Agenda item

Codi ty annedd newydd


AELOD LLEOL: Cynghorydd Gwilym Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Gohirio i gynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Codi tŷ annedd newydd

 

a)     Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi annedd deuluol o ddyluniad deulawr ar wahân, gyda thalcen yr eiddo yn wynebu’r ffordd gyhoeddus; y tŷ arfaethedig o ddyluniad to brig modern wedi ei adeiladu i mewn i’r llethr. Byddai’n mesur oddeutu 7.2m o uchder i fan uchaf y to, gyda balconi ar deras sylweddol yn cael ei osod i gefn yr eiddo fydd yn ymestyn allan oddeutu 2.5m ac yn gwasanaethu'r llawr.

 

Gwrthodwyd cais am eiddo unigol ar y safle hwn (26.02.2026) o dan gyfeirnod C25/0927/15/LL. Er bod rhai newidiadau wedi’u gwneud i gynlluniau’r cais presennol, gan gynnwys dileu dau agoriad llawr cyntaf oedd yn wynebu’r eiddo drws nesaf a lleihau maint y balconi fel nad yw’n ymestyn allan heibio edrychiad ochr y tŷ, roedd maint a gosodiad yr eiddo yn parhau yn gyffredinol yr un fath o ran maint a graddfa.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio am benderfyniad ar gais yr Aelod Lleol.

 

Cyfeiriwyd at Polisi TAI 15 o'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy’n datgan y bydd Cynghorau yn ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun. Dau neu fwy o unedau tai yw'r trothwy, ond gan mai dim ond un uned sydd yn cael ei gynnig yn yr achos hwn, nid yw Polisi TAI 15 yn berthnasol ac nid yw’n angenrheidiol darparu elfen fforddiadwy.

 

Mae Polisi PCYFF 3 yn ei wneud yn ofynnol i ddatblygiadau fod o ddyluniad o ansawdd uchel sy’n parchu a chyd-fynd â chymeriad a chyd-destun yr ardal. Yn yr achos hwn, ystyriwyd nad yw’r tŷ arfaethedig yn adlewyrchu dyluniad traddodiadol y tai teras cyfagos ar Stryd Warden. Er bod y dyluniad wedi cael ei addasu rhywfaint ers y cais blaenorol, mae ei swmp, ei uchder a’i nodweddion mwy cyfoes yn parhau i ymddangos yn anghymesur ac allan o gymeriad gyda’r amgylchedd lleol. Yn ogystal, oherwydd bod y safle ar lethr, byddai’r annedd yn eistedd yn uwch na’r tai cyfagos ac felly’n sefyll allan yn y dirwedd. O ganlyniad, ystyriwyd y byddai’r adeilad yn creu effaith ormesol ac ni fyddai’n ymdoddi’n naturiol i’r strydwedd na’r dirwedd o’i gwmpas. Nid yw’r bwriad felly yn ychwanegu na gwella cymeriad na golwg yr ardal, ac mae’n groes i ofynion polisi PCYFF 3. Er bod rhai deunyddiau’n ceisio cyfeirio at y dirwedd hanesyddol, ystyriwyd y gallai dyluniad mwy sensitif i’r safle gael ei gyflwyno.

 

O safbwynt mwynderau preswyl, cyfeiriwyd at bryderon sylweddol ynghylch effaith y datblygiad ar eiddo cyfagos. Er bod y balconi arfaethedig, wedi’i leihau, mae’n parhau’n nodwedd amlwg ar gefn yr eiddo ac yn debygol o achosi problemau gor-edrych a phreifatrwydd – y risgiau hyn yn effeithio’n benodol ar drigolion y capel cyfagos a Rhif 10 Stryd Warden.

 

Yn ogystal, ystyriwyd bod lleoliad a gosodiad yr eiddo yn golygu y bydd symudiadau i mewn ac allan o’r tŷ newydd yn digwydd mewn bwlch cul ger Rhif 10, yn hytrach na thuag at y stryd fel gweddill y tai. Byddai hyn yn creu ymdeimlad gormesol ac yn effeithio’n negyddol ar fwynderau preswyl yr eiddo hwnnw. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cynnig yn cael effaith annerbyniol ar drigolion cyfagos ac felly’n groes i ofynion Polisi PCYFF 2.

 

Ystyriwyd bod y gwelliannau bioamrywiaeth a gynigiwyd yn bodloni gofynion polisïau PS19 ac AMG5 a Phennod 6 Polisi Cynllunio Cymru. Cyflwynwyd a chymeradwywyd cais SUDS - y  bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion NCT 15.

 

Eglurwyd y byddai’r eiddo yn darparu tŷ teuluol i berson lleol o’r pentref ac felly ni ystyriwyd y byddai’n niweidiol i’r Iaith Gymraeg. Nodwyd bod modd gosod amodau pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu i sicrhau enw Cymraeg i’r annedd; y bwriad yn cydymffurfio a gofynion polisi PS 1.

 

Roedd y Swyddogion Cynllunio yn argymell gwrthod y cais gan nad oedd dyluniad modern yr annedd arfaethedig, gyda’r balconi eang a’r drysau/ ffenestri gwydr ar y drychiad blaen a chefn, yn parchu cymeriad tai cyfagos na’r hyn sydd yn y cyffiniau - byddai’r nodweddion yn anghydnaws. Ni fyddai’r bwriad yn ychwanegu at na gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle na’r ardal. Nid oedd ystyriaeth lawn wedi ei roi i’w gyd-destun hanesyddol ac adeiledig a'i fod o ran ei osodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder, mas a’r driniaeth i’r drychiadau yn cynnwys nodweddion anghydweddol, dominyddol ac estron nad oedd yn parchu cyd-destun y strydwedd na’r safle. Ystyriwyd fod y bwriad, yn groes i feini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3:

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Ei fod yn enedigol o Lanberis

·        Bod sawl ymdrech wedi ei wneud i gyflwyno cais a thrafod gyda swyddogion

·        Derbyn bod y dyluniad yn fodern, ond angen symud ymlaen gyda’r amser - dim pawb sydd eisiau tŷ chwarel

·        Bod sawl tŷ newydd, bold wedi eu hadeiladu yn y pentref - rhai ar hen safle’r Llyfrgell - rhain yn fodern, a gellid dadleu nad ydynt yn gweddu'r ardal o’u cwmpas

·        Anghysondebau dyluniad drwy'r pentref

·        Ni fyddai’r tŷ yn cael effaith ar y fflatiau gan eu bod wedi eu gosod yn y ddaear

·        Airbnb sydd ar  lawr cyntaf y fflatiau - oes blaenoriaeth felly dros bobl leol?

·        Bod cais SUDS wedi ei gymeradwyo

·        Bod y cais o fewn ffin datblygu’r pentref

 

c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·        Ei fod yn siarad ar ran y Cyngor Cymuned oedd yn gefnogol i’r cais

·        Er yn croesawu tai newydd diweddar i’r pentref gellid dadleu nad ydynt yn gweddu i’r ardal o’u cwmpas

·        Nad oedd gwrthwynebiadau yn lleol a bod cymdogion o blaid y cais

·        Bod gwir angen tai yn y pentref - nifer wedi ei gwerthu ar gyfer airbnb neu ail gartrefi – yn croesawu hwn fel cyfle i deulu lleol aros yn y pentref

·        Yn erfyn ar y pwyllgor i ganiatáu gydag amodau posib

 

ch)  Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio fel bod modd cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd a chynnal ymweliad safle fel gall y Pwyllgor ystyried y materion yn fwy manwl

 

  PENDERFYNWYD: Gohirio fel bod modd cynnal ymweliad safle

 

Dogfennau ategol: