Codi ffens
newydd 2400mm o uchder ogwmpas rhan o ffin y cae chwarae.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gohirio i gynnal ymweliad safle
Cofnod:
Codi ffens newydd 2400mm o uchder o gwmpas
rhan o ffin cae chwarae.
a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Cynllunio mai
cais llawn ydoedd ar gyfer
codi ffens o amgylch rhan o ffin cae chwarae
Ysgol Syr Hugh Owen.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio oherwydd bod
yr Aelod Lleol wedi datgan buddiant ac wedi darparu sylwadau
ar y cais.
Amlygwyd bod sylwadau o’r ymgynghoriad statudol a chyhoeddus yn cyfeirio
fwyaf at bryderon yn deillio gan
gymdogion yn nodi ei fod yn
ddatblygiad di angen gan greu effaith
weledol, effaith ar fwynderau preswyl
ac effaith ar hawliau dynol. Derbyniwyd llythyr hefyd yn cefnogi'r
ffens oherwydd bod problemau gyda thaflu cerrig, tresmasu ar eiddo
preifat a sbwriel yn cael ei
daflu i mewn
i erddi.
Cyfeiriwyd at Polisi ISA 2, sy’n ymwneud
gyda chyfleusterau cymunedol sy’n cynnwys ysgolion, ac yn nodi y bydd y CDLl yn cynorthwyo
i gynnal a gwella cyfleusterau cymunedol. Byddai’r bwriad yn cael
ei leoli ar ffiniau ysgol
bresennol a bod angen y ffens o gwmpas yr adeilad er mwyn gwella diogelwch o fewn tir yr ysgol. O ran yr egwyddor ystyriwyd bod y bwriad yn un rhesymol ac yn cyd-fynd gydag
egwyddor Polisi ISA 2 CDLl.
Bydd y ffens bwriedig yn un “weldmesh” o liw gwyrdd, sydd
yn ffens lle mae modd
gweld drwyddi ac felly ystyriwyd na fydd
yn creu golwg
gaeedig na gormesol i’r ysgol
na’r tai cyfagos. Gan ei fod yn
cydweddu â ffensys presennol yr ysgol ac yn caniatáu gwelededd,
ni ystyriwyd y bydd yn creu
effaith weledol yn yr ardal, ac felly’n cydymffurfio â pholisi PCYFF 3.
Adroddwyd bod rhai preswylwyr
cyfagos wedi gwrthwynebu ar sail effaith weledol a theimlad gormesol, ond nodwyd bod ffensys o’r math yma yn gyffredin
mewn ysgolion er mwyn diogelu staff a disgyblion. Gan fod ffensys tebyg eisoes
yn bodoli o amgylch y safle, nid yw’r cynnig
yn anghyson â’r amgylchedd. Bydd y ffens newydd
tua 4–5 metr o gefn y tai, gan ddarparu bwlch digonol fel nad
yw’n cael effaith sylweddol ar fwynderau preifat.
Ategwyd bod rhaid ystyried yr angen ar gyfer diogelu
disgyblion a thir yr ysgol ynghyd a’r
tir tu allan
i’r ysgol rhag difrod ac felly, ystyriwyd na fyddai’r
ffens o’r math yma’n achosi niwed
arwyddocaol sylweddol i fwynderau’r gymdogaeth
leol, ac felly yn cydymffurfio gyda Polisi
PCYFF 2 y CDLl. Yn ogystal,
tynnwyd sylw at goed sydd â gorchymyn
gwarchod ar hyd y ffin gydag
amod i’w osod i sicrhau
na chaiff unrhyw waith ar
y coed ei wneud heb ganiatâd ymlaen
llaw – byddai hyn yn diogelu’r
coed fel rhan o’r datblygiad.
Nid oedd y bwriad arfaethedig yn cyrraedd y trothwyon ar gyfer cyflwyno
Datganiad Iaith Gymraeg neu Adroddiad
ar Asesiad Effaith Iaith Gymraeg, er hynny ni ystyriwyd byddai’n
niweidiol i’r iaith Gymraeg ac felly yn cydymffurfio a gofynion Polisi PS 1.
Ystyriwyd bod y materion cynllunio
wedi derbyn sylw teilwng gyda
rhai sylwadau yn cyfeirio at faterion gweithredol. Ni ystyriwyd bod y dystysgrif perchnogaeth tir yn anghywir, gan
fod yr ymgeisydd yn gweithredu ar
ran yr Ysgol a’r Cyngor, ac ni
ystyriwyd bod cynnwys rhai dogfennau a gyflwynwyd yn anghywir
nac yn ddiffygiol.
Ategwyd mai mater i’r ymgeisydd yw
cysylltu gyda pherchnogion tir cyfagos ac o dan y drefn
Cynllunio nid oes rheidrwydd iddo wneud hynny.
Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol. Argymhellwyd caniatáu'r bwriad gydag amodau
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol:
·
Er yn derbyn bod y sylw
tu allan i’r broses gynllunio, bod Deddf
Presgripsiwn 1832, yn caniatáu hawl tramwy drwy bresgripsiwn os bu defnydd
di-dor am 40 mlynedd; yn hawl anorchfygol, yn un absoliwt, na ellid ei drechu,
bod tystiolaeth o ddefnydd di-dor am dros 40 mlynedd gan nifer o berchnogion
eiddo felly byddai gosod y ffens yn dor-cyfraith.
·
Para 5.3 o’r adroddiad
yn nodi, “Bydd y ffens newydd yn gwahanu gerddi’r tai cyfagos oddi wrth gae
chwarae’r ysgol, a bydd y ffens oddeutu 4 i 5 medr i ffwrdd o gefn y tai dan
sylw. Credwn felly fod yr ardal yma rhwng cefn y tai a’r ffens yn ddigon i beidio
creu effaith negyddol ac andwyol sylweddol ar fwynderau preifat perchnogion y
tai hynny”. Nid oes gwybodaeth yn nodi bod eisoes ffensys a waliau yn gwahanu
gerddi tai cyfagos a chae chwarae’r ysgol.
·
Bod ymweliad safle gan
swyddog achos cynllunio yn darparu’r cyd-destun ffisegol angenrheidiol i
werthuso cais cynllunio, gan ganiatáu i'r swyddog asesu'r effaith ar eiddo
cyfagos gan ystyried yr effaith gweledol, a deall y cymeriad lleol sy’n
greiddiol cyn gwneud argymhelliad i’r Pwyllgor. Byddai'n ddiddorol gwybod a
wnaeth y swyddog achos gynnal archwiliad manwl o’r safle ac yn fwy perthnasol o
le'r oedd yr archwiliad hynny
·
I werthuso'r cynnig hwn
yn gywir ac i ddeall pam y cafwyd nifer o wrthwynebiadau, byddai'n rhaid i'r
swyddog ymweld â'r eiddo a fynegodd wrthwynebiadau i weld yr effaith y byddai'r
ffens arfaethedig yn ei gael cyn penderfynu ar yr argymhelliad. Yn dadlau yn
gryf na ellid dod ag argymhelliad i’r Pwyllgor heb ystyried effaith gosod ffens
ar eiddo h.y. yr effaith ar edrych i fyny ar y ffens a’r effaith o gael eich cau i mewn. Yn tybio
mai asesiad gan swyddog naill ai heb ymweld â’r safle neu ymweliad o lefel y
cae yn unig sydd wedi ei weithredu - dim yn ymwybodol o gais gan swyddog am
ganiatâd i fynd i mewn i eiddo i wneud asesiad, sy’n syndod!
·
O ystyried topograffi'r
tir, bydd y ffens fwy neu lai ar uchder llawr cyntaf nifer o’r eiddo. Bydd y ffens yn nodwedd amlwg fydd yn cael
effaith ormesol a digydymdeimlad ar yr eiddo, gan arwain at ymdeimlad o gael eich
cau i mewn a cholled sylweddol o amwynder. Wrth edrych i fyny o ddrws cefn i
edrych ar ffens, bydd top y ffens rhyw 5 medr yn uwch na lle mae rhywun yn
sefyll a hynny gan ddyfynnu o’r adroddiad “oddeutu 4 i 5 medr i ffwrdd o gefn y
tai”.
·
Gwahaniaeth lefel rhwng
y cae a nifer o’r eiddo yn amlwg. Nid oes cyfeiriad at y gwahanol lefelau hyn
yn yr adroddiad - gwybodaeth yma yn bwysig ac yn dadleu y dylid ei ystyried yn ddwys cyn dod i
benderfyniad.
·
Yn cadarnhau ei wrthwynebiad ynghyd a gwrthwynebiadau
nifer o drigolion eraill i ganiatáu
gosod ffens oherwydd effaith negyddol ac andwyol sylweddol ar fwynderau preifat
perchnogion - ffens ddiangen o ystyried bod waliau a ffensys eisoes yn bodoli
ar y safle rhwng tir yr ysgol ac eiddo
c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnal
ymweliad safle
PENDERFYNWYD:
Gohirio i gynnal ymweliad safle
Dogfennau ategol: