Agenda item

Cyflwyno a nodi ‘Datganiad o’r Cyfrifon Drafft’.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD;

 

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2025/26.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2026. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n cael ei gyflwyno yn y cyfrifon ac nad oedd dim newid yn y canllawiau o’r flwyddyn ddiwethaf.

 

Mynegwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r Gronfa a gwaith yn parhau mewn buddsoddi yn ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y Gronfa gan dynnu sylw at ychydig o amrywiadau yn y cyfraniadau a’r buddion. Nodwyd bod lleihad yn y costau rheoli wrthi fathau gwahanol o fuddsoddiadau gael eu cyflwyno i’r portffolio a drwy leihau buddsoddiadau gyda grŵp Partners sydd wedi cael ffioedd rheoli uwch yn hanesyddol.  Ategwyd bod yr incwm buddsoddi wedi cynyddu wrth i’r Gronfa dderbyn incwm rheolaidd gan y buddsoddiadau newydd megis isadeiledd ac ecwiti preifat o fewn cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru gyda chynyddu o oddeutu £280 miliwn yng ngwerth marchnad y gronfa sydd yn unol â’r cynnydd graddol blynyddol.

 

Tynnwyd sylw at y nodiadau statudol oedd yn rhoi manylion pellach tu ôl i’r ffigyrau, gweithgareddau'r Gronfa, a Phartneriaeth Pensiwn Cymru, gan fod y Bartneriaeth yn rhan flaenllaw bellach o waith y Gronfa.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid ei fod, fel Swyddog Adran 151 wedi arwyddo'r cyfrifon drafft gan dderbyn eu bod yn adlewyrchiad cywir a theg o’r sefyllfa.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith o ddod ar cyfrifon at ei gilydd - yn waith sylweddol a chymhleth wedi ei gyflwyno yn dda a phroffesiynol

 

Diolchwyd hefyd i waith PPC am fod yn bennaf gyfrifol am y rhesymau dros y cynnydd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfanswm asedau net y gronfa sydd ar gael i ariannu buddion ar ddiwedd y cyfnod adrodd - y gwahaniaeth rhwng 31 Mawrth 2025 a 31 Mawrth 2026 yn £362 miliwn, ac os oedd hwnnw, sydd yn ffigwr anhygoel, yn ffigwr cywir, cadarnhawyd gyda maint y gronfa bellach yn £3.6 biliwn bod y Gronfa bellach yn delio gyda ffigyrau mawr - y ffigwr yn cynrychioli 10% o gynnydd sydd yn cyd-fynd a chynnydd dros y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd y bydd Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor nesaf yn cefnogi ac egluro’r ffigyrau mewn mwy o fanylder ac yn cynnwys Gwybodaeth ar sut mae'r Gronfa wedi cynyddu dros y blynyddoedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwerth y farchnad, cadarnhawyd bod y ffigyrau wedi eu selio ar werth y farchnad ar Fawrth 31ain 2026.

 

Sylw yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·        Bod yr incwm wedi codi oherwydd newid yn y buddsoddiadau sydd yn cael eu gwneud (cynnydd o £65.8miliwn i £84.8 miliwn) - yn amlygu bod y newidiadau yn cyfateb i’r newid i sut mae pensiynau yn ymateb i sefyllfaoedd.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2025/26.

 

Dogfennau ategol: