Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.
PENDERFYNIAD
Derbyn Adroddiad Blynyddol y Panel Strategol Diogelu ar
gyfer y flwyddyn 2025/26.
TRAFODAETH
Amlygwyd pwysigrwydd y Panel hwn, a chydnabuwyd bod y
blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i’r Cyngor. Mynegwyd balchder am y
gweithredu sy’n cymryd lle yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Cyfiawnder drwy ein
Dewrder, er mwyn cryfhau trefniadau’r Cyngor yn y maes hwn.
Wrth gyfeirio at ymgais y Cyngor i fod yn agored a thryloyw
o ran ei ymateb, eglurwyd bod yr eitem hon wedi bod gerbron y Pwyllgor Craffu
Gofal, a bod bwriad i’w gyflwyno i’r Cyngor Llawn maes o law yn ogystal.
Pryderwyd am y cynnydd yn niferoedd y cyfeiriadau plant ac
oedolion a gaiff eu derbyn, ac effaith hyn ar wasanaethau a staff yr adrannau
perthnasol. Aethpwyd ymlaen i nodi bod nifer y staff sydd wedi cwblhau’r
hyfforddiant VAWDASV wedi cynyddu, a bod y ffigwr o ysgolion sydd wedi cyflwyno
hyfforddiant diogelu i’w staff bellach yn 100%.
Diolchwyd i holl staff y Cyngor sydd wedi ymgymryd â’r
gwaith hwn, gan atgoffa fod diogelu yn fater i bob adran.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod y data sydd ar flaen yr
Adroddiad yn dal i gael ei wirio, a nodwyd bod posib i rai o’r ffigyrau hyn
gael eu diweddaru erbyn i’r Adroddiad gael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn maes o
law.
Croesawyd Is Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal i’r cyfarfod
i gyflwyno argymhellion y Pwyllgor i’r Cabinet. Cadarnhawyd bodlonrwydd y
Pwyllgor gyda’r cynnydd yng ngwaith y Panel.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
- Cyfeiriwyd at y cynnydd yn
y niferoedd o gyfeiriadau i wasanaethau plant yn 2025/26, a holwyd a yw
ymwybyddiaeth uwch a lefelau hyfforddiant uwch ymysg staff yn ffactor wrth
edrych ar y cynnydd hwn. Croesawyd yr ymwybyddiaeth uwch ymysg staff.
Ategwyd y pryder am nifer y cyfeiriadau, ond ar y llaw arall nodwyd yr
angen i sicrhau bod pobl yn cyfeirio’n briodol, yn ddi-oed a heb rwystr.
- Mewn ymateb i gwestiwn am
sefyllfa hyfforddiant i Lywodraethwyr, cyfeiriwyd at y data sydd wedi’i
nodi yn yr Adroddiad ynglŷn â’r sesiynau hyfforddiant Diogelu i
Gadeiryddion a Llywodraethwyr Diogelu dynodedig. Gwnaethpwyd sylw am rôl
hollbwysig Llywodraethwyr yn y gyfundrefn, ac felly ei bod yn allweddol
iddynt fod yn ymwybodol o’r holl drefniadau diogelu a’r cyfrifoldeb sydd
arnynt. Amlygwyd bod swyddog ychwanegol bellach yn gweithio o fewn y tîm
sy’n cefnogi Llywodraethwyr o fewn yr adran Addysg.
- Wrth drafod a yw’r cynnydd
hwn mewn cyfeiriadau yn gyffredin ar draws y wlad, eglurwyd bod y Sir yn
derbyn ychydig yn llai o gyfeiriadau ar gyfartaledd na siroedd eraill. Er
hyn, amlygwyd bod bob sir yng Nghymru yn gweld cynnydd mewn cyfeiriadau a
thybiwyd bod cwestiynau cymdeithasegol cenedlaethol ynglŷn â’r hyn
sydd y tu ôl i’r cynnydd hwn a sut i fynd i’r afael ag o. Tynnwyd sylw at
y ffaith fod Gwynedd yn dilyn tuedd genedlaethol y blynyddoedd diwethaf,
gan nodi fod cynnydd yn y nifer o blant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant
yn ogystal â’r nifer cyfeiriadau.
- Gwnaed sylwad am y pryder
amlwg ynghylch y gwasanaeth DoLS ers cryn amser
bellach, a gofynnwyd sut y mae’r adran yn gobeithio mynd i’r afael â hyn.
Mewn ymateb, datganwyd bod dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys yn golygu y
bydd newid sylweddol yn y maes hwn. Er nad yw’r canllawiau statudol
ynghylch y penderfyniad hwn wedi eu derbyn eto, rhagwelwyd bod posib i
gannoedd o bobl ddod oddi ar y rhestr aros DoLS
o ganlyniad. Dywedwyd na fydd
unrhyw beth yn cael ei newid nes y caiff y canllawiau eu derbyn. Gan fod y
Cyngor wedi buddsoddi yn y gweithlu, gobeithiwyd y bydd adnodd digonol i
ddygymod a phwysau’r maes hwn wrth fynd ymlaen.
- Cyfeiriwyd at y ganran o
staff y Cyngor sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant VAWDASV gan holi sut y
bwriedir codi’r ganran hon yn uwch. Datganwyd bod yr hyfforddiant hwn yn
statudol, a chroesawyd y ffaith fod Cymru yn flaengar yn hynny o beth.
Ehangwyd ar hyn gan nodi bod cynlluniau ar droed i geisio cynyddu’r nifer
sy’n cwblhau’r hyfforddiant hwnnw yn ogystal â’r hyfforddiant diogelu.
Soniwyd am rôl y Swyddog Hyrwyddo Diogelu wrth geisio sicrhau hygyrchedd
yr hyfforddiant i bob rhan o’r gweithlu a sicrhau fod staff yn ei gwblhau.
- Tynnwyd sylw at yr
hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a gafodd ei ddarparu ar gyfer
staff Siop Gwynedd. Ymfalchïwyd yn y ffaith bod fideos o berson yn arwyddo
ar sawl tudalen ar wefan y Cyngor bellach, fel bod y wybodaeth fwyaf
cyffredinol yn hygyrch.
- Mewn ymateb i gwestiwn am
y ‘Parthau Diogel’ sydd wedi eu datblygu ym Mangor a Chaernarfon,
datgelwyd bod y Cyngor yn dal i weithio’n agos gyda’r Heddlu. Manylwyd eu
bod yn ceisio sicrhau bod ardaloedd lle mae goleuadau stryd digonol a
chamerâu cylch cyfyng er mwyn galluogi pobl i gerdded yn ddiogel wedi iddi
nosi. Adroddwyd bod y Cyngor yn ceisio cynnal asesiad ar y cyd gyda’r
Heddlu, er mwyn ceisio deall lle mae’r risgiau mwyaf ac adnabod y mannau
hynny lle mae troseddau wedi cymryd lle yn y gorffennol fel bod modd
datblygu’r cynllun hwn ar draws y Sir. Adnabuwyd gan Aelod Cabinet nad oes
swyddogion yn edrych ar y camerâu hyn ar y pryd bellach, a phryderwyd bod
hynny’n gam yn ôl oherwydd y risg o fethu cyfle i ymyrryd pe bai yno
berson mewn peryg. Nodwyd y bu i hyn gael ei grybwyll mewn cyfarfod
diweddar o Fforwm Ardal Bangor/Ogwen mewn sgwrs gydag Arolygydd Ardal
Gogledd Gwynedd. Datganwyd nad oedd hyn wedi ei godi yn y Grŵp Mannau
Diogel nac yn y Panel Strategol Diogelu, ond cytunwyd i’w drafod gyda’r
swyddogion perthnasol er mwyn gweld os yw’n rhywbeth y dylid ei ystyried.
- Cyfeiriwyd yn ôl at sylw
ynglŷn â Llywodraethwyr, gan adrodd bod holiadur wedi ei gylchredeg i
Lywodraethwyr fynegi eu hyder yn eu rolau a’u rolau diogelu. Gobeithiwyd y
caiff ganlyniadau’r holiadur hwn eu rhannu’n fuan.
- Wrth gynnig mwy o
wybodaeth ynglŷn â dull rhagweithiol y Gwasanaethau Plant o sicrhau y
caiff llais y plentyn ei glywed wrth ymateb i bryderon sy’n ymwneud ag
unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, datganwyd y golyga’r
newid mewn trefn bod gweithiwr cymdeithasol yn mynd i siarad â’r plentyn
pe byddai unrhyw honiad ynglŷn ag unrhyw un sydd mewn swydd o
ymddiriedaeth yn cael ei wneud. Crybwyllwyd bod ambell i achlysur lle
mae’r plentyn ei hun neu riant yn gwrthod y cyswllt hwnnw, ac fe all hynny
fod yn heriol.
- Cyfeiriwyd at yr
ymchwiliad craffu a wnaethpwyd gan aelodau o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi, ynglŷn â siarad â phlant er mwyn gweld eu dealltwriaeth o
sut mae gwneud cyfeiriad neu honiad, ac at bwy y dylid troi pe byddai
pryder ganddynt. Cadarnhawyd bod adroddiad ar hyn wedi bod gerbron y
Pwyllgor Craffu, a bod plant i weld yn gyffredinol ymwybodol o’r prosesau
i’w dilyn. Aethpwyd ymlaen i drafod y gwaith parhaus pellach sy’n mynd
rhagddo yn y maes hwn yn ogystal. Nodwyd bod adroddiad am yr ymchwiliad
craffu ar fin cael ei gyhoeddi, a diolchwyd i bawb a gymerodd ran yn y
gwaith. Tynnwyd sylw at y ffaith bod cefnogaeth wedi ei roi i’r ymchwiliad
craffu gan ymchwilwyr annibynnol yn ogystal.
- Pryderwyd am y nifer
cynyddol o blant sy’n cael eu haddysgu gartref, a bod hawl gan rieni i
wrthod unrhyw gyswllt gan y Cyngor. Amlygwyd ei fod yn fater sy’n codi yng
nghyfarfodydd herio perfformiad yr adran Addysg, ac eglurwyd bod y cynnydd
hwn i’w weld yn genedlaethol. Ymhelaethwyd ar hyn gan nodi fod cyfundrefn
wedi ei chreu er mwyn ymweld â’r rheiny sy’n dad gofrestru, ac y caiff
hynny ei fonitro. Soniwyd am yr heriau sydd ynghlwm â’r maes hwn, ac
awgrymwyd yr angen am drafodaethau cenedlaethol yn sgil y cynnydd.
Aethpwyd ymlaen i dynnu sylw at y gwahanol garfannau o fewn
y ffigwr o blant a gaiff eu haddysgu gartref; soniwyd bod rhai o’r plant hyn
wedi dad gofrestru o’r ysgol, ac eraill erioed wedi mynychu’r ysgol ac felly
wedi derbyn eu holl addysg gartref. Pwysleisiwyd bod carfannau o’r plant sy’n
derbyn addysg gartref yn derbyn addysg dda, ond bod pryder am garfannau eraill
o’r plant hyn. Eglurwyd bod y gefnogaeth a gynigir i’r rheiny sy’n addysgu eu
plant gartref yn ddewisol ac felly nad oes gan y Cyngor hawl i orfodi’r cyswllt
hwnnw, heblaw bod pryderon diogelu. Cynigiwyd bod hyn yn rhywbeth y dylai’r
Llywodraeth fod yn edrych arno, a chredwyd bod rhai achosion lle mae angen mwy
o hawliau ar yr awdurdod.
Yn sgil y cynnydd yn y maes Anghenion Dysgu Ychwanegol,
credwyd bod rhai plant lle nad ydynt yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol o
fewn y gyfundrefn addysg, a bod hyn yn ffactor ym mhenderfyniad rhai rheini
wrth dynnu eu plant o’r ysgol.
Adnabuwyd y gwaith a gaiff ei wneud o ran atal trais yn
erbyn menywod, cam drin domestig a thrais rhywiol, a chadarnhawyd bod angen
gwneud mwy yn y maes hwn. Pwysleisiwyd yr angen i gymdeithas fod yn gwneud mwy
yn y maes hwn yn ogystal, gan dynnu sylw at y ffaith fod y niferoedd o bobl
sy’n profi trais domestig yng ngogledd Cymru yn un o’r uchaf ym Mhrydain.
Nodwyd bod angen edrych ar ddatblygu gwasanaethau trais domestig yn well ar
draws y Cyngor ac ar draws sefydliadau cyhoeddus eraill. Aethpwyd ymlaen i
nodi’r angen i sicrhau bod y materion hyn yn aros ar frig agenda’r Cyngor, a’r
angen i gynnig hyfforddiant parhaus a staff a thrigolion.