Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Craig ab Iago

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

 

Mabwysiadu Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd 2025–2030 fel y ddogfen strategol sy’n gosod cyfeiriad, gweledigaeth a blaenoriaethau’r Cyngor ym maes gwastraff ac ailgylchu dros y pum mlynedd nesaf.

 

Cymeradwyo’r egwyddor o ddefnyddio Cyllid Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (EPR) fel y prif ffynhonnell ariannu i gefnogi a galluogi gweithredu blaenoriaethau’r Strategaeth, gan gynnwys cynlluniau i gynyddu ailgylchu, gwella gwasanaethau, cynnal seilwaith presennol a buddsoddi mewn isadeiledd y dyfodol.

 

Cymeradwyo’r cyfeiriad strategol ar gyfer defnyddio cyllid EPR i:

 · reoli risgiau ariannol uniongyrchol y gwasanaeth drwy greu darpariaeth ariannol “rhag ofn”, megis delio gyda gorwariant ar ddarparu gwasanaethau lle nad oes dull amgen o’i gyfarch, lleihau’r risg o ddirwyon am fethu â chyrraedd targedau ailgylchu a pharatoi ar gyfer costau’r Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS).

· darparu sail ariannol gadarn ar gyfer gweithredu’r cynlluniau a nodir yn y Strategaeth, gan gynnwys y camau i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% a’r buddsoddiadau tymor byr sydd eu hangen ar gyfer uwchraddio.

· sefydlu Cronfa Cydariannu i gefnogi datblygu sylweddol yn safleoedd y dyfodol yng Nghaernarfon a Harlech.

 

Nodi y bydd penderfyniadau pellach yn ofynnol ar rai elfennau gweithredol unigol o’r Strategaeth a’r defnydd o’r cyllid EPR , ond bod mabwysiadu’r Strategaeth a chymeradwyo cyfeiriad defnydd EPR yn darparu’r fframwaith polisi a’r sail ariannol i symud ymlaen gyda’r rhaglen waith.

 

Nodi y bydd angen i’r Cyngor ystyried pob ffynhonnell ariannol posib wrth fynd ati i osod cyllideb refeniw 2027/28 a’r blynyddoedd dilynol ac na ellir diystyru y posibilrwydd o orfod ail ymweld â’r penderfyniadau uchod pe byddai angen dargyfeirio elfen o’r cyllid EPR ar gyfer gallu gosod cyllideb hafal.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd:

Mabwysiadu Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd 2025–2030 fel y ddogfen strategol sy’n gosod cyfeiriad, gweledigaeth a blaenoriaethau’r Cyngor ym maes gwastraff ac ailgylchu dros y pum mlynedd nesaf.

 

Cymeradwyo’r egwyddor o ddefnyddio Cyllid Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (EPR) fel y prif ffynhonnell ariannu i gefnogi a galluogi gweithredu blaenoriaethau’r Strategaeth, gan gynnwys cynlluniau i gynyddu ailgylchu, gwella gwasanaethau, cynnal seilwaith presennol a buddsoddi mewn isadeiledd y dyfodol.

 

Cymeradwyo’r cyfeiriad strategol ar gyfer defnyddio cyllid EPR i:

 · reoli risgiau ariannol uniongyrchol y gwasanaeth drwy greu darpariaeth ariannol “rhag ofn”, megis delio gyda gorwariant ar ddarparu gwasanaethau lle nad oes dull amgen o’i gyfarch, lleihau’r risg o ddirwyon am fethu â chyrraedd targedau ailgylchu a pharatoi ar gyfer costau’r Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS).

· darparu sail ariannol gadarn ar gyfer gweithredu’r cynlluniau a nodir yn y Strategaeth, gan gynnwys y camau i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% a’r buddsoddiadau tymor byr sydd eu hangen ar gyfer uwchraddio.

· sefydlu Cronfa Cydariannu i gefnogi datblygu sylweddol yn safleoedd y dyfodol yng Nghaernarfon a Harlech.

 

Nodi y bydd penderfyniadau pellach yn ofynnol ar rai elfennau gweithredol unigol o’r Strategaeth a’r defnydd o’r cyllid EPR, ond bod mabwysiadu’r Strategaeth a chymeradwyo cyfeiriad defnydd EPR yn darparu’r fframwaith polisi a’r sail ariannol i symud ymlaen gyda’r rhaglen waith.

 

Nodi y bydd angen i’r Cyngor ystyried pob ffynhonnell ariannol posib wrth fynd ati i osod cyllideb refeniw 2027/28 a’r blynyddoedd dilynol ac na ellir diystyru y posibilrwydd o orfod ail ymweld â’r penderfyniadau uchod pe byddai angen dargyfeirio elfen o’r cyllid EPR ar gyfer gallu gosod cyllideb hafal.

 

 

TRAFODAETH

 

Amlygwyd mai hon yw’r Strategaeth Wastraff gyntaf i’r Cyngor ei datblygu, ac ychwanegwyd ei bod yn gosod cyfeiriad clir ar gyfer ymdriniaeth y Cyngor â’r pwnc gwastraff.

Cyfeiriwyd at darged Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o wastraff y Sir, a nodwyd gan yr Aelod Cabinet y byddai’n hoff o weld y Sir yn ailgylchu 100% o’i wastraff yn ogystal â cheisio lleihau faint o wastraff a gynhyrchir yma. Er nad oes posib i’r Cyngor reoli faint o wastraff a gynhyrchir yn y Sir, datganwyd bod angen gwneud dipyn mwy nac ailgylchu’n unig. Awgrymwyd yr angen i gryfhau ein heconomi gylchol, gweld gwastraff fel adnodd a chanolbwyntio ar yr elfen ailddefnyddio yn ogystal.

 

Cyflwynwyd rhai o’r rhesymau hynny y tu ôl i geisio cyflwyno Strategaeth o’r fath yn y Sir, gan nodi fod y gwasanaeth yn wynebu amryw o heriau. Cyfeiriwyd at y targed statudol i ailgylchu 70% o wastraff y Sir, gan egluro nad yw Gwynedd yn cyrraedd y targed hwn ar hyn o bryd. Aethpwyd ymlaen i sôn am y risg o dderbyn dirwy ariannol sylweddol pe na fyddai’r Cyngor yn cyrraedd y targed hwn, ac ychwanegwyd bod risg o gostau yn ymwneud â charbon ar y gorwel yn ogystal. Esboniwyd yr ymgeisia’r Strategaeth i foderneiddio’r gwasanaeth ac aethpwyd ymlaen i egluro ei weledigaeth ehangach. Adnabuwyd chwe phrif flaenoriaeth y Strategaeth sef;

·       Cyfathrebu ac Ymgysylltu,

·       Lleihau, Ailddefnyddio a Thrwsio,

·       Cynyddu Ailgylchu,

·       Darparu Gwasanaeth o Ansawdd Uchel,

·       Cyflawni Sero Net,

·       Isadeiledd sy’n Addas i’r Dyfodol 

 

Datganwyd bod cyllid EPR yn ffrwd ariannu newydd wedi’i selio ar yr egwyddor mai’r “llygrwr sy’n talu” cost rheoli’r gwastraff pecynnu maent yn ei greu. Nodwyd i’r Cyngor dderbyn swm sylweddol o gyllid EPR y llynedd a bod cynnydd yn y ffigwr hwn wedi’i ragweld ar gyfer eleni. Amlygwyd bod bwriad i ddefnyddio’r cyllid hwn mewn ffordd gytbwys, fel a’i hargymhellir yn yr Adroddiad. Dywedwyd nad yw’r Strategaeth yn unig yn ddigonol, a bod angen adnoddau i wireddu newid.

Trafodwyd y gefnogaeth a gafwyd i’r Strategaeth yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2025. Cydnabuwyd bod rhai pryderon wedi eu codi, a hynny’n ymwneud â’r angen i sicrhau bod y gwasanaeth yn deg ac yn hygyrch i bawb.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Croesawyd y Strategaeth gan bwysleisio ei bwysigrwydd.
  • Sylwyd ar gost uchel y gwasanaeth, gan holi beth sy’n achosi i’r gwasanaeth fod yn ddrytach na gwasanaethau o fewn siroedd eraill. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod yr adroddiad diwethaf gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn nodi bod y Cyngor yn mynd i’r cyfeiriad cywir o ran lleihau’r gost hon. Cyfeiriwyd at ffactorau daearyddol sy’n effeithio ar y costau hyn yng Ngwynedd, gan amlygu daearyddiaeth wledig y Sir o’i gymharu â siroedd eraill.
  • Mynegwyd balchder am y sylw sydd wedi ei roi i bobl sydd â dementia, yr henoed, a phobl anabl, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i’w cefnogi. Pryderwyd am y defnydd o sachau ailgylchu yn hytrach na’r cartiau, gan ragweld cynnydd yn y galw am gasgliadau o ddrws cefn gan fod y sachau’n anoddach i’w symud.
  • Rhoddwyd diweddariad am y peilot sachau ailgylchu a fwriedir ei gynnal mewn ardal arall. Gan nodi na fydd gorfodaeth i ddefnyddio sach, amlygwyd bod y sachau hyn yn rhatach na’r cart, yn dal mwy, ac nad oeddent yn chwythu i ffwrdd yn y peilot blaenorol.
  • Mewn ymateb i gwestiwn am berfformiad ailgylchu’r Cyngor dros gyfnod 2025/26, cadarnhawyd mai ffigyrau drafft sydd gan yr Adran ar hyn o bryd. Adroddwyd y bu i Gyfoeth Naturiol Cymru ofyn i bob Cyngor ail edrych ar eu dull o ailgylchu coed, ac mae hyn o ganlyniad wedi cael effaith negyddol ar ffigyrau ailgylchu awdurdodau lleol ar draws Cymru.
  • Mewn perthynas â’r flaenoriaeth Lleihau, Ailddefnyddio a Thrwsio, eglurwyd y bydd y Cyngor yn dibynnu ar fentrau cymunedol ac ati i gynorthwyo a’r gwaith hwn. Ychwanegwyd bod bwriad i agor siop ail ddefnyddio yng nghanolfan ailgylchu ym mis Medi ar gyfer pobl leol, ac y bydd arweiniad ar gael ar gyfer mentrau cymunedol er mwyn cynorthwyo i wireddu’r Strategaeth.
  • Wrth drafod cynhadledd ddiweddar a fynychodd yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd, soniwyd am fodelau rhentu ar gyfer cyrff megis y Cyngor, mewn ymgais i geisio hybu ail ddefnyddio yn hytrach na phrynu o’r newydd. 

 

Awdur:Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Roland Thomas, Pennaeth Adran Cynorthwyol

Dogfennau ategol: