Cais llawn i ddymchwel
eiddo preswyl presennol (dosbarth C3) a chodi eiddo preswyl
newydd (dosbarth C3) yn ei le ynghyd
a gwelliannau i fynedfa bresennol
AELOD
LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu, yn groes i‘r argymhelliad
Cofnod:
Cais
llawn i ddymchwel eiddo preswyl presennol (dosbarth C3) a chodi eiddo preswyl
newydd (dosbarth C3) yn ei le ynghyd a gwelliannau i fynedfa bresennol
a)
Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio bod y cynnig yn golygu dymchwel adeilad gwag presennol (sydd
yn amlwg wedi cadw ei statws fel eiddo preswyl) a chodi adeilad deulawr 4
llofft yn rhannol dros ôl troed yr eiddo presennol ond fyddai fymryn yn uwch.
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Sarn Bach gyda
ffordd gyhoeddus dosbarth 3 cyfochrog a llwybr cyhoeddus yn arwain oddi ar y
ffordd trwy’r safle. Ategwyd bod mynedfa gerbydol bresennol yn arwain heibio
talcen yr eiddo sydd yn gwasanaethu'r safle ac yn fynediad i safle gwersylla a
charafanau teithiol sefydledig ynghlwm a'r eiddo tu cefn i'r prif adeilad. Yr
adeiladau cyfagos i raddau yn gymysgedd o ran dyluniad a gorffeniadau, ond oll
yn cynnwys nodweddion cyffredin o ran ffurf a gorffeniadau megis toeau llechi a
gorffeniad o garreg naturiol a rendr.
Cyflwynwyd
y cais i’r Pwyllgor am benderfyniad ar gais yr Aelod Lleol.
Yng
nghyd-destun egwyddor y datblygiad ystyriwyd polisi TAI 13 (dymchwel ac
ail-godi tai) gan amlygu nad oedd polisi TAI 5 yn berthnasol oherwydd bod yr
eiddo presennol, o gysidro ei hawliau dirprwyedig i ymestyn, y tu hwnt i
ofynion y polisi. Nodwyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisi TAI
13 ac nad oedd gwrthwynebiad i’r egwyddor o ddymchwel yr eiddo a chodi un arall
yn ei le.
Fodd bynnag, ystyriwyd y byddai’r eiddo
arfaethedig, oherwydd ei ddyluniad, gorffeniadau a graddfa yn newid cymeriad y
safle yn llwyr ac yn denu’r llygaid i raddau annerbyniol. Ni fyddai’n parchu ei
gyd-destun safle a’i leoliad o fewn y pentref. Cydnabuwyd bod enghreifftiau
amrywiol o ddatblygiadau wedi eu caniatáu o fewn yr ardal, ond bod rhaid
ystyried bob cais ar ei haeddiant ei hun - yn yr achos yma, ni ystyriwyd fod y
bwriad wedi llwyddo yn gyfan gwbl i wella cymeriad ac ymddangosiad y safle gan
y byddai’r dyluniad yn creu nodwedd llawer fwy amlwg ac ni fyddai’n
integreiddio na chyfrannu’n gadarnhaol i’r strydlun lleol a phatrwm datblygu'r
ardal gyfagos. Cefnogwyd y farn gan sylwadau’r Uned AHNE. Derbyniwyd bod
ymdrech wedi ei wneud i newid dyluniad yr eiddo, ond ni lwyddwyd i oresgyn yr
holl bryderon o ran effaith weledol ac effaith ar yr AHNE. I’r perwyl hyn,
roedd y bwriad yn gwrthdaro â gofynion perthnasol polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 ac
AMG 1 y CDLl ynghyd a chyngor Nodyn Cyngor Technegol
12.
Cyfeiriwyd
at faterion mwynderau preswyl, trafnidiaeth, iaith a bioamrywiaeth gan nodi eu
bod yn dderbyniol.
Ystyriwyd bod y bwriad yn annerbyniol yn y ffurf
fel y cyflwynwyd gan ei fod yn methu bodloni gofynion polisïau a chanllawiau
perthnasol. Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod y cais.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y
sylwadau canlynol:
·
Y bwriad oedd dymchwel
hen dý fferm a chodi tŷ newydd yn ei le - dim
cyfyngiadau cyfreithiol - gwerth y tŷ presennol ymhell dros drothwy'r hyn
sydd yn cael ei ystyried yn dý fforddiadwy i berson
lleol
·
Teulu lleol Cymraeg yw’r
ymgeiswyr sydd â bwriad symud o’u fferm yn Cilan ac ymddeol i’w heiddo Fferm
Sarn, i fyw a rhedeg y ffarm a’u parc carafanau
·
Byddair tŷ fferm yn
Cilan yn cael ei ryddhau ar rent i deulu lleol
·
Bod y tŷ mewn
cyflwr gwael. Peiriannydd strwythurol wedi cadarnhau hynny.
·
Yr eiddo yn wag ers 20
mlynedd
·
‘Asesiad Hyfywedd’ yn
profi na fyddai’n economaidd adnewyddu’r tŷ ac mai dymchwel yw’r ateb. Nid
yw’r egwyddor dymchwel yn broblem
·
Nid yw wedi ei restru
nac wedi ei leoli o fewn ardal cadwraeth. Nid oes nodweddion pensaernïol i’r
eiddo
·
Ei fod o fewn y ffin
datblygu lleol
·
Yn ddyluniad da – bod
bwriad defnyddio deunyddiau traddodiadol wrth ail adeiladu
·
Bod swyddogion yn
pryderu am faint a graddfa’r dyluniad
·
Gall hawliau cynllunio (Permitted Developments Rights - PMR) ganiatau ehangu
maint y tŷ heb ganiatâd cynllunio
·
Bod y bwriad 30m2 yn
llai na gofynion PMR - gellid dadleu
felly gellid nad yw’n rhy fawr i’r ardal; y maint er hynny wedi ei leihau yn
dilyn trafodaethau
·
Dim gwrthwynebiadau gan
Cyngor Cymuned na chymdogion
·
Bod bwriad ail adeiladu
ychydig i ffwrdd o’r lôn i wella’r fynedfa, gwelededd a diogelwch defnyddwyr
llwybrau cyhoeddus
·
Mwy economaidd dymchwel
ac ail adeiladu tŷ sydd o fewn y ffin datblygu
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd aelod o ward gyffiniol y sylwadau canlynol ar ran yr Aelod
Lleol:
·
Nad digwyddiad anarferol
yw gweld tŷ yn cael ei ddymchwel a’i ail adeiladu yn yr ardal yma, ond yr
hyn sydd yn wahanol yma yw mai teulu lleol sydd yn gwneud y cais ac nid
ymgeisydd o dros y ffin
·
Bod tair cenhedlaeth o’r
un teulu wedi ffermio Ffarm Sarn. Yr ymgeisydd, ar hyn o bryd yn byw ar fferm
gyfagos yn Cilan, ond eisiau ymddeol o ffermio a rhedeg y maes carafanau sydd
eisoes ar Fferm Sarn. Ei fwriad yw rhentu’r fferm yn Cilan i deulu ifanc lleol
·
Y tŷ wedi bod yn
wag ers 15 mlynedd ac mewn cyflwr gwael
·
Adroddiad Strwythurol
wedi amlygu bydd angen llawer o waith i ddod ar adeilad i fyny i safon ac
felly'r opsiwn orau fyddai dymchwel ac ail godi
·
Er y cydweithio a
thrafod gyda swyddogion am newidiadau i’r cynllun i ddefnyddio hen lechi’r tŷ, addasu maint y ffenestri, lleihau ôl troed yr eiddo ac ail ddefnyddio cerrig, siom oedd bod y
swyddogion yn argymell gwrthod y cais
·
Nad oedd y
Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r cais
·
Bod y
rhesymau gwrthod yn wan - yn ymwneud á dyluniad, sydd yn fater o farn bersonol.
Tŷ cyffredin yw'r gofyn yma o gymharu â phlastai Abersoch
·
Bod hawl gan
yr ymgeisydd i gadw at yr ôl troed presennol o dan Caniatâd Cynllunio: Hawliau
Datblygu, heb ganiatâd cynllunio
·
Bod bwriad
creu mynedfa newydd, fwy i wella diogelwch i geir, carafannau a defnyddwyr y
llwybr cyhoeddus
·
Dim tŷ newydd sydd yma – yn
cydymffurfio gyda gofynion polisi TAI 13
·
Yn addasu tŷ gwag i gartref. Yn
gyfle gwych i ddefnyddio tŷ segur, blêr i dý
taclus, cyfforddus, ynni effeithlon
·
Yn gofyn i’r Pwyllgor ganiatáu y cais
d)
Cynigiwyd ac
eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad
Rheswm:
Mater o farn yw dyluniad – hwn yn dderbyniol o ystyried pensaernïaeth amrywiol
yr ardal neilltuol yma.
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y Cyngor
Cymuned heb wrthwynebu’r cais
·
Byddai’n dod
a thŷ gwag nol i ddefnydd
·
Bod bwriad
symud yr eiddo yn bellach yn ôl o’r ffordd
·
Yr ymgeisydd
o fewn ei hawliau i adeiladu tŷ mwy
·
Bod
gwelliannau yma hefyd - creu mynediad
mwy diogel gyda gwell gwelededd - yn ffafriol i gerddwyr a gyrwyr
·
Bod angen symud ymlaen gyda’r oes
·
Dylid cefnogi tai o ddyluniad modern ac
ansawdd da – efallai yn rhy gaeth i reolau dyluniad
·
Nad oedd y tŷ yn gweddu’r ardal –
yn rhy wahanol i’r tŷ gwreiddiol
·
Mater o farn
yw dyluniad – er derbyn mai derbyniol fyddai dymchwel ac ailadeiladu, rhaid sicrhau dyluniadau addas i’r ardal.
Angen ystyried sylwadau’r AHNE
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pha elfennau
dyluniad oedd wedi eu hystyried ar gyfer y datblygiad yma, nodwyd bod lleoliad,
maint, gwedd, patrwm ffenestri a chydbwysedd yr elfennau dyluniad wedi eu
hystyried. Derbyn mai mater o farn sydd yma, ond barn yr awdurdod cynllunio
lleol oedd bod y bwriad yn annerbyniol yn y ffurf fel y cyflwynwyd.
PENDERFYNWYD Caniatáu, yn groes i’r
argymhelliad
1. 5 mlynedd
2. Unol a’r cynlluniau
3. Gorffeniad a llechi ar y to
4. Amod archeoleg – cofnod archif
5. Gwelliannau bioamrywiaeth
Dogfennau ategol: