Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

Cofnod:

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)       Cwestiwn Y Cynghorydd Huw Rowlands

 

A ydy'r Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ymwybodol o rwystredigaeth gynyddol y cyhoedd oherwydd yr oedi sylweddol gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Grŵp Cynefin o ran sefydlu canolfan iechyd ym Mhenygroes, sef Canolfan Lleu, a hefyd yr oedi sylweddol gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o ran sefydlu Canolfan Iechyd newydd yn Waunfawr?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Diolchwyd am y cwestiwn a'r cyfle i godi ymwybyddiaeth am faterion sydd yn effeithio’r cyhoedd. O ganlyniad i’r negeseuon pwysig sydd yn yr ymateb ysgrifenedig nododd i fod am ei ddarllen fel a ganlyn.

 

Yn fy rôl fel Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Gogledd rwyf yn cydweithio’n agos gyda’r Bwrdd Iechyd ac yn cael adroddiadau cyson am y sefyllfa. Mae’r adroddiadau hyn yn berthnasol i’r cynlluniau a nodwyd ond hefyd i gynlluniau ehangach er mwyn gwella darpariaeth iechyd ar draws y rhanbarth. Cadarnhaf felly fy mod yn ymwybodol o’r sefyllfa a deallaf y rhwystredigaethau.

 

Fodd bynnag, hoffwn gynnig sicrwydd i’r aelod o’r gwaith cadarnhaol a chydweithio cryf sydd yn digwydd rhwng ein gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn Nyffryn Nantlle a Waunfawr. Mae gweithwyr proffesiynol o’r ddau sefydliad yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd, ymweliadau ar y cyd, asesiadau cydweithredol a thrafodaethau amlddisgyblaethol i sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Mae diwylliant cryf o ddatrys problemau ar y cyd wedi datblygu, ac mae hyn yn wir ar draws y sir - nid dim ond i’r ardaloedd dan sylw, gyda staff yn gweithio'n greadigol ac yn hyblyg i ddod o hyd i atebion ymarferol i anghenion cymhleth.

 

Gwelir enghreifftiau da o gydweithio rhwng timau iechyd a gofal cymdeithasol i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty, hwyluso rhyddhau amserol pan fo unigolion yn barod i adael ysbyty, a sicrhau bod y gefnogaeth briodol yn ei lle yn y gymuned. Mae cydweithio agos hefyd yn digwydd gyda'r gwasanaeth Tuag Adref er mwyn sicrhau dilyniant gofal cymesur a di-dor i unigolion wrth drosglwyddo o'r ysbyty yn ôl i'w cartrefi a'u cymunedau. Mae'r trefniadau hyn yn brawf o’r cydweithio rhwng partneriaid lleol gyda’r nod o wella canlyniadau i bobl leol ac i ddarparu gwasanaethau mwy integredig ac effeithiol.

 

Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Huw Rowlands

 

Be all Cyngor Gwynedd ei wneud i sicrhau gwireddu Canolfan Iechyd Waunfawr a Chanolfan Lleu yn y dyfodol rhagweladwy?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Diolchwyd am y cwestiwn. Mynegodd wedi iddo dderbyn y cwestiwn gwreiddiol ei fod wedi cysylltu â Chadeirydd y Bwrdd Iechyd yn bersonol, a bellach ei fod wedi derbyn amserlen lawn ganddo o beth yw’r cynlluniau yn ddau leoliad. Nododd y bydd yn ei rannu gyda’r Aelod a holodd y cwestiwn ynghyd a’r aelodau lleol i’r ardaloedd hynny.

 

(2)       Cwestiwn Y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Yn dilyn dyfarniad unfrydol y Goruchaf Lys yn achos For Women Scotland v Scotland Ministers (Ebrill 2025) bod 'sex' yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu rhyw biolegol (birth sex), a chanllawiau diweddaraf yr EHRC sy'n cadarnhau hynny (gan gynnwys y Cod Ymarfer a ddiweddarwyd yn 2026 ), mae’n dilyn o dan y gyfraith fod caniatáu “merched traws“ i fynd i mewn i fannau merched yn unig yn golygu na ellir amddiffyn y gofod yn gyfreithlon mwyach fel gofod i ferched yn unig. Pa gamau penodol felly y mae'r Cyngor wedi'u cymryd, neu'n bwriadu eu cymryd, i adolygu a diweddaru ei bolisïau, ei weithdrefnau a’i wasanaethau (e.e. toiledau, ystafelloedd newid, ysgolion, gwasanaethau un rhyw, chwaraeon, recriwtio) er mwyn ymgorffori'r canllawiau hyn yn llawn a pha bryd fydd adroddiad neu gynllun gweithredu ar y mater hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet neu'r Cyngor?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd Llio Elenid Owen

 

Atebwyd drwy bwysleisio pwysigrwydd nodi fod Canllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau dynol yn rhai drafft ar hyn o bryd a'i fod yn parhau i fod yn destun ymgynghoriad, ystyriaeth a datblygu pellach cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael eu gwneud. Eglurwyd y bydd y Cyngor, wrth symud ymlaen, yn ystyried ei ddyletswyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol yn ofalus, ac yn ceisio sicrhau bod unrhyw newidiadau yn y dyfodol y gyfreithlon, cytbwys a chymesur.

 

Amlygwyd un o’r egwyddorion allweddol yr adolygiad wrth symud ymlaen fydd i gynnal urddas, diogelwch a pharch pob unigolyn, gan gydnabod yr angen i ystyried a chydbwyso ystod o hawliau gwarchodedig yn ymarferol. Nodwyd fod yr Arglwydd Farnwr Hodge wedi nodi na ddylid gweld y dyfarniad fel buddugoliaeth o un ochor dros y llall, a bod pobl draws yn cael ei diogelu dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn yr un modd ag unrhyw nodwedd arall.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Gan fod y Cyngor eisoes wedi dechrau archwilio’r goblygiadau dyfarniad Llys Goruchaf a chanllawiau drafft EHRC a “sex” fel rhyw biolegol, a allwch chi roi manylion penodol ar ba bolisïau neu wasanaethau sydd wedi’i hadolygu hyd yma er enghraifft toiledau, ystafelloedd newid, gwasanaethau un rhyw mewn ysgolion a  chwaraeon, beth yw’r amserlen ar gyfer cwblhau’r adolygiadau a pryd fydd adroddiad neu gynllun gweithredu yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet neu Gyngor Llawn? 

                                                     

Ateb yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd Llio Elenid Owen

 

Tynnwyd sylw unwaith eto fod y canllawiau yn parhau i fod yn rhai fersiwn drafft ac y bydd y Cyngor yn parhau i fonitro datblygiadau a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol unwaith y bydd fersiwn terfynol wedi’i gyhoeddi. Mynegodd ei fod yn destun trafodaeth gyson gyda’r swyddogion ac y byddant yn ystyried adroddiad i Gabinet os angen yn codi.

 

Cymerwyd y cyfle i ategu ymateb i’r un cwestiwn a dderbyniwyd y llynedd - sef fod y Cyngor yn ymrwymo i gefnogi hawliau merched a phobl draws a bod brwydro dros hawliau merched yn golygu brwydro dros hawliau merched dosbarth gweithiol, merched anabl, merched o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, a merched LGBTQ sy’n cynnwys merched traws. Pwysleisiwyd y dylai pawb gael y rhyddid i ddewis eu hunaniaeth rhywedd eu hunain ac y dylid parchu hynny ac yn sicr peidio ei heithrio o gymdeithas. Nodwyd fod croeso i bawb yng Ngwynedd a bod angen cefnogi a pharchu hawliau pawb. Mynegwyd fod amddiffyn hawliau pawb yn sail i safbwynt Plaid Cymru.

 

Nodwyd fod loes calon meddwl fod rhai pobl yng Ngwynedd yn gallu camddefnyddio’r dyfarniad hwn i wneud bywydau a cymunedau ar yr ymylon yn anoddach, a'u bod fel Cynghorwyr yma i gefnogi pob un o drigolion Gwynedd i gyd-fyw ac i fyw eu bywydau gydag urddas a pharch.

 

Dogfennau ategol: