Agenda item

Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.

Penderfyniad:

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.         Gofyn i’r Adran Economi a Chymuned rannu data niferoedd sy’n defnyddio safleoedd Arosfan a gwybodaeth materion gorfodaeth gydag aelodau’r Pwyllgor.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yr adroddiad gan nodi ei fod yn edrych yn ôl ar berfformiad yr adran dros y flwyddyn flaenorol, gyda sylw penodol i’r cynnydd a wnaed yn erbyn prosiectau blaenoriaeth y Cyngor. Cydnabuwyd bod nifer o wasanaethau’r adran wedi wynebu ansicrwydd ariannol yn sgil newidiadau i raglenni cyllido’r Llywodraeth, ond mynegwyd balchder ym mherfformiad timau’r adran ac yn y cynnydd a wnaed wrth gyflawni ymrwymiadau’r Cyngor.

Nodwyd bod 69 o sefydliadau ar draws y sir wedi derbyn cefnogaeth drwy grant y Llywodraeth yn y flwyddyn ddiwethaf. Adroddwyd bod 55 o gynghorau cymuned ledled Gwynedd wedi eu cefnogi a bod £8.9 miliwn wedi ei fuddsoddi i wella isadeiledd canol trefi. Nodwyd bod cais wedi ei wneud i’r adran ymchwilio ymhellach i’r camau ychwanegol y gallai’r Cyngor eu cymryd drwy ddefnyddio grym awdurdod lleol, gan gynnwys opsiynau nad oeddent o reidrwydd yn cyd-fynd â chanllawiau presennol. Cadarnhawyd bod gwaith ar hyn eisoes wedi dechrau.

Adroddwyd bod 118 o fusnesau Gwynedd wedi derbyn cymorth dros y flwyddyn flaenorol, gyda buddsoddiad gwerth £1.3 miliwn. Nodwyd bod 255 o drigolion Gwynedd a oedd yn wynebu rhwystrau rhag mynd i waith wedi derbyn cymorth, ynghyd â 130 o unigolion ychwanegol a oedd wedi derbyn cefnogaeth i sicrhau cyflog llawn neu well.

Mynegwyd boddhad â’r cynnydd a wnaed gyda pharc gwyddoniaeth Trawsfynydd. Nodwyd bod aelodau wedi cael gwahoddiad i ymweld â’r safle a derbyn cyflwyniad ar y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynllun, a chadarnhawyd y byddai diweddariad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor maes o law.

Nodwyd bod gwaith wedi dechrau dros y flwyddyn flaenorol i ddatblygu model mwy cynaliadwy ar gyfer cefnogi cymunedau. Eglurwyd bod trefniadau peilot yn cael eu hystyried yn Nhywyn, Abermaw a Blaenau Ffestiniog. Adroddwyd bod grantiau gwerth £217,000 wedi eu dyrannu i grwpiau cymunedol a banciau bwyd ar draws Gwynedd er mwyn cryfhau’r gefnogaeth leol a oedd ar gael i drigolion.

Nodwyd bod nifer yr ymweliadau â chanolfannau hamdden Byw’n Iach yn ystod y flwyddyn flaenorol yn is na’r flwyddyn gynt. Eglurwyd bod y gostyngiad yn bennaf yn deillio o newid yn y dull o gasglu data, er bod gostyngiad bach hefyd yn nifer y plant cynradd a oedd yn derbyn gwersi nofio yn y canolfannau. Nodwyd bod nifer yr ymwelwyr yn parhau ychydig yn is na’r lefelau cyn y pandemig, a phwysleisiwyd bod angen cytuno ar systemau newydd, gwella’r perfformiad ac annog rhagor o blant i ddefnyddio’r pyllau nofio.

Adroddwyd bod y flwyddyn flaenorol wedi bod yn heriol i’r gwasanaethau morwrol, gyda stormydd y gaeaf wedi achosi difrod a nifer fawr o ymwelwyr wedi cyrraedd ar benwythnosau pan oedd y tywydd yn braf, gan greu problemau traffig a phwysau ychwanegol. Nodwyd bod gwastraff a diogelwch yn faterion yr oedd angen eu hystyried, ynghyd â nifer o faterion eraill. Cydnabuwyd bod gallu’r gwasanaethau i ymateb i’r cynnydd sydyn yn y boblogaeth ar ddiwrnodau prysur yn gyfyngedig, a bod hynny’n achosi rhwystredigaeth i gymunedau lleol ac ymwelwyr. Cadarnhawyd y byddai’r materion hyn yn rhan o’r Cynllun Rheoli Cyrchfan yn y dyfodol.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Cyfeiriwyd at y gwasanaeth archifdai a’r ffaith bod yr oriau agor wedi eu lleihau i’r lefel isaf ers 2016. Nodwyd bod dros fil o unigolion wedi ymateb i holiadur, a bod oriau agor annigonol wedi dod i’r amlwg fel y prif bryder. Cydnabuwyd bod mwy o ddeunydd ar gael ar-lein, ond pwysleisiwyd nad oedd pawb yn dymuno cael mynediad at wasanaethau o’u cartrefi. Gofynnwyd a oedd bwriad i ymestyn yr oriau agor yn sgil buddsoddiad y Llywodraeth mewn mannau cyhoeddus ac ymatebion y cyhoedd.

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod oriau agor wedi bod yn destun pryder i ddefnyddwyr ers nifer o flynyddoedd, a bod y gostyngiad wedi deillio o’r angen i leihau costau gweithredu’r gwasanaeth. Nodwyd bod yr oriau agor rhwng Dolgellau a Chaernarfon wedi cyrraedd y lefel isaf bosibl. Adroddwyd bod buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud mewn ffenestri, mesurau cynaliadwyedd o fewn yr adeiladau a’r ystafelloedd darllen, ond cadarnhawyd nad oedd cyllid ychwanegol ar gael i ymestyn yr oriau agor.

Cyfeiriwyd at y gwaith i annog busnesau i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg, a gofynnwyd sut yr oedd cydymffurfiaeth yn cael ei monitro. Mewn ymateb, eglurwyd bod hyrwyddo’r Gymraeg yn cael ei gynnwys fel amod wrth ddyfarnu grantiau, a bod tystiolaeth yn cael ei chasglu i ddangos bod yr amod wedi ei gyflawni. Nodwyd bod disgwyl i fusnesau wneud mwy na chyfieithu taflenni, gan hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan o’u gweithgareddau. Eglurwyd bod y dull gweithredu’n amrywio rhwng busnesau, ond bod gwiriadau’n cael eu cynnal. Cydnabuwyd, fodd bynnag, bod gwendid yn y trefniadau monitro oherwydd bod staff a oedd yn rheoli’r grantiau yn aml yn cael eu hariannu drwy’r grant ei hun. Nodwyd na fyddai’r adnodd o reidrwydd yn parhau ar ôl i’r cynllun ddod i ben. Eglurwyd y byddai’r cynllun tair blynedd yn cael ei werthuso a bod gwybodaeth a thystiolaeth yn cael ei gasglu, ond na fyddai modd monitro’r busnesau ar ôl i’r cynllun ddod i ben.

Cyfeiriwyd at ardaloedd lle nad oedd band eang ar gael o hyd i fusnesau a chartrefi. Pwysleisiwyd bod cysylltiad dibynadwy yn hanfodol, yn enwedig wrth i wasanaethau analog ddod i ben, a gofynnwyd pa gymorth y gallai’r Cyngor ei ddarparu i ardaloedd heb wasanaeth. Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod cynllun Gwynedd Ddigidol wedi bod yn rhan o gynllun blaenorol y Cyngor, ond bod y gwaith bellach yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth ag Uchelgais Gogledd Cymru drwy dîm rhanbarthol.

·       Bod cynllun wedi bod ar y gweill i dargedu ardaloedd lle’r oedd bylchau yn y ddarpariaeth, ond bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cynllun tebyg, gan greu dwy fenter a oedd yn ceisio cyflawni’r un nod.

·       Bod y rhaglen ranbarthol wedi ei gohirio er mwyn gweld beth fyddai cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei ddarparu. Nodwyd bod y cynllun hwnnw i fod i roi cymhorthdal a chefnogaeth i ddarparwyr er mwyn eu hannog i wasanaethu ardaloedd lle’r oedd bylchau penodol.

·       Bod newid Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi creu ansicrwydd ynghylch statws y cynllun, a bod angen cadarnhau pa mor bell yr oedd wedi datblygu.

·       Bod aelodau’n cael eu hannog i gyflwyno enghreifftiau ymarferol a chodau post ardaloedd lle’r oedd problemau’n parhau. Cadarnhawyd y byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu â’r tîm digidol rhanbarthol a’i chodi gyda’r swyddogion perthnasol.

Cyfeiriwyd at y £1.3 miliwn a ddosbarthwyd rhwng 118 o fusnesau lleol, a gofynnwyd a oedd tystiolaeth bod y buddsoddiad wedi creu swyddi newydd. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod data o’r fath yn cael ei gasglu. Eglurwyd nad creu swyddi newydd yn unig oedd diben y grantiau, gan eu bod yn cael eu defnyddio i ddiogelu busnesau a swyddi presennol a chynyddu cynaliadwyedd hirdymor. Nodwyd bod gwybodaeth am nifer y swyddi a grëwyd wedi ei chynnwys mewn atodiad, ac ymrwymwyd i rannu’r ffigur penodol gyda’r aelodau.

Cyfeiriwyd at brosiectau adfywio diwylliannol a’u dibyniaeth ar gyllid allanol. Gofynnwyd a oedd modd sicrhau bod rhai prosiectau’n gallu parhau pe byddai’r cyllid allanol yn dod i ben. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod yr adran yn ddibynnol iawn ar grantiau allanol gan nad oedd cyllideb gyfalaf fewnol ar gael. Eglurwyd bod cyllid y Llywodraeth yn cael ei ddenu i gefnogi busnesau yng Ngwynedd, ond bod amodau grant yn gallu cyfyngu ar y math o weithgareddau y gellid eu cyflawni.

Nodwyd bod cais wedi ei wneud i’r adran ystyried yr hyn yr oedd angen ei gyflawni yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar yr hyn a oedd yn gymwys o dan amodau grant. Eglurwyd bod newid sylweddol wedi bod yn y cyllid dros y flwyddyn flaenorol, gyda’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi bod yn gymharol hyblyg, tra bod y Gronfa Twf Lleol newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar dwf a gwariant cyfalaf ac yn llai hyblyg. Adroddwyd yr ymdrechir i sicrhau dosbarthiad daearyddol teg o’r cyllid ar draws y sir. Cyfeiriwyd at gynlluniau adfywio ar gyfer 13 dalgylch yng Ngwynedd, gyda’r gobaith y byddai’r cynlluniau hynny’n adlewyrchu’r mwyafrif helaeth o flaenoriaethau lleol.

Cyfeiriwyd at y ffrwd waith ar ganol trefi. Nodwyd bod cyllid Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn tueddu i ganolbwyntio ar wella cyfleusterau canol trefi, ond nad oedd hyn bob amser yn mynd i’r afael â phatrymau defnydd canol trefi, eiddo gwag, parcio neu’r materion mwy meddal a oedd yn dylanwadu ar ganfyddiad pobl. Cydnabuwyd bod angen ymestyn cwmpas y gwaith, a chadarnhawyd y byddai adroddiad penodol ar waith canol trefi yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ym mis Gorffennaf.

Gofynnwyd a oedd tystiolaeth bod dynodiad Safle Treftadaeth y Byd a’r buddsoddiad cysylltiedig yn dod â budd economaidd i gymunedau Gwynedd. Mewn ymateb, eglurwyd bod y dynodiad wedi bod ar waith ers pedair blynedd a bod nifer o gynlluniau a phrosiectau wedi eu datblygu yng nghymunedau’r ardaloedd llechi. Cydnabuwyd nad oedd holl ganlyniadau’r gwaith wedi dod i’r amlwg eto.

Nodwyd bod gwaith agos yn digwydd gyda chymunedau ar brosiectau economaidd, twristiaeth, adfywio, balchder bro a dehongli treftadaeth. Cyfeiriwyd at brosiect gwerth oddeutu £36 miliwn a oedd yn cynnwys ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Rhoddwyd Neuadd Ogwen ym Methesda fel enghraifft o fuddsoddiad a oedd wedi gwneud gwahaniaeth ymarferol. Adroddwyd bod seilwaith sylfaenol wedi ei wella, gan gynnwys goleuo, sain ac inswleiddio, a bod y gwelliannau wedi galluogi’r neuadd i gynnal digwyddiadau a gigs yn hwyr heb effeithio’n andwyol ar yr ardal leol.

Cyfeiriwyd at gwblhau gwaith ar adeiladau Stryd yr Eglwys ym Mlaenau Ffestiniog, mewn partneriaeth ag Antur Stiniog, i adfywio siopau ar y stryd fawr ar gyfer defnydd masnachol a thai. Adroddwyd bod gwaith wedi digwydd ym Mharc Padarn, Llanberis, a bod cwmnïau lleol yn cael eu cefnogi drwy’r gwaith adeiladu ac adnewyddu.

Cyfeiriwyd at sylwadau blaenorol y byddai cyllid ar gyfer y ffordd osgoi yn Llanbedr yn gorfod dod drwy Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Mynegwyd amheuaeth y byddai’r corff yn dyrannu cyfran sylweddol o’i gyllid i un cynllun. Nodwyd bod gwahoddiadau wedi eu hanfon at aelodau o Lywodraeth Cymru i ymweld â’r ardal a thrafod y cynllun gyda’r gymuned. Pwysleisiwyd bod y ffordd osgoi yn bwysig i’r economi, i ddiogelwch y cyhoedd ac i greu cyfleoedd gwaith, a gofynnwyd a fyddai’r adran yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ariannu’r cynllun. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod cynllun wedi bod yn barod i’w weithredu cyn i’r Llywodraeth flaenorol ailystyried y mater. Nodwyd bod costau wedi cynyddu ers hynny, ond bod cynllun yn parhau i fodoli a mai cyllid oedd y prif rwystr. Cadarnhawyd y byddai cyfarfodydd yn cael eu trefnu gyda’r Gweinidogion perthnasol, ac y byddai pwysigrwydd y cynllun i’r economi a’r gymuned leol yn cael ei bwysleisio.

Cyfeiriwyd at safleoedd aros dros nos ar gyfer cartrefi modur, a nodwyd bod oddeutu 2,000 o gerbydau wedi aros ar y safleoedd yng Nghricieth, Caernarfon a Phwllheli dros gyfnod o ddwy flynedd. Gofynnwyd am ganran defnydd y safleoedd. Cyfeiriwyd at broblem gynyddol gyda chartrefi modur mewn ardaloedd eraill, gan nodi bod nifer sylweddol wedi eu gweld mewn un lleoliad tra bod safle swyddogol Caernarfon bron yn wag. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch 96 o achosion gorfodi mewn lleoliadau answyddogol, gan gynnwys natur y tramgwyddau a’r rheswm dros gymryd camau. Nodwyd bod cartrefi modur yn achosi problemau mewn rhai ardaloedd. Cyfeiriwyd at y ffaith y byddent yn dod o fewn cwmpas yr ardoll ymwelwyr, ond awgrymwyd y byddai casglu’r ardoll oddi wrth ddefnyddwyr cartrefi modur yn anodd.

Mewn ymateb, cadarnhawyd y gellid darparu gwybodaeth am ganran defnydd y safleoedd. Eglurwyd mai’r Adran Amgylchedd oedd yn gyfrifol am waith gorfodi, ac ymrwymwyd i ofyn am wybodaeth gefndir ynghylch yr achosion. Cydnabuwyd bod capasiti’r tîm gorfodaeth yn gyfyngedig a’i bod yn anodd profi mewn rhai achosion bod cerbyd wedi aros dros nos.

Gofynnwyd a oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried sefydlu adran ddatblygu newydd, a allai gynnig grantiau gwell, denu cyflogwyr a chreu swyddi mewn ardaloedd gwledig. Mewn ymateb, nodwyd y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal gyda’r Gweinidog dros yr Economi yn Llywodraeth Cymru, ac y byddai’r cwestiwn ynghylch adran ddatblygu yn cael ei godi.

Cyfeiriwyd at broblemau parcio mewn cymunedau, gan gynnwys cerbydau’n parcio ar linellau melyn, rhwystro ffyrdd a chreu perygl ac anhwylustod i drigolion. Gofynnwyd a fyddai’n bosibl buddsoddi mewn tir er mwyn creu meysydd parcio newydd. Awgrymwyd y gellid ystyried prynu tir neu safleoedd capeli a oedd yn cau, gan godi tâl am barcio er mwyn adennill rhywfaint o’r gost. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod y mater yn un trawsadrannol. Cadarnhawyd bod cyfleoedd i greu rhagor o leoedd parcio ar gyfer trigolion ac ymwelwyr, a allai hefyd greu incwm i’r Cyngor. Eglurwyd y gallai’r mater gael ei drafod gyda’r Adran Amgylchedd. Nodwyd bod parcio cymunedol yn un o’r blaenoriaethau a allai gael eu cyflwyno drwy’r Fframwaith Adfywio Ardal, gan fod gan wahanol gymunedau flaenoriaethau gwahanol.

Anogwyd cymunedau i gyflwyno syniadau drwy’r Fframwaith Adfywio Ardal. Nodwyd, pe byddai grant priodol ar gael, y gellid ceisio cyllid i brynu tir. Pe na fyddai cyllid ar gael ar unwaith, awgrymwyd y dylid datblygu’r cynllun i lefel ddigonol o aeddfedrwydd er mwyn manteisio ar gyfle ariannu yn y dyfodol. Ychwanegwyd y byddai angen cydweithio rhwng gwasanaethau megis amgylchedd, priffyrdd, tai ac economi. Nodwyd bod y cynlluniau mwyaf llwyddiannus yn aml yn cael eu harwain gan grwpiau lleol gweithgar, ond cydnabuwyd y byddai costau rheoli a chynnal yn codi pe byddai’r Cyngor yn prynu ac yn darparu maes parcio. Cadarnhawyd bod cyfle i gydweithio â swyddogion cefnogi cymunedau er mwyn asesu’r opsiynau a datblygu cynllun penodol ar gyfer safle penodol.

Codwyd pryder ynghylch newidiadau diweddar i drefniadau meysydd parcio. Cydnabuwyd mai’r Adran Amgylchedd oedd yn gyfrifol am barcio, ond pwysleisiwyd bod y penderfyniadau’n cael effaith sylweddol ar yr economi leol. Mynegwyd anfodlonrwydd â’r broses ymgynghori a gynhaliwyd ym mis Tachwedd, gan nodi bod angen darllen nifer o ddogfennau cyn dod o hyd i’r wybodaeth berthnasol am y newidiadau. Awgrymwyd nad oedd hynny’n gyfystyr ag ymgynghoriad teg na hygyrch.

Cydnabuwyd y rhesymeg dros ymestyn oriau codi tâl fel bod taliadau’n dechrau’n gynharach yn y bore ac yn gorffen yn hwyrach gyda’r nos. Fodd bynnag, mynegwyd pryder bod rhai meysydd parcio wedi cael eu hailddynodi o fod yn rhai arhosiad byr i fod yn rhai arhosiad hir. Rhoddwyd Llandanwg fel enghraifft, lle nodwyd y gallai unigolyn lleol neu ymwelydd a oedd am dreulio hanner awr ar y traeth orfod talu £4.50 i barcio. Cyfeiriwyd at fusnes lleol a oedd wedi dioddef yn sylweddol oherwydd y newid. Awgrymwyd bod y newidiadau wedi arwain at fwy o gerbydau’n parcio ar ochr y ffordd cyn cyrraedd y maes parcio, gan greu problemau traffig ychwanegol.

Gofynnwyd i’r Adran Economi godi’r mater gyda’r Adran Amgylchedd a sicrhau bod effaith economaidd newidiadau i feysydd parcio’n cael ei hystyried yn llawn wrth gynnal ymgynghoriadau yn y dyfodol. Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai’r sylwadau’n cael eu cyflwyno i’r Adran Amgylchedd.

PENDERFYNWYD

 

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.     Gofyn i’r Adran Economi a Chymuned rannu data niferoedd sy’n defnyddio safleoedd Arosfan a gwybodaeth materion gorfodaeth gydag aelodau’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol: