Alwen Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad er mwyn cael gwell
dealltwriaeth gan Lywodraeth newydd Cymru am eu barn yn cefnogi’r model yma o
ariannu Cronfa Twf Lleol. Gofynnwyd am adroddiad yn ôl i’r cyfarfod nesaf.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad, gan nodi mai ei bwrpas yw rhoi
fframwaith glir mewn trefn ar gyfer sut y bydd y CBC yn gweithredu,
blaenoriaethu ei adnoddau, a dangos atebolrwydd wrth symud ymlaen i’r cam nesaf
o gyflawni rhanbarthol.
Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bwriad i’r
Cyd-bwyllgorau Corfforedig yng Nghymru gymryd cyfrifoldeb rhanbarthol am
reoli’r Gronfa Twf Lleol o 2027/28. Nodwyd
bod Lywodraeth Cymru wedi darparu £200,000 i Uchelgais Gogledd Cymru i gynhyrchu’r
Cynllun Twf Rhanbarthol gan gynnwys y paratoadau cysylltiedig i’w weithredu o
fis Ebrill 2027 ymlaen.
Hysbyswyd bod Uchelgais Gogledd Cymru wedi nodi’r angen am
Gynllun Corfforaethol, a fydd yn nodi’r weledigaeth, y blaenoriaethau a’r camau
gweithredu, yn ogystal â darparu’r sail i weithio ar y cyd â’r rhanbarth.
Adroddwyd bod Datganiad Gweledigaeth a Datganiad Llesiant ac Amcanion hefyd
wedi’u creuynghyd â Chynllun Twf Rhanbarthol deng
mlynedd fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.
Mynegwyd pryder ynghylch yr amserlenni tynn wrth gyflawni’r
cynnig i ddangos bod gwaith wedi dechrau ar greu cynllun deng mlynedd erbyn mis
Ebrill 2027. Cadarnhawyd bod trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth Cymru
ynghylch yr amserlenni, o ystyried y bydd gwahanol gydrannau’r Cynllun yn
cymryd amser. Pwysleisiwyd bod ymgysylltu â’r awdurdodau lleol, partneriaid, a
chymunedau yn holl bwysig i sicrhau bod y Cynllun Twf Rhanbarthol yn
adlewyrchu’r cyfleoedd a’r heriau yng ngogledd Cymru.
Ychwanegwyd bod Llywodraeth Cymru angen cynllun pontio sy’n
nodi sut y bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn newid o’r trefniadau presennol, lle
mae Cyngor Gwynedd yn cyflawni blwyddyn 1 a cychwyn blwyddyn 2, i’r CBC cymryd
cyfrifoldeb am gyflawni blwyddyn 3. Esboniwyd fod Uchelgais Gogledd Cymru yn
aros am ganllawiau ffurfiol i’w cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, ond eu bod yn
hyderus y byddent yn gallu bodloni’r gofynion a nodir. Bydd cynnydd yn cael ei
adrodd yn rheolaidd i’r CBC, yn enwedig os bydd unrhyw oedi neu heriau’n codi.
Nodwyd bod rhai Aelodau’n anghytuno â phenderfyniad
Llywodraeth Cymru i gyfeirio cyllid ar gyfer y Gronfa Twf Lleol drwy’r CBC, yn
enwedig gan fod diffyg mewnbwn gan awdurdodau lleol i’r penderfyniad hwn. Fodd
bynnag, nodwyd nad oedd y gwrthwynebiad hwn yn adlewyrchiad negyddol o’r CBC
ond yn hytrach yn wrthwynebiad i benderfyniad y Llywodraeth.
Gofynnwyd faint mwy o arian cyhoeddus fyddai ei angen i ariannu
trawsnewid y CBC i gymryd cyfrifoldeb am reoli’r Gronfa Twf Lleol. Cadarnhawyd
bod y strwythurau ar gyfer y SPF yn ei le yng Nghwynedd
ac felly yn parhau ar gyfer blwyddyn 1. Pwysleisiwyd y byddai grant Llywodraeth
Cymru o £200,000 yn cael ei ddefnyddio i sefydlu’r strwythurau a’r adnoddau ar
gyfer blwyddyn 2 a 3.
Gofynnwyd am eglurhad ar gyfer yr £65,000 a gynigiwyd i gomisiynu partner strategol i gyd-ddatblygu
dogfennau. Eglurwyd bod y ffigyrau a nodir yn gynnig o sut gellir gwario’r
grant. Cadarnhawyd nad oes unrhyw waith wedi ei gomisiynu nac wedi dechrau eto
ac y byddai Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol
a phartneriaid er budd y rhanbarth.
Gofynnwyd am ddiweddariad ynghylch capasiti
rheoli prosiectau yn Uchelgais Gogledd Cymru. Eglurwyd nad oes digon o gapasiti ar hyn o bryd yn nhîm Uchelgais Gogledd Cymru i
gefnogi’r Gronfa Twf Lleol.
Mewn ymateb i bryderon ynghylch y cyfraniad gan yr awdurdodau
lleol i gefnogi a chyd-gynhyrchu’r Gronfa Twf Rhanbarthol, esboniwyd y byddai’r
cyfraniad o £30,000 i’r awdurdodau lleol, ac y byddai pob un o’r chwe awdurdod
lleol yn derbyn £5,000 am eu gwaith. Nodwyd bod hyn yn seiliedig ar y model a
grëwyd ar gyfer y SPF, lle darparwyd cyfraniad o’r grant i sefydlu tîm SPF o
fewn Cyngor Gwynedd.
Mewn ymateb i’r drafodaeth, cadarnhawyd y gellid ystyried
dulliau eraill o reoli’r Gronfa Twf Lleol, pe bai’r Aelodau’n dymuno. Trafodwyd
dull arall, lle byddai gweinyddiaeth y Gronfa Twf Lleol yn aros gyda’r CBC ond
gellid dirprwyo’r dasg o gyflwyno a chomisiynu’r Gronfa Twf Lleol i Gyngor
Gwynedd neu awdurdod arall, a fyddai’n synhwyrol gan fod y strwythurau a’r
prosesau eisoes wedi’u datblygu.
Mynegwyd pryderon pellach, yn enwedig ynghylch capasiti a costau, a
tynnwyd sylw hefyd at newid diweddar yn Llywodraeth Cymru a allai arwain
at gynllun gwahanol gan y Llywodraeth newydd ar gyfer cyllid a chefnogaeth
ranbarthol.
Cynigiwyd gohirio’r eitem i’r cyfarfod nesaf, Cynigiwyd y
byddai’r CBC yn parhau â thrafodaethau efo Llywodraeth Cymru ac yn adlewyrchu’r
pryderon a godwyd yn ystod y drafodaeth.
Diolchwyd i’r aelodau a’r swyddogion am eu mewnbwn i’r
drafodaeth.
Dogfennau ategol: