynllun Gweithredu Tai yn 2028/29. Tynnwyd sylw at yr effaith y caiff gwrthod ceisiadau cynllunio ar y targedau hyn, yn ogystal â’r gofrestr aros.

 

Holwyd am y rhwystrau sy’n wynebu’r Adran wrth geisio prynu mwy o eiddo er mwyn lleihau’r ddibyniaeth ar lety argyfwng. Esboniwyd bod cost, lleoliad ac anaddasrwydd yn ffactorau yma, gan ychwanegu y bydd yr eiddo sydd wedi eu prynu ym Mangor a Chaernarfon yn arbed swm sylweddol o gostau.

 

Gofynnwyd a oes unrhyw gynlluniau pellach i drosi adeilad mawr yn fflatiau, gan nodi fod hyn yn ffordd lai costus ymlaen. Cyfeiriwyd at amryw o eiddo ym Mangor ac yng Nghaernarfon sydd wedi eu prynu a’u trosi’n fflatiau, a chadarnhawyd bod cynlluniau pellach ar draws y Sir i ddatblygu mwy o adeiladau fel hyn.

 

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Derbyn yr adroddiad a nodi’r sylwadau.

 

Dogfennau ategol: