Cais ar gyfer newid defnydd tir ar gyfer creu
safle gwyliau teithiol ar gyfer carafanau, 'motor homes’ (25 uned) a pebyll
(10), dymchwel adeilad cyfleusterau presennol a chodi adeilad cyfleusterau o'r
newydd ynghyd a datblygiadau cysylltiol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Llio Elenid Owen
Penderfyniad:
DECISION:
To approve with conditions
1. Time
2. In accordance with the amended plans.
3. Limit the number of touring units to 25
caravans and 10 tents only.
4. Holiday use only and keep a register.
5. Touring unit's holiday season - 1 March
to 31 October.
6. No storing of touring caravans on the
site.
7. Trunk Road Conditions
8. Natural Resources lighting condition
9. Biodiversity Conditions
10. Construction work hours
11. Welsh name
12. Welsh language Signs
13. Hard-standing condition
14. Footpaths Condition
Notes:
NRW letter
note
SUDS note
Licensing
Note
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag
amodau
1. Amser
2. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.
3. Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 25 carafán a 10 pabell yn
unig.
4. Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr.
5. Tymor gwyliau'r unedau teithiol - 1af Mawrth i 31 Hydref
6. Dim storio carafanau teithiol ar y safle.
7. Amodau Cefnffyrdd
8. Amod goleuo Cyfoeth Naturiol
9. Amodau Bioamrywiaeth
10. Oriau gwaith adeiladu
11. Enw Cymraeg
12. Arwyddion Cymraeg
13. Amod llawr caled
14. Amod Llwybrau
Nodiadau:
Nodyn llythyr CNC
Nodyn SUDS
Nodyn Trwyddedu
Cofnod:
Cais ar gyfer newid defnydd tir
ar gyfer creu safle gwyliau teithiol ar gyfer carafanau, 'motor (25 uned) a phebyll (10), dymchwel adeilad
cyfleusterau presennol a chodi adeilad cyfleusterau o'r newydd ynghyd a datblygiadau
cysylltiol; lledu a gwella’r fynedfa i Gefnffordd yr
A487, gan gynnwys gosod arwyddion rhybudd ffurfiol, fydd yn hwyluso llif
traffig diogel ac effeithlon rhwng y safle a’r A487
Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr
a)
Amlygodd
y Swyddog Cynllunio bod y safle yn un cefn gwlad gyda’r fynedfa wedi ei lleoli
yn union oddi ar Gefnffordd A487. Eglurwyd, ar hyn o bryd, bod y fynedfa un
trac presennol yn gwasanaethu’r fferm a’r safle ardystiedig presennol, sy’n
caniatáu 5 carafán a 10 pabell drwy gydol y flwyddyn; y safle wedi ei leoli
mewn Safle Bywyd Gwyllt ac o fewn parth Llifogydd Dŵr Wyneb a Chyrsiau
Dŵr Bach 2 a 3.
Eglurwyd, gan mai datblygiad ar gyfer
carafanau teithiol yw’r bwriad, y byddai’n cael ei ystyried o dan Bolisi TWR 5 CDLl, sy’n gosod cyfres o feini prawf ar gyfer caniatáu
datblygiadau o’r fath.
Byddai’r datblygiad arfaethedig wedi’i leoli
mewn cae gwastad sydd wedi’i amgylchynu gan goed aeddfed ar ei derfynau, ac
felly’n guddiedig o leoliadau cyhoeddus; yn cynnwys cadw’r gwrych presennol o
fewn y safle ac yn atgyfnerthu’r sgrinio drwy gynnig plannu gwrych newydd
brodorol o amgylch y safle i wahanu’r cae carafanau o’r cae ehangach. Nodwyd y
byddai’r adeilad cyfleusterau presennol sy’n cynnwys toiledau a chawodydd, y
cael ei ddymchwel a’i ddisodli ag adeilad cyfleusterau modiwlaidd symudol o safon
uwch. Ategwyd bod y bwriad wedi ei ddylunio i gwrdd â gofynion trwyddedu o
safbwynt gofod a chyfleusterau ac felly derbyniwyd bod y datblygiad yn un
safonol ac felly yn cydymffurfio â
Pholisi TWR 5 gan ei fod yn bodloni’r meini prawf perthnasol.
Adroddwyd bod y datblygiad o ansawdd uchel o
ran dyluniad, gosodiad ac ymddangosiad, wedi’i leoli mewn safle anymwthiol sydd
wedi’i guddio’n effeithiol gan nodweddion presennol y dirwedd. Nid yw’n arwain
at ormodedd o arwynebau caled, ac mae’r safle mewn lleoliad hygyrch o safbwynt
y prif rwydwaith ffyrdd, lle gellid darparu mynediad addas heb amharu’n
sylweddol ar gymeriad y dirwedd. Yn ogystal, gellid sicrhau, drwy amodau
cynllunio, fod y safle’n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwyliau yn unig, ar
gyfer defnydd carafanau teithiol yn unig, a bod unrhyw unedau’n cael eu symud
o’r safle yn y cyfnodau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Ategwyd bod y safle’n dibynnu ar fynediad
uniongyrchol oddi ar Gefnffordd yr A487 ac fel rhan o’r cais, cynigiwyd
gwelliannau i’r gyffordd er mwyn galluogi dau gerbyd i basio’n ddiogel wrth
ymuno â’r gefnffordd neu ei adael, ynghyd â gosod arwyddion rhybuddio priodol.
Yn wreiddiol, roedd Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru wedi nodi gwrthwynebiad
oherwydd diffyg gwybodaeth a phryderon am ddiogelwch y fynedfa, yn benodol bod
y gyffordd yn culhau i oddeutu 3–4m o fewn 7m i’r gefnffordd. Fodd bynnag, yn
ystod cyfnod y cais cyflwynwyd gwybodaeth a chynlluniau ychwanegol, gan gynnwys
Nodyn Technegol Trafnidiaeth, i ymateb i’r pryderon hynny. O ganlyniad, nid
oedd gwrthwynebiad bellach gan yr Uned, ar yr amod bod unrhyw ganiatâd yn
ddarostyngedig i amodau penodol fel y nodwyd yn eu hymateb. Ar sail hyn, ynghyd
â’r gwelliannau arfaethedig a’r posibilrwydd o osod amodau cynllunio i sicrhau
diogelwch ffyrdd, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt polisïau TRA
2 a TRA 4 y CDLl.
Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth,
nodwyd bod lleoliad y safle carafanau arfaethedig o fewn Safle Bywyd Gwyllt
Llain Ffynnon, ac oddeutu 25m o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) a Safle o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Glynllifon,
sydd wedi’i ddynodi oherwydd ei phoblogaeth o Ystlumod. Fel yr Awdurdod Cymwys
dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 rhaid i’r Cyngor, cyn
penderfynu rhoi caniatâd ar gyfer prosiect sy’n debygol o gael effaith
sylweddol ar y SAC, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu
brosiectau eraill, ystyried unrhyw effeithiau sylweddol tebygol ar Ardaloedd
Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig. Nodwyd bod y cynnig yma
yn ceisio lliniaru’r effaith ar ystlumod drwy blannu gwrych i greu rhwystr i
ollyngiad golau, yn ogystal â chreu cynefin bwydo a darparu glaswelltir
cyfoethog ei rywogaethau.
Ategwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn
fodlon y gellid rheoli’r goleuo drwy amod cynllunio i sicrhau na fydd yn
effeithio ar lwybrau hedfan ystlumod. Yn unol â’r wybodaeth a gyflwynwyd,
ynghyd ac amodau i sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau, ni ystyriwyd y
byddai’r bwriad yn cael effaith
ychwanegol nac andwyol ar boblogaeth Ystlumod Pedol Leiaf Glynllifon, ac yn
golygu sefyllfa niwtral i’r Ardal Cadwraeth Arbennig Glynllifon.
O ganlyniad i’r datblygiad bydd ardal o
laswelltir, sy’n cael ei ddefnyddio yn bresennol ar gyfer pori ceffylau, yn
cael ei golli. Er bod mesurau lliniaru wedi’u cynnig, derbyniwyd sylwadau
pellach gan y Swyddog Bioamrywiaeth yn nodi bod angen gwelliannau ychwanegol i
liniaru effaith y datblygiad, a cynhigiwyd amodau pellach. Yn ddarostyngedig
i’r amodau hynny, nid oedd gwrthwynebiad
i’r cais. Yn ddarostyngedig i osod amodau priodol, ystyriwyd bod y datblygiad
yn cydymffurfio â Pholisïau PS19, AMG 5 ac AMG 6 y CDLl,
ynghyd â Rheoliadau 2017 a Phennod 6 Polisi Cynllunio Cymru, drwy warchod
safleoedd dynodedig a sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth.
Adroddwyd bod materion mwynderau gweledol,
mwynderau cyffredinol a phreswyl, draenio a llifogydd, ieithyddol, a
chynaliadwyedd, yn cael eu hystyried yn dderbyniol. Roedd y swyddogion yn
argymell caniatáu’r cais gydag amodau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Yn diolch i’r swyddog cynllunio am y
gwaith a wnaed wrth asesu’r cais
·
Bod ganddi
hi a’i theulu gysylltiad cryf gyda’r gymuned a’r ardal leol
·
Wrth
ddechrau’r busnes gwersylla yn Grafog y bwriad oedd datblygu safle o safon
uchel i ymwelwyr aros a mwynhau’r ardal
- wedi gweithio’n galed i’w ddatblygu
·
Gobeithio’n gryf y byddai’r cynllun yn
parhau i roi hwb i’r economi leol
·
Yn gofyn i’r pwyllgor ganiatáu y cais
c)
Amlygodd
y Cadeirydd bod yr Aelod Lleol wedi ymddiheuro nad oedd yn gallu mynychu’r
cyfarfod, ac nad oedd ganddi sylwadau ar y cais
ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
d)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelod:
·
Tymor
gwyliau o 1/3 – 31/10 – a oes angen adolygu’r amserlen i hybu’r economi leol?
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth yw
pwynt rhoi amod storio carafanau teithiol os nad oes swyddogion gorfodaeth ar
gael i wirio’r weithred, nodwyd bod y mater yn fater gorfodaeth, ond os yw’r
Aelodau yn ymwybodol o safleoedd penodol sydd yn torri’r rheolau hyn, gellid
gwneud cais i’r safle hwnnw gael ei archwilio. Ategwyd, bod rhaid cael caniatâd
cynllunio i storio carafannau, ac nad oedd storio carafannau yn rhan o’r cais
yma. Nid oedd gan yr ymgeisydd wrthwynebiad i’r amodau a gynigwyd
- yn rhai safonol ar gyfer safleoedd carafanau teithio.
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau
1. Amser
2. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.
3. Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 25
carafán a 10 pabell yn unig.
4. Defnydd gwyliau yn unig a chadw
cofrestr.
5. Tymor gwyliau'r unedau teithiol -
1af Mawrth i 31 Hydref
6. Dim storio carafanau teithiol ar y
safle.
7. Amodau Cefnffyrdd
8. Amod goleuo Cyfoeth Naturiol
9. Amodau Bioamrywiaeth
10. Oriau gwaith adeiladu
11. Enw Cymraeg
12. Arwyddion Cymraeg
13. Amod llawr caled
14. Amod Llwybrau
Nodiadau:
Nodyn
llythyr CNC
Nodyn
SUDS
Nodyn
Trwyddedu
Dogfennau ategol: