Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2026/27 i’w mabwysiadu.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
• Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2026/27.
Cofnod:
Cyflwynwyd rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi ar gyfer 2026/27 i’w mabwysiadu.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:-
Cyfeiriwyd at hyd y drafodaeth ar yr
Adroddiad Perfformiad Cyllid yn gynharach yn y cyfarfod, gan nodi bod nifer
fawr o gwestiynau wedi eu codi. Mynegwyd y farn y gallai fod yn fwy priodol,
lle bo modd, i adroddiadau perfformiad gael eu gosod tua diwedd cyfarfodydd yn
hytrach nag ar y dechrau. Nodwyd bod aelodau’n tueddu i fod yn arbennig o
weithgar wrth godi cwestiynau ar ddechrau cyfarfod, ac y gallai newid trefn yr
eitemau gynorthwyo i reoli amser y Pwyllgor yn well.
Mewn ymateb, nodwyd bod trefn yr adroddiadau
perfformiad yn amrywio rhwng cyfarfodydd, a bod yr adroddiadau wedi eu gosod
tua diwedd rhai cyfarfodydd eisoes. Cadarnhawyd y gellid newid trefn yr eitemau
yn y dyfodol pe byddai’r Pwyllgor yn dymuno i adroddiadau perfformiad gael eu
hystyried tua diwedd y cyfarfod.
Cwestiynwyd a oedd y trefniadau presennol ar
gyfer craffu ar berfformiad wedi cael eu hadolygu ers eu cyflwyno, gan nodi bod
yr adroddiadau’n creu cryn faich gwaith i aelodau ac yn cymryd cyfran sylweddol
o amser cyfarfodydd. Cwestiynwyd a oedd unrhyw asesiad wedi ei gynnal i weld a
oedd y drefn yn fwy neu’n llai effeithiol na’r trefniadau blaenorol. Mewn
ymateb, nodwyd bod sylwadau wedi eu cyflwyno drwy’r Fforwm Craffu a bod
trafodaethau’n cael eu cynnal ynghylch ffurf yr adroddiadau. Nodwyd bod gormod o
wybodaeth weithiau’n gallu effeithio ar
effeithiolrwydd craffu, a bod sylwadau aelodau am y trefniadau blaenorol yn
cael eu hystyried. Eglurwyd nad oedd hynny’n golygu y byddai newid sylweddol o
reidrwydd, ond bod y trefniadau’n cael eu hadolygu.
Cwestiynwyd a oedd modd cynyddu nifer y
cyfarfodydd craffu yn ystod y flwyddyn er mwyn cynyddu capasiti’r Pwyllgor i
gyflawni ei gyfrifoldebau. Mewn ymateb, eglurwyd bod hyn yn dibynnu ar yr adnoddau
oedd ar gael, ynghyd â’r angen i gynnal ymchwiliadau craffu a grwpiau tasg a
gorffen. Nodwyd bod y mater yn un y gellid ei ystyried ymhellach.
Mynegwyd pryder bod yr adroddiadau
perfformiad yn lleihau’r amser oedd ar gael i graffu ar eitemau eraill, yn
ogystal â chreu swm sylweddol iawn o waith darllen i aelodau. Mynegwyd y farn y
dylid ystyried dychwelyd at y drefn flaenorol lle’r oedd aelodau craffu yn
mynychu cyfarfodydd Herio Perfformiad, ond gyda threfn fwy ffurfiol ar gyfer
adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. Nodwyd bod manteision wedi bod i’r drefn flaenorol,
er bod rhai cyfarfodydd Herio Perfformiad wedi eu canslo oherwydd diffyg
argaeledd swyddogion. Nodwyd bod y trefniant presennol yn fwy tryloyw gan fod y
gwaith craffu’n digwydd mewn cyfarfod cyhoeddus, ond bod y baich amser yn
sylweddol.
Mynegwyd gwrthwynebiad i osod terfyn amser
rhy gaeth ar drafodaethau. Pwysleisiwyd, er y gallai cyfarfodydd fynd yn hir,
ei fod yn bwysig bod aelodau’n cael cyfle i godi eu materion yn hytrach na
theimlo’n rhwystredig oherwydd nad oedd cyfle iddynt gyfrannu.
Mynegwyd y farn nad oedd y system graffu
bresennol yn gweithio mor effeithiol ag y gallai. Cyfeiriwyd at drafodaethau
blaenorol ynghylch newid strwythur craffu a gofynnwyd am eglurhad o’r modelau
eraill a oedd wedi cael eu hystyried. Mewn ymateb, nodwyd bod awdurdodau lleol
yn gweithredu modelau gwahanol, a bod y trefniadau yng Ngwynedd wedi cael eu
hadolygu yn dilyn gwaith Archwilio Cymru. Eglurwyd bod angen rhoi amser i’r newidiadau
presennol gael eu gweithredu a’u gwerthuso, a nodwyd bod etholiad i’w gynnal ym
mis Mai a fyddai’n arwain at aelodau newydd yn ymuno â’r Cyngor, ac felly bod
angen cadw hyn mewn cof wrth ystyried unrhyw newidiadau i’r trefniadau
presennol.
Cwestiynwyd a oedd dogfennau blaenorol ar y
modelau craffu amgen ar gael i’w rhannu gydag aelodau. Cadarnhawyd bod
adroddiadau wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac i’r
Cyngor Llawn, ac y gellid eu rhannu.
Mynegwyd y farn y gallai cyflwyno cwestiynau
ymlaen llaw ar adroddiadau perfformiad a derbyn ymatebion ysgrifenedig fod yn
ffordd arall o leihau amser trafod, yn amodol ar yr amser oedd ar gael i
baratoi’r adroddiadau. Mewn ymateb i hyn, mynegwyd pryder y byddai trefn o’r
fath yn cyfyngu ar allu aelodau i ofyn cwestiynau dilynol a oedd yn codi o
ymatebion swyddogion neu gyfraniadau aelodau eraill. Pwysleisiwyd bod modd
cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig yn uniongyrchol i swyddogion neu Aelodau Cabinet
beth bynnag, ac mai un o brif fanteision cyfarfod craffu oedd gallu datblygu’r
drafodaeth yn fyw.
Mynegwyd y farn y gallai fod gwerth mewn
is-bwyllgorau craffu i roi mwy o sylw i faterion adrannol.
Cyfeiriwyd at yr eitemau Addysg a oedd wedi
eu rhaglennu ar gyfer mis Rhagfyr, a mynegwyd pryder bod adroddiadau
perfformiad diweddar wedi cynnwys nifer fawr o fesurau ond ychydig iawn o
wybodaeth uniongyrchol am gyrhaeddiad disgyblion, eu canlyniadau, eu safonau
llythrennedd a rhifedd a’u sgiliau craidd. Pwysleisiwyd bod gan aelodau, fel
rhieni corfforaethol a llywodraethwyr, gyfrifoldeb i graffu ar gyrhaeddiad
disgyblion a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i gyflawni eu
potensial. Mynegwyd y farn y dylai data ar gyrhaeddiad, gan gynnwys canlyniadau
TGAU yn y pynciau craidd, gael ei gynnwys yn yr adroddiad perfformiad ym mis
Rhagfyr.
Nodwyd bod y Pwyllgor eisoes wedi gwneud
argymhelliad mewn cyfarfod blaenorol i ystyried cynnwys gwybodaeth a data am gyrhaeddiad
disgyblion mewn adroddiadau perfformiad yn y dyfodol. Eglurwyd bod cyfyngiadau
Llywodraeth Cymru ar ba ddata y gallai’r Adran Addysg ei gyhoeddi, ond y
byddai’r Adran yn cael ei hatgoffa o’r cais ac yn cael ei holi ynghylch pa
wybodaeth yr oedd modd ei ddarparu.
Mynegwyd y farn y dylai’r Pwyllgor ystyried
craffu ar y trefniadau sicrwydd a’r broses o baratoi adroddiadau Cabinet mewn
materion cyfreithiol cymhleth, yn sgil y materion a’r costau a ddeilliodd o Gyfarwyddyd
Erthygl 4. Mewn ymateb, nodwyd bod yr eitem wedi ei gynnwys yn y rhestr o
faterion posibl i’w craffu yn ystod 2026/27 ond nad oedd yr eitem wedi cael ei
flaenoriaethu . Cyfeiriwyd at waith craffu diweddar gan y Pwyllgor Craffu
Cymunedau ac argymhellion y pwyllgor yng nghyswllt yr angen i sicrhau derbyn
cyngor cyfreithiol allanol priodol a bod risgiau’n cael eu hystyried yn llawn.
Mynegwyd syndod nad oedd y mater wedi cael ei
ystyried yn flaenoriaeth, o ystyried y costau, y risg ariannol a’r risg i enw
da’r Cyngor. Nodwyd mai’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi oedd â chyfrifoldeb
dros graffu ar y Gwasanaeth Cyfreithiol, a mynegwyd y farn y dylai’r Fforwm
Craffu roi ystyriaeth bellach i’r mater.
Ystyriwyd pryd
fyddai’n amserol i dderbyn diweddariad ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad
Craffu Trefniadau Diogelu mewn Ysgolion. Daethpwyd i’r casgliad y dylai’r
Cadeirydd a’r Ymgynghorydd Craffu drafod a chytuno pryd y dylid rhaglennu’r
eitem.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2026/27.
Dogfennau ategol: