Agenda item

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.     Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd bod angen rhoi ystyriaeth fanwl o ran ‘newid defnydd materol’ a’r angen i dderbyn cyngor cyfreithiol allanol wrth ystyried y camau nesaf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Cynorthwyol Amgylchedd.

 

Eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol, bod pryderon am y nifer uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr a oedd yn bodoli yng Ngwynedd, a bod Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno adroddiad yn manylu ar waith ymchwil yn y maes yma , i Lywodraeth Cymru yn 2020. Ymhelaethwyd bod yr adroddiad hwnnw yn gofyn am fesurau i fynd i’r afael â’r pryderon hynny, megis newidiadau i’r gyfundrefn cynllunio er mwyn rheoli ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr.

 

Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru, mewn ymateb,  wedi cyflwyno newidiadau i’r gyfundrefn gynllunio yn 2022 a oedd yn creu tri dosbarth defnydd cynllunio newydd. Nodwyd bod y rhain yn diffinio ‘prif gartref’, ‘ail gartref’ a ‘llety gwyliau tymor byr’. Ychwanegwyd eu bod hyn yn rhoi hawliau i newid o un dosbarth defnydd i’r llall heb yr angen am ganiatâd cynllunio. Fodd bynnag, eglurwyd bod modd i awdurdodau lleol fynd drwy broses i gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer ardaloedd ble mae tystiolaeth bod nifer uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn effeithio’r ardal yn negyddol. Cadarnhawyd bod cyfarwyddyd Erthygl 4 yn declyn  cynllunio sydd wedi cael ei ddefnyddio ers nifer o flynyddoedd i reoli mathau gwahanol o ddatblygiadau megis addasiadau i adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth neu i reoli defnydd o dai amlfeddiannaeth yn Lloegr.

 

Pwysleisiwyd nad oedd cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi cael ei ddefnyddio i geisio rheoli ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr.

 

Cadarnhawyd mai Cyngor Gwynedd oedd yr awdurdod lleol cyntaf i ymgymryd â’r broses o gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 er mwyn ceisio rheolaeth well o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn ymwybodol o’r risgiau a oedd yn gysylltiedig â’r broses o gyflwyno’r cyfarwyddyd, gan sicrhau  bod hyn yn cael ei cofnodi ar gofrestr risg yr Adran. Adroddwyd bod mesurau mewn lle i reoli’r risgiau cyn belled ag oedd yn rhesymol bosib, drwy gydol y broses.

 

Atgoffodd Pennaeth  y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y penderfyniad wedi cael ei wneud ym mis Mehefin 2023, i gyflawni’r broses o sefydlu cyfarwyddyd Erthygl 4 dros gyfnod o ddwy flynedd. Esboniwyd bod y penderfyniad hwn wedi cael ei wneud er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei hysbysebu am dros 12 mis er mwyn osgoi heriau iawndal. Adroddwyd bod y cyfarwyddyd wedi dod i rym yn 2024.

 

Manylwyd bod yr her gyfreithiol a gyflwynwyd yn ymwneud yn bennaf â’r ymgynghoriad cyhoeddus a gyflawnwyd, nid ar gyfer y broses o gyflwyno’r cyfarwyddyd.

 

Eglurwyd bod yr her gyfreithiol lwyddiannus yn nodi bod adroddiad wedi gwneud camargraff ar y Cabinet wrth iddynt benderfynu ar y mater, oherwydd newid materol oedd yn yr adroddiad. Ychwanegwyd bod peidio cynnwys y newid materol hwn o fewn y ddogfennaeth, yn ei wneud yn anghyflawn ac yn ymddangos yn gamarweiniol. Tynnwyd sylw bod newid materol yn elfen sylfaenol i’r maes cynllunio ac felly ni fyddai’r adroddiad yn gamarweiniol os yw’r gynulleidfa briodol yn deall y maes gwaith. Nodwyd bod y Llys o’r farn nad oedd y Cabinet yn deall y maes gwaith, yn wahanol i aelodau’r Pwyllgor Cynllunio, er bod rhai o aelodau’r Cabinet gyda phrofiad o fynychu’r pwyllgor hwnnw fel Aelodau.

 

Pwysleisiwyd nad oedd unrhyw gamarwain bwriadol na maleisus yn rhan o’r broses.

 

Tynnwyd sylw at Adran 31 Deddf Llysoedd Uwch sydd yn ystyried os byddai’r llys yn dod i gasgliad gwahanol, a fyddai hynny yn gwneud gwahaniaeth. Nodwyd o’r angen i’r Llys fod yn hyderus byddai’n ‘debygol iawn’ y byddai’r penderfyniad yn arwain i’r un lle er mwyn parhau i gyflwyno’r cyfarwyddyd. Eglurwyd bod y Llys wedi nodi mai ‘tebygol’ o arwain i’r un lle byddai’r achos hwn ac felly penderfynwyd nad oedd y cyfarwyddyd yn weithredol mwyach o’r herwydd.

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cyflwyno cais i apelio’r penderfyniad hwn ond bod y cais hwnnw wedi cael ei wrthod.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Gofynnwyd am eglurder o ran diffiniadau nifer o dermau perthnasol megis y gwahaniaeth rhwng ‘newid defnydd’ ac ‘newid defnydd sylweddol’. Ymhellach mynnwyd eglurder pellach ar sut roedd yr adroddiadau a gyflwynwyd i’r Cabinet wedi camarwain yr Aelodau yn sylweddol, yn nhyb y barnwr. Yn ogystal, fel holwyd os oedd unrhyw wahaniaethau yn nogfennaeth y cyfarfod hwn gyda’r dogfennaeth a gyflwynwyd i’r Cabinet wrth iddynt ddod i benderfyniad.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar natur gamarweiniol yr adroddiad, pwysleisiodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol bod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn defnyddio geiriad statudol a'i fod yn ymdrech didwyll i gyflwyno gwybodaeth i’r Cabinet, yn ei gyfarfod ar 13 Mehefin 2023. Eglurwyd y disgrifir yr adroddiad fel ‘camarweiniol’ oherwydd bod y Llys yn amlygu’r angen am lefel eglurhad uwch o wybodaeth i’r aelodau Cabinet. Atgoffwyd bod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn un a oedd yn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater, ble roedd dros 3,000 o ymatebion wedi eu derbyn, gyda’r bwriad o gyflwyno adlewyrchiad teg o gynnwys yr ymatebion hynny. Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol nad oedd yn rhesymol rhagweladwy i ddisgwyl her gyfreithiol i’r broses yn seiliedig ar y defnydd o’r eirfa “newid defnydd materol” yn gan fod yr adroddiadau wedi defnyddio’r un eirfa a’r statud a Pholisi Cynllunio Cymru. Manylwyd bod trefniadau wedi cael eu rhoi mewn lle i sicrhau bod adroddiadau yn cael eu hadolygu gan gynllunwyr profiadol, yr Adran Gyfreithiol a bargyfreithwyr cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Tynnwyd sylw bod holl ddogfennaeth cyfarfodydd  y Cabinet ar y 13 Mehefin 2023 a’r 16 Gorffennaf 2024 yn parhau i fod yn gyhoeddus a'u bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn flaenorol, yn ei gyfarfod ar  y 09 Mawrth 2023 a’r 16 Mai 2024

 

Gofynnwyd am ddata penodol am y gost ariannol o gyflwyno’r broses ac i ymateb i’r her gyfreithiol. Yn yr un modd, cwestiynwyd pam bod swyddogion wedi mynd ati i apelio’r penderfyniad o ystyried bod eu dogfennaeth yn ddiffygiol. Gwnaed cais i dderbyn crynodeb o fethiannau a arweiniodd at yr her gyfreithiol gan ofyn os oes unrhyw adolygiad neu prosesau disgyblu ar waith.

 

Mewn ymateb, eglurodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran bod costau cyfreithiol ar gyfer amddiffyn yr her gyfreithiol hon oddeutu £60,000. Pwysleisiwyd na ystyrir fod yr arian sydd wedi ei wario hyd yma yn wastraff o arian trethdalwyr oherwydd ei fod yn fuddsoddiad cadarn i’r dyfodol, ei fod wedi caniatáu i’r Cyngor ddatblygu  arbenigedd ei swyddogion a'i fod wedi bod o gymorth sylweddol i awdurdodau eraill sydd yn ystyried neu wedi ymgymryd â’r broses o gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4. Cydnabuwyd bod gwersi wedi cael eu dysgu. Ychwanegodd  Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol bod trefniadau’r Cyngor yn ei wneud yn ofynnol iddo fel y Swyddog Monitro ac i’r Pennaeth Cyllid, asesu priodoldeb adroddiadau sydd yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ac i’r Cyngor Llawn, gan bwysleisio mai’r her gyfreithiol hwn yw’r tro cyntaf i her gyfreithiol ddod ymlaen yn dilyn y drefn hon. Pwysleisiwyd bod y penderfyniad i amddiffyn achos cyfreithiol yn cael ei wneud yn ofalus ac ar amserlen dynn iawn. Ymhelaethwyd bod gwaith cloriannu yn cael ei gymryd o ddifri er mwyn sicrhau bod amddiffyniad cryf yn cael ei ddatblygu. Nodwyd hefyd bod bargyfreithwyr ar gyfer amddiffyn her gyfreithiol yn cael eu dewis yn ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn meddu â’r sgiliau a phrofiad penodol, megis Cwnsler y Brenin (KC), a bod asesiad manwl yn cael ei roi i unrhyw gyngor a dderbynnir.

 

Ymholwyd os yw’r Cyngor wedi addasu ei drefniadau mewn unrhyw fodd yn dilyn yr her gyfreithiol hon. Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol bod gwersi wedi cael eu dysgu yn dilyn y broses hon. Cyfeiriwyd at yr angen i sicrhau bod holl adroddiadau a gyflwynir yn gyflawn yn un o’r gwersi hynny, drwy sicrhau nad oes yna unrhyw fylchau yn y wybodaeth a gyflwynir. Pwysleisiwyd bod y wers hon wedi ei dysgu ar draws y Cyngor ac nid ar gyfer y maes hwn yn unig.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd tystion wedi cael eu galw yn ystod yr her gyfreithiol oherwydd natur yr achos.

 

Nodwyd oherwydd bod y dosbarthiadau defnydd a gyflwynwyd gan Llywodraeth Cymru yn newydd, nid oedd cynsail ar gyfer cyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer y defnydd a bwriadwyd gan Gyngor Gwynedd. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod y tri dosbarth defnydd newydd a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022 yn parhau i fod yn weithredol ac mae modd i berchnogion newid dosbarth defnydd eu heiddo heb yr angen am gais cynllunio. Nodwyd nad oes diffiniad cyfreithiol o newid defnydd materol  a bod hyn yn fater o ffaith a graddfa a bod angen i hyn gael ei ystyried yn unigol fesul achos, gan roi ystyriaeth i faterion fel  amlder a graddfa defnydd. Fodd bynnag, cydnabuwyd nad oes modd atal newid dosbarth defnydd ar hyn o bryd gan nad yw cyfarwyddyd Erthygl 4 yn weithredol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyswllt Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor, eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol yr Adran  bod cyflwyno’r dosbarthiadau oedd yn caniatáu i awdurdodau lleol i gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4, y debygol o fod yn arf a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn caniatáu ymateb cyflym. Tynnwyd sylw y byddai cyflwyno deddfwriaeth brimaidd newydd i gyflwyno’r cysyniad o’r angen am gais cynllunio er mwyn newid dosbarth defnydd eiddo yn broses araf gyda’r risg na fyddai’n llwyddo i dderbyn digon o gefnogaeth ar lefel genedlaethol gan fod y nifer o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr a’u heffaith yn amrywio’n helaeth ar draws Cymru.. Cyfeiriwyd at Gynllun Datblygu Lleol newydd y Cyngor gan nodi bod y broses hon yn mynd i roi ystyriaeth i gyflwyno polisïau cynllunio sydd yn ymwneud ac ail gartrefi a llety gwyliau  tymor byr yn unol â gofynion Polisi Cynllunio Cymru. Amlygwyd nad oes modd atal colli eiddo sydd yn prif fan preswyl i’w trosi yn llety gwyliau tymor byr neu ail dai oherwydd nad oes rheolaeth arno. Fodd bynnag, mae modd gosod amod ar dai sydd yn rhan o ddatblygiadau newydd i fod yn prif fan preswyl yn unig.

 

Gofynnwyd pa fewnbwn a gafwyd gan drigolion Gwynedd wrth i’r Cyngor ystyried cyflwyno’r cyfarwyddyd. Mewn ymateb i’r ymholiad, manylodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd bod ymgysylltu cyhoeddus eang wedi cael ei wneud fel rhan o’r broses. Nodwyd bod hyn yn cynnwys ymgysylltu gyda phob tŷ o fewn ardal awdurdod cynllunio Gwynedd, ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg a gosod rhybuddion safle. Eglurwyd bod swyddogion wedi rhoi ystyriaeth i bob ymateb a ddaeth i law. Esboniwyd nad oedd yr ymatebion yn cael eu grwpio i’r sylwadau hynny oedd o blaid neu yn erbyn cyflwyno’r cyfarwyddyd. Fodd bynnag, eglurwyd bod swyddogion wedi rhoi ystyriaeth fanwl i bob safbwynt a data a gyflwynwyd.

 

Ategodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol bod yr her gyfreithiol hon wedi gwrthwynebu cyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 yng Ngwynedd ar 4 sail. Tynnwyd sylw bod tair sail gymhleth yr her wedi cael eu diddymu fel seiliau apêl gan y llysoedd, gyda dim ond un sail yn llwyddo. Amlygodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran nad oedd y ffaith y bwriedir i’r cyfarwyddyd fod yn effeithio ar ardal cynllunio Gwynedd yn ei gyfanrwydd, wedi cael ei herio. Cadarnhawyd os byddai’r Cyngor yn penderfynu ymdrechu i ail-gyflwyno’r cyfarwyddyd, y byddai’n gwneud hynny gyda’r ardal gyfan yn debygol o fod mewn golwg unwaith eto. Cadarnhawyd byddai modd edrych ar gymunedau penodol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol newydd. Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, ystyriodd yr Aelodau y byddai’n synhwyrol i dderbyn cyngor cyfreithiol allanol ychwanegol ar ddiffiniadau terminoleg angenrheidiol y maes er mwyn sicrhau na fyddai modd cyflwyno unrhyw heriau cyfreithiol yn y dyfodol.

 

Derbyniwyd sylwadau gan Aelodau y dylid marchnata unrhyw ymgais yn y dyfodol i ail-gyflwyno’r cyfarwyddyd yng Ngwynedd mewn modd gwahanol er mwyn ennyn mwy o gefnogaeth. Manylwyd bod y gwaith hyd yma wedi arwain at nifer o lwyddiannau ac byddai gwneud trigolion yn hysbys o hynny yn effeithiol iawn ar gyfer unrhyw ymgais i’r dyfodol. Mynegwyd cefnogaeth i ail-gyflwyno’r cyfarwyddyd yn y dyfodol gan ei fod yn arf effeithiol i’r adran ac yn amddiffyn cymunedau Gwynedd. Holiwyd os yw’r Adran yn bwriadu mynd ati i ail-gyflwyno’r cyfarwyddyd a beth oedd y camau nesaf.

 

Mewn ymateb, eglurodd yr Aelod Cabinet bod dyhead i ail-gyflwyno’r cyfarwyddyd unwaith eto yn y dyfodol. Fodd bynnag, nodwyd nad oes cynlluniau pendant i wneud hynny ar hyn o bryd gan fod tymor y Cyngor hwn yn dirwyn i ben. Ymhelaethodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran bod y gwaith sydd wedi cael ei wneud fel rhan o’r broses hyd yma yn gallu cael ei ailddefnyddio wrth ail-gychwyn y broses. Ystyriwyd bod cyllideb ddigonol i gwblhau’r broses pe byddai’n cael ei ail-gyflwyno. Adroddwyd bod arian grant o £402,330 gan Lywodraeth Cymru i baratoi a gweithredu cyfarwyddyd Erthygl 4 yn llwyddiannus, gyda Chyngor Gwynedd yn cyfrannu swm cyfatebol o  £400,000. Cadarnhawyd bod £465,654.53 wedi ei wario hyd yma (ar faterion staffio, gweinyddu a chyfreithiol) gan gadarnhau bod £336,675.37 yn weddill yn y gronfa os bwriedir ail-gyflwyno’r cyfarwyddyd.

 

Derbyniwyd diolchiadau gan y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cyn-gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, am y cymorth ac arweiniad yr oedd yr Awdurdod wedi ei dderbyn gan Gyngor Gwynedd , drwy gydol y broses o gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer yr awdurdod. Mewn ymateb i ymholiad am lwyddiant Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4, eglurodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran nad oedd unrhyw wahaniaeth yn eu proses hwy o’i gymharu â threfniadau Gwynedd. Amlygwyd, gan fod amserlen y Parc tu ôl i un y Cyngor, eu bod wedi gallu manteisio ar y wybodaeth a ddaeth i law yn ystod yr her gyfreithiol yn erbyn y broses yng Ngwynedd, gan sicrhau bod eu hadroddiadau yn cael eu haddasu i sicrhau bod cyfeiriad penodol at newid defnydd materol.. Ychwanegwyd nad oedd her gyfreithiol wedi cael ei gyflwyno yn erbyn Awdurdod y Parc o fewn y terfyn amser penodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cydnabuodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran nad oedd y cyfarwyddyd yn weithredol yng Ngwynedd am ddigon o amser er mwyn gallu mesur ei effaith. Amlygwyd bod peth data ar gael ac fe fyddai’n cael ei asesu ond roedd yn anodd gwybod ar hyn o bryd os oedd unrhyw effaith yn sgil  y cyfarwyddyd yntau mesurau arall sydd ar waith i fynd i’r afael ac ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr .

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, cadarnhaodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, (cyn-aelod Cabinet a oedd yn rhan o benderfyniad y Cabinet i gymeradwyo cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ei gyfarfod ym Mehefin 2023), ei fod yn ymwybodol o ‘newid defnydd materol’ ac yn ymwybodol o’r wybodaeth berthnasol cyn dod i benderfyniad.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Penderfynwyd:

 

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.     Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd bod angen rhoi ystyriaeth fanwl o ran ‘newid defnydd materol’ a’r angen i dderbyn cyngor cyfreithiol allanol wrth ystyried y camau nesaf.

 

Dogfennau ategol: