Agenda item

I gyflwyno drafft o Bolisi Cludiant Addysg yn dilyn cynnal cyfnod

ymgynghori ar gynigion i ddiwygio cynnwys y polisi presennol.

Penderfyniad:

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.         Gofyn i’r Cabinet roi sylw penodol i’r Cynllun Seddi Gweigion wrth ddod i benderfyniad.

3.         Argymell i’r Aelod Cabinet Addysg:-

•           Dylid ystyried addasu’r Polisi Cludiant Addysg Drafft i ddynodi plwyfi yn hytrach na phellter o ran cludiant i ysgolion ffydd.

•           Edrych ar leihau’r nifer o ffurflenni sydd angen i rieni disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol eu llenwi.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg ddrafft o’r Polisi Cludiant Addysg newydd, a gofynnwyd i’r Pwyllgor gyflwyno sylwadau arno. Nodwyd bod y prif newidiadau wedi eu hamlygu’n glir yn yr adroddiad, gan gynnwys y Cynllun Seddi Gweigion, cludiant ysgolion ffydd, trefniadau preswylio deuol a’r cynnig i ddysgwyr ôl-16.

Eglurwyd, er mai polisi Cyngor Gwynedd oedd gerbron, fod rhaid iddo weithredu o fewn Mesur Trafnidiaeth Addysg a’r canllawiau statudol cysylltiedig a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd nad oedd gan y Cyngor ryddid i weithredu fel y dymunai ym mhob achos, gan fod gofynion statudol yr oedd rhaid cydymffurfio â hwy. Mynegwyd y farn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r Mesur a’r canllawiau cysylltiedig gan nad oedd elfennau ohonynt yn gwneud synnwyr.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Codwyd mater y Cynllun Seddi Gweigion, gan egluro bod y cynllun yn galluogi plant nad oeddent yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim i ddefnyddio seddi gwag ar gerbydau cludiant ysgol am gost gymharol fach. Nodwyd bod y cynllun wedi ei rewi ers mis Hydref 2025 ac nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar ei gyfer yn y polisi drafft. Cwestiynwyd a oedd hynny’n golygu y byddai’r cynllun yn dod i ben yn barhaol ac na fyddai’n cael ei ailsefydlu. Mewn ymateb, cadarnhawyd nad oedd darpariaeth ar gyfer Cynllun Seddi Gweigion yn y polisi drafft ac na fyddai cynllun o’r fath yn gweithredu o fis Medi ymlaen.

Mynegwyd pryder sylweddol ynghylch y penderfyniad, gan gyfeirio at gadarnhad blaenorol nad oedd unrhyw ddeddfwriaeth yn gwahardd awdurdod rhag gweithredu Cynllun Seddi Gweigion, a’r ffaith bod awdurdodau eraill yn parhau i weithredu cynlluniau o’r fath. Nodwyd mai’r prif reswm dros ddiddymu’r cynllun oedd lleihau’r risg ariannol a gweithredol i’r Cyngor. Cydnabuwyd bod angen rheoli risg mewn modd cyfrifol, ond cwestiynwyd a oedd y risg wedi ei gydbwyso’n briodol yn erbyn ystyriaethau eraill.

Cyfeiriwyd at egwyddorion Ffordd Gwynedd a’r disgwyliad i ganfod ffyrdd ymarferol o ddiwallu anghenion trigolion Gwynedd. Nodwyd y gallai diddymu’r cynllun arwain at fwy o geir yn teithio i ysgolion, a chwestiynwyd a oedd yr effaith amgylcheddol wedi ei hystyried yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan y Cyngor. Cwestiynwyd a oedd y penderfyniad wedi ei ystyried yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, tegwch i blant mewn ardaloedd gwledig a’r effaith ar blant a oedd yn wynebu anfantais economaidd. Awgrymwyd bod risg ariannol a gweithredol y Cyngor wedi cael mwy o bwyslais na’r holl ystyriaethau eraill hyn, a chwestiynwyd a oedd blaenoriaethau’r adran yn gywir. Gofynnwyd a oedd asesiad wedi ei gynnal o effeithiau tebygol diddymu’r cynllun. Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Cydnabuwyd bod y cynnig yn gallu ymddangos yn afresymol ar yr olwg gyntaf, gan nad oedd darparu sedd wag am gyfnod penodol yn broblem ynddo’i hun. Eglurwyd bod y broblem yn codi oherwydd dyletswydd statudol yr adran i ddarparu cludiant i ddisgyblion cymwys.

·       Esboniwyd y gallai sedd fod yn wag ar ddechrau tymor a chael ei chynnig i blentyn nad oedd yn gymwys i gael cludiant am ddim. Pe byddai teulu newydd yn symud i’r ardal yn ddiweddarach ac angen y sedd ar gyfer plentyn cymwys, ni fyddai modd tynnu’r sedd oddi wrth y defnyddiwr disgresiynol ar unwaith.

·       Eglurwyd y byddai’n rhaid ymgynghori â’r defnyddiwr disgresiynol yn ystod yr hydref cyn diddymu’r sedd y mis Medi canlynol. O ganlyniad, gallai’r Cyngor orfod darparu cludiant ychwanegol ar wahân i’r disgybl cymwys, er bod plentyn nad oedd yn gymwys yn parhau i ddefnyddio’r sedd ar y cerbyd presennol.

·       Pwysleisiwyd bod angen gwarchod buddiannau’r Cyngor, yr adran a thrigolion Gwynedd i gyd. Eglurwyd nad oedd modd dibynnu mwyach ar drefniant lle’r oedd defnyddiwr sedd wag yn derbyn y byddai’n rhaid iddo ildio’r sedd pe byddai disgybl cymwys yn symud i’r ardal, gan fod y trefniant blaenorol hwn wedi ei herio a bod achosion eisoes yng Ngwynedd lle’r oedd y Cyngor yn darparu cludiant na fyddai wedi gorfod ei ddarparu yn hanesyddol o ganlyniad i hyn.

·       Bod dros 50 o blant yn defnyddio seddi gweigion ar y pryd a bod y cynllun wedi ei rewi er mwyn osgoi creu dibyniaeth bellach ar y ddarpariaeth hyd nes bod yr adran yn ymgynghori ar y polisi.

Cyfeiriwyd at awdurdodau eraill a oedd yn parhau i weithredu cynlluniau lle’r oedd defnyddwyr yn llofnodi i gadarnhau mai dim ond tra oedd sedd ar gael y byddai ganddynt hawl i’w defnyddio. Awgrymwyd bod trefniant o’r fath yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad i’r awdurdod a bod y Cyngor yn gweithredu mewn modd rhy wrth-risg. Mewn ymateb, gwrthodwyd yr awgrym hwnnw, gan nodi bod enghreifftiau lleol wedi bod lle’r oedd unigolion wedi bygwth cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y Cyngor ynghylch gweithredu’r ddarpariaeth ddisgresiynol. Eglurwyd bod nifer o awdurdodau gwledig wedi diddymu cynlluniau tebyg ers nifer o flynyddoedd gan fod y goblygiadau a’r risgiau’n uwch mewn ardaloedd gwledig nag mewn ardaloedd trefol. Cydnabuwyd bod lefel y cynnig yn amrywio ledled Cymru, ond nodwyd mai profiad diweddar yr adran oedd bod gweithredu’r cynnig disgresiynol yn gadael yr awdurdod yn agored i her. Cadarnhawyd bod cyngor cyfreithiol wedi ei dderbyn na ddylid parhau i gynnig y ddarpariaeth oherwydd bod y risg hirdymor i’r awdurdod yn sylweddol.

Cynigwyd gofyn i’r Cabinet ailystyried y mater wrth iddo ystyried y polisi drafft. Mewn ymateb, eglurwyd bod y penderfyniad wedi ei seilio ar ganllawiau’r Llywodraeth ac nid ar ddehongliad a luniwyd gan yr adran. Cydnabuwyd bod y Cynllun Seddi Gweigion yn gwneud synnwyr ac mai dyna pam y cyflwynwyd y cynllun yn wreiddiol, ond nodwyd bod y cynllun wedi ei weithredu drwy ewyllys da o fewn fframwaith deddfwriaethol a chanllawiau gwan gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi’r Cyngor ar dir simsan.

Adroddodd yr Aelod Cabinet Addysg fod llythyr wedi ei anfon at y Gweinidog Addysg yn gofyn iddi adolygu’r Mesur a’r canllawiau. Eglurwyd nad oedd y gofyniad i roi 11 mis o rybudd cyn newid trefniadau cludiant yn rhoi digon o hyblygrwydd i awdurdodau mewn perthynas â darpariaeth ddisgresiynol. Cadarnhawyd bod yr adran wedi gwrando ar y sylwadau a gyflwynwyd ac y byddai’r mater yn cael ei ystyried yn llawn, ynghyd â goblygiadau posibl unrhyw newid i’r polisi presennol.

Cyfeiriwyd at yr angen am berthynas waith effeithiol rhwng yr Adran Addysg a’r Adran Amgylchedd er mwyn gweithredu’r polisi a chomisiynu’r ddarpariaeth gludiant. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod yr adran yn cydweithio â’r Adran Amgylchedd i weithredu’r polisi ac i gomisiynu’r cludiant.

Cwestiynwyd a oedd y berthynas rhwng y ddwy adran yn gweithio’n effeithiol. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y berthynas wedi ei chryfhau, gyda Rheolwr Cludiant yn cydlynu’r gwaith o fewn yr Adran Addysg a rheolwyr o fewn y Gwasanaeth Cludiant Integredig yn comisiynu’r cludiant ac yn rheoli’r ddarpariaeth o ddydd i ddydd. Nodwyd bod y cydweithio a’r cyfathrebu rhwng y gwasanaethau yn cryfhau wrth iddynt symud ymlaen.

Cwestiynwyd a oedd y trefniadau wedi gwella ers i wasanaeth bws ysgol rhwng Abererch ac Ysgol Glan y Môr gael ei atal ar ddechrau tymor ysgol y flwyddyn flaenorol. Mewn ymateb, nodwyd bod gwersi wedi eu dysgu ynghylch yr angen i gyfathrebu a rhannu negeseuon mewn da bryd, yn hytrach nag yn ystod gwyliau’r ysgol. Mynegwyd y gobaith na fyddai sefyllfa debyg yn digwydd eto ym mis Medi.

Cyfeiriwyd at y berthynas rhwng cludiant ysgol, diogelu a diogelwch plant. Mynegwyd y farn bod tuedd i roi mwy o bwyslais ar ddiogelwch cyfreithiol a sefydliadol y gyfundrefn, yr awdurdod ac ysgolion nag ar ddiogelwch plant. Mewn ymateb, eglurwyd mai’r her oedd taro cydbwysedd rhwng gofynion statudol sylfaenol a disgwyliadau’r cyhoedd ynghylch diogelu.

Nodwyd bod rhai materion yn cyrraedd lefel lles a phresenoldeb yn hytrach na chyrraedd trothwy diogelu, megis plant yn prynu bwyd sothach ar y ffordd i’r ysgol. Cyfeiriwyd at blant yn defnyddio cludiant cyhoeddus i gyrraedd yr ysgol ac yn gorfod sefyll oherwydd diffyg seddi, ynghyd â phroblemau ymddygiad a’r effaith ar bobl a oedd yn teithio i’r gwaith. Mynegwyd y farn nad oedd yr ystyriaethau hynny wedi cael digon o sylw.

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y trefniadau ar gyfer ysgolion ffydd, gan ofyn a oedd galw sylweddol am gludiant i’r ysgolion ffydd ar gyfer plant o du allan i’w dalgylch. Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd galw sylweddol yn gyffredinol, ond bod galw penodol mewn perthynas â’r ysgolion Catholig ym Mangor a Chaernarfon. Nodwyd bod cyfeiriad at ysgolion ffydd wedi ei gynnwys oherwydd nad oedd wedi ymddangos yn y polisi blaenorol, a bod dalgylch cludiant o bum milltir wedi ei bennu.

Cyfeiriwyd at y gwahaniaeth rhwng ardaloedd gwledig a threfol ac at y ffaith nad oedd llwybrau diogel i’r ysgol ar gael ym mhob ardal. Rhoddwyd enghraifft o blant a oedd yn byw mewn pentrefi ger yr A470, lle nad oedd yn ddiogel iddynt gerdded o un pentref i’r llall oherwydd prysurdeb y ffordd. Mynegwyd y farn bod anghydraddoldeb rhwng ardaloedd gwledig a threfol oherwydd diffyg cyllid ar gyfer llwybrau diogel. Mewn ymateb, gwrthodwyd yr awgrym nad oedd y polisi’n rhoi ystyriaeth deg i ardaloedd gwledig. Eglurwyd bod llwybrau cerdded yn cael eu hasesu er mwyn penderfynu a oeddent yn ddiogel ac yn addas i blant, a bod y broses honno’n berthnasol mewn ardaloedd gwledig a threfol. Pwysleisiwyd, pe na fyddai llwybr diogel i’r ysgol, y byddai cludiant yn cael ei ddarparu. Pwysleisiwyd bod ymgais i fod yn gyson ac yn deg o fewn y polisi ar draws y sir.

Mynegwyd cefnogaeth i ddarparu cymorth i deuluoedd er mwyn sicrhau presenoldeb yn yr ysgol, ond cydnabuwyd y byddai parhau â’r Cynllun Seddi Gweigion ar ei ffurf bresennol yn gallu creu cost sylweddol ychwanegol oherwydd y gofyniad i roi rhybudd o flwyddyn cyn tynnu sedd yn ôl. Awgrymwyd bod her gyfreithiol ynghylch cyfnod byrrach o rybudd wedi arwain at bolisi gwannach i rieni yn y pen draw, ac wedi gorfodi awdurdodau fel Gwynedd i newid eu trefniadau. Derbyniwyd y polisi fel yr oedd mewn perthynas â’r Cynllun Seddi Gweigion, a mynegwyd gwerthfawrogiad bod yr Aelod Cabinet wedi ysgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn am ailystyried y canllawiau.

Croesawyd y wybodaeth am y peilot yn Ysgol Hafod Lon, ond mynegwyd pryder ynghylch y broses dendro ar gyfer cludiant plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi pwyslais mawr ar gost heb egluro’n ddigonol yr effaith andwyol y gallai newid darparwr, gyrrwr neu drefniadau cludiant ei chael ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mynegwyd pryder ynghylch y gofyniad i rieni a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol lenwi ffurflen er mwyn gwneud cais am gludiant. Cwestiynwyd faint o ffurflenni yr oedd disgwyl i rieni eu llenwi ar draws gwasanaethau’r Cyngor, gan awgrymu, pe byddai Cynllun Datblygu Unigol eisoes yn nodi angen am gludiant, na ddylai fod angen ailgyflwyno’r un wybodaeth. Galwyd am leihad yn nifer y ffurflenni y disgwylid i rieni a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol eu llenwi. Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod angen sicrhau bod darparwyr cludiant yn deall anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, a bod y daith i’r ysgol yn rhan bwysig o’u diwrnod ysgol.

·       Bod angen i yrwyr, hebryngwyr a darparwyr fod yn ymwybodol o anghenion y plant a gwneud popeth posibl i leihau unrhyw straen a achosid gan y daith.

·       Bod gwaith eisoes wedi ei wneud gyda darparwyr a bod rhagor o waith ar y gweill. Cyfeiriwyd at y cynllun peilot yn Ysgol Hafod Lon, lle defnyddiwyd bysiau trydan a gyrwyr a gyflogir gan y Cyngor er mwyn sicrhau mwy o gysondeb a rheolaeth dros safon y gwasanaeth.

·       Y gallai problemau godi pan fyddai contractau’n cael eu haildendro, gan y gallai cwmni gwahanol ennill y contract ac arwain at newid gyrrwr. Nodwyd bod perthynas agos yn aml yn datblygu rhwng teuluoedd, plant a gyrwyr, a bod newid o’r fath yn gallu bod yn anodd i’r plentyn.

·       Bod gwersi wedi eu dysgu o brofiadau blaenorol a bod camau’n cael eu hystyried i liniaru effaith newidiadau wrth ail-dendro contractau.

·       Bod gan rhai plant anghenion dwys iawn a cherbydau wedi eu haddasu’n benodol, ac y gallai rhieni ddewis cludo’r plentyn eu hunain. Nodwyd bod y ffurflen felly’n gallu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf addas.

·       Y byddai unrhyw gwestiynau diangen ar ffurflenni’n cael eu hadolygu a’u dileu. Cadarnhawyd nad oedd bwriad i orfodi rhieni i ailadrodd yr un wybodaeth, ac y byddai ymdrech yn cael ei gwneud i leihau’r baich gwaith papur.

Cyfeiriwyd at beilot Ysgol Hafod Lon a nodwyd mai’r flaenoriaeth oedd darparu gwasanaeth o safon uchel i’r plant. Serch hynny, pwysleisiwyd bod cludiant addysg yn faes gwariant sylweddol a oedd yn gorwario, ac y dylid manteisio ar unrhyw gyfle i wneud arbedion heb leihau safon y ddarpariaeth. Adroddwyd bod y peilot wedi bod yn llwyddiannus yn ystod ei flwyddyn gyntaf ac wedi arwain at arbediad o £55,000. Nodwyd y byddai ail fws mini yn cael ei gyflwyno y flwyddyn nesaf, gyda’r disgwyl y byddai hynny’n sicrhau arbediad pellach o £130,000.

Pwysleisiwyd mai’r nod oedd cynnal neu wella safon y gwasanaeth fel na fyddai plant a theuluoedd yn gweld dirywiad yn y ddarpariaeth. Nodwyd bod potensial i ehangu’r gwasanaeth, ond bod yr adran yn parhau i ddibynnu ar gontractau gyda’r sector preifat ac na fyddai modd newid y trefniadau dros nos. Cyfeiriwyd at y gostyngiad yn nifer y gyrwyr tacsi a’r cwmnïau tacsi, a nodwyd bod angen datblygu’r gwasanaeth yn raddol.

Adroddwyd bod cost cludiant ar gyfer Ysgol Hafod Lon yn unig oddeutu £1 miliwn y flwyddyn, a bod cost ychwanegol o tua £500,000 ar gyfer Ysgol Pendalar. Nodwyd bod y ffigurau hyn yn dangos maint sylweddol y gwariant. Eglurwyd bod llythyr wedi ei anfon at y Gweinidog blaenorol yn codi cwestiwn ynghylch a oedd y Cyngor yn derbyn cyllid digonol i dalu gwir gost cludo plant i’r ysgol. Awgrymwyd nad oedd y costau gwirioneddol yn cael eu hadlewyrchu’n llawn yn yr arian a dderbyniwyd drwy’r grant bloc cyffredinol gan Lywodraeth Cymru. Awgrymwyd y gallai fod angen grant penodol ar gyfer cludiant addysg, a fyddai’n cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i’r adran, ac y gallai fod yn briodol codi’r mater eto gyda’r Llywodraeth newydd.

Gofynnwyd am sicrwydd y byddai’r Gymraeg yn cael ystyriaeth briodol yn y broses dendro, er y cydnabuwyd na fyddai hynny bob amser yn hawdd. Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyswllt cynlluniau teithio penodol, eglurwyd bod dau gynllun gwahanol yn gweithredu ochr yn ochr, sef cynllun teithio am £1 ar gyfer pobl ifanc hyd at 16 oed a chynllun ar gyfer pobl ifanc 16-21 o’r enw ‘Fy Ngherdyn Teithio’. Nodwyd bod yr ail gynllun wedi dechrau fel peilot, ond y gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn barhaol er mwyn hwyluso teithio rhwng safleoedd addysgol.

Codwyd pryder ynghylch y terfyn o bum milltir ar gyfer cludiant i ysgolion ffydd. Nodwyd y byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar ddisgyblion o rai ardaloedd a oedd wedi derbyn cludiant yn hanesyddol. Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr ysgolion ffydd yn awdurdodau derbyn eu hunain ac nad oedd ganddynt ddalgylchoedd ffurfiol, ond dadleuwyd bod ffiniau plwyfi wedi cael eu defnyddio’n hanesyddol at ddibenion cludiant. Rhoddwyd ardal Bethesda fel enghraifft, gan nodi ei fod wedi bod o fewn ffin y plwyf ac wedi ei gynnwys mewn mapiau a rannwyd â’r awdurdod lleol yn y gorffennol. Mynegwyd pryder y byddai plant o Fethesda yn colli cludiant i Ysgol Ein Harglwyddes ym Mangor. Gofynnwyd i’r adran ailystyried y terfyn a’i addasu ar gyfer ysgolion ffydd.

Mewn ymateb, cadarnhawyd parodrwydd i drafod y mater ac edrych ar y manylion. Eglurwyd bod y ffigur o bum milltir wedi ei osod ar sail y patrymlun a ddefnyddid ar gyfer cludiant cynradd ac uwchradd, ond nad oedd hynny’n atal yr adran rhag ei ailystyried. Cadarnhawyd y byddai’r mater yn cael ei drafod cyn cyflwyno’r polisi i’r Cabinet.

Mynegwyd cefnogaeth lawn i’r adolygiad o’r polisi a chroesawyd y darpariaethau ar gyfer dysgwyr ôl-16, gan nodi eu bod yn rhoi mwy o ddewis i fyfyrwyr fynychu lleoliadau a oedd yn cynnig cyrsiau addas. Pwysleisiwyd y dylai’r polisi roi ystyriaeth briodol i ddiogelwch y plentyn ac i bresenoldeb yn yr ysgol. Cyfeiriwyd at y gorwariant sylweddol yn y maes a gofynnwyd a oedd amcangyfrif wedi ei wneud o’r arbedion y byddai’r polisi newydd yn eu sicrhau. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd disgwyl i weithredu’r polisi greu arbedion. Eglurwyd bod y polisi wedi ei lunio er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch ar draws y system, nid er mwyn lleihau gwariant. Nodwyd bod y gyllideb yn cael ei rheoli mor dynn â phosibl, ond y byddai costau’n debygol o gynyddu wrth ail-dendro contractau oherwydd prisiau tanwydd a chostau gweithredu.

Tynnwyd sylw at yr angen i adolygu dalgylchoedd ysgolion. Nodwyd bod cau ysgolion a symudiadau disgyblion yn gallu newid pa ysgol oedd fwyaf addas i gymuned benodol. Gofynnwyd pryd y byddai dalgylchoedd yn cael eu hadolygu, pwy fyddai’n rhan o’r broses ac a fyddai hanes yr ardaloedd a chysylltiadau lleol yn cael eu hystyried. Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod dyfodol rhai ysgolion eisoes yn cael ei drafod a bod y dalgylch cyfan yn cael ei ystyried fel rhan o unrhyw drafodaeth o’r fath.

·       Pe byddai ysgol yn cau, byddai angen penderfynu i ble y byddai’r dalgylch yn symud, pa ffiniau a fyddai’n newid a pha ysgolion y byddai’r plant yn eu mynychu.

·       Nad oedd gan yr adran y capasiti i gynnal adolygiad cynhwysfawr o bob dalgylch ysgol.

·       Y byddai dalgylchoedd yn cael eu hadolygu wrth i newidiadau godi, yn enwedig pan fyddai dyfodol ysgol benodol yn cael ei ystyried.

·       Y gellid cynnal adolygiad ehangach fesul clwstwr o ysgolion, gan ddefnyddio dalgylch ysgol uwchradd fel sail, pe byddai’r capasiti ar gael.

Gofynnwyd a oedd datblygiadau tai newydd yn cael eu hystyried wrth edrych ar ddalgylchoedd ysgolion. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod yr adran yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Cynllunio pan fyddai datblygiad tai newydd yn cael ei gynnig. Nodwyd bod y Gwasanaeth Cynllunio yn gofyn am wybodaeth ynghylch capasiti ysgolion lleol i dderbyn y plant ychwanegol, ond bod digon o leoedd yn y mwyafrif helaeth o ysgolion.

Gofynnwyd a fyddai’n bosibl newid dalgylch pan fyddai stad newydd yn cael ei hadeiladu er mwyn cynorthwyo ysgol lai neu atal ysgol rhag cau. Mewn ymateb, cadarnhawyd na fyddai’r adran yn newid ffin dalgylch er mwyn cyfeirio plant o stad newydd at ysgol lai yn hytrach na’r ysgol agosaf. Eglurwyd y byddai ffin y dalgylch a oedd eisoes yn bodoli yn cael ei pharchu. Ychwanegwyd bod deddfwriaeth yn ei wneud yn ofynnol i barchu hawl rhieni i ddewis ysgol i’w plant, ac nad oedd modd i’r Cyngor annog rhieni i ddewis un ysgol yn hytrach nag un arall er mwyn cefnogi niferoedd ysgol benodol.

Eglurwyd nad oedd datblygiadau tai yn creu problem sylweddol ar y pryd oherwydd bod capasiti ar gael yn y rhan fwyaf o ysgolion. Nodwyd nad oedd holl ddisgyblion unrhyw ysgol o reidrwydd yn byw o fewn ei dalgylch. Pe byddai ysgol yn cyrraedd ei chapasiti, byddai’r weithdrefn dderbyn yn rhoi blaenoriaeth i blant o’r dalgylch. Cyfeiriwyd at y nifer isel o apeliadau ynghylch derbyniadau ysgol yng Ngwynedd, gan nodi bod digon o leoedd fel arfer i ganiatáu cais yn unol â dewis rhieni.

Mynegwyd pryder nad oedd pob rhiant a oedd yn defnyddio gwefan y Cyngor i chwilio am ysgol dalgylch yn ymwybodol bod ganddynt ddewis ehangach. Mewn ymateb, nodwyd bod trafodaethau ehangach yn digwydd ynghylch cynaliadwyedd cymunedau a’r hyn y gallai’r Cyngor ei wneud i’w cefnogi. Cyfeiriwyd at ffrwd newydd yng Nghynllun y Cyngor ‘Nôl i Wynedd’, a nodwyd y gallai fod angen meddwl yn fwy creadigol ynghylch sut y gellid cefnogi cymunedau a herio’r tueddiadau presennol.

Pwysleisiwyd nad gwneud arbedion oedd y prif reswm dros gyflwyno’r polisi ac nad oedd y drafodaeth wedi ei llywio gan fwriad i ddileu gwasanaethau bysiau er mwyn lleihau costau. Eglurwyd, pe byddai cyfleoedd yn codi i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol, well a mwy effeithlon, y byddai’r cyfleoedd hynny’n cael eu hystyried.

Gofynnwyd lle’r oedd y polisi’n gadael myfyrwyr ôl-16 o Ddwyfor a oedd, oherwydd rhesymau cwricwlaidd ac ystod y pynciau a oedd ar gael, yn dewis astudio mewn chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd yn Arfon. Mewn ymateb, eglurwyd bod y polisi diwygiedig yn sicrhau cludiant am ddim i’r safle addysgol agosaf a oedd yn darparu’r cwrs perthnasol. Nodwyd mai’r ddarpariaeth agosaf i ddysgwyr o Ddwyfor a oedd am astudio Safon Uwch fyddai, fel arfer, Coleg Meirion-Dwyfor.

Gofynnwyd beth fyddai’n digwydd pe byddai dysgwr am astudio pwnc nad oedd ar gael yn y lleoliad agosaf. Mewn ymateb, cadarnhawyd, pe na fyddai’r cwrs neu’r pwnc perthnasol ar gael yn y lleoliad agosaf, y byddai cludiant yn cael ei ddarparu i leoliad arall lle’r oedd y ddarpariaeth ar gael.

Cydnabuwyd bod y Polisi Cludiant Addysg yn un cymhleth a bod nifer o rwystrau a gofynion statudol yn gysylltiedig ag ef. Nodwyd bod angen hyblygrwydd wrth ei weithredu, a phwysleisiwyd pwysigrwydd diogelwch disgyblion a sicrhau tegwch.

PENDERFYNWYD

 

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.     Gofyn i’r Cabinet roi sylw penodol i’r Cynllun Seddi Gweigion wrth ddod i benderfyniad.

3.     Argymell i’r Aelod Cabinet Addysg:-

·       Dylid ystyried addasu’r Polisi Cludiant Addysg Drafft i ddynodi plwyfi yn hytrach na phellter o ran cludiant i ysgolion ffydd.

·       Edrych ar leihau’r nifer o ffurflenni sydd angen i rieni disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol eu llenwi.

 

Dogfennau ategol: