I’w gyflwyno gan Gwern ap Rhisiart (Pennaeth Addysg).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad llafar gan y Pennaeth Addysg. Nodwyd bod sawl pennaeth wedi mynegi’r
farn bod angen adolygu dyraniad y sector uwchradd a bod angen mwy o eglurder
ynghylch y fformiwla ei hun. Mynegwyd diddordeb mewn deall a oedd ysgolion y
sir yn gwneud y defnydd gorau o’r cyllid yr oeddent yn ei gael, a oedd y
rheolau cyllido yn gadarn o ran ein hysgolion, a sut yr oedd y cyrff
llywodraethu yn cael mewnbwn i’r trefniadau. I’r diben hwn, cadarnhawyd bod
Eifion Jones wedi ei gomisiynu i wneud darn o waith penodol o fewn y sector
uwchradd. Nodwyd bod Eifion Jones wedi ymweld â phob ysgol uwchradd o fewn y
sir, siarad â phob pennaeth a chynrychiolaeth o’r tîm busnes, gan edrych ar
drefniadau’r ysgolion ac, y tu hwnt i’r ysgolion, gwneud gwaith yn edrych ar y
fformiwla gyllido ei hun er mwyn dod i gasgliad ynghylch a oedd yn adlewyrchiad
teg o’r hinsawdd bresennol a sefyllfa niferoedd presennol y plant mewn
ysgolion.
Cadarnhawyd, o’r
argraffiadau cychwynnol o’r gwaith, bod gwaith i’w wneud i fireinio’r fformiwla
a bod angen edrych ar agweddau penodol mewn mwy o fanylder, er enghraifft
ysgolion â mwy na 900 o ddisgyblion ac elfennau carfannau iaith. Awgrymwyd ei
bod yn briodol i’r Fforwm ofyn i Eifion Jones ddod i roi adroddiad ar ei
ganfyddiadau yn y cyfarfod nesaf. Gobeithiwyd y byddai’r Adran mewn sefyllfa i
adrodd a’r hyn y bwriedid ei wneud wrth symud ymlaen o ganlyniad i argymhellion
adroddiad Eifion Jones. Cadarnhawyd y byddai Eifion Jones yn adrodd yn ôl i’r
Adran cyn diwedd tymor yr haf, gyda’r bwriad, yn dilyn hyn, o gyfarfod â phob
pennaeth uwchradd i sicrhau bod eglurder ynghylch y gwaith yn cael ei raeadru
iddynt ac i’r cyrff llywodraethu maes o law.
Mynegwyd bwriad i
greu system addysg o fewn Gwynedd sy’n sicrhau cyfundrefn deg i bawb, a nodwyd
mai dyma’r bwriad y tu ôl i’r fformiwla, er mwyn sicrhau ei bod yn deg i bob
ysgol, waeth beth fo’i maint. Mynegwyd bwriad i
ymladd dros arian ychwanegol i sicrhau nad oedd neb yn colli o ganlyniad i’r
newidiadau yn y fformiwla ac i sicrhau bod unrhyw fath o annhegwch o fewn y
fformiwla yn cael ei unioni.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mynegwyd pryder y
byddai unrhyw newidiadau yn y fformiwla yn arwain at rai ysgolion yn colli
arian, yn enwedig yn y sector cynradd. Mewn ymateb, nodwyd bod y gwaith yn
edrych yn benodol ar y sector uwchradd ar hyn o bryd, gyda’r posibilrwydd o
ehangu’r gwaith i’r cynradd yn y dyfodol. Cadarnhawyd nad oedd bwriad i dynnu
arian o’r sector cynradd i ariannu’r uwchradd fel rhan o’r gwaith. Mynegwyd
gobaith y byddai posibilrwydd o ddenu mwy o fuddsoddiad i’r sector uwchradd er
mwyn osgoi bod unrhyw ysgol yn colli o ganlyniad i’r gwaith hwn.
Cwestiynwyd ai’r
ysgolion llai sy’n creu’r problemau o fewn y fformiwla gyllido. Mewn ymateb,
nodwyd bod hyn yn wir i ryw raddau ond ei fod yn esboniad rhy syml i gyfleu’r
sefyllfa yn ei chyfanrwydd. Eglurwyd bod sawl ffactor sy’n creu problemau o
fewn y fformiwla gyllido. Cadarnhawyd bod y darn o waith penodol a drafodwyd yn
edrych ar greu tegwch o fewn y fformiwla a’r drefn bresennol.
Nododd y
Cadeirydd fod heriau’n effeithio ar ysgolion uwchradd llai yn ogystal ag
ysgolion â niferoedd uwch, a’i bod yn bwysig cadw hyn mewn cof.