Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.
Penderfyniad:
1. Derbyn yr adroddiadau gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau
Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Gymraeg adroddiad perfformiad y Gwasanaethau
Corfforaethol yn gyntaf. Eglurwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at y cynnydd a
wnaed yn erbyn addewidion Cynllun y Cyngor 2023–28 ac yn cynnwys mesuriadau
perfformiad yr adran. Nodwyd bod y Gwasanaethau Corfforaethol yn arwain ar chwe
phrif brosiect, sef Cadw’r Budd yn Lleol, hybu defnydd trigolion Gwynedd o’r
Gymraeg, cynllunio’r gweithlu, sicrhau tegwch i bawb, merched mewn
arweinyddiaeth, ac adolygiad strategol ar reolaeth iechyd a diogelwch.
Adroddwyd bod y prosiectau hyn wedi cael eu craffu gan yr Aelod Cabinet yn
ystod cyfarfod herio a chefnogi perfformiad ym mis Ebrill.
Nodwyd bod cynnydd wedi ei wneud yn ystod y
flwyddyn. Cyfeiriwyd at ddatblygu a chymeradwyo strategaeth gaffael newydd a
oedd yn rhoi pwyslais ar fuddion cymdeithasol a lleol. Adroddwyd bod sesiynau
hyfforddi wedi cael eu datblygu ar gyfer swyddogion ym maes caffael i godi eu
hymwybyddiaeth a’u dealltwriaeth o sut i brynu’n lleol, ennill gwerth
cymdeithasol a lleihau carbon.
Adroddwyd bod gwaith sylweddol wedi ei wneud
i hybu’r Gymraeg, gan gynnwys rhaglenni gydag ysgolion lleol a busnesau, ynghyd
â gwaith ymchwil gyda Phrifysgol Bangor i ddadansoddi defnydd y cyhoedd o’r
Gymraeg yng Ngwynedd. Nodwyd bod gwaith wedi ei wneud gyda Chomisiynydd y
Gymraeg i ehangu ar hyn.
Adroddwyd bod y prosiect Merched Mewn
Arweinyddiaeth wedi perfformio’n dda, gyda nifer o enghreifftiau o ferched yn
symud i swyddi arwain. Cyfeiriwyd at fideo a gynhyrchwyd a holiadur a anfonwyd
at ferched a oedd yn gweithio i’r Cyngor er mwyn casglu eu barn ar y prosiect
a’r camau nesaf. Nodwyd bod cynnydd amlwg wedi ei wneud ym maes iechyd a
diogelwch drwy gyflwyno cam cyntaf system technoleg gwybodaeth newydd a darparu
hyfforddiant i reolwyr. Eglurwyd bod hyn wedi gwella’r broses o adrodd ar
ddamweiniau ar draws y Cyngor, a bod adborth cadarnhaol wedi ei dderbyn.
Cydnabuwyd bod oedi wedi bod gyda’r prosiect
cynllunio’r gweithlu, ond nodwyd bod cynllun drafft wedi ei lunio ac y byddai
ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal maes o law. Eglurwyd bod yr oedi hwn wedi
effeithio ar y cerrig milltir ar gyfer y prosiect Sicrhau Tegwch i Bawb. Nodwyd
ymhellach fod carreg filltir yr adolygiad strategol ar reolaeth iechyd a
diogelwch wedi llithro oherwydd gwaith i gyflwyno system newydd ar gyfer
adnoddau dynol a chyflogau.
O ran gwaith dydd i ddydd yr adran,
cyfeiriwyd at ganran uchel o staff a oedd wedi cwblhau hyfforddiant mandadol.
Adroddwyd bod yr adran, yn ystod 2025–26, wedi ymdrin â phob cais rhyddid
gwybodaeth o fewn yr amserlen briodol. Nodwyd bod y sefyllfa ynglŷn â
ffigurau salwch yn parhau i gael ei monitro er mwyn deall y pwysau a chymryd
camau priodol i’w rheoli.
Adroddwyd bod perfformiad cryf o ran lefel y
gwasanaeth, gyda lefelau uchel o fodlonrwydd cwsmeriaid a nifer y galwadau i’r
ganolfan gyswllt wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd bod y
prosesau ar gyfer ymdrin â cheisiadau rhyddid gwybodaeth yn amserol ac wedi
gwella dros y flwyddyn flaenorol. Adroddwyd bod datblygu a hyfforddi staff yn
faes cadarn, gyda mwy o e-fodiwlau ar gael ar-lein ac adborth cadarnhaol wedi
ei dderbyn. Cyfeiriwyd at welliant yn y gwaith caffael a Chadw’r Budd yn Lleol,
gan nodi bod hynny’n cefnogi’r economi leol. Cydnabuwyd bod rhai meysydd yn
parhau i fod angen sylw, gan gynnwys diogelu data a materion galwedigaethol.
Diolchwyd i’r holl swyddogion am eu gwaith
a’u cyfraniad i gefnogi gwaith y Cyngor ar hyd y flwyddyn.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:-
Croesawyd y cynnydd a wnaed drwy’r prosiect
Merched mewn Arweinyddiaeth, ond mynegwyd pryder y dylai dynion hefyd gael yr
un cyfleoedd a chymorth i ddatblygu. Nodwyd nad oedd gwrthwynebiad i’r
prosiect, ond pwysleisiwyd na ddylid gadael dynion ar ôl wrth geisio cynyddu
nifer y menywod mewn swyddi arwain. Cyfeiriwyd at y prosiect Sicrhau Tegwch i
Bawb a phwysleisiwyd bod angen rhoi sylw i grwpiau eraill, gan gynnwys pobl
anabl, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol a phobl o wahanol gyfeiriadeddau
rhywiol.
Mynegwyd pryder bod nifer o swyddi’n cynnwys
trwydded yrru fel gofyniad hanfodol, hyd yn oed lle gallai fod dulliau eraill o
deithio i gyfarfodydd neu gyflawni’r gwaith. Nodwyd bod cyfarfodydd ar-lein a gwelliannau
i drafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn lleihau’r angen i swyddogion ddefnyddio car
ym mhob achos. Mewn ymateb, nodwyd bod gweithdrefn wedi ei mabwysiadu yn y
gorffennol i gynnwys cymal ynghylch trwydded yrru mewn disgrifiadau swydd, ond
cydnabuwyd bod y pwynt a godwyd yn un teg. Nodwyd bod disgwyl i staff fynychu
hyfforddiant a chyfarfodydd, ond nad oedd hynny’n golygu na ellid defnyddio
dulliau eraill o deithio. Cadarnhawyd bod angen edrych yn ofalus ar y geiriad
mewn disgrifiadau swyddi er mwyn sicrhau nad oedd yn creu rhwystr diangen i
bobl anabl neu grwpiau eraill.
O ran Merched mewn Arweinyddiaeth, nodwyd bod
y prosiect wedi troi cornel o ran ei fwriad gwreiddiol, gan fod nifer y merched
mewn swyddi arwain uwch wedi cynyddu’n sylweddol. Eglurwyd bod diffyg hyder
wedi dod i’r amlwg fel ffactor pwysig yn ystod yr hyfforddiant, ond cydnabuwyd
bod hynny hefyd yn berthnasol i ddynion. Nodwyd bod yr un cyfleoedd hyfforddi a
datblygu ar gael i bawb, ond bod y prosiect wedi rhoi cyfle i garfanau o
ferched ddod ynghyd i drafod eu profiadau. Cydnabuwyd y gallai fod lle i
ystyried cynnig tebyg ar gyfer dynion.
Pwysleisiwyd bod sicrhau tegwch i bawb yn
flaenoriaeth bwysig. Nodwyd bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda’r
Tîm Cydraddoldeb i ystyried yr hyn a oedd yn digwydd ar draws y Cyngor.
Cyfeiriwyd at y Grŵp Cydraddoldeb Craidd, a oedd yn cyfarfod pedair gwaith
y flwyddyn, ac at y Fforwm Cydraddoldeb Staff, a oedd yn rhoi gwybodaeth ac yn
codi materion i’w trafod. Adroddwyd bod 30% o’r rhai mewn swyddi arwain yn
ferched pan ddechreuodd y prosiect, a bod y ffigur wedi cynyddu i 46%. Nodwyd
mai dyna oedd bwriad gwreiddiol y prosiect, ond bod yr adran bellach mewn
sefyllfa i drafod y camau nesaf a sut y dylid datblygu’r gwaith.
Cyfeiriwyd at y flaenoriaeth o hybu defnydd
trigolion Gwynedd o’r Gymraeg a gofynnwyd pwy oedd yn aelodau o Fwrdd Prosiect
y Gymraeg. Croesawyd y syniad o gael trosolwg strategol o’r gwaith a’r
blaenoriaethau, ond gofynnwyd pwy oedd yn gyfrifol am osod a chyflawni’r
gwaith.
Mewn ymateb, eglurwyd bod Bwrdd Prosiect y
Gymraeg newydd gael ei sefydlu gyda’r amcan o ddarparu arweiniad, monitro
cynnydd a derbyn adroddiadau ar y gwaith. Cadarnhawyd y byddai rhestr o’r
swyddogion a’r aelodau a oedd ar y bwrdd yn cael ei darparu. Nodwyd bod
swyddogion eisoes wedi bod yn arwain ar brosiectau penodol, ond bod mantais
mewn cael bwrdd rhaglen i sicrhau bod Strategaeth Iaith y Cyngor yn cael ei
chyflawni.
Eglurwyd bod nifer o brosiectau wedi eu
cyflawni ac y byddai adroddiadau gwersi a ddysgwyd yn cael eu cyflwyno i’r
bwrdd. Nodwyd mai un o rolau pwysig y bwrdd yn y dyfodol fyddai comisiynu
prosiectau newydd, cytuno ar restr o flaenoriaethau, gosod mesurau llwyddiant a
sicrhau bod y manylion angenrheidiol yn eu lle.
Ychwanegwyd bod y Bwrdd Prosiect wedi cynnal
un cyfarfod hyd yma a bod cynrychiolaeth o bob adran arno. Nodwyd mai mater
trawsadrannol ydoedd, a bod angen cyfraniad gan bob adran er mwyn cael darlun
cyflawn o’r gwaith. Eglurwyd bod y cyfarfod cyntaf wedi canolbwyntio ar sefydlu
cylch gorchwyl y bwrdd, ac y byddai cyfarfodydd dilynol yn edrych yn fanylach
ar y prosiectau a’r cynnydd. Cadarnhawyd bod aelodau etholedig hefyd yn rhan
o’r bwrdd.
Cyfeiriwyd at enwau lleoedd ac arwyddion
stryd, gan nodi bod nifer o strydoedd yn Nhrefor heb arwyddion enw. Eglurwyd
bod gwaith wedi ei wneud yn lleol drwy beilot i lunio rhestr o enwau Cymraeg
addas. Nodwyd bod yr arwyddion wedi cael croeso mawr gan drigolion. Mynegwyd
siom bod y cynllun peilot wedi dod i ben a bod yr adroddiad yn awgrymu nad oedd
yn ymarferol newid pob arwydd. Awgrymwyd y dylid ailystyried y gwaith gan ei
fod yn ffordd ymarferol o sicrhau bod y Gymraeg yn fwy gweladwy.
Symudwyd ymlaen i gyflwyno adroddiad
perfformiad y Gwasanaeth Cyfreithiol.
Eglurwyd bod perfformiad y gwasanaeth yn cael
ei fonitro drwy adborth gan yr adrannau a oedd yn derbyn cyngor y Gwasanaeth
Cyfreithiol. Nodwyd bod holiadur yn cael ei anfon ar ddiwedd pob achos.
Adroddwyd bod 30% o’r holiaduron a anfonwyd yn ystod y flwyddyn wedi cael eu
dychwelyd. Cydnabuwyd y gallai’r gyfradd ymateb ymddangos yn isel, ond nodwyd
ei bod yn gynnydd sylweddol ar y flwyddyn flaenorol ac yn adlewyrchu gwaith yr
adran i hyrwyddo’r holiaduron.
Adroddwyd bod 95% o’r ymatebwyr wedi rhoi
sgôr o bump allan o bump neu wedi nodi eu bod yn fodlon â’r gwasanaeth, o’i
gymharu â 93% yn 2024–25. Cydnabuwyd bod lle i wella, a nodwyd bod camau eisoes
ar waith i ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd. Adroddwyd bod holiaduron
blynyddol hefyd wedi eu hanfon at benaethiaid adrannau a rheolwyr, gyda
chyfradd ymateb o 33%. Nodwyd bod yr ymatebwyr wedi disgrifio’r gwasanaeth fel
un da neu dda iawn. Cyfeiriwyd at sylwadau ynghylch capasiti’r adran, a
chadarnhawyd y byddai’r sefyllfa’n cael ei monitro’n rheolaidd.
O ran priodoldeb, adroddwyd bod cwrs ar wneud
penderfyniadau da wedi ei ddarparu i swyddogion a bod gwaith yn parhau i
hyrwyddo safonau uchel ymhlith aelodau. Nodwyd bod rhai aelodau heb gwblhau’r
hyfforddiant Cod Ymddygiad. Cadarnhawyd bod y cwrs yn hyfforddiant craidd ac ar
gael ar-lein, a bod gwaith yn parhau i annog pawb i’w gwblhau.
Adroddwyd y byddai pwyslais cynyddol yn cael
ei roi ar baratoi rhaglen genedlaethol ar gyfer etholiadau 2027. Nodwyd bod
cyfnod y Swyddog Monitro yn darparu cyngor cyfreithiol i’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig wedi dod i ben, gan ryddhau Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol i
ddychwelyd i weithio’n llawn amser i Gyngor Gwynedd.
Adroddwyd bod gwaith i gadw Cyfansoddiad y
Cyngor dan adolygiad wedi ei gwblhau, a bod cyfraniad wedi ei wneud at
adolygu’r weithdrefn canu’r gloch ynghyd ag adolygu cynlluniau dirprwyo
swyddogion.
Adroddwyd bod y cyfnod diweddar wedi bod yn
un prysur iawn i’r Gwasanaeth Etholiadau, gan gynnwys sawl is-etholiad, gydag
is-etholiad Llanrug hefyd ar y gweill. Cyfeiriwyd at etholiad y Senedd ym mis
Mai, a oedd wedi cyflwyno heriau ychwanegol oherwydd maint yr ardal
ddaearyddol, nifer yr etholwyr a’r ffiniau newydd ar gyfer Gwynedd Maldwyn.
Nodwyd bod y gofrestr flynyddol wedi ei chyhoeddi. Cyfeiriwyd at broblem a oedd
wedi codi mewn perthynas â chyflog y Crwner a chadarnhawyd bod y mater hwnnw
bellach wedi ei ddatrys.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:-
Croesawyd y cynnydd yn lefel y boddhad â’r
Gwasanaeth Cyfreithiol i 95%, ond tynnwyd sylw at y gyfradd ymateb o 30% i’r
holiaduron. Cwestiynwyd a oedd unrhyw gamau rhagweithiol yn cael eu cymryd i
geisio barn y 70% nad oeddent wedi ymateb. Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd cam
penodol yn cael ei gymryd i dargedu’r unigolion nad oeddent wedi ymateb, a
chydnabuwyd y gallai blinder holiaduron fod yn ffactor. Nodwyd bod cael
ymatebion i’r holiaduron wedi bod yn her dros nifer o flynyddoedd, ond bod y
gyfradd o 30% yn darparu darlun cymharol ddefnyddiol o berfformiad y
gwasanaeth. Eglurwyd mai’r newid mwyaf oedd y gwaith o ymgynghori’n
uniongyrchol â’r adrannau a’u timau rheoli, gan fod y dull hwnnw’n gallu
darparu adborth manylach a chyfle i gynnal trafodaeth fwy cynhwysfawr am
berfformiad y gwasanaeth. Pwysleisiwyd na ellid gorfodi unigolion i ymateb i
holiaduron ac felly bod angen sicrhau cydbwysedd rhwng y gwahanol ddulliau o
gasglu adborth.
Cyfeiriwyd at drefniadau etholiad diweddar y
Senedd, gan nodi ei fod wedi bod yn wahanol iawn i etholiadau blaenorol
oherwydd maint yr etholaeth a’r trefniadau pleidleisio. Cwestiynwyd a oedd
bwriad i adolygu’r modd y cynhaliwyd yr etholiad ac adnabod unrhyw wersi i’w
dysgu ar gyfer etholiadau yn y dyfodol. Mewn ymateb, eglurwyd bod angen bod yn
ofalus ynghylch rôl y Cyngor gan mai’r Swyddog Canlyniadau oedd yn gyfrifol am
gynnal yr etholiad ac nad oedd gan y Cyngor rôl benodol o ran craffu ar y
swyddogaeth honno. Nodwyd, fodd bynnag, ei bod yn rhan arferol o gynllunio pob
etholiad i gynnal adolygiad gweithredol o’r holl drefniadau wedi hynny, gan
ystyried yr hyn a oedd wedi gweithio’n dda a’r hyn yr oedd angen ei wella.
Eglurwyd y byddai’r gwersi hynny’n cael eu defnyddio wrth baratoi ar gyfer yr
etholiad nesaf, a bod y broses gyfan yn cael ei hadolygu yn erbyn safonau’r
Comisiwn Etholiadol. Cadarnhawyd bod adolygiad gweithredol o’r prosesau yn
digwydd yn rheolaidd. Nodwyd y disgwylid rhagor o waith yn ymwneud â ffiniau’r
Senedd yn y dyfodol, gan fod y trefniadau diweddar yn rhai interim. Eglurwyd
bod maint yr ardal yr oedd angen ei gweinyddu wedi arwain y gwasanaeth i
ddechrau cynllunio yn llawer cynharach nag arfer, a mynegwyd y farn bod hynny
wedi bod yn fuddiol.
Mynegwyd, ar sail profiad o ymweld â nifer o
orsafoedd pleidleisio, fod y trefniadau yng Ngwynedd wedi bod yn drylwyr iawn.
Nodwyd nad oedd Gwynedd bob amser ymhlith yr ardaloedd cyflymaf i gwblhau’r
broses gyfrif, ond cydnabuwyd bod sicrhau bod y cyfrif yn drylwyr ac yn gywir
yn bwysicach na chyflymder y broses.
Tynnwyd sylw at gyfeiriad yn yr adroddiad at
gyngor cyfreithiol a oedd wedi deillio o sefyllfa Ysgol Friars, a gofynnwyd am
ragor o wybodaeth ynghylch natur y gwaith, yr adnoddau a neilltuwyd iddo a’r
effaith neu’r gwersi a oedd wedi deillio ohono. Mewn ymateb, eglurwyd bod
sefyllfa o’r fath yn creu ystod eang o waith cyfreithiol ac yn arwain at alw am
gyngor ar draws sawl maes, gan gynnwys Addysg, Adnoddau Dynol a
llywodraethiant. Nodwyd nad un unigolyn yn unig o’r Gwasanaeth Cyfreithiol a
fu’n ymwneud â’r gwaith, gan fod swyddogion gwahanol wedi cyfrannu yn ôl natur
y materion a’r arbenigedd yr oedd ei angen. Cyfeiriwyd at waith a oedd wedi
deillio o’r sefyllfa, gan gynnwys cyfrannu at y trefniadau canu’r gloch, ynghyd
ag elfennau o’r cynllun ymateb ehangach a oedd wedi gofyn am fewnbwn
cyfreithiol. Pwysleisiwyd bod cryn dipyn o gymorth cyfreithiol wedi ei ddarparu
drwy gydol y cyfnod, o’r camau cychwynnol hyd at y sefyllfa bresennol.
Gofynnwyd ymhellach a oedd y gwaith wedi rhoi
pwysau sylweddol ar adnoddau’r gwasanaeth. Mewn ymateb, cydnabuwyd nad oedd y
gwaith dydd i ddydd arferol wedi lleihau o ganlyniad i’r sefyllfa, ac felly bod
y gofynion ychwanegol wedi creu pwysau ychwanegol. Adroddwyd bod arbenigwyr
allanol wedi eu comisiynu pan oedd angen arbenigedd penodol, a nodwyd bod
diwedd y trefniant o ddarparu cyngor cyfreithiol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig
wedi rhyddhau capasiti ychwanegol. Cydnabuwyd bod y sefyllfa wedi ychwanegu at y
pwysau ar y gwasanaeth, ond cadarnhawyd bod y tîm wedi llwyddo i ymdopi â’r
gwaith.
Mynegwyd gwerthfawrogiad mawr o’r cymorth
cyfreithiol a dderbyniwyd, gan nodi bod y gwasanaeth yn darparu cymorth
amhrisiadwy i aelodau a bod y staff yn ymateb yn barod ac yn gymwynasgar.
Cydnabuwyd bod y Cyngor yn ffodus o gael tîm proffesiynol yng Ngwynedd.
Cyfeiriwyd at gŵyn a dderbyniwyd yn
dilyn yr etholiad ynghylch newid lleoliad gorsaf bleidleisio. Eglurwyd bod yr
orsaf bleidleisio mewn ward wedi symud o adeilad a ddefnyddiwyd yn flaenorol,
ond bod arwydd ar yr hen adeilad yn parhau i nodi ei fod yn orsaf bleidleisio
er bod y drws ar glo. Nodwyd bod etholwr a oedd wedi pleidleisio yn yr adeilad
ers blynyddoedd wedi mynd yno ac wedi methu â phleidleisio oherwydd y dryswch
ynghylch y lleoliad newydd. Mynegwyd pryder nad oedd digon o rybudd wedi ei roi
am y newid, ac yn benodol ynghylch presenoldeb yr arwydd ar yr hen adeilad.
Mewn ymateb, eglurwyd bod y Gwasanaeth
Etholiadau yn monitro ac yn adolygu trefniadau pleidleisio a bod newidiadau i
ffiniau, datblygiadau tai newydd neu amgylchiadau lleol eraill yn gallu golygu
bod angen newid lleoliad gorsaf bleidleisio. Nodwyd bod newidiadau o’r fath yn
cael eu hysbysebu a bod gwybodaeth yn cael ei hanfon at etholwyr, ond
cydnabuwyd ei bod yn naturiol i unigolyn fynd i’r lleoliad yr oedd wedi arfer
pleidleisio ynddo ers blynyddoedd. Cadarnhawyd bod y mater wedi dod i sylw’r
gwasanaeth ac y byddai’n cael ei ystyried fel rhan o’r adolygiad presennol er
mwyn sicrhau bod digon o wybodaeth yn cael ei ddarparu pan fyddai newidiadau
tebyg yn digwydd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau gan nodi’r sylwadau.
Dogfennau ategol: