Agenda item

Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

•           Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

•           Gofyn i’r canlynol gael ei gynnwys yn yr adroddiad perfformiad nesaf sy’n dod gerbron y Pwyllgor:

•           data mwy manwl wedi’i gategoreiddio yng nghyswllt casglu trethi a dyledion tymor hir.

•           nifer o achosion cyfreithiol yn ymwneud â dyledion tymor hir.

•           gwybodaeth am drefniadau recriwtio’r adran.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar yr hyn a gyflawnwyd yn y maes, gan gynnwys y diweddaraf ar Gynllun y Cyngor a gwaith dydd i ddydd yr Adran hyd at ddiwedd Mawrth 2026. Eglurwyd bod y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth wedi trosglwyddo i reolaeth yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol ers 1 Ebrill 2026, ond gan mai perfformiad 2025/26 oedd dan sylw, roedd y gwasanaethau digidol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd bod y trosglwyddiad wedi bod yn llyfn, ond bod recriwtio Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth yn parhau’n her.

Adroddwyd bod yr holl faterion o dan gyfrifoldeb yr Aelod Cabinet wedi eu trafod a’u craffu mewn cyfarfodydd Herio a Chefnogi Perfformiad, a mynegwyd boddhad â pherfformiad yr Adran ar y cyfan. Nodwyd bod yr Adran Gyllid wedi arwain ar ddwy flaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor yn ystod 2025/26, sef Rheoli Effaith Toriadau Cyllidol Cenedlaethol a’r Cynllun Digidol. Pwysleisiwyd bod yr angen i gyflawni arbedion ariannol ar draws y Cyngor yn parhau’n flaenoriaeth er mwyn sicrhau cydbwysedd cyllidebol yn y tymor canolig a cheisio cadw unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor o fewn ffiniau rhesymol. Nodwyd bod gwaith yr Adran Gyllid yn y maes yn gadarn ac effeithiol, ond bod sicrhau bod arbedion yn cael eu gwireddu’n llwyddiannus ym mhob gwasanaeth yn parhau’n her.

Nodwyd bod y mesurau perfformiad yn dangos perfformiad cadarn ar y cyfan, gydag ychydig o feysydd yn parhau i dderbyn sylw. Cyfeiriwyd at lefelau uchel o gydymffurfiaeth â hyfforddiant mandadol, ynghyd â pherfformiad cadarn y gwasanaethau Cyllid a Chyfrifeg, Cyflogau a Phensiynau. Nodwyd bod lefel y dyledion hirdymor a oedd yn cael eu rheoli gan y Gwasanaeth Incwm yn parhau’n destun pryder ac mai hwn oedd yr unig fesur coch yn yr Adran. Nodwyd bod arwyddion o welliant a bod cynlluniau ar waith i leihau’r risg a gwella’r broses o adennill dyledion. Adroddwyd bod cyfradd casglu’r Dreth Gyngor wedi gwella, er ei bod yn parhau’n is na lefelau hanesyddol. Nodwyd bod bwriad i gyflwyno cymorth digidol ychwanegol er mwyn cefnogi’r gwasanaeth.

O ran Technoleg Gwybodaeth, nodwyd bod gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud i gryfhau’r ddarpariaeth ddigidol, gan gynnwys moderneiddio dyfeisiadau, uwchraddio systemau, ehangu dulliau gweithio digidol a rhesymoli’r seilwaith. Eglurwyd bod y gwaith wedi cyfrannu at gyflawni arbedion ariannol. Nodwyd bod digwyddiadau seibr a thoriadau gwasanaeth wedi amlygu’r angen i barhau i gryfhau gwytnwch a diogelwch y seilwaith, a nodwyd bod y materion hyn yn cael eu monitro’n rheolaidd drwy’r trefniadau Herio a Chefnogi Perfformiad.

Tynnwyd sylw at ddau adroddiad a dderbyniwyd gan archwilwyr allanol yn ystod y flwyddyn. Nodwyd bod adroddiad Archwilio Cymru ar Reolaeth Strategol ar Falansau a Chronfeydd wrth Gefn wedi ei gyhoeddi ym mis Medi 2025, gyda’r prif argymhelliad yn ymwneud â chryfhau strategaeth cronfeydd wrth gefn y Cyngor. Adroddwyd bod adroddiad ISA260 wedi ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2025 a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Nodwyd bod barn ddiamod wedi ei rhoi ar Ddatganiad Cyfrifon 2024/25 ac nad oedd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw argymhellion.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Tynnwyd sylw at y ffaith bod canran y staff a oedd wedi cwblhau’r hyfforddiant mandadol ar ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn is na’r canrannau ar gyfer yr hyfforddiant mandadol arall. Mynegwyd pryder ynghylch hyn gan bwysleisio, gan fod yr hyfforddiant yn fandadol, y dylai’r Adran anelu at sicrhau bod pob aelod o staff yn ei gwblhau.

Cyfeiriwyd at y Gwasanaeth Budd-daliadau a’r pwysau a oedd yn deillio o lefelau uchel o renti preifat a rhenti canolradd, gan nodi y gallai costau rhent uchel ei gwneud yn anodd i bobl gynilo tuag at brynu cartref.

Tynnwyd sylw at brydau ysgol am ddim, gan nodi bod darparu prydau am ddim i holl ddisgyblion cynradd yn golygu nad oedd rhai teuluoedd a fyddai wedi bod yn gymwys yn flaenorol yn gweld yr angen i gofrestru. Mynegwyd pryder bod hyn yn arwain at golli gwybodaeth bwysig, gan fod cymhwysedd am brydau ysgol am ddim yn parhau i gael ei ddefnyddio fel dangosydd amddifadedd, a nodwyd y gallai’r broblem gynyddu wrth symud disgyblion o Flwyddyn 6 i’r sector uwchradd.

Mewn ymateb i sawl sylw, nodwyd:-

•       Bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud gyda’r hyfforddiant mandadol ers y data a gasglwyd ym mis Mawrth. Eglurwyd bod angen blaenoriaethu’r gwahanol gyrsiau gan eu bod yn gofyn am ymrwymiad amser gan staff, ond bod y disgwyliad yn glir mai’r nod oedd cyrraedd 100%.

•       Bod yr Adran wedi bod ymhlith y cyntaf yn y Cyngor i gyrraedd 100% o ran hyfforddiant diogelu, a bod y lefel ar gyfer hyfforddiant cam-drin domestig bron yn 100%, ac eithrio aelod o staff a oedd yn absennol yn hirdymor. Nodwyd bod yr hyfforddiant ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg yn parhau ymhlith y canrannau isaf, ond cadarnhawyd bod gwaith yn parhau i wella’r sefyllfa.

•       Bod y mwyafrif o daliadau budd-dal tai bellach wedi trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol, gyda’r Cyngor yn parhau i ymdrin â grwpiau penodol megis pensiynwyr a phobl mewn mathau penodol o lety. Eglurwyd bod lefel y rhent yn seiliedig ar y Lwfans Tai Lleol, a bennwyd yn genedlaethol, a chydnabuwyd bod achosion lle’r oedd lefel y budd-dal yn is na’r rhent yr oedd yn rhaid i hawlydd ei dalu.

•       Bod y gronfa Taliadau Tai Dewisol yn cael ei defnyddio’n llawn bob blwyddyn i roi cymorth yn y maes.

•       Bod yr Adran yn ymwybodol o’r mater ynghylch cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim wrth i ddisgyblion symud o’r cynradd i’r uwchradd, a bod trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r Adran Addysg i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Cyfeiriwyd at y lefel uchel o ddyled a oedd yn ddyledus gan y Bwrdd Iechyd, a chwestiynwyd ers faint o amser yr oedd yr arian wedi bod yn ddyledus a pham nad oedd wedi ei adennill. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod dyled Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn destun pryder. Nodwyd mai hen ddyledion oedd dan sylw yn bennaf, a bod y trefniadau mewn perthynas â dyledion mwy diweddar wedi gwella. Adroddwyd bod trafodaethau’n parhau gyda’r Bwrdd Iechyd.

Eglurwyd bod angen i’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru gydweithio ynghylch dyledion y Bwrdd Iechyd. Nodwyd bod profiad hanesyddol wedi dangos y gallai un awdurdod gael ei dalu os oedd yn rhoi pwysau sylweddol ar y Bwrdd Iechyd, gan adael y pum awdurdod arall i aros am eu taliadau. Adroddwyd bod y mater wedi ei adnabod ar lefel swyddogion cyllid a phrif weithredwyr, ac y bwriedir cydweithio.

Mynegwyd pryder ynghylch lefelau dyled yn gyffredinol a’r posibilrwydd bod y pwysau costau byw yn ei gwneud yn fwy anodd i drigolion dalu’r Dreth Cyngor. Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd y ffigurau dyledion cyffredinol o dan yr Uned Incwm yn cynnwys dyledion Treth Cyngor.

Cwestiynwyd ymhellach lle’r oedd dyledion Treth Cyngor yn cael eu cofnodi. Mewn ymateb, eglurwyd eu bod yn cael eu hadlewyrchu yn y cyfraddau casglu. Nodwyd bod trigolion gyda’r lefelau isaf o incwm a chyfalaf yn gallu bod yn gymwys i Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Cyngor. Mynegwyd pryder, fodd bynnag, ynghylch carfan o bobl yr oedd eu hincwm, eu cynilion neu’u hasedau ychydig yn rhy uchel i fod yn gymwys i’r cynllun ond a oedd, serch hynny, yn cael trafferth talu. Eglurwyd bod y Cyngor yn ceisio cyfeirio unigolion o’r fath at wasanaethau megis Cyngor ar Bopeth er mwyn cael cymorth.

Tynnwyd sylw at y berthynas rhwng cyfraddau casglu Treth Cyngor a’r premiwm ar eiddo, a gofynnwyd a ellid darparu dadansoddiad cliriach o’r achosion lle nad oedd Treth Cyngor wedi ei dalu. Mynegwyd y farn y dylid gwahaniaethu rhwng unigolion a oedd yn gwrthod talu heb amgylchiadau lliniarol, achosion lle’r oedd gwall wedi digwydd, ac achosion lle’r oedd gwir anhawster i dalu. Cyfeiriwyd at achosion lle’r oedd y premiwm wedi ei godi ar eiddo a lle ystyrid bod hynny’n anghymesur o dan yr amgylchiadau, gan gynnwys eiddo gwyliau nad oedd amod cynllunio perthnasol arno. Gofynnwyd am wybodaeth o’r fath mewn adroddiadau yn y dyfodol er mwyn rhoi gwell darlun o’r rhesymau dros y gwahaniaeth mewn cyfraddau casglu. Cyfeiriwyd at y gostyngiad cyffredinol yn y gyfradd gasglu ers 2019 a’r cyfeiriad at ailbrisio yn 2026, gan holi a allai cynnydd mewn gwerthoedd eiddo effeithio ymhellach ar drethdalwyr Gwynedd a chyfraddau casglu.

Cwestiynwyd perfformiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, gan nodi nad oedd y Gwasanaeth wedi cyrraedd ei dargedau. Cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol diweddar i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio lle’r oedd nifer gymharol uchel o archwiliadau wedi derbyn barn o ‘sicrwydd cyfyngedig’, a chwestiynwyd a oedd hyn yn awgrymu problem gyda’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol. Mewn ymateb, nodwyd:-

•       Bod cyflwyno’r Premiwm Treth Cyngor wedi creu her sylweddol i’r Gwasanaeth Trethi, ynghyd â’r pwysau ychwanegol a ddeilliodd o gyfnod Covid. Pwysleisiwyd na fu ymgais i guddio maint yr her.

•       Bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud dros y flwyddyn flaenorol i ymateb i achosion eithriadol yn ymwneud â’r premiwm. Adroddwyd bod panel wedi ei sefydlu i ystyried ceisiadau ac achosion lle’r oedd amgylchiadau eithriadol, gan gydnabod bod rhai eiddo’n gallu cael eu dal mewn amgylchiadau nad oedd yn cyflawni bwriad gwreiddiol y premiwm.

•       Nad oedd modd cyflwyno eithriad cyffredinol ar gyfer math penodol o eiddo, a bod angen ystyried pob achos ar ei rinweddau ei hun. Nodwyd bod y panel yn datblygu gwybodaeth dros amser ac, wrth adnabod achosion â nodweddion tebyg, bod angen sicrhau cysondeb wrth ddelio gydag achosion.

•       Y gellid darparu dadansoddiad o’r ffigurau yn yr adroddiad nesaf er mwyn rhoi’r cyd-destun ychwanegol y gofynnwyd amdano.

•       Bod yr ailbrisio y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad yn ymwneud ag Ardrethi Annomestig ac nid Treth Cyngor. Nodwyd y gallai’r ailbrisio, ynghyd â newidiadau i rai cynlluniau rhyddhad, greu problemau i fusnesau yn y sir, a nodwyd y byddai’r Cyngor yn gwneud yr hyn a allai i’w cefnogi.

•       O ran Archwilio Mewnol, cydnabuwyd bod nifer yr adroddiadau a oedd wedi derbyn sicrwydd cyfyngedig ychydig yn uwch nag arfer, ond ni ystyriwyd bod hynny ynddo’i hun yn arwydd o broblem gyda’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol. Eglurwyd mai rôl y gwasanaeth oedd adrodd ar yr hyn yr oedd yn ei ganfod, ac y gallai cynnydd mewn adroddiadau sicrwydd cyfyngedig fod yn arwydd o faterion ehangach ynghylch rheolaethau mewnol y Cyngor. Nodwyd bod hynny’n fater i’w ystyried ar lefel corfforaethol.

Eglurwyd mai’r pryder mewn perthynas ag Archwilio Mewnol oedd adnoddau a chapasiti’r gwasanaeth yn hytrach na safon y gwaith. Nodwyd, yng nghyd-destun y drafodaeth flaenorol ar y premiwm, bod nifer o drigolion Gwynedd mewn sefyllfa lle’r oedd ganddynt asedau neu gyfalaf ond incwm cymharol isel, a phwysleisiwyd bod angen ystyried hynny wrth wneud penderfyniadau ynghylch Treth Cyngor. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod yr ystyriaeth honno’n cael ei chadw mewn cof wrth ystyried achosion drwy Banel 13A. O ran Archwilio Mewnol, cadarnhawyd bod capasiti’r gwasanaeth yn fater yr oedd y Pennaeth Cyllid yn ei ystyried, a bod ymrwymiad wedi ei roi i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i adolygu’r adnoddau oedd ar gael.

Adroddwyd bod nifer y staff yn y tîm Archwilio Mewnol wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd, o oddeutu 12 aelod o staff i chwech. Eglurwyd nad oedd un mesur penodol ar gyfer penderfynu faint o waith archwilio mewnol y dylid ei gyflawni, a bod lefel y gwaith yn dibynnu ar yr adnoddau a oedd ar gael. Pwysleisiwyd bod angen i’r Prif Swyddog Cyllid sicrhau nad oedd capasiti’r gwasanaeth yn gostwng i lefel lle na fyddai bellach yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau na rhoi’r sicrwydd angenrheidiol ynghylch rheolaethau mewnol. Nodwyd y byddai unrhyw gais am adnoddau ychwanegol yn gorfod dilyn proses bidio arferol y Cyngor. Pwysleisiwyd, fodd bynnag, nad oedd tystiolaeth bod y cynnydd mewn adroddiadau sicrwydd cyfyngedig yn deillio’n uniongyrchol o gapasiti’r gwasanaeth, gan eu bod yn adlewyrchu canfyddiadau’r gwaith a gyflawnwyd.

Tynnwyd sylw at y dyledion hirdymor, a oedd yn cyfateb i bron £2 filiwn, a gofynnwyd beth yn benodol oedd y cynlluniau cadarn i fynd i’r afael â’r ddyled. Cwestiynwyd a oedd perygl y byddai’n rhaid dileu rhai o’r dyledion, ac os oedd achosion llys wedi eu cychwyn i adennill yr arian. Mewn ymateb, nodwyd:-

•       Bod y Cabinet wedi cymeradwyo bid un-tro ym mis Mawrth a bod adnodd cyfreithiol a gweinyddol wedi ei sicrhau. Eglurwyd bod gwaith agos yn digwydd gyda’r Adrannau Plant ac Oedolion mewn perthynas â dyledion gofal, a bod trafodaethau wedi dechrau er mwyn ceisio adennill rhagor o’r symiau oedd yn ddyledus.

•       Nad oedd gwybodaeth am achosion llys penodol wrth law, ond bod rhai achosion yn cael eu cyfeirio at Wasanaeth Cyfreithiol y Cyngor. Pwysleisiwyd nad oedd angen mynd i’r llys ym mhob achos er mwyn mynd ar drywydd dyled.

•       Bod gwahaniaeth pwysig rhwng dyledion Treth Gyngor a mân ddyledion. Eglurwyd bod gan y Cyngor bwerau statudol cryfach mewn perthynas â dyledion treth, tra bod adennill man dyledion yn gallu bod yn fwy cymhleth.

•       Bod cyfran o’r ddyled yn ddyled gan gorff cyhoeddus arall, lle’r oedd y Cyngor yn gobeithio gallu dod i gytundeb, a bod cyfran sylweddol arall yn ymwneud â phobl a oedd yn derbyn gofal. Pwysleisiwyd bod angen ystyried amgylchiadau’r dyledwyr cyn penderfynu a fyddai camau llys yn briodol.

•       Bod dyled yn cael ei diffinio fel dyled hirdymor at ddibenion yr adroddiad pan oedd yn fwy na chwe mis oed. Eglurwyd bod rhai dyledion yn sylweddol hŷn na hynny, a bod rhai achosion yn mynd yn ôl nifer o flynyddoedd.

•       Bod y Gwasanaeth Incwm yn adolygu ei arferion a’i strwythurau er mwyn gweld sut y gallai’r tîm adennill dyledion weithredu’n gynt ac yn fwy effeithlon gyda’r adnoddau cyfyngedig oedd ar gael.

Cyfeiriwyd at yr arbedion gwerth degau o filiynau o bunnoedd a gyflawnwyd dros y blynyddoedd diwethaf, a gofynnwyd, wrth edrych yn ôl ar y broses, a oedd hyder bod y systemau a ddefnyddiwyd wedi llwyddo i leihau effaith y toriadau ar wasanaethau rheng flaen. Gofynnwyd pa wersi a ddysgwyd ar gyfer y dyfodol, o ystyried y tebygolrwydd y byddai angen rhagor o arbedion. Mewn ymateb, eglurwyd bod y Gwasanaeth Cyllid wedi dysgu drwy bob cylch o arbedion ac wedi datblygu rôl fwy cefnogol a heriol wrth asesu cynlluniau arbed. Nodwyd bod gwell dealltwriaeth erbyn hyn o ba mor realistig oedd cynllun arbed cyn iddo gael ei gymeradwyo, gan gydnabod bod cynlluniau wedi eu cyflwyno yn y gorffennol nad oedd modd eu gwireddu yn y pen draw.

Pwysleisiwyd na ddylid tybio bod gwasanaethau cefnogol megis yr Adran Gyllid yn gallu derbyn toriadau’n barhaus heb effaith, gan fod angen y capasiti cefnogol hwnnw er mwyn galluogi adrannau rheng flaen i weithredu. Serch hynny, mynegwyd y farn bod cyfleoedd pellach i wella effeithlonrwydd, yn enwedig drwy ddatblygiadau technolegol a gwneud mwy gyda’r un lefel o adnoddau neu lai. Cydnabuwyd na ellid addo y byddai’r holl arbedion angenrheidiol yn y dyfodol yn cael eu cyflawni drwy effeithlonrwydd yn unig, ond mynegwyd y farn bod cyfleoedd yn parhau i wella ffyrdd o weithio er mwyn lleihau’r angen i dorri gwasanaethau i bobl Gwynedd.

Tynnwyd sylw at y pwysau ar y Gwasanaeth Trethi yn ystod cyfnod anfon biliau Treth Cyngor ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Mynegwyd pryder bod trigolion a oedd yn poeni am gynnydd yn eu biliau yn gorfod aros am gyfnodau hir i gael ateb dros y ffôn, gyda rhai wedi nodi eu bod wedi aros hyd at 45 munud. Pwysleisiwyd nad oedd pob unigolyn yn dymuno defnyddio e-bost neu aros am ymateb ysgrifenedig, a gofynnwyd a ellid darparu rhagor o staff i ateb galwadau yn ystod y cyfnodau prysur. Mewn ymateb, eglurwyd bod recriwtio a chadw staff yn y Gwasanaeth Trethi yn her sylweddol, yn enwedig gan fod y gwaith o ateb galwadau ynghylch trethi yn gallu bod yn anodd. Nodwyd y byddai’n ddymunol cynyddu nifer y staff ar adegau prysur, ond nad oedd digon o ymgeiswyr ar gael, a phwysleisiwyd na ellid addo trefniant nad oedd modd ei gyflawni.

Mynegwyd y farn y gallai Galw Gwynedd ddarparu cymorth ychwanegol yn ystod y cyfnodau prysur gan fod modd rhagweld y cynnydd mewn galwadau. Mewn ymateb, eglurwyd bod y llinellau ffôn yn brysur drwy gydol y flwyddyn ac nid yn ystod y cyfnod bilio yn unig, a bod y gwasanaeth yn cydweithio’n rheolaidd â Galw Gwynedd. Nodwyd bod ymdrechion i recriwtio staff ychwanegol yn cael eu gwneud yn rheolaidd, ond bod nifer o swyddi wedi gorfod cael eu hail-hysbysebu. Cyfeiriwyd at anhawster penodol wrth recriwtio swyddogion llys, gan nodi nad oedd modd denu ymgeiswyr hyd yn oed ar gyfer rhai swyddi dros dro.

Adroddwyd bod cynllun peilot ar waith i gyflwyno ffurflenni ar-lein er mwyn gwella’r gwasanaeth i’r rhai a oedd yn dymuno delio â materion yn ddigidol. Eglurwyd y byddai staff Treth Gyngor yn gallu cynorthwyo unigolion dros y ffôn i gwblhau’r ffurflenni, gyda’r gobaith y byddai hyn yn cyflymu’r broses ac yn rhyddhau mwy o amser i ateb galwadau.

Pwysleisiwyd nad oedd pawb yn dymuno cyfathrebu ar-lein, ac ailadroddwyd y pryder bod rhai trigolion oherwydd eu sefyllfa angen ateb cyflym yn hytrach nag aros nifer o ddiwrnodau gwaith am ymateb. Cwestiynwyd ai diffyg ymgeiswyr, yn hytrach na diffyg cyllid i gyflogi staff, oedd y prif rwystr. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod adnoddau ychwanegol wedi eu darparu yn sgil y premiwm er mwyn gallu cyflogi rhagor o staff, ond mai’r her oedd denu pobl i ymgeisio am y swyddi. Eglurwyd nad bwriad cyflwyno ffurflenni ar-lein oedd disodli’r gwasanaeth ffôn. Nodwyd mai’r bwriad oedd galluogi’r rhai a oedd yn fodlon defnyddio gwasanaeth ar-lein i wneud hynny, gan ryddhau capasiti i staff gynorthwyo’r rhai yr oedd angen iddynt ddefnyddio’r ffôn neu yr oedd yn well ganddynt wneud hynny.

Pwysleisiwyd bod gwasanaethau’r Adran yn ceisio rhoi pobl Gwynedd yn gyntaf, ond bod angen rhoi sylw i les staff. Nodwyd bod y staff a oedd yn parhau yn y Gwasanaeth Trethi dan bwysau sylweddol oherwydd yr anawsterau recriwtio, a bod angen osgoi rhoi pwysau annerbyniol arnynt. Cydnabuwyd nad oedd y gwasanaeth ar y pryd yn cyrraedd y safon orau y dymunid ei darparu i drigolion, ond cadarnhawyd bod gwahanol ddulliau’n cael eu hystyried i wella’r sefyllfa. Pwysleisiwyd bod methiant i ddenu ymgeiswyr i swyddi gwag yn cyfyngu’n sylweddol ar yr hyn yr oedd modd ei gyflawni.

Gan ddychwelyd at yr hyfforddiant mandadol, gofynnwyd faint o staff yr oedd y canrannau yn yr adroddiad yn eu cynrychioli a faint o swyddi gwag oedd yn yr Adran. Mewn ymateb, eglurwyd bod y ffigurau hyfforddiant yn cynnwys staff y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth. Nodwyd bod yr Adran Gyllid bellach yn cynnwys oddeutu 150 o staff ar ôl trosglwyddo’r gwasanaeth i’r Adran Gwasanaethau Corfforaethol. Cadarnhawyd nad oedd union nifer y swyddi gwag wrth law, ond ymrwymwyd i ddarparu’r wybodaeth i’r aelodau. Nodwyd mai’r Gwasanaeth Trethi oedd y maes lle’r oedd yr anhawster recriwtio mwyaf, a bod lefelau trosiant mewn rhannau eraill o’r Adran yn fwy arferol.

Cwestiynwyd a oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddyledwr unigol mwyaf y Cyngor. Cwestiynwyd a oedd y swm yn ymwneud â hen ddyledion, o ystyried bod trefniadau talu mwy diweddar wedi gwella, ac a oedd risg y byddai’n rhaid dileu’r ddyled yn y pen draw. Mewn ymateb, cadarnhawyd mai’r Bwrdd Iechyd oedd dyledwr unigol mwyaf y Cyngor. Cadarnhawyd mai hen ddyledion oedd dan sylw’n bennaf. Eglurwyd bod anghydfod yn gallu codi mewn achosion gofal ynghylch pa gyfran o’r gost a ddylai gael ei thalu gan y gwasanaeth iechyd a pha gyfran a ddylai gael ei thalu gan y Cyngor, a bod hynny’n aml yn achosi oedi. Nodwyd bod y Bwrdd Iechyd yn talu’n gymharol brydlon unwaith yr oedd cytundeb wedi ei gyrraedd.

Cydnabuwyd bod risg y byddai’n rhaid dileu rhai dyledion yn y pen draw. Nodwyd bod yr Adran yn parhau i geisio adennill dyledion hŷn, ond y gallai pwynt ddod lle byddai’n rhaid derbyn nad oedd swm penodol yn debygol o gael ei dalu. Eglurwyd bod darpariaeth ar gyfer drwg dyledion wedi ei gynnwys wrth gyllidebu a pharatoi cyfrifon, er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cynllunio’n ddarbodus ar gyfer y risg honno.

Gan ddychwelyd at y problemau recriwtio yn y Gwasanaeth Trethi, nodwyd bod rhai aelodau’n ymwybodol o bobl a oedd yn chwilio am waith, ond nad oedd unrhyw swyddi Cyllid i’w gweld ar dudalen swyddi gwag y Cyngor ar y pryd. Cwestiynwyd sut y gallai pobl wybod am y cyfleoedd neu ymgeisio amdanynt os nad oedd swyddi’n cael eu hysbysebu. Mewn ymateb, eglurwyd bod rhai swyddi o fewn y Gwasanaeth Trethi wedi eu hysbysebu yn y gorffennol heb ddenu unrhyw ymgeiswyr, ac o ganlyniad bod yr Adran wedi dod i’r casgliad bod angen adolygu strwythur y gwasanaeth. Nodwyd bod gwaith ar yr adolygiad yn mynd rhagddo ac, unwaith y byddai’r strwythur newydd yn ei le yn ystod yr wythnosau dilynol, y byddai swyddi pellach yn cael eu hysbysebu.

Adroddwyd bod yr Adran yn edrych ar staff pŵl canolog y Cyngor i weld a oedd unigolion ar gael a allai lenwi rhai o’r swyddi, ac anogwyd pobl a oedd yn chwilio am waith i ymuno â’r pŵl hwnnw. Nodwyd bod trafodaethau rheolaidd yn cael eu cynnal gyda’r gwasanaeth a oedd yn rheoli’r pŵl er mwyn adnabod unrhyw unigolion addas. Nodwyd bod angen defnyddio staff asiantaeth o bryd i’w gilydd pan nad oedd modd llenwi swyddi, er nad hwnnw oedd y dewis cyntaf. Pwysleisiwyd nad oedd y gwaith yn ymwneud ag ateb galwadau ffôn yn unig, gan fod angen prosesu’r wybodaeth a dderbyniwyd wedi hynny. Adroddwyd bod y gwasanaeth wedi llwyddo i ddenu hyfforddai a dau brentis i’r maes, a mynegwyd y gobaith y byddent yn cyfrannu at ddyfodol y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

·       Gofyn i’r canlynol gael ei gynnwys yn yr adroddiad perfformiad nesaf sy’n dod gerbron y Pwyllgor:

·       data mwy manwl wedi’i gategoreiddio yng nghyswllt casglu trethi a dyledion tymor hir.

·       nifer o achosion cyfreithiol yn ymwneud â dyledion tymor hir.

·       gwybodaeth am drefniadau recriwtio’r adran.

 

Dogfennau ategol: