I gyflwyno
canlyniadau yr arolwg.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a
Chraffu. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:
Eglurwyd bod yr astudiaeth yn cyflwyno dull arloesol o fesur
ac arsylwi defnydd y Gymraeg mewn mannau cyhoeddus dan do, mewn lleoliadau sydd
yn darparu gwasanaethau Cyngor Gwynedd a Byw’n Iach i drigolion.
Diolchwyd i Dr Rhian Hughes a Dr Cynog Prys o Brifysgol
Bangor am eu cymorth wrth gyflawni’r arolwg. Nodwyd bod methodoleg arolygon
stryd a ddefnyddiwyd yng Ngwlad y Basg wedi’i addasu er mwyn casglu data mewn
amrywiaeth o leoliadau gwasanaeth megis derbynfeydd Siop Gwynedd,
llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chanolfannau alwadau ar draws tri lleoliad
gwahanol yn y Sir.
Adroddwyd mai nod y gwaith oedd sefydlu gwaelodlin gadarn,
annibynnol a gwrthrychol ar gyfer monitro defnydd iaith dros amser tra hefyd yn
ymateb i’r diffyg presennol o ddata meintiol dibynadwy yn y maes hwn.
Amlygwyd bod canlyniadau’r arolwg yn dangos:
·
Bod y Gymraeg yn parhau’n iaith gymunedol gref
mewn sawl ardal.
·
Bod defnydd yn lleihau gyda chynnydd mewn
oedran:
o
90.3% o’r grŵp 2-15 oed
o
69.8% o’r grŵp 16-24 oed
o
68.9% o’r grŵp 25-64 oed
o
58.3% o’r grŵp 65 oed a throsodd
·
Bod cyd-destun sefyllfaoedd, os yn fater
ffurfiol neu anffurfiol, yn cael dylanwad sylweddol ar ddewis iaith.
Ymhelaethwyd bod defnydd is o’r Gymraeg i’w weld mewn sefyllfaoedd ffurfiol,
sy’n awgrymu presenoldeb diglosia o fewn ein
cymunedau. Eglurwyd bod diglosia yn digwydd pan fo dau fath o iaith yn bodoli ochr
yn ochr mewn cymdeithas, gyda'r naill yn cael ei defnyddio mewn cyd-destunau
swyddogol, addysgol, neu ffurfiol (fel dogfennau swyddogol), a'r llall yn cael
ei ddefnyddio mewn cyd-destunau mwy anffurfiol (fel mewn sgwrs rhwng ffrindiau
neu yn y cartref).
Diweddarwyd y gobeithir cynnal yr arolwg eto, er mwyn derbyn
data cyson ble gellir ei ddefnyddio i dargedu lleoliadau ar gyfer ymyraethau
ble mae’r angen yn codi.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:-
Mewn ymateb i bryder nad yw canlyniadau’r arolwg yn
adlewyrchu gwir ddefnydd y Gymraeg o fewn cymunedau, pwysleisiodd yr Uwch
Ymgynghorydd Iaith a Chraffu mai ciplun o ddefnydd iaith a geir o fewn yr
arolwg. Pwysleisiwyd bod yr holl ffeithiau yn gywir ac mai tri lleoliad yn unig
oedd wedi ei ddewis ar gyfer y peilot gan eu bod yn ardaloedd ble mae swyddfa a
gwasanaethau’r Cyngor yno.
Mewn ymateb i ymholiad, damcaniaethwyd
bod y ganran o ddefnydd Cymraeg o fewn grwpiau oedran yn lleihau wrth i bobl
fynd yn hyn oherwydd effeithiau mewnfudo ac allfudo o’r ardal. Cysidrwyd bod y
ffaith bod canrannau uchel iawn i’w weld yn yr oedrannau iau yn adlewyrchu
llwyddiannau’r Adran Addysg i ddarparu gwasanaethau cyfrwng y Gymraeg yn
effeithiol. Ystyriwyd bod dyfodiad technoleg yn cyflwyno her newydd gan fod
angen sicrhau bod holl feddalweddau yn caniatáu i
unigolion dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg. Pwysleisiwyd bydd yr her hon yn
derbyn sylw gan yr Uned iaith, pan fydd gwefan newydd Cyngor Gwynedd yn
weithredol o fewn y misoedd nesaf, ac yn derbyn ystyriaeth barhaus i’r dyfodol.
Mewn ymateb i ymholiad, cydnabuodd
yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod targed Llywodraeth Cymru o filiwn o
siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn heriol iawn, tra hefyd yn nodi ei fod yn
ysbrydoledig i fod yn uchelgeisiol. Pwysleisiwyd ei fod yn gyfrifoldeb ar bawb;
yn fusnesau, sefydliadau ac unigolion, i weithio tuag at y targed er mwyn rhoi
ymdrech gref i’w gyrraedd.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
Dogfennau ategol: