I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo cynnig gan y diwydiant i godi’r uchafswm
prisiau
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD :
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan
Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn
nodi bod cais wedi ei dderbyn gan
dri o berchnogion
cwmnïau tacsi yng Ngwynedd i’r Awdurdod Trwyddedu adolygu uchaf bris teithiau cerbydau tacsi hacni. Atgoffwyd
yr Aelodau ei bod yn
ofynnol i unrhyw gais am newid yn yr uchaf bris gael ei gyflwyno gan y
diwydiant. Adroddwyd bod cais i gynyddu’r uchaf bris wedi ei gymeradwyo yn 2019
ac yn ddiweddarach yn 2022, ond nad oedd newid wedi bod ers hynny. Gwelwyd
cynnydd yn yr uchaf bris am y ddwy
filltir gyntaf mewn taith, ond nid oedd cynnydd wedi bod yn y cyfraddau
sylfaenol.
Cyfeiriwyd
at y ffactorau hynny sydd yn effeithio prisiau tacsi megis cynnydd mewn costau
yswiriant cenedlaethol a chynnydd yn yr isafswm cyflog cyfradd dros y
blynyddoedd diwethaf sydd wedi tanseilio gallu busnesau bach fel cwmnïau
tacsi i wneud elw. Yn ychwanegol mae
sefyllfa economaidd y wlad dros y misoedd diwethaf wedi gweld cynnydd sylweddol
mewn costau tanwydd, gyda rhagolygon na fydd costau tanwydd yn gostwng yn y
dyfodol agos, a chynnydd arall ar y gorwel mewn costau nwy a thrydan. Nodwyd
bod cyfradd chwyddiant yn parhau i fod yn uwch na tharged 2% y Llywodraeth ac
er bod cyfradd chwyddiant wedi gostwng yn ddiweddar, bod y cynnydd mewn costau
tanwydd a ffactorau geo-wleidyddol
yn y Dwyrain Canol yn golygu bod chwyddiant a chostau bwyd sylfaenol yn debygol
o godi dros y misoedd nesaf.
Nodwyd bod costau yswiriant priodol ar gyfer
cerbydau trwyddedig yn uchel, a chostau blynyddol ynghlwm a thrwyddedu cerbyd
tacsi, a chostau bob tair blynedd ynghlwm a thrwyddedu gyrwyr.
Cyfeiriwyd
at brisiau Cynghorau eraill ar draws y Gogledd gan amlygu amrywiaeth yng
nghyfradd yr uchaf bris o £3.50 i £4.00. Ategwyd bod amryw o gwmnïau oedd wedi
cyflwyno cynnig i godi uchaf bris yn cynnig cynyddu’r gyfradd am y filltir
gyntaf o £3.60 i £4.00. Er bod cais wedi ei wneud i godi'r gyfradd yn 2022,
gwrthodwyd y cynnig oherwydd pryder y byddai pobl oedrannus neu y rhai sy’n
fregus, ac sydd yn methu defnyddio ffyrdd eraill o deithio, yn cael eu
heffeithio gan y cynnydd ychwanegol yma ynghyd â chynnydd mewn costau byw.
Nodwyd hefyd, gyda chynnydd mewn costau cyflogau a chostau cynnal a chadw
cerbydau, bod y cwmnïau tacsi yn adrodd nad yw’r costau bellach yn cael eu
hadennill drwy godi £3.60 am y filltir gyntaf.
Argymhelliad yr Awdurdod Trwyddedu oedd, o ystyried
yr holl ffactorau sydd yn bwysig i’r cyd-destun economaidd presennol -
cynigiwyd fod y prisiau yn cael eu cynyddu fel a ganlyn -
·
Cynyddu uchaf bris cyfradd taith un
filltir o £3.60 i £4.00 er mwyn bod yn gyson gydag amryw o gynghorau
eraill, ac i gyfarch y cynnydd mewn
costau rhedeg tacsi.
·
Cynyddu
oriau gweithredol tariff hwyr y nos i fod yn weithredol o 21:00 yr hwyr tan
07:00 y bore, yn hytrach na bod yn weithredol o 00:00 hanner nos.
·
Gostwng cyfradd cost teithiau tariff
hwyr o 60% uwch na’r gyfradd sylfaenol yn ôl i 50% yn uwch na’r gyfradd
sylfaenol er mwyn cyd - fynd yn gyffredinol gyda chynghorau eraill.
Adroddwyd, petai’r Pwyllgor yn derbyn yr
argymhelliad, byddai’r Awdurdod Trwyddedu yn cynnal ymgynghoriad ar yr
argymhelliad am 14 diwrnod, gyda bwriad i’r uchaf bris newydd fod yn weithredol
o’r diwrnod y bydd y rhybudd yn dod i ben. Petai gwrthwynebiad i’r cynnig yn
dod i law yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad, byddai’r argymhelliad yn cael ei
gyfeirio yn ôl at y Pwyllgor er mwyn i sail y gwrthwynebiad dderbyn ystyriaeth.
Ni fydd addasiad i’r uchaf bris hyd nes bydd penderfyniad terfynol gan y
Pwyllgor .
b) Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth ddilynol:
·
Mai
newid yn y filltir gyntaf yn unig sydd
yma
·
Bod
y gyfradd sylfaenol heb godi ers
2019
Mewn ymateb i
gwestiwn os byddai’r cynnydd yn cael effaith ar gludiant tacsi ysgol, nodwyd
bod cytundeb cludiant ysgolion yn cael ei ariannu yn wahanol gyda phrisiau’n
cael eu sefydlu yn unol â ffactorau perthnasol - cytundebau ysgolion fel arfer yn cael eu
hariannu yn hael ac yn cyfrannu at ffactorau megis cynnal a chadw cerbydau.
Cadarnhawyd felly, na fyddai’r argymhelliad yn cael effaith ar gytundebau
ysgolion - cynnydd mewn prisiau cerbydau hacni yn
unig sydd yn cael ei gynnig yma.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chynnig i’r tariff hwyr y nos
fod yn weithredol o 21:00 yn hytrach na 00:00 a beth oedd y rhesymeg dros
gynnig yr amser yma, nodwyd mai’r diwydiant oedd wedi cynnig 21:00. Adroddwyd
bod gan y Pwyllgor y rhyddid i dderbyn yr amser yma neu gynnig amser gwahanol.
Ystyriwyd y byddai gweithredu o 21:00 yn fwy proffidiol i’r diwydiant gan y
bydd o bosib yn annog mwy o gwmnïau i weithredu gyda’r nos.
Cynigiwyd ac eiliwyd derbyn argymhelliad yr
Awdurdod Trwyddedu
Cynigwyd
ac eiliwyd gwelliant o dderbyn argymhelliad
yr Awdurdod Trwyddedu, ond i’r tariff hwyr y nos fod yn
weithredol o 22:00 gan fod 21:00 yn ymddangos yn rhy gynnar.
PENDERFYNWYD :
·
Cynyddu uchaf bris cyfradd taith un
filltir o £3.60 i £4.00 er mwyn bod yn gyson gydag amryw o gynghorau
eraill, ac i gyfarch y cynnydd mewn
costau rhedeg tacsi.
·
Cynyddu
oriau gweithredol tariff hwyr y nos i fod yn weithredol o 22:00 yr hwyr tan
07:00 y bore, yn hytrach na bod yn weithredol o 00:00 hanner nos.
·
Gostwng cyfradd cost teithiau tariff
hwyr o 60% uwch na’r gyfradd sylfaenol yn ôl i 50% yn uwch na’r gyfradd
sylfaenol er mwyn cyd - fynd yn gyffredinol gyda chynghorau eraill.
Dogfennau ategol: