Agenda item

Cyfle i Aelodau drafod a chraffu mesurau a blaenoriaethau gwella’r Adran.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, ynghyd â Phennaeth a Phennaeth Cynorthwyol yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC.

 

Atgoffwyd bod yr Adran yn weladwy iawn o fewn y Sir gan ei fod yn cyflawni gwasanaethau rheng flaen. Ymfalchïwyd bod Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) yn gweithredu’n effeithiol iawn ac yn dod ag incwm i’r Cyngor tra hefyd yn cynorthwyo adrannau eraill i ddatblygu cynlluniau.

 

Adroddwyd bod yr Adran yn arwain ar nifer o brosiectau Cynllun y Cyngor 2023-28 sef;

 

·        Gwynedd Yfory

o   Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y Sir

·        Gwynedd Werdd

o   Gweithredu ar risgiau llifogydd

o   Cymunedau Glân a Thaclus

 

Tynnwyd sylw at dargedau arbedion ariannol yr Adran gan nodi bod nifer o’r targedau wedi eu cyfarch ond bod mwy o waith i’w wneud. Hyderwyd y bydd y targedau hynny yn cael eu cyfarch o fewn y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-

 

Gwasanaeth Cynnal Priffyrdd – Cyflwr Ffyrdd

Mynegwyd tristwch am ddigwyddiad angheuol a fu’n ardal Bermo yn ddiweddar. Mewn ymateb i’r sylwadau, cydnabuwyd bod gwersi angen eu dysgu o’r digwyddiad hwnnw, ble nad oedd modd i wasanaethau brys gyrraedd yr ardal mewn pryd, gyda materion traffig a chynnal priffyrdd wedi ychwanegu at yr her. Cadarnhawyd bod adolygiad i mewn i’r digwyddiad a threfniadau eisoes wedi cael eu cynnal a bod cyfarfod arall yn cael ei gynnal yn fuan, ble fydd modd i Aelodau etholedig lleol mewnbynnu i’r drafodaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cydnabuwyd bod niferoedd ffyrdd dosbarth A, B ac C sydd yn adrodd yn goch (cyffredinol wael ac yn debygol o angen gwaith cynnal arfaethedig yn fuan) ar gynnydd. Fodd bynnag, pwysleisiodd Pennaeth yr Adran nad oedd yn sefyllfa bryderus ar hyn o bryd, gan gadarnhau bod cyfraddau safon ffyrdd yng Ngwynedd ymysg yr uchaf yng Nghymru. Amlygwyd yr ystyrir bod cadw cyflwr ffyrdd sydd yn adrodd yn goch o dan 8% yn dderbyniol, gan adrodd bod 4.2% o ffyrdd dosbarth A, 5.2% o ffyrdd dosbarth B ac 13.2% o ffyrdd dosbarth C yn adrodd mewn cyflwr drwg ar hyn o bryd. Cydnabuwyd bod gwaith i’w wneud er mwyn lleihau’r cyfraddau hyn ar gyfer ffyrdd dosbarth C, gan egluro eu bod yn ffyrdd gwledig fel rheol, gan amlygu bod canran uchel o’r ffyrdd yng Ngwynedd yn disgyn i mewn i’r dosbarth hwn.

 

Eglurwyd y defnyddir sganwyr pwrpasol i adolygu’r ffyrdd pob blwyddyn, neu bob dwy flynedd os yw’r ffyrdd yn safonol. Adroddwyd bod yr Adran wedi derbyn buddsoddiad o £2.8miliwn gan LGBI (Local Government Borrowing Initiative) i ddatblygu’r trefniant hwn ac mae’n arf grêt i’r Adran wrth geisio rhaglenni gwaith yn effeithiol gan fod modd blaenoriaethu’r ffyrdd sydd angen y gwaith fwyaf.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith gan nodi nifer o sylwadau o gyflwr ffyrdd boddhaol yng Ngwynedd.

 

Gwasanaeth Fflyd

Cyfeiriodd aelodau at darged afrealistig Llywodraeth Cymru o sicrhau bod 100% o gerbydau’r fflyd yn gerbydau gwyrdd erbyn 2030. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod cynnydd da wedi’i wneud o fewn y gwasanaeth fflyd, gyda chanran uchel o geir a faniau bychan bellach yn gerbydau gwyrdd. Fodd bynnag, adroddwyd nad oes modd i gyfnewid cerbydau trwm a pheirianyddol i rai gwyrdd ar hyn o bryd oherwydd nad yw’r dechnoleg wedi ei ddatblygu’n ddigonol. Eglurwyd byddai’n aneffeithiol i’w newid ar hyn o bryd oherwydd heriau gwefru ac effeithlonrwydd. Adroddwyd bod nifer o gerbydau’r fflyd bellach yn rhai trydan neu hybrid ac mae ystyriaeth yn cael ei roi i gerbydau hydrogen ar gyfer cerbydau trwm a pheirianyddol. Er hyn, cydnabuwyd ei fod yn annhebygol bydd y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyfarch yn amserol.

 

Derbyniwyd pryderon na fyddai’r grid cenedlaethol yn gallu ymdopi gyda’r galw am drydan yn sgil y cynnydd mewn defnydd o gerbydau trydan yn genedlaethol. Mewn ymateb i ymholiad pellach, cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod cyflenwad pwyntiau gwefru digonol yn cael eu cyflwyno ar draws y Sir, ac mae’r Adran yn cysylltu gyda chwmnïau cyflenwad trydan yn aml i sicrhau eu bod yn cael eu hychwanegu i’r grid.

 

Tîm Tacluso Ardal Ni

Derbyniwyd nifer o sylwadau cadarnhaol am y tîm a’r gwaith effeithiol maent yn ei gyflawni o fewn yr Adran.

 

Torri Gwair ac Ymylon Ffyrdd

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Pennaeth yr Adran bod y gwaith o dorri gwair ac ymylon ffyrdd yn cael ei wneud yn fewnol mewn unrhyw ardal o fewn ffiniau 30mya. Ymhelaethwyd bod contractwr allanol yn cael ei benodi drwy dendr ar gyfer unrhyw ardal arall o fewn y Sir. Nodwyd bod trefniadau mewn lle er mwyn sicrhau bod y gwair yn cael ei gasglu yn fuan wedi iddo gael ei dorri, gan gydnabod bod yr Adran yn derbyn sylwadau nad yw hyn yn gweithio’n effeithiol ar bob achlysur. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn cynnal cyfarfodydd gyda’r contractwr yn wythnosol a gall unrhyw bryderon sydd yn cael eu codi, eu cyfarch yn y cyfarfodydd hynny.

 

Derbyniwyd sylwadau bod sbwriel i’w weld ar ymylon ffyrdd pan mae’r gwair yn cael ei dorri, gan ystyried os oes datrysiad ar gyfer ei gasglu’n amserol. Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Pennaeth yr Adran bod angen newid ymddygiad pobl er mwyn sicrhau nad ydynt yn taflu gwastraff o’u cerbydau. Eglurwyd nad oes modd casglu’r sbwriel cyn torri’r gwair ond mae trefniadau mewn lle i sicrhau bod y Gwasanaeth Edrychiad Stryd yn ei gasglu yn fuan wedyn.

 

Meysydd Chwarae

Ymholwyd am wybodaeth ar y broses o adnewyddu meysydd chwarae a sut mae’r Adran yn asesu’r galw yn ogystal â pha offer sydd eu angen o fewn y lleoliadau. Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod grant wedi cael ei dderbyn er mwyn adnewyddu 29 o feysydd chwarae ar draws y Sir, gan nodi y gobeithir bydd mwy o arian grant yn cael ei ddyrannu yn y dyfodol. Eglurwyd nad oes trefniadau pendant er mwyn penderfynu ble mae’r arian hynny yn cael ei ddefnyddio ond nodwyd bod swyddog yn cynnal archwiliadau misol ar y 120 o feysydd parcio sydd yng Ngwynedd. Ychwanegwyd bod yr adolygiadau hyn yn arwain at raglen waith o beth sydd angen ei addasu neu ei ddiweddaru yn y dyfodol. Ategodd yr Aelod Cabinet bod modd i Gynghorau Cymuned brynu offer i’r meysydd chwarae mewn cydweithrediad gyda’r Adran os ydynt yn dymuno.

 

Cynlluniau Arbedion

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Pennaeth yr Adran bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod unrhyw orwariant yn cael ei leddfu’n effeithiol tra bod gwasanaethau yn parhau. Cadarnhawyd bod hyn yn flaenoriaeth i’r Cyngor gan nodi bod adolygiadau yn cael eu cynnal yn rheolaidd er mwyn ystyried eu heffeithlonrwydd. Eglurwyd bydd hyn yn caniatáu i wasanaethau gael eu hail-gyflwyno mewn modd mwy effeithiol i’r dyfodol megis Edrychiad a Glanhau Stryd a Chynnal Tiroedd, yn hytrach na chyflwyno toriadau.

 

Cyfraddau Salwch

Gofynnwyd am ddata ychwanegol am y rhesymau pam bod cyfraddau salwch yn cynyddu ac am unrhyw resymau penodol pam bod aelodau staff i ffwrdd o’r gwaith. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran eu bod yn gymharol i’r hyn a welir yn adrannau eraill y Cyngor. Cadarnhaodd bod trefniadau cefnogi mewn lle ar gyfer pob aelod o staff sydd yn anhwylus, yn enwedig yr aelodau staff hynny sydd i ffwrdd o’r gwaith yn hirdymor. Pwysleisiwyd nad yw cyfraddau salwch yr Adran yn arwain at newid gweledol i wasanaethau ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: