Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Craig ab Iago

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo yr addasiadau i’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur ac yn mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022/23 – 2029/30 Cyngor Gwynedd (F.2).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r addasiadau i’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur ac yn mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022/23 - 2029/30 Cyngor Gwynedd (F.2).

 

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod y Cynllun Hinsawdd a Natur wedi’i fabwysiadu ers 4 blynedd bellach, ac felly ei bod yn amserol i’w adolygu.

Amlygwyd bod Cyngor Gwynedd yn arwain yn y maes hwn yng Nghymru ac yn ehangach, gan adnabod mai’r Cyngor hwn oedd un o’r cynghorau cyntaf i ddatgan argyfwng newid hinsawdd, a sefydlu Bwrdd Hinsawdd a Natur yn dilyn hynny. Ymfalchïwyd yn y ffaith bod swyddogion wedi bod yn gweithio ar leihau ôl-troed carbon y Cyngor ers dros ddegawd bellach, a chanmolwyd safon y staff sy’n gweithio yn y maes hwn o fewn y Cyngor. 

Adnabuwyd mai’r cam nesaf o ran y Cynllun yw cyd-weithio â thrigolion, a soniwyd bod yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd y llynedd wedi amlygu’r angen i wneud hynny’n ogystal. Esboniwyd bod grwpiau wedi trafod y Cynllun mewn cynadleddau, a bu i’r trafodaethau hynny fwydo i mewn i’r adolygiad hwn. 

Atgoffwyd y Cabinet y bydd ceisiadau am gyllid ar gyfer y prosiectau a gaiff eu hadnabod yn y Cynllun yn dod ger eu bron maes o law.

 

Croesawyd cyn is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i’r cyfarfod i gyflwyno argymhellion y Pwyllgor i’r Cabinet. Nodwyd y bu i’r Cynllun gael ei ail graffu gan y Pwyllgor ym mis Ionawr eleni, gan esbonio i’r Pwyllgor graffu’r newidiadau y bwriadwyd eu gwneud i’r Cynllun, yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, a’r ffynonellau cyllido sydd wedi eu hadnabod. Datganwyd bod y Pwyllgor wedi croesawu’r bwriad i ail-edrych ar y targed i’r Cyngor fod yn Garbon Sero Net erbyn 2030. Manylwyd ar y neges a godwyd yn y Pwyllgor Craffu, sef yr angen i fod yn fwy uchelgeisiol.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran wedi ymateb i’r holl argymhellion a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Craffu, a bod y mwyafrif ohonynt wedi eu hymgorffori i’r Cynllun yn ogystal.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Pwysleisiwyd ei bod yn allweddol i’r Cyngor barhau i fod yn uchelgeisiol yn y maes hwn, yn enwedig o weld y gwres eithafol sy’n taro’r wlad ar y funud. Yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r targed Net 0 cenedlaethol a chyllidebau carbon cysylltiedig, holwyd a oes unrhyw ddiweddariad ynglŷn â hyn. Datgelwyd gan yr Aelod Cabinet perthnasol mai disgwyl am arweiniad gan y Llywodraeth mae’r Adran ar hyn o bryd, gan nodi y byddai’n barod i gydweithio â swyddogion o fewn y Llywodraeth er mwyn ceisio troi uchelgeisiau’r Cyngor hwn yn realiti.

·       Mewn ymateb i gwestiwn am gamau nesaf y Cynllun hwn, bwriadwyd rhannu’r Cynllun ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y we, gan geisio sicrhau ei fod mor hygyrch â phosib. Canmolwyd y lluniau a gaiff eu defnyddio drwy gydol y ddogfen.

Gofynnwyd am ddiweddariad o ran y cynlluniau i symud tuag at fflyd o gerbydau trydan. Cadarnhawyd bod y gwaith hwn yn nwylo’r Cyngor, gan adnabod hefyd y caiff cefnogaeth ei dderbyn gan y Llywodraeth er mwyn ymgymryd â pheth o’r gwaith hwn. Aethpwyd ymlaen i nodi bod trosiant loriau ac offer trwm yn cymryd amser o ganlyniad i orfod disgwyl i weld beth mae’r farchnad yn ei gynnig o ran y cerbydau trwm hyn.

Awdur:Dylan Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol: