Agenda item

Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Amgylchedd.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Phenaethiaid Cynorthwyol yr Adran.

 

Atgoffwyd bod yr Adran yn arwain ar nifer o brosiectau Cynllun y Cyngor 2023-28 sef;

 

·        Gwynedd Glyd

o   Rheolaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr

·        Gwynedd Werdd

o   Cynllun Datblygu Lleol newydd

o   Gwastraff ac Ailgylchu

o   Teithio Llesol

o   Trafnidiaeth Gyhoeddus

 

Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau’r Adran yn ogystal â mesuryddion perfformiad, gan groesawu sylwadau a chwestiynau gan yr Aelodau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-

 

Gwasanaeth Cynllunio

Cydnabuwyd bod straen wedi bod ar swyddogion y gwasanaeth cynllunio yn ddiweddar, gan ddiolch iddynt am eu gwaith ac ymfalchïo fod y gwasanaeth yn manteisio ar gyfleon Cynllun Yfory y Cyngor. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd yr Adran, eu bod wedi cymryd mantais o Gynllun Yfory'r Cyngor er mwyn penodi aelodau staff a’u hyfforddi i fod yn gymwys. Nodwyd bod posibilrwydd bydd Hyfforddai Polisi Cynllunio yn cael ei gynnig yn fuan. Cadarnhawyd bod y gwasanaeth yn cynllunio gweithlu yn effeithiol ac er yn cydnabod trosiant staff, mae swyddogion newydd yn cael eu penodi er mwyn cyflawni’r gwaith.

 

Pryderwyd bod y Cyngor mewn risg o golli arbenigedd ymysg swyddogion cynllunio. Mewn ymateb i’r sylwadau, cydnabuwyd bod peth arbenigedd yn cael ei golli wrth i swyddogion adael eu rolau, ond  sicrhawyd bod defnydd o Gynllun Yfory a chynllunio gweithlu effeithiol yn sicrhad nad oes risg sylweddol o golli arbenigedd.

 

Gorfodaeth Cynllunio

Mewn ymateb i ymholiad ar gyfraddau Gorfodaeth Cynllunio, eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol bod swyddogion yn ymateb i gwynion ar faterion gorfodaeth pan yn briodol. Eglurwyd bod sefyllfaoedd yn codi ble mae unigolion yn anhapus gyda barn swyddogion ac mae trefniadau statudol yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn gallu apelio os dymunir. Tynnwyd sylw ei fod yn heriol i leihau nifer o alwadau gorfodaeth sydd yn cael eu derbyn oherwydd materion staffio, ond hyderwyd bod modd ymdrin â’r mater hwn wrth i niferoedd o aelodau staff cymwys gynyddu.

 

Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran bod yr amserlen i gyflwyno Cynllun Datblygu Lleol Newydd ar amser, ond mai’r flaenoriaeth ar hyn o bryd yw cefnogi staff.

 

Teithio Llesol

Mewn ymateb i gais am ddata o ddefnydd a chynlluniau teithio llesol mewn ardaloedd gwledig o’r Sir, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod modd rhannu’r wybodaeth honno y tu hwnt i’r cyfarfod hwn.

 

Gwastraff ac Ailgylchu

Ystyriwyd os oes cynlluniau ar waith er mwyn casglu plastigion meddal er mwyn cynyddu canran o wastraff a ailgylchir yng Ngwynedd. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran bod trefniadau ar waith er mwyn casglu plastigion meddal fel rhan o gylchdeithiau, o fis Ebrill 2027 ymlaen. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn cydweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg ar hyn o bryd, er mwyn chwilio am arfer dda, gan eu bod eisoes wedi rhoi’r gwasanaeth hwn ar waith. Nodwyd bod ymgorffori casgliadau o’r math hwn yn gallu arwain at gost sylweddol oherwydd yr angen i gynnwys cynlluniau newydd yn ogystal â chostau prosesu’r gwastraff. Pwysleisiwyd bod angen sicrhau bod y gwaith o gasglu’r plastigion meddal yn effeithiol, gan fod tebygolrwydd y bydd archfarchnadoedd yn dirwyn y gwasanaeth i ben unwaith bydd y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb ohono. Adroddwyd bod y prosesau sydd ar waith ym Mro Morgannwg yn effeithiol iawn, a bod yr Adran yn ei ffafrio. Fodd bynnag, pwysleisiwyd mai dim ond oddeutu 1% o holl wastraff Gwynedd yw plastigion meddal ac ni fyddai’n effeithio’n ormodol ar dargedau ailgylchu.

 

Gofynnwyd os yw swyddogion yn credu bod ailgylchu 70% o wastraff y Sir yn darged cyraeddadwy. Mewn ymateb i’r ymholiad ar gyfraddau ailgylchu, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet nad oedd pwysau yn cael ei roi i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o fod yn ailgylchu 70% o wastraff y Sir. Ymhelaethwyd bod technoleg newydd yn cael ei ddatblygu’n gyson a fyddai’n cynorthwyo’r Adran i gyrraedd y targedau hyn i’r dyfodol megis teclyn ailgylchu sydd yn dyrannu arian i ddefnyddwyr am ei ddefnyddio. Sicrhawyd ei fod o’r farn y dylid ailgylchu 100% o holl wastraff y Sir ac y bwriedir cynyddu faint o wastraff sydd yn cael ei ailgylchu i geisio cyrraedd y targed hwnnw cyn belled a sy’n bosib.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach am farn y swyddogion os oedd targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o holl wastraff y Sir yn realistig o ystyried nad oes cynnydd mawr yng nghyfraddau ailgylchu’r Sir i gyfarch y targed, eglurodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran bod holl Awdurdodau Lleol Cymru yn mesur eu llwyddiant yn erbyn y targed hwn yn wahanol. Nodwyd hefyd bod cyfraddau Gwynedd yn erbyn y targed hwn yn amrywio yn flynyddol megis drwy gyfraddau gwastraff gardd, sydd yn cael ei gynnwys o fewn y ffigyrau ar y cyd gyda gwastraff anheddau, busnesau, biniau stryd a chanolfannau ailgylchu. Amlygwyd bod Strategaeth Gwastraff yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd er mwyn cynllunio sut mae’r Adran yn mynd i’r afael â hyn, gan gadarnhau ei fod yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Gorffennaf.

 

Cytunwyd gyda sylwadau Aelodau y dylid rhoi pwysau ar gwmnïau, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod modd ailgylchu pob math o becynnau nwyddau.

 

Mewn ymateb i gais am wybodaeth ychwanegol am ddata yn ymwneud â salwch staff y Gwasanaeth Ailgylchu, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran y byddai’n ei rannu y tu hwnt i’r cyfarfod. Fodd bynnag, eglurwyd bod yr Adran yn gweithio i leihau cyfraddau salwch y gweithlu ac wedi cymryd camau megis lleihau niferoedd depo ailgylchu o fewn y Sir, fel bod modd cynllunio gweithlu yn fwy effeithiol os oes salwch yn codi. Eglurwyd bod y penderfyniad hwn wedi cael ei wneud gan fod cyfraddau salwch staff yn amrywio o ardal i ardal yn y Sir ac mae lleihau’r niferoedd depo yn caniatáu cynllunio gweithlu yn rhwyddach.

 

         PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.  

 

Dogfennau ategol: