Agenda item

Codi ffens newydd 2400mm o uchder o gwmpas rhan o ffin y cae chwarae.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Caniatáu gydag amodau

 

  1. 5 Mlynedd
  2. Unol a’r cynlluniau
  3. Lliw gwyrdd tywyll
  4. Gwelliannau Bioamrywiaeth

 

Nodyn

 

Nid yw’r caniatâd yma yn cynnwys unrhyw waith i goed wedi eu gwarchod o dan Orchymyn Gwarchod Coed.  Bydd angen caniatâd ar wahân ar gyfer unrhyw waith i’r coed sydd wedi eu gwarchod.

 

 

 

Cofnod:

Codi ffens newydd 2400mm o uchder o gwmpas rhan o ffin cae chwarae Ysgol Syr Hugh Owen

 

a)     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio oherwydd bod yr Aelod Lleol wedi datgan buddiant ac wedi darparu sylwadau ar y cais. 

 

Amlygwyd bod sylwadau o’r ymgynghoriad statudol a chyhoeddus yn cyfeirio fwyaf at bryderon yn deillio gan gymdogion yn nodi ei fod yn ddatblygiad di angen, fyddai’n creu effaith weledol, effaith ar fwynderau preswyl ac effaith ar hawliau dynol. Derbyniwyd llythyr hefyd yn cefnogi'r ffens oherwydd bod problemau gyda thaflu cerrig, tresmasu ar eiddo preifat a sbwriel yn cael ei daflu i mewn i erddi.

 

Cyfeiriwyd at Polisi ISA 2, sy’n ymwneud â chyfleusterau cymunedol sy’n cynnwys ysgolion, ac sy’n nodi y bydd y CDLl yn cynorthwyo i gynnal a gwella cyfleusterau cymunedol. Byddai’r bwriad yn cael ei leoli ar ffiniau ysgol bresennol a bod angen y ffens o gwmpas yr adeilad er mwyn gwella diogelwch o fewn tir yr ysgol.  O ran yr egwyddor ystyriwyd bod y bwriad yn un rhesymol ac yn cyd-fynd gydag egwyddor Polisi ISA 2 CDLl.

 

Bydd y ffens bwriedig yn un “weldmesh” o liw gwyrdd, sydd yn ffens lle mae modd gweld drwyddi - ystyriwyd felly na fydd yn creu golwg gaeedig na gormesol i’r ysgol na’r tai cyfagos. Gan ei fod yn cydweddu â ffensys presennol yr ysgol ac yn caniatáu gwelededd, ni ystyriwyd y byddai’n creu effaith weledol yn yr ardal, ac felly’n cydymffurfio â Polisi PCYFF 3.

 

Adroddwyd bod rhai preswylwyr cyfagos wedi gwrthwynebu ar sail effaith weledol a theimlad gormesol, ond nodwyd bod ffensys o’r math yma yn gyffredin mewn ysgolion er mwyn diogelu staff a disgyblion. Gan fod ffensys tebyg eisoes yn bodoli o amgylch y safle, nid yw’r cynnig yn anghyson â’r amgylchedd. Bydd y ffens newydd tua 4-5 metr o gefn y tai, yn darparu bwlch digonol fel nad yw’n cael effaith sylweddol ar fwynderau preifat. Ategwyd bod rhaid ystyried yr angen ar gyfer diogelu disgyblion a thir yr ysgol ynghyd a’r tir tu allan i’r ysgol rhag difrod ac felly, ystyriwyd na fyddai’r ffens o’r math yma’n achosi niwed arwyddocaol sylweddol i fwynderau’r gymdogaeth leol, ac felly’n cydymffurfio gyda Polisi PCYFF 2 y CDLl. Yn ogystal, tynnwyd sylw at goed sydd â gorchymyn gwarchod ar hyd y ffin gydag amod i’w osod i sicrhau na chaiff unrhyw waith ar y coed ei wneud heb ganiatâd ymlaen llaw - byddai hyn yn diogelu’r coed fel rhan o’r datblygiad.

 

Nid oedd y bwriad arfaethedig yn cyrraedd y trothwyon ar gyfer cyflwyno Datganiad Iaith Gymraeg neu Adroddiad ar Asesiad Effaith Iaith Gymraeg, er hynny ni ystyriwyd byddai’n niweidiol  i’r iaith Gymraeg ac felly’n cydymffurfio a gofynion Polisi PS 1.

 

Ystyriwyd bod y materion cynllunio wedi derbyn sylw teilwng gyda rhai sylwadau yn cyfeirio at faterion gweithredol. Ni ystyriwyd bod y dystysgrif perchnogaeth tir yn anghywir, gan fod yr ymgeisydd yn gweithredu ar ran yr Ysgol a’r Cyngor, ac ni ystyriwyd bod cynnwys rhai dogfennau a gyflwynwyd yn anghywir nac yn ddiffygiol. Ategwyd mai mater i’r ymgeisydd oedd cysylltu gyda pherchnogion tir cyfagos, ac o dan y drefn Cynllunio nid oes rheidrwydd iddo wneud hynny.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol. Argymhellwyd caniatáu'r cais gydag amodau

 

b)     Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·        Bod gosodiad y ffens ar y ffin yn ymddangos yn ymwthiol - byddai ei osod 3-4 meter i ffwrdd o’r wal yn dderbyniol

·        Byddai angen rheoli mynediad i’r bwlch rhwng y ffens a’r wal - angen cynnal trafodaethau i gael trefn ar hyn

·        Bod y ffens yn ymddangos yn ormesol - angen trafod a chytuno ar ei leoliad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â lleihau uchder y ffens i 2m oherwydd bod 2.4m i weld yn uchel ac os mai’r bwriad oedd diogelu plant neu gadw plant i mewn, nodwyd bod 2.4 m yn cyd-fynd â ffensys eraill oedd o gwmpas yr Ysgol. Ategwyd bod modd codi ffens 2m heb gais Cynllunio.

 

Mewn ymateb i sylwadau yn ymwneud a lleoliad y ffens, nodwyd y bydd trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r trigolion hynny sydd a’u gerddi yn ffinio gyda’r ffens a bod posib gosod amod i gytuno ar yr union leoliad. Ategwyd, er bod gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno yn cadarnhau lleoliad y ffens, bydd angen cynnal trafodaethau gyda’r tirfeddianwyr i gael hawl mynediad i weithredu.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1.     5 Mlynedd

2.     Unol a’r cynlluniau

3.     Lliw gwyrdd tywyll

4.     Gwelliannau Bioamrywiaeth

 

Nodyn

 

Nid yw’r caniatâd yma yn cynnwys unrhyw waith i goed wedi eu gwarchod o dan Orchymyn Gwarchod Coed.  Bydd angen caniatâd ar wahân ar gyfer unrhyw waith i’r coed sydd wedi eu gwarchod

 

Dogfennau ategol: