Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Nia Jeffreys

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Rhaglen Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Rhaglen Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

 

TRAFODAETH

 

Dywedwyd mai’r adroddiad gerbron yw’r adroddiad blynyddol cyntaf i adrodd ar gynnydd y rhaglen Cefnogi Pobl.

 

Eglurwyd mai nod y rhaglen yw cynorthwyo trigolion y Sir wrth iddynt geisio ymdopi â heriau’r argyfwng costau byw, gan gynnig cefnogaeth, gwybodaeth a mynediad at wasanaeth sy’n sicrhau tegwch i bawb. Soniwyd am yr effaith y caiff yr argyfwng costau byw ar lesiant trigolion, ac felly bod angen amlwg am gymorth ymarferol yn y maes hwn. Aethpwyd ymlaen i esbonio bod yr adroddiad yn dangos y gefnogaeth a gaiff ei gynnig i drigolion, a straeon gan dderbynwyr y gefnogaeth am yr effaith cadarnhaol mae’r gefnogaeth wedi’i gael ar eu bywydau. 

Diolchwyd i staff y Cyngor, ei bartneriaid, sefydliadau lleol a chymunedau am eu gwaith i gefnogi pobl Gwynedd. 

 

Nodwyd mai ychwanegiad i waith dydd i ddydd y Cyngor yw’r gwaith hwn, gan amlygu bod yr adroddiad yn adrodd ar yr ymyraethau ychwanegol sydd wedi eu rhoi mewn lle gan y Cyngor er mwyn blaenoriaethu’r maes hwn. Manylwyd ar y trefniadau sydd mewn lle, ar y cyd gyda phartneriaid lleol, i sicrhau fod hybiau o fewn cymunedau i alluogi mynediad at wybodaeth a chefnogaeth i drigolion yn lleol. Soniwyd y bu hyrwyddwyr lles yn bresennol o fewn yr hybiau hyn i gynnig cefnogaeth i drigolion yn ogystal. Soniwyd am yr hyfforddiant ynglŷn â magu ffordd o weithio sy’n empathetig yn seiliedig ar fod yn wybodus o drawma, ac sy’n rhoi’r person yn ganolog. Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod y gwaith hwn yn cael effaith cadarnhaol ar bobl Gwynedd, gan dynnu sylw at yr astudiaethau achos o brofiadau defnyddwyr y gwasanaethau, a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad.

Cadarnhawyd y bydd cofrestru awtomatig ar gyfer tariffau cymdeithasol yn parhau i gael ei hyrwyddo, gan sicrhau fod y bobl hynny sy’n gymwys i’w derbyn yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Ychwanegwyd y caiff ymgyrchoedd eu cynnal i sicrhau fod gan bobl fynediad at wybodaeth a gweithgareddau sydd ar gael ar draws y Sir ar adegau penodol. Nodwyd bod y rhwydwaith hybiau yn parhau i ddatblygu ac esblygu, a bwriadwyd parhau i gyd weithio â gwasanaethau i geisio rhedeg yr hyfforddiant Trawma Wybodus ac ymwybyddiaeth hawliau plant ar draws y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Cyfeiriwyd at ffocws y rhaglen o geisio rhoi’r person yn ganolog, gan sôn bod Stori ‘Dewi’ a gaiff ei gynnwys yn yr Adroddiad yn enghraifft o hyn ar waith. Nodwyd bod sgwrs anffurfiol, a ddatblygwyd o gais gwreiddiol ‘Dewi’, wedi arwain ato’n gallu derbyn cymorth ychwanegol.

Amlygwyd bod y cynnydd yn nefnydd deallusrwydd artiffisial yn effeithio nifer o wasanaethau, a holwyd am ddyfodol gwasanaethau codi’r ffôn er enghraifft, wrth fynd ymlaen. Mewn ymateb, cyfeiriwyd at brosiect peilot “Gafael Llaw” gan nodi i’r gwaith hwn amlygu effaith cadarnhaol cynnal sgyrsiau anffurfiol ar allu unigolion i dderbyn cefnogaeth bellach na gofynion eu cais gwreiddiol, i ddiwallu eu holl anghenion. Mewn perthynas â dyfodol y math hwn o wasanaeth, pwysleisiwyd pwysigrwydd parhaol sgwrs gyda pherson i garfannau o’r gymuned. Ar ben hynny, amlygwyd y gall cynnig y gwasanaeth hwn gynorthwyo gydag unigedd yn ogystal, drwy roi cyswllt gyda pherson arall i unigolion.

·       Tynnwyd sylw at yr hybiau cymunedol gan sôn am eu pwysigrwydd i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, gan eu bod yn rhoi cyfle i ddod a gwasanaethau’n nes at drigolion y Sir. Aethpwyd ymlaen i drafod y gwaith ehangach sy’n digwydd o fewn yr hybiau hyn yn ogystal, megis elfennau o ofal seibiant, gwaith ataliol a chefnogi gofalwyr. Diolchwyd am y ddarpariaeth hon.

·       Awgrymwyd efallai nad yw’r rheiny o fewn ardaloedd fwyaf gwledig y Sir yn ymwybodol o’r ddarpariaeth a’r gwasanaethau a gaiff eu cynnig gan y Cyngor. Ymhelaethwyd ar hyn gan gynnig y byddai hyrwyddo’r gwasanaethau sydd ar gael drwy Gynghorau Cymuned er enghraifft, yn golygu bod modd rhannu’r neges ymhellach a chyrraedd mwy o drigolion.

Cadarnhawyd mai yng nghanol trefi mae’r hybiau wedi eu lleoli gan amlaf, ond y caiff bwletin ei gynnwys mewn papurau lleol sy’n nodi manylion cyswllt er mwyn gallu cael mynediad at y wybodaeth pe na fyddai unigolyn yn gallu cyrraedd un o’r hybiau. Nodwyd bod cynllun cyfathrebu mewn lle, a chytunwyd bod rhaeadru’r wybodaeth a’r bwletin costau byw i Gynghorau Cymuned yn rhywbeth i’w ystyried ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Diolchwyd i’r Aelod Cabinet am ei hargymhelliad.

·       Holwyd am allu darpariaeth y Cyngor i ymateb i’r galw cynyddol bresennol am wasanaethau cymorth, a’i allu i ymateb i’r galw sy’n cael ei ragweld yn y dyfodol. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod y rhaglen yn esblygu i geisio cyfarch yr heriau yn sgil y cynnydd yn y galw, yn ogystal â’r newid yn y galw hwnnw. Wrth edrych i’r dyfodol, esboniwyd y bydd buddsoddiad i uwch sgilio gweithleoedd er mwyn ymateb i’r newid yn y math o bobl sy’n cael eu cefnogi, â’r hyn y cânt eu cefnogi ag o.

.

Awdur:Catrin Thomas, Cyfarwyddwr Corfforaethol

Dogfennau ategol: