Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
1.
Staff y CBC dros y tair blynedd diwethaf ar
cynlluniau wrth symud ymlaen,
2.
Darparu dadansoddiad o’r tanwariant ar defnydd o
gronfeydd wrth gefn dros y blynyddoedd nesaf ynghyd á chanran angenrheidiol y
cronfeydd wrth gefn
3.
Ac unrhyw oblygiadau ariannol o oedi’r ardoll ar
gyfer 2027-28.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad, gan fanylu ar sefyllfa alldro
refeniw a chyfalaf y CBC ar gyfer 2025/26.
Esboniwyd bod cyfanswm y sefyllfa alldro net ar gyfer yr
elfennau Cynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chorfforaethol eu natur wedi
tanwario £1.067 miliwn. Ymhelaethwyd bod £600 mil o’r tanwariant yma’n deillio
o grantiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn.
Manylwyd ar sefyllfa alldro y Cynllun Twf fesul pennawd
gwariant a’r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn, gan nodi bod
cyfanswm y tanwariant yn £543mil gyda’r prif danwariant o dan y pennawd
‘gweithwyr’.
Ychwanegwyd bod cronfa llog o £5m wedi’i neilltuo i ariannu
costau benthyca yn y blynyddoedd i ddod a hynny wrth i’r gwariant ar y
cynlluniau cyfalaf gychwyn cyn derbyn arian grant gan y Llywodraeth. Eglurwyd
bod balans y gronfa adnoddau ar 31 Mawrth 2026 yn £4.4m, ac mae bron i filiwn
o’r gronfa yma wedi ei chlustnodi i’w defnyddio yng nghyllideb 2026/27.
Cyflwynwyd adolygiad diwedd blwyddyn rhaglen gyfalaf y
Cynllun Twf ar gyfer 2025/26 ac yna proffil gwariant o 2026/27 ymlaen. Amlygwyd
bod cyfanswm o £30.64 miliwn o wariant wedi ei wneud ar y Cynllun Twf erbyn
diwedd 2025/26. Nodwyd gostyngiad net o £14.28m yn y gwariant ar gyfer 2025/26
o’i gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd yn Chwefror 2025 oherwydd fod
prosiectau wedi llithro.
Adroddwyd ar wariant ac incwm gwirioneddol y Parth
Buddsoddi, gan nodi sefyllfa alldro niwtral ar gyfer 2025/26. Nodwyd bod sefyllfa
ariannol y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol hefyd yn dangos sefyllfa niwtral am
y flwyddyn, gyda’r gwariant o £290 mil yn cael ei ariannu gan grant Llywodraeth
Cymru.
Mynegwyd pryder ynghylch rhoi dros £1 miliwn i’r cronfeydd
wrth gefn tra bod awdurdodau lleol mewn
sefyllfaoedd ariannol mor ddifrifol a’r angen cyson i gyfiawnhau gwariant arian
cyhoeddus.
Holwyd os oes modd i’r awdurdodau lleol oedi’r ardoll ar
gyfer 2027/28, a fyddai’n dal i adael £700,000 yn y cronfeydd wrth gefn.
Mynegwyd y byddai unrhyw gynnig yn cael ei ystyried gan y CBC, ond na fyddai
modd darparu unrhyw gyngor ariannol heb gael cyfle i gasglu’r wybodaeth a
chostau perthnasol. Esboniwyd na fydd pob cynnig yn bosib i’w ariannu ond y
buasai cymryd seibiant o godi ardoll yn 2027/28 yn fater difrifol a fyddai’n
debygol o arwain at risg ariannol i’r CBC.
Amlygwyd y byddai’r cynllun ariannol tymor canolig yn cael
ei gynhyrchu dros yr haf, gyda’r gyllideb yn dod i rym yn dilyn ei chymeradwyaeth
gan y CBC ym mis Medi 2026. Cadarnhawyd y byddai cyfran o’r cronfeydd wrth gefn
yn cael eu defnyddio i gadw’r ardoll mor isel â phosibl ar gyfer 2026/27.
Nodwyd pryder am lefel uchel o gronfeydd wrth gefn,
tanwariant posib yn y dyfodol, ac y ffaith nad oes gan y CBC bolisi cronfeydd
wrth gefn. Cadarnhawyd y gellir datblygu polisi a fyddai’n amlinellu lefel y
cronfeydd wrth gefn a ystyrir yn dderbyniol. Cydnabuwyd bod lefel bresennol y cronfeydd
wrth gefn yn uwch na’r hyn a argymhellir er yr eglurwyd y dylid gostwng lefel y
cronfeydd wrth gefn yn systematig.
Pwysleisiwyd bod £600mil o’r arian wrth gefn eisoes wedi’i
ymrwymo ar gyfer 2026/27. Nodwyd mai swyddogaeth gyffredinol y CBC yw datblygu
economi Gogledd Cymru, gan amlygu bod y
CBC yn cael ei graffu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a gallai methu â
chyflawni’r prosiectau arwain at risg sylweddol.
Amlygwyd bod y CBC yn gyfrifol am fuddsoddi £400 miliwn o
gyllid y sector cyhoeddus mewn prosiectau cyfalaf mawr. Gofynnwyd i’r aelodau
ystyried y bydd y prosiectau hyn yn creu 10,000 o swyddi newydd yn economi
Gogledd Cymru dros y deng mlynedd nesaf, a byddant yn denu cyfanswm buddsoddiad
yng Ngogledd Cymru o hyd at £2 biliwn yn ogystal. Esboniwyd fod gwaith y CBC yn
galluogi twf economaidd a chyflawni prosiectau gwerth uchel. Pwysleisiwyd y
bydd dal yn ôl neu leihau cyllid ar gyfer y prosiectau hyn yn arwain at beidio
â chyflawni prosiectau a pheidio â chreu swyddi.
Gofynnwyd a oedd modd gohirio’r penderfyniad tan gyfarfod
nesaf y CBC ym mis Medi 2026 er mwyn derbyn yr holl wybodaeth ychwanegol. O
ystyried bod llawer iawn o danwariant y CBC yn gysylltiedig â staffio gofynnwyd
am roi cyfle i’r aelodau adolygu gwariant gweithwyr gan edrych ar dwf staff, yngyd âg adolygu cynlluniau
rhag-amcanol ar gyfer y dyfodol. Pwysleisiwyd bod angen gwell dealltwriaeth ar
gyfer 2026/27 er mwyn cyfiawnhau unrhyw ardoll.
Pwysleiswyd os na fyddent yn
fodlon derbyn unrhyw un o’r argymhellion ffurfiol yn y penderfyniad a geisir,
na fyddai’r CBC yn gallu cynhyrchu’r datganiad ffurfiol o gyfrifon ar gyfer
2025/26. Nodwyd ei bod yn hanfodol bod y cyfrifon ar gyfer 2025/26 yn cael eu
paratoi, ac felly cynigiwyd y gellid diwygio geiriad y penderfyniad a geisir i
adlewyrchu’r cais am ragor o wybodaeth ynghylch y cronfeydd wrth gefn a
glustnodwyd, ac i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno i’r aelodau yng nghyfarfod
nesaf y CBC.
Dogfennau ategol: