I’w
gyflwyno gan Kathy Wyn Bell (Cyfrifydd Grŵp – Ysgolion).
Adroddiad
i ddilyn
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad llafar gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion. Tywyswyd yr aelodau drwy
dablau balansau ysgolion o Fawrth 2017 i Fawrth 2026, gan dynnu sylw’n benodol
at:-
·
Bod cynnydd sylweddol ym malansau ysgolion yn ystod
2021/22, yn ystod cyfnod COVID, o ganlyniad i’r arian ychwanegol a ddychwelwyd
a’r cyfnodau y bu ysgolion ar gau am gyfnod, gan arwain at leihad sylweddol
mewn costau.
·
Bod lleihad ym malansau 2023/2024, gan gyfeirio at
grant hwyr yn 2024 a ddangoswyd ym malans 2025.
·
Bod, o’r 94 ysgol yn y sir, 7 ysgol gynradd a 3
ysgol uwchradd mewn diffyg.
·
Bod lleihad sylweddol o 2025 i 2026 yn y sector
uwchradd o ran cyllid.
·
Bod ysgolion yn y broses o osod cyllidebau ac y
bydd hyn yn amlygu tebygolrwydd lefel y balansau erbyn diwedd Mawrth 2027.
·
Bod disgwyl i lefel y balansau leihau gan fod amryw
o ysgolion yn cwtogi staff ar gyfer Medi o ganlyniad i gytundebau dros dro nad
ydynt yn cael eu hymestyn.
·
Bod lefel y balansau yn agosáu at y lefel o 5%, sef
canran sy’n cael ei gweld fel lefel resymol i ysgolion ei chael.
·
Amlygwyd bod balansau ysgolion yn genedlaethol wedi
disgyn o £64.9m yn 2025 i £11.3m yn 2026 ac, allan o 1,444 o ysgolion yn
genedlaethol, roedd 497 ysgol mewn diffyg yn ystod 2026.
·
Bod y sir yn wynebu lleihad yn nifer y disgyblion
yn y dyfodol, a fydd yn arwain at fwy o ddefnydd o falansau hyd nes bod
ysgolion yn pwyso a mesur pa mor hir y gallant gynnal y lefelau presennol wrth
symud ymlaen.
·
Bod holiaduron balansau wedi eu hanfon allan at
ysgolion, gyda disgwyliad i unrhyw ysgol sydd â mwy na 5% o falansau adrodd i’r
awdurdod ar ei bwriadau a pha ddefnydd y mae’n ei wneud o’r arian.
·
Bod gan yr awdurdod hawl, mewn achosion penodol, i
gyfarwyddo ysgolion sut i ddefnyddio eu balansau a thynnu arian yn ôl os nad
yw’n hapus â sut mae’r arian yn cael ei ddefnyddio. Cadarnhawyd, ers i’r
hawliau hyn ddod i rym, nad yw’r pŵer erioed wedi gorfod cael ei
ddefnyddio o fewn y sir.
·
Bod bwriad i’r Adrannau Cyllid ac Addysg weithio ar
y cyd ag ysgolion i sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r arian sydd ar gael.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Cwestiynwyd a
oedd un ysgol mewn dyled yn bwydo i mewn i’r ffigurau ac yn gwneud i gyfanswm y
balansau edrych yn llai. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y ffigurau’n adrodd ar y
sefyllfa net ac felly bod ysgolion mewn dyled yn cael effaith ar y ffigurau net
hyn.
Mynegwyd pryder
ynghylch y duedd a’r newid yn nemograffeg y sir a phwysleisiwyd yr angen i
ysgolion ymateb i’r patrwm hwn wrth symud ymlaen ac wrth gynllunio’r gweithlu.
Mewn ymateb, nodwyd mai hon oedd y drydedd flwyddyn lle gwelwyd nifer y
genedigaethau yng Ngwynedd o dan fil, ac felly bod y patrwm yn glir ac yn codi
pryder.
Tanlinellwyd, er
bod y cyllid wedi lleihau ers COVID, fod balansau yn parhau’n sylweddol uwch yn
ystod cyfnod 2024-2026 o gymharu â’r cyfnod cyn COVID. Mewn ymateb, cytunwyd
bod hyn yn wir ond disgwylir i lefel y balansau leihau’n sylweddol erbyn diwedd
y flwyddyn ariannol bresennol.
Mynegwyd y farn
ei bod yn anfoesol bod y sir yn cario cymaint o falansau, gan mai er budd y
disgyblion y mae’r arian wedi ei neilltuo. Mewn ymateb, cytunwyd â’r teimlad
hwn, ond nodwyd mai realiti’r sefyllfa yw bod sawl ysgol yn ceisio rheoli
cyllidebau’n ofalus, ac efallai’n dal gormod yn ôl, gan arwain at falansau
uchel. Cytunwyd bod y balansau yn rhy uchel ond cadarnhawyd eu bod ar y ffordd
i lawr.