Agenda item

I dderbyn a nodi diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi diweddariad chwarterol Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd sy’n cael ei gyflwyno i’r Aelodau i nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith Partneriaeth Pensiwn Cymru ynghyd a phenderfyniadau cyfarfod mis Mawrth o’r Cydbwyllgor Llywodraethu (CBLl - corff sy’n gwneud penderfyniadau dros y Bartneriaeth gyda Chadeirydd pob cronfa yn eistedd arno). Yn dilyn diweddariad mewn sesiwn gwybodaeth ddiweddar yn sgil sefydlu cwmni WPP IM Co, nodwyd mai hwn oedd y Cyd Bwyllgor Llywodraethu olaf yn ei ffurf bresennol.

 

Adolygwyd y Cynllun Busnes ar gyfer 2025/26, a cyflwynwyd cynlluniau busnes y dyfodol i’r Cydbwyllgor; cynllun busnes oedd yn amlygu sut bydd y Partneriaeth Pensiwn Cymru presennol yn gweithredu yn ystod y cyfnod trosiannol, ynghyd â Cynllun Busnes WPP IMCo am y flwyddyn 2026. Cymeradwywyd y dogfennau hyn yng nghyfarfod Pwyllgor Pensiynau Gwynedd 16-03-2026.

 

Cafwyd diweddariad ar waith y gweithredwr a’r cronfeydd sydd gan y Bartneriaeth wedi’i sefydlu ynghyd a manylder am waith y gweithredwr dros y cyfnod ac unrhyw amodau’r farchnad maent yn eu monitro. Yng nghyd-destun perfformiad y cronfeydd nodwyd eu bod wedi wynebu amodau heriol gyda’r marchnadoedd yn gyfnewidiol yn y cyfnod dan sylw.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith mae Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi ei wneud ynglŷn ag  agwedd tuag at eithriadau, gyda pholisïau buddsoddi cyfrifol bellach wedi eu diweddaru i gwmpasu nifer o eithriadau, megis pŵer o glo thermal, arfau dadleuol a chwmnïau sydd yn torri rheolau yn barhaus.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod rôl y Pwyllgor yn newid yn sylweddol – y rôl yn ymddangos fel rôl o graffu yn hytrach na rôl gyfrifol

·        Angen sicrhau bod Aelodau’r Gronfa yn cael dychweliadau da -  a oes gwrthdaro yma rhwng Llywodraeth San Steffan yn defnyddio arian Cronfeydd Llywodraeth Leol at eu dibenion hwy? Angen sicrhau nad oes gwrthdaro

·        Bod angen i’r Pwyllgor fod yn effro i’w rôl newydd

·        Awgrym y dylai Aelodau’r Pwyllgor gael cyfarfodydd gyda Rheolwyr y Gronfa fel bod modd iddynt gael gwybodaeth gyfredol am fuddsoddiadau – pryder, petai IMCo yn cam-fuddsoddi, Aelodau’r Pwyllgor fydd yn debygol o gael eu gweld ar fai am gam fuddsoddi arian cyfranogwyr Cronfa Gwynedd.

·        Y Pwyllgor angen sicrwydd mai buddion Aelodau’r Gronfa yw’r flaenoriaeth

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ‘echdynnu cronfeydd olew a nwy anghonfensiynol’ ac os oedd hyn yn cynnwys ffracio nododd y Rheolwr Buddsoddi y byddai yn ceisio’r wybodaeth ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. Yn yr un modd, byddai hefyd yn ceisio ateb i gwestiwn ynglŷn â beth yw diffiniad y gair ‘dadleuol’ yng nghyd-destun gwaharddiadau sydd yn cael eu cymhwyso i fuddsoddiadau mewn cwmnïau sydd yn ymwneud a chynhyrchu arfau dadleuol. Ategwyd, gyda’r Llywodraeth yn bwriadu cyfrannu £15 biliwn ychwanegol at Drawsnewid Lluoedd Arfog y DU, a chyfloedd tebyg yn codi i fusnesau a buddsoddi mewn technoleg ar gyfer y Lluoedd Arfog, ystyriwyd y byddai mwy o wybodaeth am y sefyllfa yn fanteisiol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â defnydd parhaus Partneriaeth Pensiwn Cymru o ddefnyddio’r enw Operation Snowdon yn hytrach na Phrosiect Yr Wyddfa, nodwyd bod Aelodau a Swyddogion yn parhau i wthio i amlygu’r newid ond nad oedd gweithrediad ar y mater. Nododd y Pennaeth Cyllid bod hyn yn rhwystredig, ond gyda’r prosiect bellach wedi dod i ben, y gobaith yw na fydd mwy o sôn amdano wrth symud ymlaen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y gellid dylanwadu ar wariant isadeiledd ac os daw cyfleoedd yn lleol i fuddsoddi mewn prosiectau i wella safonau byw'r ardaloedd hynny sydd yn cyfrannu at y Gronfa, nodwyd mai prif gongl faen yr ymgynghoriad Addas I’r Dyfodol oedd defnydd arian aelodau’r Gronfa. Ategwyd petai cyfleodd yn codi, mai rôl y cwmni fydd edrych ar y cyfleoedd hynny, ond bod rhaid i’r Pwyllgor gadw ffocws ar ddychweliadau; bydd angen i'r Pwyllgor yn ei rôl fel ymddiriedolwyr, ystyried  buddsoddiadau gyda dychweliadau teg, heb godi gobeithion yn lleol. Nododd y Cadeirydd bod modd i’r Pwyllgor adnabod cyfleoedd buddsoddi eu hunain.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi diweddariad chwarterol Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol: