Agenda item

I dderbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2025/26.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad)

           

Cofnod:

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau bod y cyfrifon wedi eu cwblhau a’u rhyddhau i’w harchwilio gan Archwilio Cymru, archwilwyr allanol y Cyngor, ers diwedd mis Mehefin. Nodwyd mai’r amserlen statudol ar gyfer archwilio’r cyfrifon yw diwedd Medi, felly bwriad Archwilio Cymru yw cwblhau’r archwiliadau fel bod modd cymeradwyo’r cyfrifon terfynol ym Mhwyllgor 29ain Medi 2026.

  

Adroddwyd ar gynnwys yr adroddiad gan egluro bod pum set o gyfrifon ar gyfer 2025/26, yn cael eu cwblhau 

1.       Cyngor Gwynedd  

2.       Cronfa Bensiwn Gwynedd  

3.       GwE (cydbwyllgor sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi) 

4.       Harbyrau Gwynedd (oedd eisoes wedi eu cyflwyno I Bwyllgor 21ain Mai 2026)  

5.       Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod sefyllfa ariannol diwedd flwyddyn ar gyfer 2025/26 wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar y 21ain o Fai 2026 ar ffurf alldro syml, ond bod y Datganiad o’r Cyfrifon, sydd i bwrpas allanol a llywodraethu, yn gorfod cael ei gwblhau ar ffurf safonol CIPFA. Ymddengys bellach yn ddogfen hirfaith a thechnegol gymhleth.

 

Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi gwybodaeth am y Cyfrifon ac am weledigaeth a blaenoriaethau Gwynedd, y Strategaeth Ariannol a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar rai o’r elfennau: 

·        Crynodeb o wariant cyfalaf. Bu gwariant o £84 miliwn yn ystod y flwyddyn o gymharu gyda £85 miliwn yn y flwyddyn flaenorol. 

·        Bod y prif ddatganiadau ariannol yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant, Mantolen, Llif arian ayyb 

·       Datganiad Symudiad mewn Reserfau sydd yn ddatganiad pwysig ac yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor. Amlygwyd bod balansau cyffredinol y Cyngor yn £14.5 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2026 - wedi codi £6.6 miliwn o £7.9 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2025 oherwydd barn y Swyddog Cyllid Statudol oedd bod angen cynyddu Balansau Cyffredinol y Cyngor fel ei fod yn cynrychioli 2.5% o wariant refeniw gros yr awdurdod, gan drosglwyddo swm o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.

·       Bod Reserfau yn amlygu cynnydd yn y cronfeydd o £111 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2025 i £112 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2026

·        Balansau Ysgolion lle gwelir lleihad cyson yn y balansau hyn sydd wedi disgyn o £8.5 miliwn ddiwedd Mawrth 2024, i £8.3 miliwn ddiwedd Mawrth 2025 i £7.1 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2026, sydd bellach yn ddarlun sy’n agosach at lefel y balansau cyn Covid. Eglurwyd bod hyn yn ddarlun cyffredinol sydd yn cael ei weld yng Nghymru gan fod y balansau ysgolion wedi bod yn uchel yn dilyn nifer o grantiau yn sgil Covid. 

·        Reserfau a Glustnodwyd sy’n cynnwys dadansoddiad o’r £112 miliwn o gronfeydd wrth gefn – reserfau cyfalaf, cronfa Trawsffurfio / Cynllun y Cyngor, cronfa cefnogi’r strategaeth ariannol a chronfa Premiwm Treth y Cyngor

·        Cyfeiriwyd at Nodyn 15 - Eiddo, Offer a Chyfarpar sydd yn cyflwyno dadansoddiad fesul categori tir ac adeiladau, cerbydau, offer a chyfarpar ayyb. Ymrwymiadau Cyfalaf oedd yn cynnwys cynlluniau megis ar y gwaith ar Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor, Canolfan Dolfeurig a gwaith cyfalaf ar ddatblygiad yng Nghoed Mawr Bangor ac ar Unedau Diwydiannol/ Busnes Parc Eryri ym Mhenrhyndeudraeth.

·       Nodyn 22 Darpariaethau sydd yn berthnasol i Safleoedd Gwastraff a hawliadau yswiriant, Nodyn 30 sydd yn berthnasol i Daliadau Swyddogion, a Nodyn 32 manylion am Incwm Grant sydd wedi ei dderbyn (dros £154 miliwn yn 2025/26 o gymharu gyda £207 miliwn yn 2024/25, gan dynnu sylw at Cronfa Ffyniant Bro, oedd yn £82 miliwn yn 2024/25, ond wedi leihau i £37 miliwn yn 2025/26, sydd wedi cael effaith sylweddol ar y ffigyrau grant ac ar y ffigyrau yn y cyfrifon).

·       Nodyn 36 -  manylion Pecynnau Terfynu Gwaith y ddwy flynedd ddiwethaf.

·        Nodyn 39 -  Ymrwymiadau Dibynnol megis safleoedd tirlenwi a maes yswiriant gyda chyfeiriad at ymrwymiad yn y maes addysg.

·        Nodyn 43 - manylion am Weithrediadau ar y Cyd a Chydbwyllgorau mae Cyngor Gwynedd yn rhan ohonynt

·        Atodiad B -  Cronfa Degwm ac Ymddiriedolaeth FMG Morgan

Diolchwyd am yr adroddiad a canmolwyd yr Adran am gwblhau’r cyfrifon, er yn gymhleth, yn amserol a thaclus

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ystyr y term ‘reserfau na ellid eu defnyddio’ (Nodyn 23) a pha enghreifftiau y gellid eu cyflwyno, nodwyd na ellid defnyddio’r reserfau hyn i ariannu gwariant y Cyngor, ond i gynnal a  rheoli prosesau cyfrifo technegol sy'n ofynnol er mwyn cydymffurfio â gofynion CIPFA.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ymrwymiad gwariant o £2 filiwn sydd wedi ei gymeradwyo ar gyfer uwchraddio manddaliadau’r Cyngor yn sgil diffyg buddsoddi sylweddol yn y gorffennol a pham nad oedd y ffigwr wedi ei gydnabod yn y cyfrifon, nodwyd bod y swm wedi ei gynnwys yn Nodyn 15 – Eiddo , Offer a Chyfarpar a hyn oherwydd yr angen i ddilyn y fformat safonol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y cynnydd o £26 miliwn i £36 miliwn yn y reserfau cyfalaf ac os oedd  hyn yn sefyllfa arferol, nodwyd bod grantiau sylweddol wedi eu derbyn gan gynnwys i gwblhau gwaith cynnal a chadw ysgolion oedd o ganlyniad yn amlygu llithriad mewn gwariant y Cyngor ac felly cynnydd yn y gronfa berthnasol. Ategwyd bod yr Adran Tai ac Eiddo hefyd wedi derbyn grantiau sylweddol gyda’r un effaith ar eu cronfeydd

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam bod Cronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol wedi  lleihau, nododd y Pennaeth Cyllid bod hyn oherwydd bod £6.6 miliwn wedi ei drosglwyddo i’r reserfau cyffredinol oherwydd roedd o’r farn, fel Swyddog Cyllid Statudol, bod angen cynyddu Balansau Cyffredinol y Cyngor i gynrychioli 2.5% o wariant refeniw gros yr awdurdod.

 

PENDERFYNWYD:

·        Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad)

 

Dogfennau ategol: