Agenda item

Derbyn diweddariad ar y gwaith ac ystyried beth yw eu heffaith.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

•           Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

•           Gofyn i’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned drafod ffioedd meysydd parcio ac effaith newid oriau gorfodaeth mewn meysydd parcio ar yr economi leol gyda’r Aelodau Cabinet a’r adrannau perthnasol.

COFNODION:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yr adroddiad gan nodi bod yr heriau a oedd yn wynebu canol trefi yn amlwg, gan gynnwys newidiadau mewn arferion siopa, twf siopa ar-lein a phwysau costau byw. Eglurwyd mai’r her oedd ail bwrpasu canol trefi a’u gwneud yn lleoedd deniadol i fyw, gweithio a threulio amser ynddynt. Nodwyd bod trafodaethau wedi dechrau gyda Llywodraeth newydd Cymru ynghylch y maes.

Ymhelaethwyd bod yr adroddiad yn adeiladu ar wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn flaenorol ac yn canolbwyntio ar weithgareddau’r Gwasanaeth Rhaglenni Adfywio, gan gynnwys gwaith adfywio canol trefi, datblygu a gweithredu prosiectau adfywio ac ymateb i eiddo gwag. Cyfeiriwyd at y fframwaith ar gyfer trefi Gwynedd a’r Cynlluniau Creu Lleoedd a ddatblygwyd ar gyfer Bangor, Caernarfon, Porthmadog, Pwllheli, y Bala a Dolgellau. Nodwyd bod y cynlluniau hyn wedi eu paratoi ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn 2023.

Adroddwyd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ddatblygu a gweithredu prosiectau adfywio a’r prif raglenni grant. Nodwyd bod grantiau gwerth £31.8 miliwn wedi eu sicrhau rhwng 2023-26 ar gyfer datblygu a gweithredu prosiectau adfywio canol trefi ar draws y sir. Cyfeiriwyd at y prosiectau a oedd i’w gweithredu drwy Gronfa Effaith Balchder Bro a’r Gronfa Twf Leol, ynghyd â’r gwaith ar eiddo gwag yng nghanol trefi.

Ymhelaethwyd bod gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu mesurau perfformiad a chasglu data er mwyn gallu mesur effaith y gwaith adfywio ar ganol trefi. Cyfeiriwyd at Strategaeth Economaidd newydd y Cyngor ac at yr angen i asesu effaith prosiectau yn ogystal â monitro nifer a chyflwr eiddo gwag. Eglurwyd bod rhan olaf yr adroddiad yn crynhoi’r prif gasgliadau a’r gwersi a ddysgwyd, ynghyd â materion pellach i’w hystyried dros y misoedd dilynol.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y diffiniad o eiddo gwag. Cyfeiriwyd at enghreifftiau ym Mhwllheli lle’r oedd siop yn parhau i weithredu ar lawr gwaelod adeilad ond bod y llawr uchaf yn wag, gan nodi y gallai’r sefyllfa arwain at gostau Premiwm Treth Cyngor sylweddol a rhoi pwysau ychwanegol ar hyfywedd y busnes ar y llawr gwaelod.

Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd un diffiniad syml o eiddo gwag ar draws y Cyngor, gan fod nifer o wasanaethau ac adrannau’n ymwneud ag eiddo gwag ac yn gweithredu o dan wahanol ddeddfwriaethau a rheoliadau. Nodwyd bod y diffiniadau a’r cyfnodau perthnasol felly’n gallu amrywio rhwng gwasanaethau. O ran gwaith adfywio canol trefi, eglurwyd bod y Gwasanaeth yn tueddu i ganolbwyntio ar eiddo a oedd wedi bod yn wag am fwy na blwyddyn, gan roi blaenoriaeth i adeiladau sylweddol mewn lleoliadau canolog lle’r oedd eu cyflwr yn dirywio ac yn cael effaith ar yr ardal.

Nodwyd bod gwahaniaeth amlwg rhwng perfformiad gwahanol strydoedd a chanol trefi, gyda rhai yn ffynnu tra bod eraill yn ei chael yn anodd iawn denu busnesau newydd. Cwestiynwyd pam yr oedd cymaint o wahaniaeth rhwng un stryd neu dref a’r llall. Mewn ymateb, mynegwyd y farn bod datblygiadau manwerthu ar gyrion trefi yn ffactor sylweddol. Nodwyd bod trefi heb gystadleuaeth allanol cyfagos yn tueddu i berfformio’n well, tra bod canol trefi â datblygiadau sylweddol ar eu cyrion yn wynebu mwy o bwysau. Cyfeiriwyd at Fangor fel enghraifft amlwg, ac at Gaernarfon i raddau llai.

Eglurwyd ymhellach bod pob tref yn wahanol ac yn wynebu cyfleoedd a heriau penodol. Nodwyd bod Cynlluniau Creu Lleoedd wedi eu datblygu dros y tair blynedd flaenorol ar gyfer Caernarfon, Bangor, Porthmadog, Pwllheli, Dolgellau a’r Bala er mwyn adnabod y prif heriau a chyfleoedd ym mhob tref a llunio cynllun gweithredu penodol. Nodwyd bod trefi ledled Cymru yn wynebu cyfnod o newid sylweddol ac nad oedd un ateb syml na chyson ar gyfer pob lle. Pwysleisiwyd bod angen ailbwrpasu trefi a oedd wedi eu heffeithio gan newidiadau mewn manwerthu, gan ystyried pa ddefnyddiau a chyfleusterau a allai ddenu pobl a gwneud profiad o ymweld â chanol tref yn fwy pleserus. Nodwyd bod nifer o ffactorau allanol yn dylanwadu ar ganol trefi ac felly bod angen datblygu atebion penodol ar gyfer pob tref.

Cwestiynwyd a oedd costau parcio yn cael effaith sylweddol ar ganol trefi. Cyfeiriwyd at Borthmadog, lle gallai pobl ddefnyddio maes parcio archfarchnad heb dalu ac yna cerdded i’r stryd fawr, a gofynnwyd a oedd trefniadau o’r fath yn cynorthwyo canol y dref. Cyfeiriwyd at bryderon a gyflwynwyd gan aelodau o ardal Bethesda, o ran effaith cyflwyno tâl am yr awr gyntaf o barcio ym meysydd parcio y Cyngor ar hyfywedd busnesau’r stryd fawr. Nodwyd, er mai’r Adran Amgylchedd oedd yn gyfrifol am barcio, bod dymuniad i’r mater gael ei ystyried ar draws adrannau oherwydd ei effaith economaidd.

Mewn ymateb, cyfeiriwyd at yr adroddiad, a oedd eisoes yn nodi materion megis lefelau ardrethi busnes a ffioedd parcio fel rhwystrau posibl i gynyddu bwrlwm yng nghanol trefi. Nodwyd bod taliadau parcio yn gallu bod yn rhwystr i’r economi, ond pwysleisiwyd bod y meysydd parcio yn cynhyrchu incwm sylweddol i’r Cyngor a bod angen ystyried sut y byddai unrhyw ostyngiad mewn taliadau yn cael ei ariannu. Cyfeiriwyd at drafnidiaeth gyhoeddus fel opsiwn i rai trigolion, gan gynnwys y rhai a oedd yn gymwys i deithio am ddim ar fysiau. Mynegwyd y farn bod angen meddwl yn wahanol am y mater, ond nodwyd bod y sefyllfa ariannol fregus a’r angen i’r Cabinet ystyried toriadau pellach yn gwneud unrhyw newid yn heriol. Cadarnhawyd y byddai’r mater yn destun trafodaeth bellach gan y Cabinet.

Tynnwyd sylw at y buddsoddiad sylweddol a sicrhawyd ar gyfer adfywio canol trefi, sef oddeutu £31 miliwn, gan nodi bod yr adroddiad yn cydnabod yr anhawster o brofi effaith y buddsoddiad hwnnw. Cyfeiriwyd at gynnydd yn nifer yr eiddo gwag rhwng 2025 a 2026, yn dilyn gwelliant yn flaenorol, ac at y ffaith bod nifer o’r eiddo gwag ychwanegol wedi eu lleoli yng Nghaernarfon, Bangor, Dolgellau a Phwllheli. Cwestiynwyd sut yr oedd y Cabinet yn asesu effeithiolrwydd y strategaeth bresennol a pha dystiolaeth oedd ar gael i ddangos bod y buddsoddiad yn cael effaith hirdymor yn hytrach nag effaith dros dro.

Mewn ymateb, cydnabuwyd bod mesur effaith yn faes yr oedd angen ei wella. Eglurwyd bod y gwasanaeth yn dibynnu bron yn llwyr ar grantiau i ddatblygu a gweithredu prosiectau, ac felly bod angen gweithio o fewn canllawiau a blaenoriaethau’r prif raglenni cyllido. Nodwyd bod adroddiadau gwerthuso yn cael eu cynnal i sicrhau bod prosiectau wedi eu gweithredu yn unol â gofynion grant ac wedi cyflawni’r allbynnau a’r canlyniadau disgwyliedig. Eglurwyd, fodd bynnag, mai’r her oedd mesur yr effaith ehangach ar y lleoliad ei hun.

Eglurwyd bod y mater wedi ei blethu i’r Strategaeth Economaidd newydd, gyda fframwaith ar gyfer monitro a gwerthuso’r gwahaniaeth yr oedd y Cyngor yn ceisio ei wneud. Nodwyd y byddai’r dull yn ystyried yr allbynnau uniongyrchol, y canlyniadau ar lefel uwch ac, yn y pen draw, yr effaith. Nodwyd nad oedd y model yn berffaith oherwydd y nifer fawr o ffactorau eraill a oedd yn dylanwadu ar economïau lleol, ond mynegwyd y gobaith y byddai’r strwythur newydd yn galluogi’r Cyngor i greu cysylltiad cliriach rhwng y prosiectau a weithredwyd a’r canlyniadau a welwyd. Cadarnhawyd nad oedd y gwaith hwn wedi ei wneud yn ddigonol yn y blynyddoedd blaenorol a’i fod yn faes a oedd wedi ei adnabod ar gyfer gwella.

Ychwanegwyd bod mesur y gwahaniaeth gwirioneddol, yr effaith a’r canlyniadau wedi bod yn un o’r prif ystyriaethau wrth ddatblygu’r Strategaeth Economaidd newydd. Cyfeiriwyd at yr adroddiad a oedd yn nodi’r mathau o fesurau y bwriedid eu defnyddio. Nodwyd bod mesur effaith yn parhau’n anodd oherwydd bod yr economi a’r amgylchiadau ehangach yn newid yn gyson, ond mynegwyd y gobaith y byddai Llywodraeth newydd Cymru yn gallu rhoi cymorth yn y maes.

Cyfeiriwyd at yr heriau yr oedd siopa ar-lein yn eu creu i siopau lleol. Cymharwyd perfformiad Dolgellau â Machynlleth, gan nodi bod nifer o fusnesau ym Machynlleth yn elwa o weithgaredd economaidd cysylltiedig â beicio a chyfleusterau mawr yn yr ardal gyfagos, gan gynnwys busnesau trwsio a gwerthu beiciau, ffatrïoedd, gwestai a gwasanaethau eraill. Mynegwyd y farn y dylai swyddogion y Cyngor ymweld ag enghreifftiau llwyddiannus o’r fath a chynnal trafodaethau i weld pa wersi y gellid eu dysgu a pha gymorth y gellid ei ddarparu i fentrau tebyg yng Ngwynedd.

Mynegwyd pryder bod llawer o’r cyllid a restrwyd yn yr adroddiad wedi ei ganolbwyntio ar drefi, a chwestiynwyd faint o gymorth oedd yn cael ei ddarparu i gymunedau ac ardaloedd y tu allan i’r prif drefi. Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau yn Nolgellau a nodwyd, er gwaethaf y buddsoddiad, bod y dref yn parhau i wynebu heriau a bod busnesau lleol yn cau neu ar werth. Pwysleisiwyd yr angen i swyddogion ymweld â busnesau’n uniongyrchol a gofyn pa gymorth yr oedd ei angen arnynt, gan gynnwys a oedd parcio neu ffactorau eraill yn wraidd y problemau, yn hytrach na dibynnu ar wybodaeth pen desg neu fuddsoddi mewn prosiectau nad oedd eu heffaith yn sicr.

Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn ceisio ymweld ag enghreifftiau o arfer da ledled Cymru er mwyn dysgu o brosiectau ac ymyraethau llwyddiannus. Eglurwyd bod yr adroddiad dan sylw wedi canolbwyntio’n benodol ar ganol trefi ac felly nad oedd y ffigurau ynddo’n rhoi darlun cyflawn o holl waith yr Adran. Nodwyd nad oedd y ffigurau, er enghraifft, yn cynnwys grantiau cymunedol a rhaglenni eraill a oedd yn cael eu gweinyddu gan wasanaethau gwahanol o fewn yr Adran, a bod llawer o grwpiau mewn ardaloedd gwledig yn derbyn cefnogaeth drwy’r ffrydiau hynny.

Pwysleisiwyd rôl busnesau a grwpiau lleol yn y broses o adfywio canol trefi. Nodwyd bod partneriaethau lleol yn cael eu datblygu ochr yn ochr â’r Cynlluniau Creu Lleoedd er mwyn cydlynu’r cynlluniau gweithredu a chefnogi sefydliadau lleol i weithredu prosiectau. Cyfeiriwyd at gynllun peilot y flwyddyn flaenorol ar gyfer cynghorau tref a chymuned, a nodwyd ei fod wedi bod yn gymharol lwyddiannus ac y datblygwyd cynllun tebyg ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

Nodwyd bod y gymuned fusnes yn bartner allweddol a bod y Gwasanaeth yn ceisio sicrhau bod llais busnesau lleol a’r sector preifat yn cael ei gynnwys mewn partneriaethau lleol. Pwysleisiwyd mai’r busnesau eu hunain oedd yn y sefyllfa orau i egluro’r heriau yr oeddent yn eu hwynebu. Pwysleisiwyd bod y Gwasanaeth Rhaglenni Adfywio yn wasanaeth cymharol fach ac nad oedd yr adroddiad yn cynnwys gwaith ehangach yr Adran megis cymorth busnes a digwyddiadau. Mynegwyd y farn bod angen symud oddi wrth ganolbwyntio ar grantiau yn unig ac ystyried sut y gellid cydblethu gwasanaethau a darpariaethau gwahanol o fewn canol trefi, gan gynnwys parcio ac ymateb i heriau ardrethi busnes.

Croesawyd y gwaith a amlygwyd yn yr adroddiad, gan gyfeirio’n benodol at y Gronfa ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned. Nodwyd bod datblygiad economaidd ac adfywio yn bwysig, ond bod gwaith megis gwella llwybrau troed, llochesi bysiau, parciau chwarae a chyfleusterau lleol eraill yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ansawdd bywyd trigolion ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Nodwyd bod mesur effaith uniongyrchol gwaith adfywio economaidd yn anodd. Mynegwyd y farn y gallai data ar nifer yr ymwelwyr neu’r nifer a oedd yn cerdded drwy ganol trefi fod yn un ffordd o greu tystiolaeth fwy uniongyrchol, ond nodwyd bod unrhyw gasgliadau ynghylch effaith gweithgareddau unigol yn parhau’n rhannol ddamcaniaethol heb ddata o’r fath. Cymharwyd yr her â gwaith adfywio’r Gymraeg, gan nodi bod y ddau faes yn wynebu newidiadau cymdeithasol mawr nad oedd gan awdurdod lleol y gallu i’w rheoli’n llawn ar lefel sirol.

Pwysleisiwyd bod rôl i atal penderfyniadau gan rannau eraill o’r Cyngor rhag gwaethygu tueddiadau negyddol. Cyfeiriwyd at leoliad archfarchnadoedd a datblygiadau masnachol, gan nodi bod lleoli siopau mawr yng nghanol neu’n agos at ganol tref yn gallu cefnogi’r stryd fawr, tra bod datblygiadau ar gyrion trefi yn gallu tynnu gweithgarwch oddi wrth y canol. Cyfeiriwyd at Borthmadog a Chaernarfon fel enghreifftiau lle’r oedd cyfleusterau mawr yn agos at ganol y dref, a chymharwyd hynny â Phwllheli a Bangor lle’r oedd penderfyniadau cynllunio neu ddyrannu tir wedi arwain at fwy o ddatblygiadau ar gyrion trefi. Mynegwyd y farn y dylid rhoi sylw i hyn wrth ystyried dyraniadau tir ar gyfer archfarchnadoedd a datblygiadau tebyg yn y dyfodol.

Mewn ymateb, nodwyd bod y Gronfa Balchder Bro wedi ei sefydlu gan y Cyngor cyn i gynllun y Llywodraeth o’r un enw gael ei gyflwyno, a phwysleisiwyd bod gwella delwedd ac ansawdd trefi o fudd i’r gymuned leol. O ran mesur nifer yr ymwelwyr, adroddwyd bod gwaith wedi dechrau yn ystod y flwyddyn flaenorol i olrhain data canol trefi. Cyfeiriwyd at broffil canol trefi Gwynedd ar gyfer 2025 a nodwyd y byddai ffigurau 2025/26 ar gael yn fuan. Eglurwyd y gallai’r data ddangos tueddiadau a phatrymau dros amser, ond na fyddai’n gallu profi cysylltiad uniongyrchol rhwng gweithgaredd penodol gan y Cyngor a’r newid a welwyd. Cadarnhawyd y byddai’r gwaith o ddatblygu’r setiau data yn parhau, gyda’r gobaith y byddent yn dod yn fwy gwerthfawr wrth i dueddiadau tymor hir ddod i’r amlwg.

Cyfeiriwyd at gydweithio trawsadrannol a nodwyd bod nifer o brosiectau adfywio presennol eisoes yn cynnwys gwaith ar y cyd. Adroddwyd bod y Gwasanaeth yn cydweithio’n agos â’r Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC ar brosiectau canol trefi, ynghyd â chynlluniau ar y cyd gyda’r Adran Tai ac Eiddo. Mynegwyd y gobaith y gellid ehangu’r cydweithio hwn ymhellach er mwyn rhoi sylw i ystod ehangach o faterion.

Croesawyd gwaith yr Adran a chydnabuwyd y pwysau ariannol sylweddol a wynebwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mynegwyd pryder ynghylch lefel y cydweithio rhwng adrannau wrth wneud penderfyniadau a oedd yn effeithio ar economïau lleol. Cyfeiriwyd yn benodol at y cynnydd diweddar mewn ffioedd parcio, gan nodi’r argraff nad oedd digon o drafodaeth wedi digwydd rhwng yr Adran Amgylchedd a’r Adran Economi a Chymuned cyn gwneud y newidiadau. Pwysleisiwyd na ddylai penderfyniadau o’r fath gael eu gwneud ar wahân, gan fod ffioedd parcio yn gallu cael effaith sylweddol ar fusnesau.

Nodwyd bod Gwynedd yn sir fawr ac amrywiol ac nad oedd dull unffurf yn addas ar gyfer pob ardal. Cyfeiriwyd at ymdrechion i gysoni ffioedd parcio ar draws y sir, ond mynegwyd y farn bod angen ystyried amgylchiadau lleol gwahanol wrth bennu’r ffioedd, gan fod effaith newidiadau ar fusnesau a chanol trefi yn gallu amrywio’n sylweddol rhwng ardaloedd.

Pwysleisiwyd ymhellach bod effaith ffioedd parcio yn gallu amrywio’n sylweddol rhwng gwahanol ardaloedd a hyd yn oed rhwng meysydd parcio unigol. Rhoddwyd Llandanwg fel enghraifft, gan nodi bod un busnes bach yn dibynnu’n sylweddol ar bobl leol ac ymwelwyr a oedd yn aros am gyfnod byr i gerdded ar y traeth ac ymweld â’r caffi. Eglurwyd bod y trefniant blaenorol wedi galluogi pobl i dalu am awr, ond bod angen talu £4 am bedair awr erbyn hynny. Nodwyd nad oedd pobl leol, ac yn aml ymwelwyr ar ddiwrnodau llai ffafriol, yn dymuno aros am bedair awr, a bod colli hyd yn oed nifer fach o gwsmeriaid yn gallu cael effaith sylweddol ar fusnes a oedd yn cyflogi ychydig o bobl mewn ardal wledig. Pwysleisiwyd yr angen am well cydweithio rhwng adrannau ac am asesu effaith economaidd penderfyniadau ar sail amgylchiadau pob ardal a, lle bo’n briodol, pob maes parcio unigol.

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y ffordd yr oedd gwahanol drefi wedi eu diffinio yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at Harlech, a oedd ar waelod y rhestr, ac at Lanbedr a Thalsarnau nad oeddent wedi eu cynnwys. Mynegwyd pryder y gallai’r dull o flaenoriaethu buddsoddiad roi llai o bwyslais ar bentrefi a threfi llai, er bod creu neu ddiogelu hyd yn oed nifer fach o swyddi yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol mewn ardal fach. Pwysleisiwyd bod angen rhoi sylw i’r cymunedau llai yn ogystal â’r prif drefi.

Cyfeiriwyd at y gronfa ar gyfer cynghorau tref a chymuned a chwestiynwyd a oedd yr arweiniad ynghylch yr hyn yr oedd modd gwneud cais amdano wedi bod yn ddigon clir. Nodwyd bod ystod eang o brosiectau wedi derbyn cefnogaeth, gyda rhai cynghorau wedi derbyn symiau sylweddol uwch nag eraill a nifer heb dderbyn unrhyw gyllid. Mewn ymateb, eglurwyd bod yr Adran wedi cysylltu â phob cyngor tref a chymuned i egluro’r cyfleoedd oedd ar gael, ac wedi cysylltu eto â’r rhai nad oeddent wedi ymateb, gan arwain at geisiadau pellach. Pwysleisiwyd nad oedd unrhyw gyngor wedi cael cais wedi ei wrthod, a bod y bwriad wedi bod i roi’r rhyddid i’r cynghorau lleol benderfynu pa brosiectau oedd fwyaf addas i anghenion eu cymunedau. Eglurwyd bod lefel y cyllid yn cael ei dyrannu ar sail poblogaeth, ac felly bod ardaloedd mwy yn derbyn mwy o arian nag ardaloedd llai.

Cwestiynwyd a oedd y cyfle i wneud cais am y gronfa yn parhau ar agor. Mewn ymateb, eglurwyd bod y cylch diweddaraf newydd gau ar ddechrau mis Gorffennaf. Nodwyd bod enghreifftiau o brosiectau llwyddiannus y flwyddyn flaenorol wedi cael eu rhannu a bod cynghorau wedi cael eu hannog i gyflwyno ceisiadau. Adroddwyd bod cyllid wedi ei glustnodi ar gyfer pob cyngor tref a chymuned ar yr amod eu bod yn cyflwyno cais, a phwysleisiwyd bod rhybudd o sawl mis wedi ei roi am y cyfnod i wneud cais. Cyfeiriwyd at feysydd chwarae plant a mannau gwyrdd fel enghreifftiau o’r math o brosiectau y gellid eu cefnogi er mwyn gwella cyfleusterau cymunedol.

Mewn ymateb i’r sylwadau ynghylch cydweithio rhwng adrannau a thaliadau parcio, cadarnhawyd bod y sylwadau wedi eu nodi ac y byddai’r Gwasanaeth yn awyddus i ddatblygu’r gwaith trawsadrannol ymhellach dros y misoedd dilynol.

O ran y diffiniad o’r gwahanol drefi, eglurwyd nad oedd y Gwasanaeth wedi ceisio creu diffiniad newydd o ganol tref, ond wedi defnyddio’r fframwaith a oedd eisoes wedi ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd bod y cynllun yn adnabod Bangor fel canolfan fanwerthu is-ranbarthol, Caernarfon, Porthmadog a Phwllheli fel canolfannau manwerthu trefol, ynghyd â nifer o ganolfannau manwerthu lleol. O fewn ardal y Parc Cenedlaethol, nodwyd bod Dolgellau a’r Bala yn cael eu hadnabod fel canolfannau gwasanaeth lleol, gydag Aberdyfi a Harlech yn aneddiadau gwasanaeth. Pwysleisiwyd bod angen bod yn ymwybodol y gallai trefi llai wynebu heriau mwy, ac mai dyna un o’r rhesymau dros fonitro nifer yr unedau gwag ar draws yr holl drefi. Nodwyd y gallai canran uchel o unedau gwag mewn tref benodol roi sail i ystyried ymyrraeth bellach.

Cyfeiriwyd at y data eiddo gwag, gan nodi nad oedd y ffigur a roddwyd ar gyfer Harlech yn ymddangos yn cyd-fynd â’r sefyllfa ar lawr gwlad.

Mewn ymateb, eglurwyd bod Swyddog Eiddo Gwag yn ymweld â phob canol tref ym mis Mai bob blwyddyn ac yn cyfrif yr unedau gwag ar y llawr gwaelod. Nodwyd bod yr ardal a gaiff ei hystyried yn seiliedig ar ffin canol y dref yn y polisïau cynllunio, ac felly y gallai fod yn ardal gymharol gyfyng. Eglurwyd bod y wybodaeth wedyn yn cael ei rhannu gyda’r Uned Ymchwil ac yn cael ei haddasu lle bo angen. Eglurwyd nad oedd y system yn berffaith, ond ei bod wedi ei mabwysiadu oherwydd nad oedd dull cyson arall o adnabod eiddo gwag mewn ardaloedd lleol. Pwysleisiwyd mai ei phrif werth oedd darparu ciplun cyson o flwyddyn i flwyddyn er mwyn gallu adnabod tueddiadau. Cadarnhawyd bod y data ar gyfer Harlech yn ymwneud â chanol y dref yn ôl y diffiniad cynllunio.

Cyfeiriwyd at yr heriau ehangach a oedd yn wynebu busnesau lleol, gan gynnwys adeiladau mawr gwag megis cyn dafarndai neu siopau a oedd wedi gadael canol trefi. Nodwyd bod y sefyllfa economaidd wledig, newidiadau economaidd ehangach, diffyg arian ym mhocedi trigolion a chynnydd mewn costau ynni oll yn effeithio ar hyfywedd busnesau lleol. Cyfeiriwyd at gymorth ardrethi annomestig fel un ffordd y gallai’r Cyngor gynorthwyo busnesau i gymryd eiddo gwag.

Gofynnwyd am ddiweddariad ynghylch adeilad gwag, Gwesty’r Corbett Arms, yn Nhywyn, gan nodi’r gost barhaus i drethdalwyr a’r pryder ynghylch faint o amser yr oedd y mater wedi ei gymryd i’w ddatrys. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod gwaith yn digwydd ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Medi. Eglurwyd bod materion yn ymwneud â bywyd gwyllt wedi effeithio ar y gwaith, a chydnabuwyd bod yr adeilad yn broblem sylweddol yr oedd y Cyngor wedi ei hetifeddu.

O ran eiddo gwag yn fwy cyffredinol, nodwyd bod y Gwasanaeth eisoes yn gweithio gyda datblygwyr a pherchnogion drwy amrywiaeth o gynlluniau grant. Nodwyd bod cysylltu â rhai perchnogion yn anodd, yn enwedig ym Mangor, gan fod nifer yn byw tu allan i’r ardal neu hyd yn oed y tu allan i Gymru. Mynegwyd pryder bod rhai unigolion yn prynu eiddo am bris cymharol isel, yn eu cadw fel asedau ac yn caniatáu iddynt ddirywio. Nodwyd o ganlyniad bod angen rhoi sylw i opsiynau gorfodi.

Eglurwyd bod cynllun grant ar waith ym Mangor, ond cydnabuwyd bod cyfyngiadau i’r hyn y gellid ei gyflawni drwy grantiau yn unig. Adroddwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i ystyried opsiynau mwy rhagweithiol, gan gynnwys a allai’r Cyngor brynu, adfer a lesu adeiladau yn uniongyrchol, neu gydweithio â phartneriaid lleol i wneud hynny. Nodwyd y byddai goblygiadau i ddull o’r fath, ond y gallai roi mwy o reolaeth dros eiddo problemus.

Croesawyd y gronfa gymunedol a nodwyd ei bod wedi gweithio’n dda i nifer o gynghorau cymuned gwledig. Cwestiynwyd a allai cwmnïau cymunedol di-elw, a oedd yn gweithredu siopau, caffis neu fentrau eraill ac yn creu swyddi lleol, fod yn gymwys i wneud cais. Mewn ymateb, nodwyd y gellid ystyried y mater yn y dyfodol, ond eglurwyd mai prif ddiben y gronfa benodol oedd gwella delwedd cymunedau drwy gynghorau tref a chymuned, yn hytrach na darparu cymorth economaidd uniongyrchol i fusnesau. Nodwyd bod cronfeydd eraill ar gael a allai fod yn fwy addas ar gyfer mentrau o’r fath.

Cyfeiriwyd at syniad a oedd wedi ei godi ynghylch defnyddio maes parcio aml-lawr ym Mangor fel safle parcio a theithio ar gyfer Ysbyty Gwynedd, gyda’r posibilrwydd y gallai hynny ddenu rhagor o bobl i ganol y ddinas. Nodwyd nad oedd sicrwydd y byddai’r syniad yn ymarferol, ond mynegwyd y farn bod angen bod yn barod i ystyried syniadau gwahanol a dulliau newydd o ddenu pobl i ganol trefi.

 

PENDERFYNWYD

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

·       Gofyn i’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned drafod ffioedd meysydd parcio ac effaith newid oriau gorfodaeth mewn meysydd parcio ar yr economi leol gyda’r Aelodau Cabinet a’r adrannau perthnasol.

 

Dogfennau ategol: