Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros
Wasanaethau Cymdeithasol.
I gychwyn ei gyflwyniad dangoswyd fideo am y cathod
electroneg sy’n cael ei gynnig i gynorthwyo pobl gydag unigedd ac arwahanrwydd.
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan gychwyn yn diolch i’r staff sydd gan y Cyfarwyddwr i’w gynorthwyo
gyda’r gwaith. Mynegwyd fod y fideo a ddangoswyd yn un o nifer sydd yn hybu ac
yn esbonio’r gwaith mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei wneud, ac yn dathlu pan
mae gwaith da yn cael ei wneud. Er hynny nodwyd ei bod yn anodd sefyll yno yn
ymfalchïo ar ôl blwyddyn mor gythryblus.
Amlygwyd pwysigrwydd adroddiad Cyfiawnder dros eu Dewrder er
pa mor anodd yw cydnabod beth sydd wedi digwydd ynghyd ar oblygiadau hir dymor
sydd i’r Cyngor a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mynegwyd balchder yn y gwaith cadarnhaol ac adeiladol sydd wedi ei
wneud er mwyn sicrhau fod trefniadau diogelu ac amddiffyn y Cyngor y gorau posib.
Nodwyd ei bod yn drasiedi i’r unigolion
ynghyd a staff a disgyblion Ysgol Friars sydd wedi’i
heffeithio. Ymhelaethwyd ar y gwaith diogelu sydd wedi ei wneud sydd yn mynd y
tu hwnt i Wasanaethau Cymdeithasol a bod gwaith yn cael ei wneud ar y cyd gyda
Gwasanaethau Corfforaethol i amlygu ei bod yn gyfrifoldeb ar bawb. Ychwanegwyd
y bydd gwefan yn amlygu’r camau i adrodd ar unrhyw bryder, cefnogaeth a
gwybodaeth yn cael ei lansio yn fuan.
Nodwyd fod maint yr adran yn ddychrynllyd o fawr gyda
gwariant o bron i £150miliwn, gyda 1500 o staff yn fewnol a bron i 3000 o
staff wrth edrych ar waith sy’n cael ei
gomisiynu. O ganlyniad, ategwyd fod maint ac anferthedd y gwasanaethau yn ei
gwneud yn heriol i Gynghorwyr herio’r gwasanaethau ar ei gwaith. Pwysleisiwyd
fod methiannau yn anorfod a'u bod wedi bod yn
amlwg iawn drwy Adroddiad Cyfiawnder drwy eu Dewrder ac yn fwy diweddar
achos Bryn Ffynnon, er hynny fod yr adran yn ceisio gwella gwasanaethau. Eglurwyd
ei bod yn system sylweddol o bwys ond dan bwysau a bod angen amddiffyn a
diogelu plant ac oedolion yn well, a'u bod dan bwysau i wella a bod angen
buddsoddi er mwyn gwneud hyn. Tynnwyd sylw at y faith fod llawer o arian wedi
ei fuddsoddi dros y misoedd diwethaf er mwyn gallu ymateb i heriau yn gynt.
Pwysleisiwyd fod arian yn her. Esboniwyd fod gwaith mewnol
yn cael ei wario yn dryloyw ond fod costau allanol megis costau cartrefi plant
arbenigol yn uchel tu hwnt a bod y galw ar wasanaethau yn cynyddu. Tynnwyd sylw
i’r faith fod cyfeiriadau plant wedi bron iawn dyblu ers Covid
gyda bron i 8,000 o achosion dros y flwyddyn ddiwethaf. Amlygwyd fod gwaith
Llechen Lan wedi ei gyhoeddi sydd yn amlygu fod demograffeg Gwynedd yn heriol
gyda llai o bobl ifanc a mwy o bobl hyn ac o ganlyniad fod her o ddarparu
gwasanaethau i’r dyfodol. Ymhelaethwyd fod yr adroddiad yn rhoi rhai atebion
ond ei fod hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru am fwy o gefnogaeth.
Nodwyd fod buddsoddiad wedi bod mewn ymyrraeth gynnaf fel bod modd i bobl fyw yn annibynnol a chael
aros yn eu cymunedau. Tynnwyd sylw penodol ar gynlluniau megis Tîm Trobwynt
sydd wedi gweithio gyda 77 plentyn oedd am fynd i’r system gofal ond fod 64
wedi llwyddo i aros adref.
Gyda thechnoleg yn symud mor rhyfeddol o gyflym gyda
Deallusrwydd Artiffisial, mynegwyd yr angen i weithio gydag ef, gan
ddefnyddio’r gath yn y fideo fel enghraifft. Mynegwyd fod ymdeimlad yn cael ei
roi fod defnyddio pethau o’r fath yn bychanu unigolion ond mewn realiti ei fod
yn dangos pa mor real yw’r un cynllun bach yma a sut mae’n newid bywydau.
Eglurwyd fod yr adroddiad yn ceisio dangos y gwir sefyllfa a
bod yn gymesur. Ategwyd fod adroddiad y llynedd yn nodi gobaith o leihau
niferoedd sydd yn disgwyl am ofal cartref, ond nad yw hyn wedi digwydd. Nodwyd
fod hyn oherwydd bod angen edrych ar y ffordd mae’n cael ei ddarparu i sicrhau ei fod yn effeithiol.
Pwysleisiwyd eto mae’r holl fwriad yw i bobl fyw yn eu cymunedau a chael ei
bywyd gorau, sydd yn her gynyddol i’r adran.
Amlygwyd fod gwaith da yn cael ei wneud yn cydweithio gydag
adrannau’r Cyngor megis tai ac addysg a thu hwnt gyda’r heddlu a’r gwasanaeth
iechyd ond fod gwaith i wneud i wella yn draws adrannol ac yn strategaethol
gydag Iechyd. I orffen nodwyd er bod y sefyllfa wedi bod yn heriol mae angen
cydnabod y gwaith sydd wedi ei wneud, a diolchwyd i’r gweithlu sydd o dan
bwysau parhaus ond sydd yn ymroddedig i blant, pobl fregus a henoed i roi’r
gofal a chefnogaeth orau.
Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.
Diolchwyd i’r staff am eu gwaith mewn sefyllfa heriol dros
ben, a chroesawyd adroddiad sy’n amlygu’r gwaith a’r argymhellion sy’n deillio
o adroddiad Cyfiawnder drwy eu Dewrder. Amlygwyd dewrder yr unigolion, pawb
sydd wedi’u cefnogi a’r unigolion sydd wedi dod yn ei blaen yn dilyn yr achos.
Mynegwyd fod yr adroddiad wedi rhoi braint eithriadol i’r Cyngor i ddechrau
eto. Gofynnwyd beth fyddai’r prif ddangosyddion i amlygu’r gwaith sydd wedi’i
wneud i wella diogelwch plant a sut y gwall yr adran sicrhau capasiti, newid mewn diwylliant a threfniadau wrth ymateb i
unrhyw ddysgu pellach. Ymatebwyd drwy nodi fod y mesurau yn amlwg iawn y gwaith
y Bwrdd Ymateb sydd ar y we, ond beth sydd wedi’i bryderu yw bod llais y
plentyn ddim wedi’i glywed ond fod hwn wedi bod yn gyfle i’w wirio. Amlygwyd
fod buddsoddiad wedi’i wneud eleni i sicrhau fod llais plentyn yn ganolog i
beth mae’r adran yn i wneud. Ategwyd fod llawer i’w ddysgu o’r cwynion sydd yn
dod i mewn gan fod adroddiadau chwarterol a blynyddol yn amlygu themâu a bod
camau yn cael eu gwneud i edrych ar weithdrefnau a pholisïau.
Diolchwyd am dynnu sylw at y drefn “Neges mewn Potel” a bod
cyfrifoldeb gan Gynghorwyr i’w hannog yn eu cymunedau. O ran Teleofal, amlygwyd problem genedlaethol sydd wedi’i hamlygu
yn dilyn digideiddio llinellau ffon, ac os oes camau i sicrhau fod y drefn yn
gweithio pan fod trydan yn methu. Ymatebwyd drwy nodi fod problemau wedi codi o
ganlyniad hyn y llynedd, a pan fo risgiau yn cael ei amlygu fod camau
gweithredu mewn lle i sicrhau fod y system yn parhau i weithio.
Holwyd pam fod gwasanaeth Trais yn y Cartref wedi ei leoli
yn yr Adran Tai ac Eiddo, ac onid a ddylai fod yn yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant ble mae'r profiad o asesu a gofalu. Eglurwyd fod y gyllideb ar gyfer
cefnogaeth tai, ble mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu, yn dod yn syth i'r
Adran Dai ac Eiddo gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegwyd fod hyn yn cael ei adolygu
i ddod a'r holl wasanaethau at ei gilydd i greu un gwasanaeth yn hytrach na
phocedi mewn mwy nac un lle. Ategwyd fod gwaith i'w wneud yn ogystal gyda'r
arian sydd yn cael ei dderbyn drwy Gomisiynydd yr Heddlu, gan fod y swydd yn
dod i ben.
Nodwyd fod y gair "methu" wedi dod yn aml yn y
cyflwyniad heddiw ac nad yw'n air nad yw'n hoff o'i ddefnyddio. Amlygwyd fod
gwaith yn cael ei wneud gan weithwyr rheng flaen ble mae pethau bach yn gwneud
gwir wahaniaeth. Mynegwyd fod recriwtio yn broblem yn enwedig i staff rheng flaen
a gofynnwyd a oes rhywbeth yn cael ei wneud i sicrhau nad yw'n parhau i
"fethu". Tynnwyd sylw at
niferoedd sydd yn derbyn gofal cartref, sef 811, holwyd os oedd hyn yn nifer ar
draws y sir. Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn nodi fod 129 o bobl ag anableddau
ar lwybr i waith a gofynnwyd faint bellach sydd wedi derbyn swyddi. Ymatebwyd
drwy nodi fod gwaith da yn cael ei wneud gan staff rheng flaen a bod cydweithio
da yn cael ei wneud ar draws gwasanaethau. Amlygwyd ei bod yn anodd cael staff
ond ymfalchïwyd yng ngwaith yr academi gofal a'r niferoedd a ymgeisiodd am y
rôl. O ran gofal cartref, cadarnhawyd fod y nifer ar gyfer y sir gyfan, a bod
unigolion yn derbyn ar gyfartaledd rhyw 10 awr yr wythnos, ond nad oedd yn
cynnwys yr 20% arall sydd yn derbyn gofal drwy daliadau uniongyrchol. Esboniwyd
fod oddeutu 50 o bobl anabl o'r 129 bellach mewn swyddi.
Bu i un Aelod dynnu sylw at adnoddau ariannol gan amlygu fod
rhai gweithgareddau megis “Hwyl yr Haf” i blant ag awtistiaeth wedi dod i ben.
Amlygwyd ei bod yn angenrheidiol i wybod
gwir effaith cael gwared â gweithgareddau o’r math yma cyn gwneud unrhyw
benderfyniadau. Mynegwyd nad oedd Tîm Derwen ar gyfer gwasanaethau integredig
plant ag anableddau ddim yn cefnogi pob plentyn anabl. Holwyd gyda gofalwyr
di-dâl os oes gwaith yn cael ei wneud i amlygu ei hawliau. Ac i orffen tynnwyd
sylw at y drefn cwynion gan nodi pryderon nad oedd modd i unigolion sy’n gofalu
am oedolion bregus wneud cwyn wrth weld risgiau, gan mai dim ond y defnyddiwr
gwasanaeth sy’n cael gwneud y gwyn. Ymatebwyd drwy nodi fodd Hwyl yr Haf yn gyfres
o ddigwyddiadau a oedd yn cael ei ariannu gan y Llywodraeth, ond fod gwaith yn
cael ei wneud i edrych beth fydd modd ei gynnal i’r dyfodol. O ran gofalwyr
di-dâl nodwyd fod digwyddiadau yn cael ei gynnal ar draws y sir yn lled gyson
er mwyn hyrwyddo hawliau gofalwyr. Ategwyd fod trafodaethau am greu pencampwyr
gofalwyr di-dâl ym mhob ysgol a meddygfa fel bod cefnogaeth gyson ar gael.
Esboniwyd o ran Derwen nad oedd modd cyrraedd pob un plentyn, hynny oherwydd
rhwystrau megis rhestrau aros. Ymatebwyd o ran y sylwadau am gwynion fod y
drefn gwynion yn cael ei gosod gan Lywodraeth Cymru, ac felly dim ond drwy
ganiatâd defnyddwyr gwasanaeth gall ofalwr wneud cwyn am y gwasanaeth, oni bai
ei fod yn fater diogelu.
Amlygwyd fod yr adroddiad yn disgrifio eleni fel un o’r
blynyddoedd mwyaf heriol mae’r adran wedi ei gael. Mewn ymateb i hyn gofynnwyd
a oes modd amlygu'r sialensiau sy’n bodoli ynghyd ag amlygu pa heriau a risgiau
sy’n parhau, ac i amlygu'r gwersi sydd wedi ei dysgu a pa rai sydd wedi arwain
at newid gwirioneddol. Mewn ymateb mynegwyd fod nifer o wersi wedi ei dysgu ond
ei bod yn anodd dewis un, a cynigwyd cyfarfod unigol i’w trafod mewn manylder.
O ran gwersi i’w dysgu'r prif un oedd gwrando ar lais y plentyn, a bod hyn yn
ymestyn ymhellach na’r adran Gwasanaethau Cymdeithasol, a bod angen cyrraedd
pwynt ble mae llais pobl ifanc i’w clywed ym mhob rhan o waith y Cyngor.
Mynegwyd fod swyddog wedi ei benodi er mwyn gwrando ar lais y plentyn o’r
Fforymau Pobl Ifanc, i Blant mewn Gofal a rhai sy’n derbyn cefnogaeth gan
Gyfiawnder Ieuenctid. Drwy hyn, gobeithiwyd y bydd llais holistig yn cael ei
glywed. Wrth edrych ar risgiau nodwyd fod risgiau beunyddiol yn benodol i’r
rhai sy’n derbyn cefnogaeth, ond fod polisïau a gweithdrefnau’n cael ei greu er
mwyn cadw pobl yn ddiogel.
Holwyd am y polisi cwympo, llynedd nodi fod gwaith wedi
cychwyn ond a yw wedi parhau holwyd. Ymateb drwy nodi fod gwaith penodol yn
cael ei wneud ar hyn o bryd, er nad yw wedi ei fabwysiadu yn llwyr mae gwaith
yn cael ei wneud.
Diolchwyd am y fideo sy’n dangos y gwaith gyda’r cathod gan
ei fod yn amlygu’r gwaith da sy’n cael ei wneud. Pwysleisiwyd pwysigrwydd
derbyn cwynion, gan y buasai fwy o broblem os na fuasai dim cwyn yn cael ei
dderbyn. Mynegwyd mai’r prif broblem yw diffyg staff - nid yn unig gofalwyr ond
doctoriaid, staff gwasanaeth ambiwlans - gofynnwyd i Dyfed Edwards ynghyd a’r
Gwasanaeth Ambiwlans i ddod i gael cyfarfod gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn cael
trafodaeth bellach. Nodwyd ei barn fod Ysbyty Gwynedd bellach yn gartref gofal
gyda’r nifer o bobl hyn sydd yn methu gadael, a bod wir angen mwy o wlâu gofal.
Mynegwyd gobeithion gyda Phlaid Cymru yn arwain yn y Senedd y bydd modd symud
ymlaen gyda safle Penrhos. Ymatebwyd drwy nodi fod wir angen edrych yn ehangach
ac am drafod i weld os oes modd trefnu’r cyfarfod yma gyda’r Bwrdd Iechyd a
Gwasanaeth Ambiwlans. Tynnwyd sylw at safle Penrhos gan nodi fod gwedd 1 wedi
mynd yn dda, ac yn gynt na’r disgwyl gyda thenantiaid yn gallu symud i mewn
ymhen ychydig wythnosau, ychwanegwyd y bydd tai gofal ychwanegol ar gael yn
fuan a'u bod yn y broses o ymgyhgori ar hyn o bryd ar
gyfer y Cynllun Busnes Llawn ar gyfer y Cartref Gofal, gyda chais cynllunio
llawn yn cael ei gyflwyno mis Mawrth nesaf.
Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi ei deimlad fod y cywair
sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfer y cyflwyniad, y fideo a strwythur yr adroddiad
ddim yn addas, a'i fod yn rhy agos i adloniant. Er hyn, eglurwyd mai
beirniadaeth gosmetig oedd yma ac nid am y cynnwys. Gofynnwyd cwestiwn pellach
o ran Teleofal gan holi os oes gwaith wedi ei wneud i
fynd i’r afael a diffyg rhwydwaith ffon symudol a fuasai o bosib yn cyd-fynd a’r broblem digideiddio llinellau
ffon o ran teleofal. Diolchwyd am y sylwadau gan
esbonio fod yr adroddiad ar gyfer pawb ac nid ar gyfer Cynghorwyr yn unig, ac
yn dilyn ymgynghoriad yn 2024 wedi addasu er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu ei
ddeall. O ran ymateb i’r cwestiwn am Teleofal, nododd
nad oedd yn hollol siŵr o’r ateb ac y byddai yn dod yn ôl ato ac ymateb
pellach.
Diolchwyd am yr adroddiad gan amlygu yn glir ymateb y Cyngor
i’r Adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder ynghyd a gwaith y Cynllun Ymateb.
Holwyd sut y gellir sicrhau nad yw ateb i fethiannau yn ddibynnol ar
strwythurau dros dro a pryd fydd y Cyngor yn cymryd perchnogaeth, beth sydd
wedi newid yn niwylliant ac atebolrwydd y Cyngor i sicrhau na fydd angen
ymyrraeth allanol unwaith eto ac oes mesurau i faintioli hyn, ac os oes
agweddau pwysig o waith yr adran wedi llithro o sgil yr Adroddiad Cyfiawnder
Drwy Ein Dewrder. Ymatebwyd drwy nodi
fod perchnogaeth ynghyd â'r Bwrdd Ymateb yn camu yn ôl wedi bod yn bwnc trafod
yn ddiweddar. Eglurwyd y bydd cyfarfod nesaf y bwrdd ymateb yn edrych yn
benodol ar hyn, ond o ran strwythurau mae disgwyliadau i gyrraedd safonau
penodol cyn ystyried i'r Bwrdd Ymateb gamu yn ôl. Pwysleisiwyd fod balans angen
ei gael o symud ymlaen ein hunain ac i gadw diogelwch o gael yr her allanol. O
ran atebolrwydd a maintioli’r diwylliant ac atebolrwydd, mynegwyd fod y rhain
i’w gweld yn y papurau’r Bwrdd Ymateb a'i fod yn hapus i fynd drwyddo ymhellach
gyda’r aelod. Mynegwyd fod agweddau pwysig wedi llithro wrth gwrs, ond fod
diogelu plant ac oedolion yn hanfodol.
Amlygwyd fod tudalen yn amlygu’r heriau dros y flwyddyn wedi
nodi pwysau ariannol, swyddi gwag a recriwtio fel prif heriau. Gofynnwyd pa mor
hyderus yw’r gwasanaeth o allu recriwtio a chadw staff am y pum mlynedd nesaf.
Ymatebwyd drwy nodi fod adroddiad Llechan Lan yn amlygu’r angen am filiodd mwy o staff os pethau ddim yn newid, gyda niferoedd
mewn oedran gwaith yn lleihau. Pwysleisiwyd fod llawer o waith yn mynd yn ei
flaen er mwyn trio cael pobl ifanc i aros yng Ngwynedd ac i ddenu pobl ifanc
i’r sir.
Mynegwyd fod yr
adroddiad hwn fel adroddiad perfformiad ddim yn mesur perfformiad yn llawn ac
fod yr ystadegu yn arwynebol ac nad yw’n dangos yn
glir sut mae gwella, sy’n greiddiol i adroddiad perfformiad. Nodwyd fod tudalen
sy’n adrodd ar gynnydd y llynedd heb ddim data dim ond goleuadau traffic ond nad yw’n rhoi’r llun yn llawn o ran targedau.
Ategwyd fod defnydd o gartwnau efallai yn ei wneud yn rh
sym, ac fod awyrgylch y cyflwyniad, yn benodol y
fideo, yn rhywbeth na fuasai i’w weld yn Senedd Cymru ac nodwyd yr angen i fod
yn amlygu fod y Cyngor Llaw yn gweidyddiaeth lefel
uchel, ac fod angen mwy o amser i herio a llai o amser i gathod. Ymatebwyd gan
nodi mai dim mesur perfformiad mae’r adroddiad hwn ond rôl satudol
i ddarparu gwybodaeth i’r Llywodraeth ac i’r cyhoedd am y gwaith sy’n cael
wneud. Croesawyd yr awydd i graffu y gwaith ymhellach ac fod mwy i’r sefyllfa
nac yr adroddiad hwn.
Diolchwyd am yr adroddiad yn amlygu’r gwaith eang sydd yn
cael ei wneud yn wyneb heriau mawr. Anghytunwyd a’r aelod blaenorol gan nodi
fod y lluniau ‘ar cartwnau yn rhoi darlun mwy clir o straeon unigolion.
Pwysleisiwyd fod y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anodd ond fod datblygiadau
gwych wedi'i gwneud a mynegwyd ei bod yn edrych ymlaen at gyd-weithio dros y
flwyddyn i ddod er mwyn amlygu a thanlinellu' gwaith sy'n caei ei wneud i
gefnogi plant a phobl ifanc.
Nodwyd balchder o roi amser heddiw i drafod yr eitem gan ei
fod yn dangos diddordeb yn y maes gofal. Pwysleisiwyd fod modd cysylltu â’r
Aelodau Cabinet neu’r Cyfarwyddwr drwy gydol y flwyddyn. Anghytunwyd gyda’r
sylwadau am edrychiad yr adroddiad gan fod digon o adroddiadau academaidd yn
cael ei greu a bod yr un yma ar gael i bawb. Pwysleisiwyd yn ogystal mai
adroddiad blynyddol ac nid perfformiad sydd yn cael ei gyflwyno yma - ond fod
croeso i unigolyn ddod i’r Cyfarfodydd Herio Perfformiad er mwyn gweld y data
a’r craffu sy’n cael ei wneud. Yn bwysicach na dim, mynegwyd, fod yr adroddiad
yn un gonest sydd ddim yn cuddio methiannau a diolchwyd am gyfraniad y
Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei waith i’r Cyngor a thu hwnt yn rhanbarthol.
PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad.
Dogfennau ategol: