Ystyried cynnwys yr Adroddiad a gwneud sylwadau, gofyn unrhyw gwestiynau perthnasol gan gynnig unrhyw welliannau a chymeradwyo’r Adroddiad.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
• Cymeradwyo’r adroddiad.
• Gofyn am ddiweddariad gan yr Aelod Cabinet Addysg ar weithrediad fesul argymhelliad ymhen oddeutu 6 mis.
Cofnod:
Cyflwynodd Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu yr
adroddiad gan ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Eglurwyd nad
ymchwiliad i achos penodol nac ymchwiliad statudol oedd hwn, ac nad ei ddiben
oedd ailystyried materion a oedd eisoes wedi eu harchwilio drwy’r Adolygiad
Ymarfer Plant. Nodwyd mai’r cwestiwn a osodwyd i’r Panel oedd a oedd y
trefniadau diogelu yn ysgolion y sir yn briodol ac yn gyson, gyda’r Panel yn
gyfrifol am gasglu tystiolaeth, dod i gasgliadau a chyflwyno argymhellion i’r Cabinet
ac, mewn rhai achosion, i Lywodraeth Cymru.
Pwysleisiwyd nad oedd ailagor achos Foden o
fewn cylch gorchwyl yr ymchwiliad, gan fod yr Adolygiad Ymarfer Plant eisoes
wedi ystyried yr achos. Eglurwyd mai bwriad yr ymchwiliad oedd edrych ymlaen ac
ystyried beth arall y gellid ei wneud i gryfhau trefniadau diogelu mewn
ysgolion. Nodwyd bod yr ymchwiliad craffu yn un o’r ffrydiau gwaith yng
Nghynllun Ymateb y Cyngor yn dilyn yr Adolygiad Ymarfer Plant, a bod gan y Bwrdd
Ymateb, yr Adolygiad Ymarfer Plant a’r Ymchwiliad Craffu swyddogaethau gwahanol
ond cyflenwol. Eglurwyd bod yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi edrych yn ôl er
mwyn deall yr hyn a oedd wedi mynd o’i le a’r gwersi i’w dysgu, bod y Bwrdd
Ymateb yn arwain ac yn goruchwylio gweithrediad yr ymateb corfforaethol, a bod
yr Ymchwiliad Craffu wedi darparu haen ychwanegol o her annibynnol drwy
ganolbwyntio ar y trefniadau a oedd ar waith mewn ysgolion heddiw ac ystyried
sut i’w cryfhau ymhellach.
Adroddwyd bod ystod eang o dystiolaeth wedi
ei ystyried dros gyfnod o sawl mis. Ymwelwyd ag 11 ysgol a chynhaliwyd
trafodaethau gyda phenaethiaid, llywodraethwyr, staff a disgyblion, ynghyd â
derbyn tystiolaeth gan swyddogion ac arbenigwyr ac ystyried canllawiau
cenedlaethol, polisïau a gwaith Estyn. Nodwyd bod yr ymchwiliad wedi canfod
llawer o waith da yn digwydd mewn ysgolion Gwynedd, ond pwysleisiwyd nad oedd
cael polisïau da ar bapur yn ddigon ynddo’i hun a bod angen sicrhau eu bod yn cael
eu gweithredu’n gyson ym mhob ysgol, gan bob aelod o staff ac ar bob lefel.
Ymhelaethwyd bod y 22 argymhelliad yn ffurfio
sail rhaglen waith yn hytrach na rhestr o gynigion unigol. Nodwyd bod rhai o’r
argymhellion yn ymwneud â phobl, gan sicrhau bod staff, llywodraethwyr a’r rhai
â chyfrifoldebau diogelu yn derbyn yr hyfforddiant, y gefnogaeth a’r eglurder
angenrheidiol; bod eraill yn ymwneud â systemau, gan gynnwys cryfhau trefniadau
cofnodi, monitro, rhannu gwybodaeth a sicrhau mwy o gysondeb rhwng ysgolion; a
bod eraill yn canolbwyntio ar ddiwylliant, gan sicrhau bod disgyblion yn gwybod
at bwy i droi am gymorth, bod eu llais yn cael ei glywed a bod pawb yn deall
bod diogelu yn gyfrifoldeb ar bob unigolyn. Nodwyd bod yr argymhellion wedi eu
grwpio o dan naw thema strategol, sef hyfforddiant, dealltwriaeth disgyblion,
cymorth a lles, llais disgyblion, adolygu a dysgu, systemau a rhannu gwybodaeth,
rhieni, gwelededd diogelu, a llywodraethu ac atebolrwydd.
Pwysleisiwyd mai un o gryfderau’r adroddiad
oedd nad oedd yn dibynnu ar un newid mawr, ond yn cydnabod bod diogelu
effeithiol yn dibynnu ar nifer o elfennau’n gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd
gydlynol. Cydnabuwyd na allai unrhyw system warantu diogelwch llwyr, ond nodwyd
y gellid lleihau risgiau, cryfhau systemau a sicrhau bod pryderon yn cael eu
hadnabod ac yr ymatebir iddynt yn gynt, yn fwy cyson ac yn fwy effeithiol. Pwysleisiwyd
na fyddai’r adroddiad ynddo’i hun yn gwneud plant yn fwy diogel, ac mai’r camau
a gymerid yn dilyn yr adroddiad fyddai’n gwneud y gwahaniaeth. Nodwyd felly nad
diwedd proses oedd cyflwyno’r adroddiad, ond dechrau’r cam nesaf, ac y byddai
llwyddiant gwirioneddol yr ymchwiliad yn cael ei fesur yn ôl gweithrediad yr
argymhellion a’r gwahaniaeth y byddent yn ei wneud yn ymarferol.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:-
Nodwyd bod yr ymchwiliad wedi ei gynnal mewn ysbryd
adeiladol a bod yr aelodau wedi deall pwysigrwydd diogelu plant a’r rheswm dros
gynnal y gwaith. Eglurwyd bod yr ysgolion a ddewiswyd ar hap wedi cydweithio’n
dda unwaith yr eglurwyd diben yr ymchwiliad. Nodwyd bod yr 11 ysgol wedi eu
lleoli ar draws y sir ac yn cynnwys ysgol arbennig, ysgolion cynradd ac
ysgolion uwchradd, gan roi trawstoriad eang o ysgolion Gwynedd. Adroddwyd bod
yr ymateb a’r wybodaeth a dderbyniwyd yn sgil yr ymweliadau wedi bod yn
werthfawr, a chydnabuwyd bod cefnogaeth swyddogion wrth gydlynu’r ymweliadau a
chofnodi’r dystiolaeth wedi galluogi aelodau’r Panel i ganolbwyntio ar y gwaith
craffu.
Cyfeiriwyd at feirniadaeth ddiweddar o’r
adroddiad yn y wasg a gofynnwyd i Gadeirydd yr Ymchwiliad ymateb i’r sylwadau a
wnaed. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod beirniadaeth wedi ei chyflwyno cyn i’r
adroddiad gael ei ystyried gan y Pwyllgor, a phwysleisiwyd ei fod yn bwysig ymateb
i’r feirniadaeth gan fod gweithredu’r argymhellion yn gywir yn hanfodol er mwyn
gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiogelu plant yng Ngwynedd a thu hwnt.
Nodwyd y byddai’r argymhellion yn fwy tebygol o gael eu gweithredu’n effeithiol
pe byddai’r adroddiad a’r broses a arweiniodd ato yn cael eu deall a’u cymryd o
ddifrif.
Nodwyd bod y feirniadaeth wedi ei chyflwyno
gan Ms Yates, a oedd yn cynrychioli rhai o ddioddefwyr Foden ynghyd â dioddefwyr
eraill. Cydnabuwyd ei bod wedi cynrychioli rhai o’r dioddefwyr ers blynyddoedd
a’i fod yn ddealladwy ei bod yn awyddus i weld newid cyflym, cadarn ac
ystyrlon. Pwysleisiwyd bod yr un nod yn cael ei rannu, sef gwneud popeth posibl
i sicrhau na fyddai plant yng Ngwynedd yn profi methiannau tebyg i’r rhai a
welwyd yn Ysgol Friars eto.
Ailbwysleisiwyd nad ymchwiliad statudol nac
ymchwiliad cyhoeddus oedd yr Ymchwiliad Craffu, ond ymchwiliad a gynhaliwyd o fewn
y cylch gorchwyl a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.
Ailbwysleisiwyd nad oedd ailagor achos Foden na phennu cyfrifoldeb unigol o
fewn cylch gorchwyl yr ymchwiliad, gan fod yr Adolygiad Ymarfer Plant eisoes
wedi ymdrin â hynny. Eglurwyd mai’r dasg oedd edrych ymlaen ac ystyried beth
arall y gellid ei wneud i gryfhau trefniadau diogelu mewn ysgolion Gwynedd yn y
dyfodol, gan nodi y byddai ceisio cyflawni’r ddwy swyddogaeth ar yr un pryd wedi
creu perygl na fyddai’r naill na’r llall wedi ei gyflawni’n effeithiol.
Cyfeiriwyd at feirniadaeth ynghylch y defnydd
o’r gair “dylid” yn hytrach na “rhaid” yn yr argymhellion. Mewn ymateb,
eglurwyd bod y defnydd o “dylid” yn adlewyrchu natur ymchwiliad craffu, gan nad
oedd gan bwyllgor craffu’r grym i osod dyletswyddau statudol. Nodwyd mai rôl y
Pwyllgor oedd gwneud argymhellion ac yna dal y Cabinet i gyfrif am weithredu’r
argymhellion. Pwysleisiwyd nad oedd hynny’n gwneud yr argymhellion yn llai pwysig,
ond ei fod yn adlewyrchu’r fframwaith democrataidd yr oedd craffu’n gweithredu
oddi mewn iddo.
Cyfeiriwyd at faint y sampl a’r gwaith llais
disgyblion, a chydnabuwyd y byddai sampl fwy bob amser yn ddymunol.
Pwysleisiwyd, fodd bynnag, nad gwaith llais disgyblion oedd unig sail yr
adroddiad, ond ei fod yn un rhan o ystod eang o dystiolaeth a oedd yn cynnwys
ymweliadau ag 11 ysgol, trafodaethau gyda llywodraethwyr, penaethiaid a staff,
tystiolaeth gan Estyn, swyddogion ac arbenigwyr, ynghyd â’r fframwaith
statudol. Nodwyd bod y Panel wedi dod i’w gasgliadau ar sail yr holl
dystiolaeth.
Cyfeiriwyd at sylw bod gormod o bwyslais wedi
ei roi ar lais y plentyn. Mewn ymateb, eglurwyd bod cynnwys llais y plentyn
wedi bod yn benderfyniad bwriadol gan y Panel o’i gyfarfod cyntaf, cyn i unrhyw
dystiolaeth gael ei chasglu. Nodwyd y byddai peidio â chynnwys llais disgyblion
wedi bod yn destun beirniadaeth hallt a phriodol. Pwysleisiwyd nad oedd y Panel
yn gweld dewis rhwng llais y plentyn ac atebolrwydd oedolion, gan fod angen i
blant deimlo’n ddiogel ac yn ddigon hyderus i godi pryderon, ond bod angen i’r
oedolion a oedd yn eu gwasanaethu feddu ar yr hyfforddiant, y wybodaeth a’r
atebolrwydd i ymateb yn briodol. Nodwyd na allai’r naill elfen weithio’n
effeithiol heb y llall.
Eglurwyd nad oedd trefn yr argymhellion yn
adlewyrchu trefn eu pwysigrwydd, gan eu bod wedi eu grwpio yn ôl thema, a phwysleisiwyd
bod pob un o’r argymhellion yn bwysig. Cyfeiriwyd at atebolrwydd
llywodraethwyr, a nodwyd bod y Panel wedi ystyried y mater yn ofalus. Eglurwyd
mai dyna pam yr oedd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion i gryfhau
hyfforddiant llywodraethwyr, egluro cyfrifoldebau a galw ar Lywodraeth Cymru i
ailystyried y fframwaith cenedlaethol. Mynegwyd felly mai’r gwahaniaeth rhwng y
feirniadaeth a safbwynt y Panel oedd pa mor bell y dylai’r argymhellion fynd,
yn hytrach na’r egwyddor ei hun.
Cyfeiriwyd at feirniadaeth nad oedd yr
adroddiad yn cynnwys unrhyw beth newydd. Mewn ymateb, ailbwysleisiwyd mai
pwrpas yr Ymchwiliad Craffu oedd adeiladu ar wersi’r Adolygiad Ymarfer Plant yn
hytrach na’i ailadrodd neu gymryd ei le. Nodwyd bod yr Ymchwiliad Craffu wedi
gofyn cwestiwn gwahanol, sef a oedd trefniadau diogelu ysgolion Gwynedd ar y
pryd yn briodol ac yn cael eu gweithredu’n gyson. Eglurwyd bod nifer o’r
argymhellion yn mynd y tu hwnt i’r hyn a gynhwyswyd yn yr Adolygiad Ymarfer Plant,
gan gynnwys galwadau am fwy o safoni cenedlaethol, cryfhau trefniadau
llywodraethu, gwella trefniadau cofnodi a monitro a sicrhau mwy o gysondeb
rhwng ysgolion. Pwysleisiwyd bod y ddau adroddiad yn cyflawni swyddogaethau
gwahanol ond cyflenwol, gyda’r Adolygiad Ymarfer Plant yn edrych yn ôl ar y
methiannau a’r Ymchwiliad Craffu yn edrych ymlaen at gryfhau’r systemau
presennol.
Cyfeiriwyd at feirniadaeth bod angen
gweithredu yn hytrach na chynhyrchu adroddiad arall. Cytunwyd â’r egwyddor honno,
gan bwysleisio nad yr adroddiad oedd y nod terfynol ond y gweithredu a fyddai’n
dilyn. Nodwyd bod yr Ymchwiliad Craffu wedi gweld yr adroddiad fel un cam mewn
proses, ac y byddai llwyddiant yn cael ei fesur nid yn ôl nifer yr argymhellion
ond yn ôl y camau a gymerid gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru mewn ymateb
iddynt.
Cydnabuwyd nad oedd y Panel wedi honni bod
ganddo’r holl atebion, a bod yr aelodau wedi bod yn ymwybodol iawn o ddifrifoldeb
y pwnc a’r cyfrifoldeb a oedd arnynt. Pwysleisiwyd mai’r bwriad oedd gwneud
cyfraniad adeiladol at y gwaith ehangach o gryfhau trefniadau diogelu yng
Ngwynedd, ac y byddai unrhyw sylwadau neu feirniadaeth adeiladol a oedd yn
arwain at gryfhau’r cynllun gweithredu neu wella trefniadau ymhellach yn cael
eu croesawu. Ailadroddwyd mai’r camau a gymerid ar y cyd, yn hytrach na geiriau
mewn adroddiad, fyddai’n gwneud y gwahaniaeth i ddiogelwch plant.
Croesawyd cynnwys yr adroddiad a nodwyd bod elfennau
newydd wedi dod i’r amlwg. Cyfeiriwyd at yr argymhelliad ynghylch sicrhau bod
enwau’r Person Diogelu Dynodedig a’r Llywodraethwr Dynodedig Diogelu yn cael eu
harddangos ar bosteri yn yr ysgol. Mynegwyd y farn y dylai’r wybodaeth fod yn
weladwy y tu allan i adeilad yr ysgol ac ar wefan yr ysgol, ac y dylid darparu
manylion cyswllt perthnasol o fewn y Cyngor. Pwysleisiwyd, pe byddai’r pryder
yn ymwneud â rhywun o fewn yr ysgol, ei bod yn bwysig bod plant a phobl eraill
yn gwybod sut i gysylltu â rhywun y tu allan i’r ysgol.
Cyfeiriwyd at systemau digidol ar gyfer
cofnodi pryderon, gan gynnwys MyConcern. Cwestiynwyd a fyddai’n bosibl i
swyddog priodol o’r Adran Addysg gael mynediad at y system er mwyn gallu gweld
patrymau, yn enwedig mewn sefyllfa lle mai’r pennaeth oedd yn goruchwylio’r
system. Mynegwyd y farn y gallai mynediad o’r fath gynorthwyo i adnabod
patrymau a sicrhau bod gwybodaeth yn dilyn plentyn wrth symud rhwng ysgolion cynradd
neu wrth drosglwyddo o’r sector cynradd i’r sector uwchradd. Mewn ymateb,
nodwyd:-
•
Bod y Pwyllgor wedi
codi’r mater ynghylch arddangos manylion diogelu o’r blaen, a bod tîm o bedwar
swyddog yn ymweld ag ysgolion yn flynyddol i wirio’r trefniadau a sicrhau bod y
gofynion perthnasol yn eu lle. Eglurwyd bod y tîm yn gymharol newydd ond ei fod
erbyn hynny ar y blaen i’r amserlen o ran ymweld â’r holl ysgolion.
•
Bod yr argymhelliad i
arddangos manylion y personau diogelu, gan gynnwys ar lanyards, yn cael ei
ystyried yn arfer da ac y byddai’r arfer hwnnw’n cael ei ychwanegu at y meini
prawf a ddefnyddid gan y tîm diogelu. Nodwyd bod rhai ysgolion yng Ngwynedd
eisoes yn gwneud hynny.
•
Na allai’r Adran orfodi
ysgol neu gorff llywodraethu i weithredu trefniant nad oedd yn ofyniad
statudol. Mynegwyd rhwystredigaeth ynghylch cyfyngiadau pwerau’r awdurdod
addysg, gan nodi mai argymell, gofyn ac amlygu arfer da oedd y dulliau a oedd
ar gael yn aml.
•
Bod angen i’r adolygiad
a oedd yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ystyried yn glir ble’r oedd y gwahanol bwerau a chyfrifoldebau yn gorwedd,
gan fynegi’r farn nad oedd gan swyddogion yr Adran Addysg ddigon o bwerau i
fynnu bod rhai trefniadau’n cael eu gweithredu.
•
Bod y Cyngor wedi
buddsoddi mewn system ddigidol Bromcom newydd, gyda mwy o gynnydd wedi ei wneud
yn y sector cynradd na’r sector uwchradd. Nodwyd bod symud rhwng systemau’n
heriol, ond bod y gwaith yn mynd rhagddo.
•
Bod ymreolaeth ysgolion
yn golygu ei bod yn anodd sicrhau bod pob ysgol yn defnyddio’r un system.
Nodwyd y byddai ceisio sicrhau cytundeb ar draws Gogledd Cymru, Powys a
Cheredigion yn fwy heriol fyth, ac felly mynegwyd cefnogaeth i Lywodraeth Cymru
fandadu un system genedlaethol ar gyfer Cymru.
•
Y gallai mwy nag un
unigolyn gael mynediad at gofnodion diogelu a bod angen i sawl person allu cael
mynediad at MyConcern.
•
Bod yr awdurdod wedi
comisiynu un system newydd ar gyfer rheoli gwybodaeth am blant ar draws y sir,
ar gyfer y sector cynradd a’r sector uwchradd.
•
Bod y broses o symud o’r
hen system i’r system newydd wedi bod yn heriol iawn, ond nodwyd mai’r nod oedd
sicrhau un cofnod ar gyfer pob plentyn a fyddai’n trosglwyddo’n rhwydd o’r
ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Nodwyd y gallai’r awdurdod, gyda chaniatâd yr
ysgol, gael trosolwg o’r cofnodion diogelu ar y system.
•
Bod mynediad at
MyConcern yn bosibl ond yn fwy cyfyngedig ac yn dibynnu ar ganiatâd yr ysgol.
•
Bod cydweithio agos ac
adeiladol rhwng yr Adran Addysg ac ysgolion Gwynedd, ac mai anaml iawn yr oedd
ysgolion yn gwrthod gweithredu ar ganllawiau neu geisiadau newydd, yn enwedig
yn y maes diogelu.
•
Fodd bynnag, wrth i fwy
o ofynion ychwanegol gael eu cyflwyno, gallai ysgolion yn y dyfodol fod yn fwy
amharod i weithredu trefniadau nad oeddent yn statudol oherwydd y baich gwaith
ychwanegol.
Cwestiynwyd pa bethau penodol ym maes diogelu
yr hoffai’r Adran Addysg gael y grym i’w gwneud yn orfodol, y tu hwnt i gysondeb
o ran y system gofnodi. Mewn ymateb, eglurwyd ei bod eisoes yn ofynnol i
ysgolion gofnodi pryderon a newidiadau yn ymddygiad plant, ond bod modd
dehongli natur a lefel pryder mewn gwahanol ffyrdd. Nodwyd bod ysgolion Gwynedd
yn tueddu i fod yn ofalus ac yn cofnodi’r mwyafrif helaeth o faterion a oedd yn
peri pryder. Pwysleisiwyd mai un o’r newidiadau mwyaf defnyddiol fyddai cael un
system genedlaethol ar gyfer Cymru, gan fod plant yn gallu symud rhwng awdurdodau
lleol yn ystod eu haddysg ac nad oedd system gyson i sicrhau bod un cofnod
diogelu yn dilyn y plentyn drwy gydol ei addysg. Nodwyd bod mwy nag un system
yn cael ei defnyddio hyd yn oed yng Ngwynedd, gan fod dewis meddalwedd yn
parhau yn nwylo ysgolion unigol a phenaethiaid.
Pwysleisiwyd nad oedd y ffaith bod gan
ysgolion ymreolaeth yn golygu nad oeddent yn gwrando nac yn cydweithio â’r
Adran Addysg. Nodwyd bod cydweithio agos rhwng penaethiaid a swyddogion addysg,
a bod gwahanol safbwyntiau’n naturiol mewn system a oedd yn cynnwys nifer fawr
o ysgolion. Eglurwyd bod rôl i’r Aelod Cabinet Addysg a’r Pennaeth Addysg
wrando ar y safbwyntiau hynny ac, ar adegau, ddod i benderfyniad ynghylch yr
hyn a ystyrid yn fwyaf priodol i’r sir. Mynegwyd y farn bod rôl debyg gan
Lywodraeth Cymru ar lefel genedlaethol, ac y gallai ysgolion ei chael yn haws
pe byddai rhai penderfyniadau, megis dewis system genedlaethol, yn cael eu gwneud
ar lefel Cymru yn hytrach na chan bob ysgol unigol.
Cyfeiriwyd at atebolrwydd penaethiaid, gan
nodi bod penaethiaid ysgolion yn atebol i’w Cyrff Llywodraethu ac mai Cadeirydd
y Corff Llywodraethu oedd eu rheolwr llinell, nid y Pennaeth Addysg. Nodwyd bod
hyn yn gysylltiedig â’r adolygiad o lywodraethu ysgolion. Adroddwyd bod
pwysigrwydd yr adolygiad wedi ei godi’n uniongyrchol gyda’r Gweinidog Addysg,
gan bwysleisio’r angen iddo fod yn adolygiad gwirioneddol a sylfaenol lle nad oedd
unrhyw opsiwn wedi ei ddiystyru. Mynegwyd y farn bod yr adolygiad yn mynd at
wraidd trefniadau’r system addysg yng Ngwynedd.
Croesawyd yr adroddiad a’r pwyslais ar lais y
plentyn, gan nodi pwysigrwydd sicrhau bod plant yn gallu mynd at oedolyn yr
oeddent yn ymddiried ynddo. Pwysleisiwyd bod diogelu’n gyfrifoldeb i’r gymuned
gyfan ac nid i’r ysgol yn unig. Fodd bynnag, mynegwyd y farn nad oedd rôl yr
awdurdod addysg yn ymddangos yn ddigon cryf yn yr argymhellion. Cydnabuwyd bod swyddogion
yn ymweld ag ysgolion ac yn argymell arferion, ond mynegwyd y farn bod angen
arweiniad mwy cadarn mewn rhai meysydd. Cyfeiriwyd at y buddsoddiad yn Bromcom
a nodwyd nad oedd pob ysgol a oedd wedi ei chynnwys yn yr ymchwiliad wedi bod
yn defnyddio’r system. Mynegwyd y farn y gallai fod gan yr Adran fwy o
ddylanwad ar ysgolion nag yr oedd yn ei gydnabod, gan nodi na fyddai disgwyl i
ysgolion wrthod cymorth ychwanegol i gryfhau diogelu plant.
Cyfeiriwyd yn benodol at yr ystyriaeth yn yr adroddiad
ynghylch a ddylai’r Adran Addysg gymryd cyfrifoldeb am ddarparu hyfforddiant i
bob athro llanw. Mynegwyd y farn y gallai’r Adran Addysg chwarae rôl gryfach yn
y maes hwn yn hytrach na gadael y cyfrifoldeb i benaethiaid ysgolion, a
mynegwyd y dymuniad i weld yr awdurdod addysg yn gweithredu’n fwy amlwg fel
cydlynydd ar gyfer y trefniadau.
Mewn ymateb, eglurwyd bod Bromcom wedi ei
gomisiynu ar gyfer pob ysgol yng Ngwynedd ac y bwriedid ei gyflwyno ym mhob ysgol.
Nodwyd bod trosglwyddo’r holl ysgolion cynradd yn dasg sylweddol dros nifer o
dymhorau, a bod bwriad i gwblhau’r gwaith erbyn diwedd mis Mawrth 2027.
Pwysleisiwyd, fodd bynnag, er bod y system yn cael ei darparu am ddim, bod gan
ysgolion y dewis o hyd i beidio â’i defnyddio ac nad oedd gan y Pennaeth Addysg
y grym i’w gorfodi i wneud hynny.
O ran athrawon llanw, eglurwyd mai’r
ysgolion, ac nid yr awdurdod addysg, oedd yn eu cyflogi. Nodwyd bod rhai
ysgolion yn defnyddio asiantaethau llanw preifat a oedd yn darparu rhestrau o
athrawon a oedd wedi cwblhau gwiriadau DBS a hyfforddiant diogelu. Adroddwyd
bod Gwynedd yn cynnal rhestr o athrawon llanw, er nad oedd adnodd penodol ar
gael i’w chynnal. Eglurwyd bod y rhestr yn cael ei llunio’n flynyddol a’i
diweddaru lle bo modd, ac yn cynnwys athrawon a oedd yn dymuno gwneud gwaith
llanw yng Ngwynedd ac a oedd wedi cwblhau’r gwiriadau DBS perthnasol. Nodwyd
bod hyfforddiant wedi ei gynnig iddynt, ond nad oedd yn orfodol iddynt ei
fynychu gan nad oeddent yn gyflogedig i’r awdurdod.
Pwysleisiwyd mai cyfrifoldeb yr ysgol oedd
sicrhau, wrth ddefnyddio athro llanw, eu bod yn derbyn yr hyfforddiant diogelu
priodol ac yn gwybod at bwy i droi yn yr ysgol pe byddai pryder yn codi. Nodwyd
bod yr awdurdod yn gallu comisiynu systemau a darparu cefnogaeth, ond nad oedd
ganddo’r pŵer i orfodi ysgol i ddefnyddio system benodol nac i orfodi
athrawon llanw i fynychu hyfforddiant heb unrhyw sicrwydd o waith.
Mynegwyd cefnogaeth i’r adroddiad a’r
argymhellion, a awgrymwyd y dylid anfon copi cryno o’r argymhellion at bob
pennaeth ysgol, gan gynnwys rhagair Cadeirydd yr Ymchwiliad. Cyfeiriwyd at
Argymhelliad 1, sef sicrhau bod hyfforddiant o lefel briodol yn cael ei gynnig
yn flynyddol i holl staff a llywodraethwyr ysgolion. Cwestiynwyd a oedd hyn yn
awgrymu bod yr Ymchwiliad wedi canfod gwendid yn yr hyfforddiant presennol. Mewn
ymateb, eglurwyd nad oedd tystiolaeth gref o ddiffyg penodol yn yr
hyfforddiant, ond bod y Panel wedi dymuno pwysleisio’r egwyddor bod diogelu yn
gyfrifoldeb ar bawb. Nodwyd bod angen sicrhau bod yr hyfforddiant a ddarperid o
safon uchel, yn gyson, ac yn cael ei gwblhau gan bawb.
Cyfeiriwyd at ddealltwriaeth disgyblion o’r
drefn ddiogelu a Pholisi Amddiffyn Plant 2025. Nodwyd bod y polisi i fod i gael
ei gymeradwyo gan y Person Diogelu Dynodedig, y Llywodraethwr Dynodedig Diogelu
a’r Pennaeth, ond nad oedd cyfeiriad at Gadeirydd y Corff Llywodraethu nac at
Gadeirydd y Cyngor Ysgol ar ran y disgyblion. Nodwyd bod addewid wedi ei roi
mewn cyfarfod blaenorol y byddai fersiwn hawdd ei darllen o’r polisi ar gael i
ddisgyblion, ac y dylai fod wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r polisi ym
mis Hydref 2025. Cwestiynwyd pam nad oedd y fersiwn honno wedi ei darparu hyd
yma. Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai fersiwn hawdd ei ddarllen ar gyfer plant
a phobl ifanc yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r polisi diwygiedig ym mis
Medi.
Cyfeiriwyd at waith Dr Ceryl
Teleri Davies ar lais disgyblion, gan nodi ei bod wedi cwrdd â 57 o ddisgyblion
ac wedi cydnabod nad oedd cyfle wedi bod i gynnwys disgyblion hŷn. Tynnwyd
sylw at y ffaith bod wyth maes i’w gwella neu eu datblygu wedi eu nodi mewn
ysgolion cynradd, tra bod deg cryfder wedi eu nodi yn yr ysgolion uwchradd heb
unrhyw feysydd datblygu. Nodwyd bod hyn yn ymddangos yn anghyson. Cyfeiriwyd at
y ffaith bod yr Ymchwiliad wedi cynnwys nifer o randdeiliaid allweddol, gan
gynnwys penaethiaid, cydgysylltwyr diogelu, staff, llywodraethwyr a disgyblion,
ond cwestiynwyd pam nad oedd llais rhieni wedi ei gynnwys. Mynegwyd y farn y
gallai holiadur neu arolwg fod wedi cael ei ddefnyddio i gasglu barn rhieni
ynghylch pa mor glir a chyson oedd y trefniadau diogelu ar draws ysgolion.
Mewn ymateb i’r sylwadau ynghylch hyfforddiant,
eglurwyd bod ystod o hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn unol â gofynion
Llywodraeth Cymru ac ar wahanol lefelau yn ôl y cyfrifoldebau perthnasol.
Nodwyd mai mater gwahanol oedd sicrhau bod unigolion yn ymrwymo i gwblhau’r
hyfforddiant. Eglurwyd mai un o’r gwersi a ddaeth o’r ymchwiliad oedd yr angen
i fonitro’n fwy gofalus bod Cadeiryddion Cyrff Llywodraethu, er enghraifft, yn
cwblhau’r hyfforddiant diogelu mandadol yn amserol, ac i sicrhau bod yr
hyfforddiant yn cael effaith.
Nododd yr Aelod Cabinet Addysg fod newid
diwylliant eisoes wedi dechrau, gyda’r Cyngor yn ceisio bod yn fwy agored i
graffu allanol, i sylwadau ac i awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella
trefniadau. Cyfeiriwyd at sefydlu’r Bwrdd Ymateb yn dilyn cyhoeddi’r Adolygiad
Ymarfer Plant, dan gadeiryddiaeth yr Athro Sally Holland, cyn Gomisiynydd Plant
Cymru. Nodwyd bod aelodau’r Cyngor, swyddogion, ynghyd ag arsylwyr o Estyn,
Arolygiaeth Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Plant yn rhan
o’r Bwrdd. Eglurwyd bod y Bwrdd yn craffu ar dros 57 o ffrydiau gwaith, heb
gynnwys yr is-ffrydiau cysylltiedig.
Adroddwyd bod sawl adroddiad chwarterol wedi
ei gyflwyno gan Gadeirydd y Bwrdd i’r Cabinet ac ar gael yn gyhoeddus, ynghyd â
phapurau’r Bwrdd. Nodwyd bod y Cadeirydd wedi adrodd ei fod yn fodlon â’r
cynnydd a oedd yn cael ei wneud, bod y gwaith yn cael ei gyflawni mewn modd
amserol a bod nifer o’r tasgau eisoes wedi eu cwblhau. Cyfeiriwyd at adroddiad ar
y cyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn a oedd wedi edrych yn benodol ar
drefniadau diogelu. Nodwyd bod argymhellion yr adroddiad hwnnw’n cael eu
gweithredu ac y byddai argymhellion yr Ymchwiliad Craffu yn cael eu hystyried
ochr yn ochr â’r gwaith hwnnw.
Adroddwyd bod gwaith cychwynnol wedi ei wneud
i asesu statws y 22 argymhelliad, a bod saith, yn ôl yr asesiad cychwynnol,
wedi eu cwblhau’n llawn, 12 wedi eu cwblhau’n rhannol a thri heb eu gweithredu hyd
yma. Nodwyd bod rhai o’r argymhellion heb eu gweithredu yn dibynnu ar
Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr angen am un system cofnodi genedlaethol ar
draws rhanbarthau ac awdurdodau. Eglurwyd bod sefyllfa debyg yn bodoli mewn
perthynas ag argymhellion yr Adolygiad Ymarfer Plant, gan fod rhai ohonynt yn
faterion i Lywodraeth Cymru weithredu arnynt.
Nodwyd y byddai diweddariad pellach yn cael
ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn yr hydref ar waith y Bwrdd Ymateb, er mwyn rhoi sicrwydd
bod y gwaith yn symud ymlaen yn drylwyr. Adroddwyd bod y Bwrdd Sicrwydd a
sefydlwyd gyda Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd. Nodwyd y
byddai’r trefniant yn parhau yn dilyn newid Llywodraeth, a bod cyfarfod pellach
eisoes wedi ei drefnu.
Pwysleisiwyd bod gwaith sylweddol yn cael ei
gyflawni ac nad oedd y Cyngor yn anwybyddu’r argymhellion nac yn methu â
gweithredu. Nodwyd bod penderfyniad clir wedi ei wneud i newid polisïau, gweithdrefnau
a diwylliant er mwyn gwneud popeth posibl i atal methiannau tebyg i’r rhai a
welwyd yn Ysgol Friars rhag digwydd eto. Cyfeiriwyd at feirniadaeth gyhoeddus
bod y Cyngor heb weithredu, a gwrthodwyd yr awgrym hwnnw gan nodi bod nifer o
argymhellion yr Adolygiad Ymarfer Plant a’r Ymchwiliad Craffu eisoes wedi eu
gweithredu.
Adroddwyd bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud
dros y 18 mis blaenorol o ran trefniadau diogelu a llesiant mewn ysgolion. Nodwyd
bod Tîm Diogelu a Llesiant Addysg newydd wedi ei sefydlu a’i ehangu, gyda’r
bwriad o ymweld â phob ysgol yn flynyddol mewn perthynas â diogelu. Eglurwyd
bod y gefnogaeth i lywodraethwyr wedi ei chryfhau drwy raglen hyfforddi,
llawlyfr newydd a phenodi swyddog ychwanegol i’w cefnogi, a bod yr hyfforddiant
diogelu wedi ei ddiweddaru i gynnwys ymwybyddiaeth o feithrin perthynas
amhriodol (grooming). Nodwyd bod Pennaeth a thîm rheoli newydd yn Ysgol
Friars, ynghyd â newidiadau i’r Corff Llywodraethu a Chadeirydd newydd.
Cyfeiriwyd at brosesau Rhan 5, Gweithdrefnau
Diogelu Cymru, a nodwyd bod y trefniadau wedi eu hatgyfnerthu er mwyn sicrhau
nad oedd penderfyniadau diogelu yn cael eu gwneud gan un unigolyn yn unig, a
bod cofnodion a gwybodaeth hanesyddol yn cael eu gwirio bob tro pan fo
cyfeiriad diogelu yn cael ei dderbyn. Adroddwyd bod archwiliad ôl-weithredol
wedi ei gynnal o gyfeiriadau dros nifer o flynyddoedd er mwyn sicrhau nad oedd
patrwm tebyg arall wedi ei golli. Nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i symud pob
ysgol i un system electronig ar gyfer cofnodi gwybodaeth am blant, a fyddai’n
cryfhau’r gallu i rannu gwybodaeth ar draws y sir a gwella cysondeb.
Pwysleisiwyd bod llais y plentyn yn ganolog i’r trefniadau newydd.
Adroddwyd bod gweithiwr cymdeithasol yn gwneud ymdrech rhagweithiol i siarad â phob
plentyn a oedd yn destun cyfeiriad diogelu, er mwyn sicrhau bod barn y plentyn
yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. Nodwyd bod y datblygiadau hyn yn
dangos ymrwymiad i gryfhau trefniadau diogelu, gwella trefniadau llywodraethu a
sicrhau’r gefnogaeth orau posibl i blant a phobl ifanc yng Ngwynedd.
Pwysleisiwyd bod y maes yn cael ei gymryd o ddifrif a bod ymrwymiad i beidio ag
osgoi unrhyw waith yr oedd angen ei gyflawni.
PENDERFYNWYD
·
Cymeradwyo’r adroddiad.
·
Gofyn am ddiweddariad gan yr Aelod
Cabinet Addysg ar weithrediad fesul argymhelliad ymhen oddeutu 6 mis.
Dogfennau ategol: