Agenda item

Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.

Penderfyniad:

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.         Gofyn i’r Pennaeth Addysg rannu data cymharol cenedlaethol o ran dadgofrestru gydag aelodau’r Pwyllgor ynghyd ag Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Ieuenctid.

3.         Bod angen edrych ar gynnwys gwybodaeth a data o ran cyrhaeddiad disgyblion yn yr adroddiad perfformiad i’r dyfodol.

4.         Bod y Pwyllgor yn craffu’r sefyllfa o ran dadgofrestru ac Addysg Ddewisol Gartref fel rhan o’i raglen waith pan yn amserol.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad gan nodi bod y drefn yn un gymharol newydd, ond ei bod yn ffordd ddefnyddiol i’r Aelodau weld a deall ystod gwaith yr Adran Addysg. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor graffu ar berfformiad yr adran.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Mynegwyd pryder cyffredinol ynghylch maint y pecyn adroddiadau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys oddeutu 350 o dudalennau. Nodwyd nad oedd yn realistig disgwyl i aelodau ddarllen yr holl ddeunydd yn fanwl, ac y gallai hynny olygu na fyddai rhai cwestiynau perthnasol yn cael eu codi. Mewn ymateb, ymddiheurwyd am hyd yr adroddiad ac eglurwyd bod newidiadau ar y gweill i drefniadau herio perfformiad yr Adran Addysg. Nodwyd bod yr adran yn un fawr a oedd yn cynnwys nifer o wasanaethau gwahanol, a bod adnabod y materion pwysicaf ymhlith yr holl wybodaeth wedi bod yn her. Cadarnhawyd y byddai pob rheolwr yn parhau i adrodd ar berfformiad, ond wrth symud ymlaen y byddai’r Penaethiaid Cynorthwyol yn darparu crynodebau o oddeutu tair neu bedair tudalen, gan amlygu’r llwyddiannau a’r meysydd yr oedd angen sylw arnynt.

Tynnwyd sylw at y gostyngiad sylweddol yn nifer y ceisiadau am swyddi penaethiaid ac at yr her gynyddol o ddenu unigolion i swyddi arweinyddiaeth mewn ysgolion. Croesawyd datblygiad rhaglen Arweinwyr y Dyfodol, a oedd yn darparu cymorth ymarferol i unigolion a oedd yn dymuno symud i swyddi arwain. Nodwyd bod 17 o unigolion o’r sector cynradd a saith o’r sector uwchradd yn dilyn y rhaglen. Cwestiynwyd faint a oedd wedi dilyn y rhaglen yn y flwyddyn flaenorol ac a oedd yr adborth wedi bod yn gadarnhaol.

Cyfeiriwyd at y rhaglen gefnogaeth ar gyfer penaethiaid newydd a phenaethiaid dros dro, gyda 26 unigolyn yn dilyn y rhaglen. Nodwyd bod yr ymateb i’r rhaglen wedi bod yn gadarnhaol, a bod penaethiaid newydd wedi rhoi adborth da ynghylch y gefnogaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 13% o ysgolion heb bennaeth parhaol, a gofynnwyd am y ffigurau cyfatebol ar gyfer y blynyddoedd blaenorol er mwyn rhoi’r sefyllfa mewn cyd-destun. Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod recriwtio penaethiaid yn her sylweddol ac nad oedd y broblem yn unigryw i Wynedd, gan fod ysgolion ar draws Cymru a thu hwnt yn wynebu’r un anhawster.

·       Bod trosiant sylweddol wedi bod ymhlith penaethiaid yng Ngwynedd dros y ddwy neu dair blynedd flaenorol oherwydd proffil oedran y gweithlu. Amcangyfrifwyd bod rhwng 30% a 33% o ysgolion wedi newid pennaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.

·       Bod rhai penaethiaid wedi cyrraedd oedran ymddeol, tra bod eraill wedi penderfynu gadael y proffesiwn oherwydd nad oeddent yn dymuno parhau yn y rôl.

·       Bod swyddi pennaeth cynradd wedi denu tri neu bedwar ymgeisydd yn y gorffennol a swyddi pennaeth uwchradd wedi denu dau neu dri, ond bod swyddi bellach yn cael eu hysbysebu heb dderbyn unrhyw geisiadau mewn rhai achosion.

·       Bod y sefyllfa wedi ei chynnwys ar gofrestr risg yr adran, gan ei bod yn risg sylweddol a allai gael effaith ar ansawdd a safonau ysgolion.

·       Bod tîm o swyddogion cefnogi ysgolion ar waith, ac y bwriedid cryfhau’r gefnogaeth i gyrff llywodraethu yn y flwyddyn i ddod er mwyn sicrhau bod penaethiaid ac ysgolion yn derbyn cymorth o sawl cyfeiriad.

·       Bod angen newidiadau cenedlaethol, gan gynnwys cynyddu nifer y lleoedd ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth. Pwysleisiwyd y dylai athrawon a oedd yn dangos awydd i arwain ysgol gael eu cefnogi i ennill y cymhwyster perthnasol.

Adroddwyd bod 15 o unigolion wedi dilyn rhaglen Arweinwyr y Dyfodol yn ystod y flwyddyn flaenorol, a bod y mwyafrif wedi symud ymlaen i swyddi pennaeth mewn gofal neu swyddi parhaol. Eglurwyd bod y rhaglen wedi gweithio tuag at ddatblygu talent o fewn ysgolion Gwynedd a sicrhau bod cronfa o unigolion ar gael i ymateb i sefyllfaoedd brys yn y sectorau cynradd ac uwchradd. Cadarnhawyd bod y rhaglen wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cyfrannu at gynnydd blynyddol yn nifer yr ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y cymhwyster prifathrawiaeth.

Adroddwyd bod rhaglen newydd wedi ei sefydlu ym mis Ionawr eleni ar gyfer penaethiaid a oedd wedi bod yn eu swyddi am lai na thair blynedd, ynghyd â phenaethiaid dros dro. Nodwyd bod 22 o benaethiaid yn dilyn y rhaglen, a oedd yn cael ei harwain gan ddau swyddog cefnogi a fu’n benaethiaid yn flaenorol. Eglurwyd bod y rhaglen yn rhoi cyfle i benaethiaid rwydweithio, derbyn cefnogaeth mentor ac adnabod wynebau cyfarwydd ac adrannau o fewn yr awdurdod. Nodwyd bod y rhaglen yn rhoi cymorth gyda materion megis cyllid, cynlluniau gwelliant ac adnoddau dynol. Cydnabuwyd y gallai rôl pennaeth newydd fod yn un unig, ac y gallai’r gefnogaeth hon fod o fudd sylweddol.

Gofynnwyd a oedd un prif reswm yn dod i’r amlwg dros benderfyniadau penaethiaid ac athrawon i adael y proffesiwn. Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd un rheswm penodol, ond bod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y sefyllfa ers cyfnod y pandemig. Nodwyd bod rhai plant yn cyrraedd yr ysgol heb allu cyflawni tasgau sylfaenol megis defnyddio’r tŷ bach, bwyta’n annibynnol neu wisgo cot. Eglurwyd bod ysgolion uwchradd wedi gweld dirywiad yn sgiliau darllen rhai disgyblion wrth iddynt ddechrau ym Mlwyddyn 7 o gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig.

Cyfeiriwyd at ymddygiad heriol plant, ymddygiad rhieni a’r baich o ddelio â nifer cynyddol o gwynion. Nodwyd bod cwynion wedi dod yn fwy cymhleth, yn enwedig wrth i ddeallusrwydd artiffisial gael ei ddefnyddio i’w llunio, a bod ymateb iddynt yn gallu bod yn anodd i benaethiaid. Cyfeiriwyd at newidiadau i’r cwricwlwm, gyda rhai penaethiaid wedi penderfynu ymddeol yn hytrach na gweithredu rhagor o newidiadau dros y blynyddoedd nesaf. Nodwyd bod mwy o blant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion, a bod rhwystredigaeth ynghylch diffyg darpariaeth ddigonol i ddiwallu eu hanghenion wedi cyfrannu at y pwysau ar benaethiaid.

Pwysleisiwyd na allai unrhyw bennaeth ymdopi â’r holl newidiadau hyn ar ei ben ei hun. Nodwyd bod angen newid y ffordd yr oedd yr awdurdod, ysgolion, llywodraethwyr a’r pwyllgorau craffu yn cydweithio, a lleihau’r ymdeimlad o “ni a nhw” o fewn y gyfundrefn. Eglurwyd mai drwy gydweithio er budd holl blant Gwynedd, yn hytrach na chanolbwyntio ar un ysgol neu un dosbarth yn unig, y byddai modd sicrhau llwyddiant.

Awgrymwyd y dylid codi’r heriau hyn ar lefel genedlaethol gyda Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod y Gweinidog Addysg newydd wedi arwain undeb prifathrawon yn flaenorol, ac y byddai felly’n ymwybodol o’r pwysau a oedd yn wynebu’r proffesiwn.

Nododd aelod, o safbwynt yr undebau addysg, mai’r tri phrif bryder a oedd yn cael eu codi’n gyson gan athrawon oedd baich gwaith, ymddygiad a chyflogau. Nodwyd bod baich gwaith ac ymddygiad yn cyfnewid lle fel y prif bryder o bryd i’w gilydd, gyda chyflogau fel arfer yn y trydydd safle. Awgrymwyd bod y ffactorau hyn yn gwneud i athrawon feddwl yn ofalus cyn ymgeisio am swyddi arwain. Cyfeiriwyd at ddata gan Gyngor y Gweithlu Addysg ynghylch carfan athrawon newydd gymhwyso 2015, gan nodi bod 40% o’r garfan honno wedi gadael addysg erbyn 2025.

Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau cyfalaf a oedd wedi llithro o ran amser neu gost, neu’r ddau mewn rhai achosion. Gofynnwyd a oedd disgwyl rhagor o oedi mewn perthynas â’r prosiectau a oedd ar y gweill, neu a oedd hyder y byddent yn cael eu cyflawni o fewn yr amserlen a’r gyllideb. Mewn ymateb, cydnabuwyd na ellid sicrhau na fyddai rhagor o oedi, gan fod prosiectau cyfalaf yn gymhleth a bod problemau annisgwyl yn gallu codi.

Cyfeiriwyd at brosiect Ysgol Ein Harglwyddes, lle’r oedd bwriad wedi bod i blant symud i’r adeilad newydd, ond gan nad oedd y gwaith wedi ei gwblhau i safon ddigonol. Nodwyd bod penderfyniad anodd wedi ei wneud i ohirio’r agoriad tan 1 Medi 2026. Pwysleisiwyd ei bod yn well gohirio na symud plant i adeilad lle nad oedd y gwaith wedi ei gwblhau’n briodol, gan nodi bod tuedd wedi bod yn y gorffennol i symud plant i mewn ac yna datrys problemau.

Eglurwyd bod prosiect Ysgol Tryfan wedi bod ar y gweill ers sawl blwyddyn ac wedi wynebu heriau cyfalaf. Nodwyd ei bod yn anodd rhagweld cost gwaith adeiladu, yn enwedig pan oedd gwaith yn digwydd ar y safle tra bod yr ysgol yn parhau i weithredu ar y safle. Mynegwyd y gobaith y byddai modd cadw at yr amserlen a’r gyllideb, ond cydnabuwyd y byddai angen brwydro’n barhaus i gyflawni hynny. Nodwyd nad oedd unrhyw brosiect cyfalaf mawr wedi bod yn gwbl rydd o broblemau, ac y gallai problemau pellach godi er nad oedd rhai penodol wedi eu hadnabod.

Cyfeiriwyd at gynllun i leihau cost mynychu’r ysgol, a chroesawyd y ffaith bod cynllun penodol ar waith. Gofynnwyd sut y byddai llwyddiant y cynllun yn cael ei fesur. Mewn ymateb, eglurwyd y byddai llwyddiant yn seiliedig ar ymrwymiad ysgolion i weithredu egwyddorion y cynllun. Nodwyd nad oedd unrhyw bennaeth yn dymuno gwneud mynychu’r ysgol yn fwy anodd neu’n fwy costus, ond bod angen i ysgolion ystyried goblygiadau ariannol eu penderfyniadau. Cyfeiriwyd at gynlluniau siop gwisg ysgol ail-law a’r angen i ystyried a oedd logo penodol ar ddillad chwaraeon yn angenrheidiol. Mewn ymateb, nodwyd y gallai aelodau a oedd yn gwasanaethu ar gyrff llywodraethu godi’r materion hyn yn uniongyrchol, ac y byddai ymateb cyrff llywodraethu’n bwysig wrth ddatblygu’r gwaith.

Cyfeiriwyd at y gyfundrefn drochi a nodwyd bod nifer o welliannau yr oedd yr adran yn dymuno eu gwneud, ond nad oeddent yn fforddiadwy ar y pryd. Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y gwelliannau hynny. Mewn ymateb, nodwyd bod adolygiad o’r gyfundrefn drochi wedi ei gynnal, bod arolygiad cadarnhaol wedi ei dderbyn gan Estyn a bod adroddiad gan Brifysgol Bangor wedi ei ystyried. Nodwyd bod goblygiadau sylweddol o ran adnoddau, ac y byddai mwy o ganolfannau a mwy o staff yn galluogi rhagor o blant i gael mynediad at ddarpariaeth drochi.

Eglurwyd nad oedd y gyllideb bresennol yn ddigonol i ariannu’r canolfannau trochi presennol yn llawn, ac y byddai mwy o adnoddau yn galluogi’r adran i ddarparu mwy o leoedd. Cydnabuwyd, fodd bynnag, y byddai hynny’n codi cwestiynau ynghylch hyd yr amser y byddai dysgwyr yn ei dreulio yn y canolfannau a’r costau cludiant cysylltiedig. Nodwyd bod y gyfundrefn yn perfformio’n dda gyda’r adnoddau a oedd ar gael, a bod y defnydd gorau posibl yn cael ei wneud o adnoddau lleol a chenedlaethol er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion.

Cydnabuwyd bod pwysau cynyddol ar y gyfundrefn drochi ac y byddai’r pwysau hynny’n parhau dros y blynyddoedd nesaf wrth i ysgolion weithredu’r Polisi Iaith. Pwysleisiwyd bod cost y gyfundrefn yn uwch na lefel y grantiau a oedd yn cael eu derbyn. Mynegwyd gwerthfawrogiad o gyfraniad Llywodraeth Cymru, ond nodwyd y dylai’r cyfraniad adlewyrchu cost wirioneddol y ddarpariaeth. Awgrymwyd y byddai ysgolion yn gorfod gwario mwy ar addysg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd yn nifer y disgyblion a oedd yn cael eu dadgofrestru o ysgolion. Gofynnwyd beth oedd strategaeth Gwynedd ar gyfer ymateb i’r cynnydd a’i leihau. Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at batrwm cenedlaethol, ond gofynnwyd i ffigurau Cymru gyfan gael eu cynnwys er mwyn rhoi sefyllfa Gwynedd mewn cyd-destun. Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod nifer y plant a oedd yn cael eu haddysgu gartref yn cynyddu’n genedlaethol, a chytunwyd i rannu’r ffigurau cenedlaethol â’r Pwyllgor.

·       Bod pryder sylweddol ynghylch y cynnydd yng Ngwynedd. Nodwyd bod y nifer wedi codi i dros 300 o blant oedran ysgol, o’i gymharu ag oddeutu 250 ar yr un adeg y flwyddyn flaenorol.

·       Bod y ffigur yn newid yn ystod y flwyddyn wrth i ddisgyblion Blwyddyn 11 adael y system, ac felly y gallai ymddangos bod y nifer yn gostwng ym mis Medi er nad oedd y duedd sylfaenol wedi newid.

·       Bod tuedd benodol i ddisgyblion hŷn gael eu dadgofrestru.

·       Bod gwahaniaeth rhwng rhieni a oedd wedi dewis addysgu eu plant gartref o’r cychwyn, rhieni a oedd wedi penderfynu rhoi’r gorau i weithio er mwyn darparu addysg gartref o ansawdd uchel, a rhieni a oedd yn tynnu plentyn o’r ysgol oherwydd nad oedd yr ysgol yn gallu diwallu ei anghenion neu oherwydd problemau presenoldeb neu ymddygiad.

·       Bod nifer o rieni’n darparu addysg gartref ragorol. Fodd bynnag, mynegwyd pryder arbennig ynghylch plant a oedd yn cael eu tynnu o’r ysgol oherwydd anawsterau, gan y gallent gyrraedd oedran ôl-16 heb gymwysterau ac yna gorfod dilyn cyrsiau sylfaenol cyn symud ymlaen at eu dewis o astudiaethau.

·       Bod Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Gwynedd a Môn wrthi’n cael ei wahanu, a bod bwriad i gael dau aelod o staff i gefnogi teuluoedd a oedd yn dewis addysgu eu plant gartref.

·       Bod ymweliadau cartref eisoes yn cael eu cynnal er mwyn asesu pa gymorth oedd ei angen ac os oedd y rhieni’n gallu darparu addysg briodol.

·       Bod angen atal teuluoedd rhag teimlo dan bwysau i dynnu eu plant o’r ysgol. Nodwyd bod hyn yn gofyn am gydweithio rhwng y timau cynhwysiad, anghenion dysgu ychwanegol ac ysgolion.

·       Bod cynlluniau ar waith i ymateb i’r mater, ac awgrymwyd y gellid cyflwyno adroddiad mwy cynhwysfawr i’r Pwyllgor yn y dyfodol, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am effaith yr ymyraethau.

Pwysleisiwyd gan yr Aelod Cabinet fod y mater yn flaenoriaeth iddo. Nodwyd bod anghenion dysgu ychwanegol, problemau cymdeithasol, tlodi a newidiadau mewn cymdeithas yn cyfrannu at y cynnydd. Cydnabuwyd bod sefyllfaoedd teuluoedd wedi dwysáu mewn rhai achosion dros y blynyddoedd diwethaf, ond pwysleisiwyd nad oedd adnabod achosion y broblem yn ddigon ynddo’i hun. Eglurwyd bod angen i’r Cyngor addasu a datblygu ei ffordd o weithio er mwyn diwallu anghenion y plant a’r teuluoedd hynny.

Cyfeiriwyd at y gwaith a oedd wedi digwydd dros y 18 mis blaenorol i adolygu gwasanaethau. Nodwyd y byddai’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad ar y cyd ag Ynys Môn yn dod i ben erbyn mis Medi ac y byddai gwasanaeth ar wahân yn cael ei sefydlu ar gyfer Gwynedd yn unig. Eglurwyd bod y galw wedi cynyddu’n sylweddol, bod y gwasanaeth wedi tyfu’n fawr ac yn anodd ei reoli, a bod yr ardal ddaearyddol yn eang iawn. Mynegwyd y gobaith y byddai gwasanaeth Gwynedd yn unig yn rhoi gwell rheolaeth ac yn ymateb yn fwy effeithiol i anghenion lleol, gan barhau i gydweithio ag Ynys Môn pan fyddai hynny’n briodol.

Cyfeiriwyd at newidiadau eraill, gan gynnwys sefydlu gwasanaeth cynhwysiad newydd a chanolfan newydd Camu i’r Copa yn Llanwnda, ynghyd â’r newidiadau a oedd yn deillio o ddiwedd GwE (Gwasanaeth Effeithlonrwydd Ysgolion). Nodwyd bod gan y trefniadau newydd rôl bwysig o ran cefnogi ysgolion, plant a theuluoedd. Cyfeiriwyd at ddiwylliant ysgolion a’r blaenoriaethau a oedd yn llywio eu gwaith, gan gynnwys a ddylid rhoi mwy o bwyslais ar y ddarpariaeth sylfaenol yn hytrach na gweithgareddau drytach. Cydnabuwyd nad oedd atebion cyflym, ond ailadroddwyd bod y maes yn flaenoriaeth a bod y gwasanaeth yn symud i’r cyfeiriad cywir.

Ychwanegwyd bod newid deddfwriaethol ar y gweill ynghylch addysg gartref, a fyddai’n newid grym awdurdodau lleol o ran mynediad at blant a gwneud penderfyniadau ynghylch plant a theuluoedd a oedd yn dewis y llwybr hwnnw. Nodwyd y byddai’r adran yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd yn unol ag ysbryd y ddeddfwriaeth newydd. Nodwyd bod y Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu cymorth er mwyn lleihau nifer y bobl ifanc nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a bod y gwasanaeth yn ymyrryd yn gynharach mewn ysgolion er mwyn atal hyn rhag digwydd.

Croesawyd yr ymrwymiad i gyflwyno rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor. Gofynnwyd i’r data gynnwys oedran y disgyblion a oedd yn cael eu dadgofrestru a’u lleoliad daearyddol, er mwyn adnabod unrhyw batrymau.

Mynegwyd pryder bod rhai athrawon a phenaethiaid mewn gofal a oedd yn dymuno dilyn y cymhwyster ar gyfer prifathrawiaeth yn parhau i gael eu gwrthod. Cydnabuwyd mai Llywodraeth Cymru, yn hytrach na Chyngor Gwynedd, oedd yn rhedeg y cwrs, ond nodwyd bod y sefyllfa’n peri pryder o ystyried y prinder penaethiaid. Mewn ymateb, cytunwyd y dylai unigolion a oedd yn dangos awydd i ddod yn benaethiaid gael cyfle i ddilyn y cymhwyster. Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gosod cap ar nifer y lleoedd, ac nad penderfyniad yr awdurdod lleol oedd hynny.

Nodwyd bod penaethiaid mewn gofal ac unigolion eraill a oedd yn dymuno ymgeisio yn cael eu hannog i gysylltu â’r adran, a bod y rhaglenni arweinyddiaeth lleol yn helpu i adnabod bylchau yn eu profiad a chryfhau eu ceisiadau. Adroddwyd bod un unigolyn wedi bod yn llwyddiannus yn 2024, wedi ennill y cymhwyster ac wedi cael swydd pennaeth parhaol, gan gyfrannu at leihau nifer y penaethiaid mewn gofal. Nodwyd bod tri unigolyn wedi eu derbyn ar y cymhwyster ers mis Medi, a bod pedwar arall wedi eu derbyn ar gyfer Medi 2026.

Cadarnhawyd bod y pryderon wedi eu codi gyda Llywodraeth Cymru. Adroddwyd bod nifer y lleoedd wedi cynyddu o 46 i 96 ar gyfer Medi 2026, gan awgrymu bod y Llywodraeth yn gwrando ar y pryderon. Nodwyd bod yr adran yn cydweithio’n agos â Dysgu, a oedd yn gyfrifol am arwain y cymhwyster ac am ddatblygu llwybrau gyrfa ar gyfer arweinyddiaeth canol ac uwch.

Gofynnwyd a oedd safleoedd lloeren yn cael eu datblygu ym Meirionnydd fel y trafodwyd pan sefydlwyd darpariaeth cyfeirio disgyblion, ac a oedd adborth wedi ei dderbyn ynghylch y cynnig. Cyfeiriwyd at raglen deledu ddiweddar ynghylch Brynffynnon, a nodwyd bod rhai tebygrwydd rhwng y ddarpariaeth honno a Chamu i’r Copa, er bod y grwpiau oedran yn wahanol. Pwysleisiwyd bod rhaid rhoi blaenoriaeth uchel i ddiogelu, gan fod disgyblion bregus mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin. Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod penderfyniad wedi ei wneud o’r cychwyn i sefydlu darpariaeth briodol ac o safon uchel.

·       Bod buddsoddiad cyfalaf sylweddol wedi ei wneud yn yr hen ysgol er mwyn creu cyfleuster diogel a chynhwysol.

·       Bod yr holl adnoddau angenrheidiol wedi eu darparu i sicrhau bod y plant yn cael eu cynnwys yn llawn ac yn teimlo’n ddiogel.

·       Bod gweithio mewn uned cynnal ymddygiad yn heriol oherwydd bod ymddygiad plant yn dod yn gynyddol heriol.

·       Bod gan y tîm gapasiti i ymestyn allan i ysgolion, er bod barn gymysg ynghylch effeithiolrwydd y dull hwnnw. Eglurwyd bod llwyddiant gwaith ymddygiad yn aml yn dibynnu ar adeiladu perthynas gyda’r plentyn, a bod hynny’n anodd pan oedd swyddog yn ymweld am gyfnod byr yn unig.

·       Bod dymuniad i ddatblygu mwy o ddarpariaeth a mwy o ganolfannau, ond pwysleisiwyd y dylent fod yn ddarpariaethau llawn ac addas.

·       Bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda phenaethiaid ym Meirionnydd a oedd yn awyddus i weld darpariaeth yn yr ardal, yn enwedig ar gyfer y sector uwchradd.

Mynegwyd pryder ynghylch diogelu plant a oedd yn cael eu haddysgu gartref, gan nodi bod cam-drin plant yn aml yn digwydd gan rieni, brodyr, chwiorydd neu aelodau agos o’r teulu. Cwestiynwyd sut y gellid adnabod problemau pe byddai’r plentyn yn cael ei addysgu gartref ac nad oedd cyswllt rheolaidd ag ysgol. Mewn ymateb, nodwyd bod diogelu pob plentyn yn bwysig. Pwysleisiwyd na ddylid tybio bod problemau diogelu yn gysylltiedig â phob teulu a oedd yn dewis addysg gartref, gan fod nifer o rieni’n gwneud gwaith rhagorol am y rhesymau cywir. Cydnabuwyd bod achosion cenedlaethol wedi bod lle codwyd problemau diogelu, ac awgrymwyd bod hynny’n un o’r ffactorau a oedd yn dylanwadu ar benderfyniadau’r Llywodraeth wrth lunio’r ddeddfwriaeth newydd.

Mynegwyd pryder ynghylch y penderfyniad i wahanu gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol Gwynedd ac Ynys Môn, gan nodi bod Llywodraeth Cymru yn aml yn annog cydweithio rhwng awdurdodau lleol. Gofynnwyd am drafodaeth ar wahân i egluro’r rhesymau dros y penderfyniad. Mewn ymateb, eglurwyd mai penderfyniad ymarferol ydoedd. Nodwyd bod y gwasanaeth yn cynnwys oddeutu 130 i 140 aelod o staff, ei fod yn faes a oedd yn tyfu ac yn wynebu anghenion a oedd yn dwysáu, a’i fod yn anodd ei reoli fel un gwasanaeth ar draws ardal mor eang. Cydnabuwyd bod nifer o agweddau o’r bartneriaeth gydag Ynys Môn wedi gweithio’n dda, ond nodwyd bod angen gwasanaeth mwy deinamig a fyddai’n gallu ymateb yn fwy effeithiol i anghenion pobl Gwynedd.

Mynegwyd pryder bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol a fyddai wedi cael lle mewn ysgol arbennig bum mlynedd ynghynt bellach yn cael eu gwrthod, gan adael ysgolion prif ffrwd i ymateb i’w hanghenion gydag adnoddau cyfyngedig. Cyfeiriwyd at gynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion mewn ysgolion arbennig, gan nodi bod Ysgol Hafod Lon wedi ei hadeiladu ar gyfer 100 o blant ond y byddai ganddi 135 o ddisgyblion cofrestredig ym mis Medi 2026. Nodwyd bod yr ysgol felly’n gorfod defnyddio safleoedd lloeren oherwydd diffyg lle.

Mewn ymateb, nodwyd bod y cynnydd yn nifer y plant ag anghenion dysgu ychwanegol a allai fod angen lle mewn ysgol arbennig yn peri pryder sylweddol. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod angen ystyried cwestiwn sylfaenol ynghylch cynhwysiad a’r ffordd yr oedd ysgolion a chymunedau’n cael eu trefnu. Eglurwyd nad oedd yn ddymunol creu system lle’r oedd plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu haddysgu ar wahân yn llwyr i blant eraill. Cyfeiriwyd at enghraifft o gynhwysiad llawn rhwng dwy ysgol gyfagos yn ystod amseroedd egwyl, a mynegwyd awydd i weld plant ag anghenion ychwanegol a phlant eraill yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd lle bo hynny’n bosibl.

Nodwyd bod y Cyngor wedi buddsoddi rhagor mewn integreiddio yn ystod y flwyddyn, ond cydnabuwyd bod angen rhagor o gyllid. Cadarnhawyd, pe byddai adnoddau ychwanegol ar gael, y byddent yn cael eu rhoi i ysgolion er mwyn cyflogi mwy o staff a chynyddu eu gallu i fod yn gynhwysol. Cydnabuwyd bod cynhwysiad yn gwneud gwaith ysgolion prif ffrwd yn fwy heriol. Nodwyd y byddai unrhyw gynnydd yng nghapasiti ysgolion arbennig neu adeiladu ysgol newydd yn arwain at oblygiadau cludiant a chostau ychwanegol, a bod angen ystyried y materion hynny gyda’i gilydd. Pwysleisiwyd y byddai’n well buddsoddi mewn addysg a phrofiadau’r plant yn hytrach na gwario rhagor ar eu cludo i ddarpariaethau pellach i ffwrdd.

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch cyfeiriad yn yr adroddiad at newidiadau i gynllun yn Ysgol Bontnewydd. Mewn ymateb, eglurwyd bod y prosiect yn un heriol oherwydd mai’r bwriad oedd adeiladu ysgol sero net. Nodwyd bod hynny’n cyflwyno heriau penodol nad oeddent wedi codi mewn prosiectau ysgol arferol, gan gynnwys materion yswiriant. Cadarnhawyd y byddai ymateb mwy cynhwysfawr yn cael ei ddarparu maes o law.

Gofynnwyd a oedd ysgolion yn colli cyllid pan oedd plentyn yn cael ei ddadgofrestru, gan fod cyllid yn cael ei ddyrannu fesul disgybl. Mynegwyd pryder y gallai colli’r cyllid hwnnw gyfrannu at ddiswyddiadau a lleihad yn nifer y staff. Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd modd rhoi ateb syml gan fod yr effaith yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn y byddai’r plentyn yn cael ei ddadgofrestru. Nodwyd bod rhai ysgolion yn gallu elwa dros dro pe byddai’r plentyn yn gadael ar ôl i’r cyllid gael ei ddyrannu ar sail y cyfrifiad disgyblion. Fodd bynnag, pe byddai’r plentyn wedi bod allan o’r ysgol am flwyddyn gyfan, byddai’r golled yn ymddangos yn y cyllid dilynol.

Gofynnwyd faint o blant a oedd wedi elwa ar ddarpariaeth Camu i’r Copa, ac a oedd y plant hynny’n wahanol i’r deg disgybl a oedd wedi cael eu gwahardd yn barhaol o ysgolion uwchradd. Gofynnwyd, ar gyfartaledd, pa mor hir yr oedd plentyn a waharddwyd yn barhaol yn aros heb addysg cyn derbyn darpariaeth arall, a phwy oedd yn gyfrifol am ddiogelu’r plentyn os nad oedd yn agored i’r tîm lles. Mewn ymateb, adroddwyd bod oddeutu 25 o blant wedi elwa ar ddarpariaeth Camu i’r Copa yn ystod y flwyddyn gyntaf. Nodwyd bod eu llwybrau cyn cyrraedd y ddarpariaeth wedi amrywio, gyda rhai wedi wynebu gwaharddiad ac eraill heb wneud hynny. Eglurwyd mai’r nod hirdymor oedd sicrhau bod plant yn gallu cael mynediad at y ganolfan cyn cyrraedd y pwynt o gael eu gwahardd.

Gofynnwyd am effaith y 230 o geisiadau i drosglwyddo ysgol eleni, gan nodi y gallai hyn roi pwysau sylweddol ar ysgolion cyfagos, yn enwedig pe byddai nifer o blant yn symud ar yr un pryd. Gofynnwyd a oedd y cyllid yn symud gyda’r plentyn pan oedd trosglwyddiad yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd. Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd pob trosglwyddiad yn deillio o broblemau ymddygiad neu gynhwysiad, gan y gallai rhai fod oherwydd symud tŷ neu deuluoedd yn symud i mewn neu allan o’r ardal. Cydnabuwyd, serch hynny, bod ysgolion yn pryderu ynghylch derbyn plant ag ymddygiad heriol neu anghenion cynhwysiad heb gyllid ychwanegol.

Nodwyd bod cytundeb wedi bodoli yn y gorffennol i’r arian ddilyn y plentyn, ond nad oedd cytundeb cyfredol rhwng y penaethiaid. Cadarnhawyd y gellid ailystyried y trefniant, ond mai mater i’r ysgolion oedd cytuno arno. Nodwyd y byddai trafodaeth yn cael ei chynnal ym mhob corff llywodraethu ym mis Medi, gyda phenderfyniad yn cael ei wneud ar y ffordd ymlaen.

Diolchwyd i staff Camu i’r Copa am eu gwaith, gan nodi eu bod yn gweithio dan bwysau sylweddol ac yn dangos ymrwymiad mawr i’r plant yn y ganolfan.

Mynegwyd pryder bod yr adroddiad yn eithaf arwynebol mewn rhai mannau ac nad oedd digon o ffigurau wedi eu cynnwys. Cyfeiriwyd at ddatganiadau bod gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid wedi cael effaith gadarnhaol ar les, datblygiad personol a hyder pobl ifanc, ond nodwyd nad oedd data penodol i gefnogi’r datganiadau hynny. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod mwy o wybodaeth ynghylch y Gwasanaeth Ieuenctid mewn adroddiadau eraill ac yn adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Ieuenctid. Cynigiwyd rhannu’r adroddiad blynyddol â’r Pwyllgor. Cydnabuwyd nad oedd y sylwadau byr yn yr adroddiad perfformiad yn gwneud cyfiawnder â maint y gwaith a oedd yn digwydd.

Cyfeiriwyd at newid diweddar o system wybodaeth SIMS i system Bromcom mewn ysgol uwchradd. Mynegwyd pryder bod y broses drosglwyddo wedi rhoi pwysau sylweddol ar les staff swyddfa’r ysgol, a bod staff wedi gweithio oriau ychwanegol i ymdrin â’r newid. Gofynnwyd a oedd yr awdurdod yn darparu digon o adnoddau a chefnogaeth i ysgolion wrth gyflwyno’r system newydd. Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod yr awdurdod wedi talu am system SIMS ers blynyddoedd lawer, ond bod ysgolion wedi bod yn rhan o’r broses o ddewis Bromcom fel y darparwr newydd.

·       Bod symud o system a oedd wedi bod ar waith am bron i chwarter canrif i system newydd wedi bod yn anodd.

·       Bod y pennaeth perthnasol wedi trafod y problemau gyda swyddogion yr adran a’r tîm cymorth.

·       Na ddylai’r ysgol fod wedi cael ei gadael ar ei phen ei hun, ac na ddylai’r awdurdod ganiatáu hynny.

·       Bod nifer o’r problemau wedi deillio o faterion y tu allan i reolaeth yr awdurdod, gan gynnwys gwahaniaeth rhwng yr hyn a addawyd gan Bromcom a’r hyn yr oedd y cwmni’n gallu ei ddarparu.

·       Bod siom ynghylch y ffaith bod y newid wedi effeithio ar staff y swyddfa, gan mai’r bwriad oedd gwella prosesau busnes yr ysgol.

·       Bod yr awdurdod wedi ymrwymo i’r system newydd ac y byddai angen datrys y problemau.

·       Bod yr ysgol dan sylw wedi bod y gyntaf i fabwysiadu’r system ac felly wedi wynebu’r heriau cyn ysgolion eraill.

·       Bod argymhelliad yn yr Adolygiad Ymarfer Plant i gael un system gyson ar draws y sir i gofnodi materion diogelu. Nodwyd bod Bromcom yn gallu darparu’r swyddogaeth honno, a bod hynny wedi bod yn un o’r prif resymau dros y newid.

·       Bod angen sicrhau bod systemau addysg, data a gwybodaeth am blant yn cyrraedd y safon orau bosibl, gan nad oedd y sefyllfa flaenorol yn dderbyniol.

Croesawyd natur agored y drafodaeth rhwng aelodau’r Pwyllgor, yr Aelod Cabinet a swyddogion. Nodwyd bod yr adroddiad yn adlewyrchu’r amgylchiadau cymdeithasol cynyddol anodd yr oedd ysgolion yn gweithio ynddynt, gan gynnwys parodrwydd plant ar gyfer ysgol a’u gallu i gyflawni tasgau sylfaenol.

Awgrymwyd y byddai’n fuddiol cynnwys mwy o wybodaeth am ganlyniadau addysgol traddodiadol yn yr adroddiad, megis cyrhaeddiad mewn llythrennedd, rhifedd a TGAU ar draws Gwynedd. Eglurwyd y gallai data cymharol ddangos sefyllfa Gwynedd o’i chymharu â Chymru a’r Deyrnas Unedig, heb fod angen craffu ar ysgolion unigol mewn sesiwn gyhoeddus. Mewn ymateb, croesawyd yr awgrym a nodwyd bod gwaith ar y gweill i ddod â’r wybodaeth ynghyd. Cyfeiriwyd at benderfyniadau cenedlaethol blaenorol i beidio â defnyddio na chyhoeddi data perfformiad mewn fforymau cyhoeddus, ond nodwyd bod penaethiaid uwchradd bellach yn dangos awydd i fod yn fwy agored wrth ddefnyddio data i gynllunio gwelliannau.

Nododd yr Aelod Cabinet Addysg nad oedd y drws wedi ei gau ar ddatblygiadau pellach mewn darpariaeth ysgolion arbennig. Cadarnhawyd, pe byddai angen mwy o leoedd, y byddai’n rhaid ymateb i’r angen hwnnw. Awgrymwyd y gallai safleoedd lloeren mewn ysgolion uwchradd prif ffrwd ddarparu cymorth i rai disgyblion ag anghenion penodol.

Adroddwyd bod rhagor o gyllid wedi ei roi i ysgolion arbennig ac ysgolion prif ffrwd yn ystod y flwyddyn, a mynegwyd y bwriad i geisio darparu rhagor yn y flwyddyn ganlynol. Nodwyd bod archwiliad o drefniadau cyllido ysgolion ar y gweill, a allai greu cyfleoedd i ailddosbarthu’r gyllideb mewn ffordd wahanol.

Cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Ieuenctid a nodwyd ei fod yn cynnwys rhagor o wybodaeth am nifer y plant a oedd wedi elwa ar gymorth lles. Eglurwyd bod yr holiaduron o fewn yr adroddiad gerbron yn mesur profiad y plant yr oedd y gwasanaeth eisoes yn gweithio gyda hwy, ac nad oedd yn hawdd casglu data cyson am blant nad oeddent yn derbyn cymorth.

Mynegwyd pryder ynghylch ailstrwythuro’r Gwasanaeth Ieuenctid a oedd wedi digwydd rhai blynyddoedd ynghynt. Nodwyd bod pum darpariaeth gymunedol newydd wedi eu sefydlu ers y flwyddyn flaenorol, a chroesawyd y posibilrwydd bod y gwasanaeth yn symud yn raddol yn ôl tuag at y ddarpariaeth flaenorol. Adroddwyd bod y Gwasanaeth Ieuenctid yn datblygu cynllun pum mlynedd ac wedi cynnal ymgynghoriad. Anogwyd yr aelodau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chyflwyno eu barn.

O ran data perfformiad ysgolion, awgrymwyd y dylid mynd ymhellach na chyflwyno cyfartaledd Gwynedd yn unig, gan y gallai un ysgol godi’r cyfartaledd ac ysgol arall ei ostwng. Cynigiwyd y dylid cyflwyno data fesul ysgol, heb enwi’r ysgolion. Pwysleisiwyd mai diben hyn fyddai adnabod ysgolion a oedd yn perfformio’n dda a’r rhai yr oedd angen cymorth arnynt, er mwyn llywio gwelliant yn hytrach na phennu bai. Nodwyd y byddai angen cytundeb penaethiaid ac ystyriaeth o safbwynt Llywodraeth Cymru cyn gweithredu’r trefniant. Cadarnhawyd y byddai’r mater yn cael ei godi gyda phenaethiaid cyn mis Medi, gyda’r bwriad o gyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor yn yr Hydref.

PENDERFYNWYD

 

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.     Gofyn i’r Pennaeth Addysg rannu data cymharol cenedlaethol o ran dadgofrestru gydag aelodau’r Pwyllgor ynghyd ag Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Ieuenctid.

3.     Bod angen edrych ar gynnwys gwybodaeth a data o ran cyrhaeddiad disgyblion yn yr adroddiad perfformiad i’r dyfodol.

4.     Bod y Pwyllgor yn craffu’r sefyllfa o ran dadgofrestru ac Addysg Ddewisol Gartref fel rhan o’i raglen waith pan yn amserol.

 

Dogfennau ategol: