Agenda item

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad Bennaeth Adran Oedolion ac Arweinydd Tim Cefnogi Gweithlu y Tim Arweinyddiaeth. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Ymfalchïwyd bod yr Adrannau yn ymrwymo ac yn dyfalbarhau i hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw a gweithredol ym mhob agwedd o’u gwaith. Manylwyd bod strategaeth ‘Mwy na Geiriau’ (Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol) yn ganolog i waith yr Adrannau, er mwyn sicrhau bod cynnig gwasanaethau yn Gymraeg yn rhagweithiol yn cael ei wireddu yn ymarferol ar draws y gwasanaethau.

 

Adroddwyd bod yr Adrannau yn cynnig adnoddau allweddol i gefnogi’r Gymraeg. Tynnwyd sylw penodol at system casglu data newydd PERCCI (Person-Centred Community Care Inventory). Eglurwyd ei fod yn holiadur sydd wedi ei lunio ar gyfer unigolion sydd â phrofiad o dderbyn gofal, gan gadarnhau bod fersiwn Cymraeg ar gael ac y byddai’n cael ei rannu gyda defnyddwyr gwasanaeth yn fuan.

 

Cyfeiriwyd at ap ‘Helpu’n Hun’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Manylwyd ei fod yn feddalwedd sy’n darparu gwasanaeth therapydd galwedigaethol rhithiol er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd i dderbyn cyngor ar y ffyrdd y gallent geisio cynorthwyo eu hunain o ddydd i ddydd.

 

Diweddarwyd bod offer Teleofal newydd wedi cael ei gyflwyno, gan gadarnhau bod y dechnoleg bellach yn Gymraeg. Atgoffwyd bod y gwasanaeth yn fodd i unigolion alw am gymorth ar unrhyw amser, drwy gyffwrdd ar fotwm neu drwy actifadu cyfres o synwyryddion sydd wedi cael eu gosod yn y cartref.

 

Cadarnhawyd bod ‘Beam Notes’ wedi cael ei dreialu o fewn y gwasanaethau yn ddiweddar. Nodwyd ei fod yn feddalwedd symudol sydd yn gwrando ar sgyrsiau gan lunio cofnodion a chrynhoad o’r sgwrs. Nodwyd bod adborth o’r treial yn nodi ei fod yn lwyddiannus gan fod ansawdd y ddogfennaeth yn safonol. Ymhelaethwyd bod y feddalwedd yn cael ei rannu yn ehangach ar draws yr Adrannau erbyn hyn er mwyn lleihau baich a phwysau gweinyddol.

 

Mynegwyd balchder bod yr Adran Oedolion wedi cyflwyno adnodd i gefnogi gweithwyr gofal rheng flaen o fewn cartrefi gofal er mwyn darparu gwersi Cymraeg, gloywi iaith a chodi hyder. Adroddwyd bod yr adnodd hwn ar gael hyd ddiwedd Mawrth 2027 ond gobeithiwyd bydd modd parhau gyda’r trefniadau i’r dyfodol. Yn debyg, eglurwyd bod yr Adran yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor ar brosiect ARFer, i edrych ar sut mae modd dylanwadu ar arferion ieithyddol timau’r gweithlu, a bod cynllun cyfeillio yn digwydd ymysg staff er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a chynyddu hyder.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Mynegwyd balchder bod darpariaeth gwasanaeth Dechrau’n Deg o fewn yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd wedi ei ehangu yn ddiweddar. Mewn ymateb i ymholiad am leoliadau sydd yn cynnig y gwasanaeth hwnnw yn ddwyieithog yn hytrach na Cymraeg yn unig, eglurodd y Swyddog Gweithredol, bod dau lleoliad yn cyfathrebu yn Saesneg mewn rhai achosion tra mae’r teuluoedd yn ymgyfarwyddo gyda’r gwasanaeth. Cadarnhawyd bod hyn yn angenrheidiol gan nad yw’r teuluoedd o reidrwydd yn meddu â sgiliau’r Gymraeg. Fodd bynnag, sicrhawyd bod y gwasanaethau hyn yn trosi i’r Gymraeg pan mae’r plentyn wedi ymgyfarwyddo gyda’r Gymraeg, ac yn gallu cyfathrebu’n ddwyieithog. Sicrhawyd bydd yr Adran yn cadarnhau rhesymau pellach pam bod y lleoliadau hynny yn cael eu dynodi fel safleoedd dwyieithog gyda’r Aelodau ac yn amlygu hyn mewn adroddiadau’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar waith y Tîm Cefnogi Teuluoedd yn y maes Datblygiad Iaith, eglurodd y Swyddog Gweithredol bod y gwasanaeth yn weithredol ar draws y Sir, gan arwain at effaith cadarnhaol ar blant a theuluoedd Gwynedd. Ymhelaethwyd bod y tîm yn gweithredu drwy ymateb i geisiadau am gymorth ychwanegol gan deuluoedd unigol yn hytrach na darpariaethau gofal plant yn unig. Cadarnhawyd bydd yr Adran yn adrodd yn ôl i’r Aelodau ar ddata penodol am y Tîm.

 

Derbyniwyd sylw y byddai’n fuddiol i adroddiad yr Adrannau gymharu ystadegau dros nifer o flynyddoedd er mwyn gweld os oes unrhyw dueddiadau ieithyddol yn codi. Manylwyd ar ddata a oedd yn cadarnhau bod 41% o blant 3 oed a throsodd wedi dewis Cymraeg fel eu hiaith ddewisol, a hefyd at ddata oedd yn nodi bod 74% o ymholiadau i’r tîm Gwybodaeth i Deuluoedd wedi dewis derbyn gohebiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Swyddog Gweithredol, y byddai modd casglu’r data er mwyn dangos tueddiadau dros dreigl amser o fewn yr adroddiad i’r dyfodol. Ymhellach, nododd y Pennaeth Cynorthwyol Gweithredol, mai 41% o blant sydd yn dewis Cymraeg fel iaith ddewisol oherwydd bod teuluoedd Cymraeg, Saesneg a theuluoedd sydd wedi mudo yma o du hwnt i Brydain yn defnyddio’r gwasanaethau ac nid yw’n adlewyrchiad ar y cynnig o wasanaeth Cymraeg rhagweithiol mae’r Adran yn ei ddarparu. Pwysleisiwyd bod y gweithwyr yn siarad Cymraeg gyda’r plentyn, hyd yn oed os yw’r rhieni yn ddi-gymraeg, os ydynt yn teimlo ei fod yn effeithiol ar gyfer eu datblygiad. Ymhelaethwyd bod staff a theuluoedd yn hapus i newid iaith cyfathrebu i’r Gymraeg, ar ôl i ddarpariaeth cefnogaeth gychwyn, pan mae modd gwneud hynny.

 

Mewn ymateb i gais am ddata am ddewis iaith gwasanaeth yr Adran Oedolion, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod cynlluniau ar waith i gryfhau sut mae data ieithyddol yn cael ei gofnodi. Manylwyd bod y gweithdrefnau hyn yn cael eu cryfhau gyda system newydd Mosaic (system rheolaethol achosion gofal plant ac oedolion) gan fod holl wybodaeth ar gyfer achosion yn cael eu cofnodi yno.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar ba effaith mae prosiectau’r Adran Oedolion yn ei gael ar yr iaith Gymraeg, eglurodd Pennaeth yr Adran bod casglu data ar gyfer prosiectau penodol yn heriol. Fodd bynnag, nodwyd y byddai grŵp Mwy na Geiriau yn ystyried mesurau i geisio asesu effaith ieithyddol prosiectau’r Adrannau ar drigolion Gwynedd. Ystyriwyd byddai hyn yn gallu cynnwys straeon o newyddion da a data penodol i’r dyfodol. Ymhelaethwyd bod y grŵp Mwy na Geiriau yn sicrhau bod pob aelod o staff yn rhoi cynnig rhagweithiol o wasanaethau cyfrwng Gymraeg ar draws yr Adrannau. Cyfeiriwyd at gyfres o fideos sydd wedi cael eu cynhyrchu er mwyn annog pawb i gychwyn unrhyw sgwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mewn ymateb i ymholiad, mynegwyd balchder bod cyfres gyntaf podlediad uniaith Gymraeg ‘Mam, Dad a Magu’ wedi bod yn lwyddiant mawr a nodwyd y gobeithir bydd modd gwneud ail gyfres yn y dyfodol. Eglurwyd bod trefniadau mewn lle i ymgynghori gyda theuluoedd er mwyn canfod pa bynciau hoffent i’r podlediad ei drafod.

 

Tynnwyd sylw bod yr Adrannau wedi nodi yn eu hadroddiad i’r Pwyllgor Iaith yn 2025, eu bod yn cydweithio gyda Coleg Meirion Dwyfor er mwyn tanio diddordeb o fewn y maes gofal mewn ymgais i recriwtio aelodau staff. Mewn ymateb i ymholiad am ddiweddariad ar y cynllun hwn, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran Oedolion bod y berthynas gyda Coleg Meirion Dwyfor yn parhau. Tynnwyd sylw bod yr Academi Gofal bellach yn ei ail flwyddyn gan fynegi balchder bod unigolion wedi cael ei recriwtio iddo a bod unigolion yn hyderus bod gyrfaoedd ar gael o fewn y maes gofal, ac yn ymfalchïo y gallasent weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran Oedolion bod heriau recriwtio yn parhau, gan nodi ei fod yn her gynyddol wrth i aelodau staff presennol gyrraedd oed ymddeol. Cadarnhawyd bod gweithgor wedi cael ei sefydlu ar y cyd gyda gwasanaethau iechyd, Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a’r Adran Oedolion gyda chymorth gwasanaeth adnoddau dynol er mwyn denu mwy o bobl i yrfa yn y maes gofal. Nodwyd bod y gweithgor hwn yn ceisio ymateb i ystadegau sydd yn nodi bod llai o unigolion yn cwblhau cyrsiau o fewn y maes. Ymhellach, nodwyd bod yr Adrannau wedi llwyddo i ddatblygu sgiliau’r staff drwy annog a chaniatáu amser er mwyn cyflawni cyrsiau o fewn oriau gweithio, gan ganiatáu i bobl aros o fewn y Sir. Yn debyg, cadarnhawyd bod yr Adrannau wedi llwyddo i benodi aelodau staff wrth iddynt astudio o fewn y maes gofal, gan gadarnhau y byddent yn gymwys i weithio ymhen blwyddyn. Nodwyd bod yr aelodau staff hynny yn meddu â sgiliau Cymraeg ac yn lleol i’r ardal.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: