• Ystyried y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft
• Cymeradwyo’r
Datganiad, ac argymell fod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei
arwyddo.
Penderfyniad:
·
Derbyn
addasiad i gynnydd sgôr tebygolrwydd ( o 3 i 4) yn y risg Ymgysylltu
·
Derbyn y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol (drafft)
·
Cymeradwyo’r Datganiad, ac argymell fod
Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei arwyddo
Nodyn:
·
Cynnwys yn y rhaglen waith bod Cadeirydd y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael gwahoddiad i fynychu’r Grŵp
Asesu Trefniadau Llywodraethu pan yn berthnasol
·
I ystyried ail sgorio maes Cyfreithlondeb yn
dilyn achos llys diweddar. Angen ychwanegu cymal at achos Erthygl 4 yn y
datganiad
·
I ystyried rhannu risgiau maes Cyllid yn ddau
gategori ar wahân ‘Gorwariant yn sgil tan gyllido neu diffyg rheolaeth
ariannol’ i a) Gorwariant yn sgil tan gyllido b) diffyg rheolaeth ariannol’
·
Cyfeiriad at adolygiad mewnol i wella trefniadau
casglu Treth Cyngor – cais am ddiweddariad i’r Pwyllgor
·
Cynllun Prentisiaethau - cais am adroddiad
fyddai yn cynnwys gwybodaeth am lwyddiant y cynllun. Angen sicrwydd bod y
cynllun yn cyfrannu at gynlluniau’r gweithlu i’r dyfodol.
·
Cais i’r Swyddog Monitro fynychu’r cyfarfodydd
Cofnod:
Cyflwynwyd y Datganiad gan y Pennaeth Cyllid. Eglurodd bod y Datganiad, er nad yn rhan o’r cyfrifon,
yn ddogfen statudol ac angen ei chyhoeddi gyda’r cyfrifon. Yn unol â Rheoliadau
Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) a Chod ymarfer CIPFA mae’n rhaid i bob Awdurdod
Lleol sicrhau bod datganiad o reolaeth fewnol yn ei le a bod y system reoli yn
cael ei adolygu o leiaf unwaith mewn blwyddyn. Adroddwyd mai’r Prif Weithredwr
ac Arweinydd y Cyngor sydd yn arwyddo’r datganiad er bod angen cymeradwyaeth
gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.
Rhoddwyd ychydig o gefndir i’r datganiad sydd yn seiliedig ar Fframwaith
CIPFA / SOLACE a gyhoeddwyd yn 2016, sydd yn adnabod 7 egwyddor craidd ar gyfer
llywodraethu da sydd wedyn yn cael eu rhannu ymhellach i is-egwyddorion.
Amlygwyd bod y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu, o dan arweiniad y Prif
Weithredwr, yn ystyried yr egwyddorion a’r is-egwyddorion ac yn llunio Cofrestr
Risg Llywodraethu sydd yn rhan o Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor.
Adnabuwyd risgiau mewn 24 o feysydd llywodraethu gwahanol, gan nodi’r
rheolaethau sydd gan y Cyngor yn eu lle er mwyn lliniaru’r risgiau hynny.
Adroddwyd bod 4 math o risg a bod pob risg gyda pherchnogaeth adrannol;
y Grŵp wedi dod i gasgliad bod 0 maes gyda risgiau uchel iawn, 7 maes
risgiau uchel, 8 maes risgiau canolig a 9 maes risgiau isel. Er yn cydnabod bod
y sgôr risg presennol yn parhau’n uwch nag y maer’ Cyngor yn fodlon ei dderbyn,
bod camau gweithredu pellach wedi eu hadnabod i leihau’r risgiau hyn.
O ran addasiadau, mynegwyd bod sgôr tebygolrwydd risg Ymgysylltu wedi
cynyddu o 3 i 4 a hynny oherwydd bod y gwaith o baratoi a chynnal
ymgynghoriadau ac ymarferion ymgysylltu’n parhau i fod yn heriol iawn.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau a’r ymatebion canlynol:
·
Bod y Pwyllgor yn derbyn
y datganiad yn hwyr yn y broses. A ddylai’r Cadeirydd fynychu’r Grŵp
Asesu Trefniadau Llywodraethu?
Nododd y Pennaeth Cyllid bod lle i wella’r broses ac
i’r Pwyllgor dderbyn diweddariad yn ystod y flwyddyn. Ategodd bod gwaith yn
cael ei wneud i gryfhau’r trefniadau risg a’i fod yn derbyn y sylw i wahodd
Cadeirydd y Pwyllgor i’r Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu pan yn
berthnasol.
·
Awgrym
y dylid ail asesu sgôr maes cyfreithlondeb o’r risg o ‘anwybyddu rheol y
gyfraith, sy’n golygu bod y Cyngor yn agored i heriau gan y llysoedd’ o
ystyried achos llys diweddar, Cyfarwyddyd Erthygl 4. Cais hefyd i gyfeirio at
Gyfarwyddyd Erthygl 4 yn y datganiad.
·
Bod
angen olrhain trefn y penderfyniad a arweiniodd at golli’r arian yn achos
Cyfarwyddyd Erthygl 4. Awgrym bod anghysondeb sefydliadol yn y parodrwydd i
fynd i gyfraith, e.e., swyddogion yn amlygu i'r Pwyllgor Cynllunio'r risg o
fynd i apêl a chael costau os bydd penderfyniad yn groes i bolisi.
·
Cais i’r Swyddog Monitro fynychu’r
cyfarfodydd
Nododd y Pennaeth Cyllid bod y risg yn cael ei osod ar
sail, a yw’r Cyngor yn mynd ati yn fwriadol i anwybyddu’r gyfraith ac yn achos
Cyfarwyddyd Erthygl 4 nid oedd bwriad gan y Cyngor i gamarwain yn fwriadol. Yn
derbyn y sylw i ychwanegu cymal yn y datganiad.
·
Awgrym
y dylid ail asesu sgôr Cynllunio’r Gweithlu i’r dyfodol oherwydd y risg i’r
sector gofal o ystyried cyfyngiadau recriwtio gweithwyr gofal o dramor.
Nododd y Pennaeth Cyllid bod prosiect hir dymor yn ei
le gan y Cyngor ar gyfer cynllunio’r gweithlu i’r dyfodol ac er yn derbyn bod
recriwtio a chadw staff yn y maes gofal yn her sylweddol, bod y sgôr yn
berthnasol i’r Cyngor yn ei gyfanrwydd.
·
Maes
Cyllid - awgrym i ystyried rhannu risgiau maes Cyllid yn ddau gategori ar wahân
‘Gorwariant yn sgil tan gyllido neu ddiffyg rheolaeth ariannol’ i a) Gorwariant
yn sgil tan gyllido b) diffyg rheolaeth ariannol’.
Nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn derbyn y sylw bod
dau gategori gwahanol yma a bod trafodaeth wedi ei gynnal gyda’r Cabinet
ynglŷn â lle i dynnu’r llinell - bod pwysau cynyddol ar wasanaethau yn
arwain at orwario.
·
Yn cytuno bod angen cynyddu risg
tebygolrwydd ymgysylltu gydag awgrym i’r dyfodol i gasglu barn y cyhoedd ar
gynnydd yn nhreth y Cyngor.
·
Cyfeiriad
at adolygiad mewnol i wella trefniadau casglu Treth Cyngor - er wedi derbyn
adroddiad mewn ymateb i safle Cyngor Gwynedd ar waelod tabl Cymru ar gyfraddau
casglu treth Cyngor, bod angen diweddariad ar y perfformiad.
Nododd y Pennaeth Cyllid, er bod gwelliant i’r
trefniadau, nid oedd Gwynedd wedi symud i fyny’r tabl perfformiad. Ategodd bod
Archwilio Cymru hefyd yn edrych i mewn i’r maes.
·
Er yn
nodi bod y Cynllun Prentisiaethau wedi rhoi cyfle i 90 o brentisiaid ers 2019
bod hyn yn llai nag 1% o’r gweithlu. A oes cynlluniau gan y Cyngor i wella hyn?
- gall roi hwb i gyflogaethau i’r dyfodol. Angen gwybodaeth ynglŷn â
llwyddiant y cynllun; A oes prentisiaid yn cael eu cyflogi ar ôl eu cyfnod
hyfforddi? Angen
sicrwydd bod y cynllun yn cyfrannu at gynlluniau’r gweithlu i’r dyfodol.
Nododd y Pennaeth Cyllid bod y cynllun yn ddibynnol ar
sut mae’r cynllun yn cael ei ariannu ac o wneud y gorau o’r Ardoll
Prentisiaethau. Ategodd ei fod yn hapus gyda sgôr risg Cynllunio i’r Dyfodol
ond yn derbyn bod y maes yn fater i’r Pwyllgor ei adolygu o ran llywodraethu
da.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn addasiad i gynnydd sgôr tebygolrwydd ( o 3 i 4)
yn y risg Ymgysylltu
·
Derbyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol (drafft)
·
Cymeradwyo’r Datganiad, ac
argymell fod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei arwyddo
Nodyn:
·
Cynnwys yn y rhaglen waith bod
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael gwahoddiad i fynychu’r
Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu pan yn berthnasol
·
I ystyried ail sgorio maes
Cyfreithlondeb yn dilyn achos llys diweddar. Angen ychwanegu cymal at achos
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn y datganiad
·
I
ystyried rhannu risgiau maes Cyllid yn ddau gategori ar wahân ‘Gorwariant yn
sgil tan gyllido neu ddiffyg rheolaeth ariannol’ i a) Gorwariant yn sgil tan
gyllido b) diffyg rheolaeth ariannol’
·
Cyfeiriad
at adolygiad mewnol i wella trefniadau casglu Treth Cyngor – cais am
ddiweddariad i’r Pwyllgor
·
Cynllun Prentisiaethau - cais am
adroddiad fyddai yn cynnwys gwybodaeth am lwyddiant y cynllun. Angen sicrwydd
bod y cynllun yn cyfrannu at gynlluniau’r gweithlu i’r dyfodol.
·
Cais i’r Swyddog Monitro fynychu’r
cyfarfodydd
Dogfennau ategol: