Agenda item

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol drafft i’r Aelodau.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Gymraeg, ac yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Mynegwyd balchder bod cynnydd yn niferoedd staff y Cyngor sydd yn meddu ar sgiliau Cymraeg a bod cynnydd hefyd i’w weld yn niferoedd unigolion sydd yn mynychu hyfforddiant er mwyn datblygu eu sgiliau iaith.

 

Atgoffwyd mai gweledigaeth y Cabinet a’r Cyngor yn ei gyfanrwydd yw cynyddu cyfleoedd i drigolion Gwynedd i weld a defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd. Tynnwyd sylw at adran newydd o’r Adroddiad Blynyddol sydd yn rhannu enghreifftiau o sut mae pob Adran yn mynd ati i wneud hyn yn effeithiol.

 

Cadarnhawyd bod pob Adran o fewn y Cyngor yn cydymffurfio’n llawn â safonau’r Gymraeg ac yn cyfrannu i’r strategaeth iaith.

 

Amlygwyd bod Tîm y Gymraeg wedi bod yn cydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg, ARFOR, Rhwydwaith, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ac eraill er mwyn cyd-ddysgu a rhoi platfform i’r gwaith da sydd yn digwydd drwy’r Gymraeg yng Ngwynedd.

 

Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau cyffroes sydd ar waith dros y flwyddyn nesaf megis Polisi Iaith Addysg, Bwrdd Rhaglen y Gymraeg a’r Siarter Twf: Y Gymraeg yn y Gweithle.

 

Tynnwyd sylw at gywiriad i’r adroddiad (Tudalen 17 o’r Adroddiad Blynyddol), ynglŷn â data ar niferoedd aelodau staff sy’n cyrraedd Dynodiadau Iaith eu swydd a throsolwg o lefelau iaith y staff. Pwysleisiwyd bod y ffigyrau sydd wedi cael eu cynnwys o fewn yr adroddiad yn gywir ond cydnabuwyd nad oedd y canrannau. Cadarnhawyd y wybodaeth fel a ganlyn ar gyfer 2025/26:

 

·        Staff sy’n cyrraedd Dynodiadau Iaith eu swydd – 3269 (91.6%)

·        Staff nad ydynt yn cyrraedd Dynodiadau Iaith eu swydd – 299 (8.4%)

·        Staff sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg (o unrhyw fath) – 3271 (99.3%)

·        Staff heb unrhyw sgiliau yn y Gymraeg – 22 (0.7%)

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu y bydd modd ychwanegu data ar gyfer cyfnod o 4 mlynedd o fewn yr adroddiad ar faterion megis defnydd iaith a niferoedd staff sydd yn cyrraedd Dynodiad Iaith eu swyddi, er mwyn amlygu unrhyw batrymau neu dueddiadau.

 

Mewn ymateb i ymholiad, pwysleisiodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu nad oedd y ffaith bod 8.4% o staff y Cyngor yn cyrraedd Dynodiad Iaith eu swydd yn cael unrhyw effaith ar wasanaethau rheng flaen. Nodwyd bod y mwyafrif o’r  aelodau staff sydd ddim yn cyrraedd y Dynodiad Iaith yn weithwyr gofal neu staff ategol mewn ysgolion. Ychwanegodd y Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod unigolion yn derbyn cymorth ieithyddol yn fuan yn dilyn eu penodiad. Amlygwyd bod nifer o unigolion sydd ddim yn cyrraedd y Dynodiad Iaith eisoes yn meddu â sgiliau’r Gymraeg ac yn agos iawn i gyrraedd y safon ddisgwyliedig, gan gadarnhau bod yr anogaeth a chefnogaeth ar gael iddynt wneud hynny o fewn eu swydd. Cadarnhawyd mai cynyddu hyder staff i ddefnyddio’r Gymraeg yw’r ffactor sydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf fel arfer.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod gwaith monitro parhaus ar gwynion mae’r Cyngor yn ei dderbyn ar faterion y Gymraeg, er mwyn gweld os oes unrhyw themâu penodol yn codi. Pwysleisiwyd nad oes unrhyw thema wedi dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Mewn ymateb i ymholiad, derbyniwyd diweddariad gan yr Ymgynghorydd Iaith ar ffocws y Fforwm Ieuenctid dros y flwyddyn nesaf. Manylwyd y gobeithir sefydlu nifer o is-grwpiau gyda ffocws ar faterion busnes a chymunedol yn ystod y flwyddyn. Atgoffwyd bod yr Is-grŵp pobl ifanc eisoes yn weithredol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: