Derbyn diweddariad ar y gwaith ac ystyried beth yw eu heffaith.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
• Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau.
• Gofyn i’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned drafod ffioedd meysydd parcio ac effaith newid oriau gorfodaeth mewn meysydd parcio ar yr economi leol gyda’r Aelodau Cabinet a’r adrannau perthnasol.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Economi a
Chymuned yr adroddiad gan nodi bod yr heriau a oedd yn wynebu canol trefi yn
amlwg, gan gynnwys newidiadau mewn arferion siopa, twf siopa ar-lein a phwysau
costau byw. Eglurwyd mai’r her oedd ail bwrpasu canol trefi a’u gwneud yn
lleoedd deniadol i fyw, gweithio a threulio amser ynddynt. Nodwyd bod
trafodaethau wedi dechrau gyda Llywodraeth newydd Cymru ynghylch y maes.
Ymhelaethwyd bod yr adroddiad yn adeiladu ar wybodaeth
a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn flaenorol ac yn canolbwyntio ar weithgareddau’r
Gwasanaeth Rhaglenni Adfywio, gan gynnwys gwaith adfywio canol trefi, datblygu
a gweithredu prosiectau adfywio ac ymateb i eiddo gwag. Cyfeiriwyd at y
fframwaith ar gyfer trefi Gwynedd a’r Cynlluniau Creu Lleoedd a ddatblygwyd ar
gyfer Bangor, Caernarfon, Porthmadog, Pwllheli, y Bala a Dolgellau. Nodwyd bod
y cynlluniau hyn wedi eu paratoi ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor yn 2023.
Adroddwyd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am ddatblygu a gweithredu prosiectau adfywio a’r prif raglenni
grant. Nodwyd bod grantiau gwerth £31.8 miliwn wedi eu sicrhau rhwng 2023-26 ar
gyfer datblygu a gweithredu prosiectau adfywio canol trefi ar draws y sir.
Cyfeiriwyd at y prosiectau a oedd i’w gweithredu drwy Gronfa Effaith Balchder
Bro a’r Gronfa Twf Leol, ynghyd â’r gwaith ar eiddo gwag yng nghanol trefi.
Ymhelaethwyd bod gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu
mesurau perfformiad a chasglu data er mwyn gallu mesur effaith y gwaith adfywio
ar ganol trefi. Cyfeiriwyd at Strategaeth Economaidd newydd y Cyngor ac at yr
angen i asesu effaith prosiectau yn ogystal â monitro nifer a chyflwr eiddo
gwag. Eglurwyd bod rhan olaf yr adroddiad yn crynhoi’r prif gasgliadau a’r
gwersi a ddysgwyd, ynghyd â materion pellach i’w hystyried dros y misoedd
dilynol.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:-
Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y diffiniad o eiddo
gwag. Cyfeiriwyd at enghreifftiau ym Mhwllheli lle’r oedd siop yn parhau i
weithredu ar lawr gwaelod adeilad ond bod y llawr uchaf yn wag, gan nodi y
gallai’r sefyllfa arwain at gostau Premiwm Treth Cyngor sylweddol a rhoi pwysau
ychwanegol ar hyfywedd y busnes ar y llawr gwaelod.
Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd un diffiniad
syml o eiddo gwag ar draws y Cyngor, gan fod nifer o wasanaethau ac adrannau’n
ymwneud ag eiddo gwag ac yn gweithredu o dan wahanol ddeddfwriaethau a rheoliadau.
Nodwyd bod y diffiniadau a’r cyfnodau perthnasol felly’n gallu amrywio rhwng
gwasanaethau. O ran gwaith adfywio canol trefi, eglurwyd bod y Gwasanaeth yn
tueddu i ganolbwyntio ar eiddo a oedd wedi bod yn wag am fwy na blwyddyn, gan
roi blaenoriaeth i adeiladau sylweddol mewn lleoliadau canolog lle’r oedd eu
cyflwr yn dirywio ac yn cael effaith ar yr ardal.
Nodwyd bod gwahaniaeth amlwg rhwng
perfformiad gwahanol strydoedd a chanol trefi, gyda rhai yn ffynnu tra bod
eraill yn ei chael yn anodd iawn denu busnesau newydd. Cwestiynwyd pam yr oedd
cymaint o wahaniaeth rhwng un stryd neu dref a’r llall. Mewn ymateb, mynegwyd y
farn bod datblygiadau manwerthu ar gyrion trefi yn ffactor sylweddol. Nodwyd
bod trefi heb gystadleuaeth allanol cyfagos yn tueddu i berfformio’n well, tra
bod canol trefi â datblygiadau sylweddol ar eu cyrion yn wynebu mwy o bwysau.
Cyfeiriwyd at Fangor fel enghraifft amlwg, ac at Gaernarfon i raddau llai.
Eglurwyd ymhellach bod pob tref yn wahanol ac
yn wynebu cyfleoedd a heriau penodol. Nodwyd bod Cynlluniau Creu Lleoedd wedi
eu datblygu dros y tair blynedd flaenorol ar gyfer Caernarfon, Bangor,
Porthmadog, Pwllheli, Dolgellau a’r Bala er mwyn adnabod y prif heriau a
chyfleoedd ym mhob tref a llunio cynllun gweithredu penodol. Nodwyd bod trefi
ledled Cymru yn wynebu cyfnod o newid sylweddol ac nad oedd un ateb syml na
chyson ar gyfer pob lle. Pwysleisiwyd bod angen ailbwrpasu
trefi a oedd wedi eu heffeithio gan newidiadau mewn manwerthu, gan ystyried pa
ddefnyddiau a chyfleusterau a allai ddenu pobl a gwneud profiad o ymweld â
chanol tref yn fwy pleserus. Nodwyd bod nifer o ffactorau allanol yn dylanwadu
ar ganol trefi ac felly bod angen datblygu atebion penodol ar gyfer pob tref.
Cwestiynwyd a oedd costau parcio yn cael
effaith sylweddol ar ganol trefi. Cyfeiriwyd at Borthmadog, lle gallai pobl
ddefnyddio maes parcio archfarchnad heb dalu ac yna cerdded i’r stryd fawr, a gofynnwyd
a oedd trefniadau o’r fath yn cynorthwyo canol y dref. Cyfeiriwyd at bryderon a
gyflwynwyd gan aelodau o ardal Bethesda, o ran effaith cyflwyno tâl am yr awr
gyntaf o barcio ym meysydd parcio y Cyngor ar hyfywedd busnesau’r stryd fawr.
Nodwyd, er mai’r Adran Amgylchedd oedd yn gyfrifol am barcio, bod dymuniad i’r
mater gael ei ystyried ar draws adrannau oherwydd ei effaith economaidd.
Mewn ymateb, cyfeiriwyd at yr adroddiad, a oedd
eisoes yn nodi materion megis lefelau ardrethi busnes a ffioedd parcio fel
rhwystrau posibl i gynyddu bwrlwm yng nghanol trefi. Nodwyd bod taliadau parcio
yn gallu bod yn rhwystr i’r economi, ond pwysleisiwyd bod y meysydd parcio yn
cynhyrchu incwm sylweddol i’r Cyngor a bod angen ystyried sut y byddai unrhyw
ostyngiad mewn taliadau yn cael ei ariannu. Cyfeiriwyd at drafnidiaeth
gyhoeddus fel opsiwn i rai trigolion, gan gynnwys y rhai a oedd yn gymwys i
deithio am ddim ar fysiau. Mynegwyd y farn bod angen meddwl yn wahanol am y
mater, ond nodwyd bod y sefyllfa ariannol fregus a’r angen i’r Cabinet ystyried
toriadau pellach yn gwneud unrhyw newid yn heriol. Cadarnhawyd y byddai’r mater
yn destun trafodaeth bellach gan y Cabinet.
Tynnwyd sylw at y buddsoddiad sylweddol a
sicrhawyd ar gyfer adfywio canol trefi, sef oddeutu £31 miliwn, gan nodi bod yr
adroddiad yn cydnabod yr anhawster o brofi effaith y buddsoddiad hwnnw. Cyfeiriwyd
at gynnydd yn nifer yr eiddo gwag rhwng 2025 a 2026, yn dilyn gwelliant yn
flaenorol, ac at y ffaith bod nifer o’r eiddo gwag ychwanegol wedi eu lleoli
yng Nghaernarfon, Bangor, Dolgellau a Phwllheli. Cwestiynwyd sut yr oedd y
Cabinet yn asesu effeithiolrwydd y strategaeth bresennol a pha dystiolaeth oedd
ar gael i ddangos bod y buddsoddiad yn cael effaith hirdymor yn hytrach nag
effaith dros dro.
Mewn ymateb, cydnabuwyd bod mesur effaith yn faes
yr oedd angen ei wella. Eglurwyd bod y gwasanaeth yn dibynnu bron yn llwyr ar
grantiau i ddatblygu a gweithredu prosiectau, ac felly bod angen gweithio o
fewn canllawiau a blaenoriaethau’r prif raglenni cyllido. Nodwyd bod
adroddiadau gwerthuso yn cael eu cynnal i sicrhau bod prosiectau wedi eu
gweithredu yn unol â gofynion grant ac wedi cyflawni’r allbynnau a’r
canlyniadau disgwyliedig. Eglurwyd, fodd bynnag, mai’r her oedd mesur yr
effaith ehangach ar y lleoliad ei hun.
Eglurwyd bod y mater wedi ei blethu i’r
Strategaeth Economaidd newydd, gyda fframwaith ar gyfer monitro a gwerthuso’r
gwahaniaeth yr oedd y Cyngor yn ceisio ei wneud. Nodwyd y byddai’r dull yn
ystyried yr allbynnau uniongyrchol, y canlyniadau ar lefel uwch ac, yn y pen
draw, yr effaith. Nodwyd nad oedd y model yn berffaith oherwydd y nifer fawr o
ffactorau eraill a oedd yn dylanwadu ar economïau lleol, ond mynegwyd y gobaith
y byddai’r strwythur newydd yn galluogi’r Cyngor i greu cysylltiad cliriach rhwng
y prosiectau a weithredwyd a’r canlyniadau a welwyd. Cadarnhawyd nad oedd y
gwaith hwn wedi ei wneud yn ddigonol yn y blynyddoedd blaenorol a’i fod yn faes
a oedd wedi ei adnabod ar gyfer gwella.
Ychwanegwyd bod mesur y gwahaniaeth
gwirioneddol, yr effaith a’r canlyniadau wedi bod yn un o’r prif ystyriaethau
wrth ddatblygu’r Strategaeth Economaidd newydd. Cyfeiriwyd at yr adroddiad a
oedd yn nodi’r mathau o fesurau y bwriedid eu defnyddio. Nodwyd bod mesur effaith
yn parhau’n anodd oherwydd bod yr economi a’r amgylchiadau ehangach yn newid yn
gyson, ond mynegwyd y gobaith y byddai Llywodraeth newydd Cymru yn gallu rhoi
cymorth yn y maes.
Cyfeiriwyd at yr heriau yr oedd siopa ar-lein
yn eu creu i siopau lleol. Cymharwyd perfformiad Dolgellau â Machynlleth, gan
nodi bod nifer o fusnesau ym Machynlleth yn elwa o weithgaredd economaidd
cysylltiedig â beicio a chyfleusterau mawr yn yr ardal gyfagos, gan gynnwys busnesau
trwsio a gwerthu beiciau, ffatrïoedd, gwestai a gwasanaethau eraill. Mynegwyd y
farn y dylai swyddogion y Cyngor ymweld ag enghreifftiau llwyddiannus o’r fath
a chynnal trafodaethau i weld pa wersi y gellid eu dysgu a pha gymorth y gellid
ei ddarparu i fentrau tebyg yng Ngwynedd.
Mynegwyd pryder bod llawer o’r cyllid a
restrwyd yn yr adroddiad wedi ei ganolbwyntio ar drefi, a chwestiynwyd faint o
gymorth oedd yn cael ei ddarparu i gymunedau ac ardaloedd y tu allan i’r prif drefi.
Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau yn Nolgellau a nodwyd, er gwaethaf y
buddsoddiad, bod y dref yn parhau i wynebu heriau a bod busnesau lleol yn cau
neu ar werth. Pwysleisiwyd yr angen i swyddogion ymweld â busnesau’n
uniongyrchol a gofyn pa gymorth yr oedd ei angen arnynt, gan gynnwys a oedd
parcio neu ffactorau eraill yn wraidd y problemau, yn hytrach na dibynnu ar
wybodaeth pen desg neu fuddsoddi mewn prosiectau nad oedd eu heffaith yn sicr.
Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn ceisio
ymweld ag enghreifftiau o arfer da ledled Cymru er mwyn dysgu o brosiectau ac
ymyraethau llwyddiannus. Eglurwyd bod yr adroddiad dan sylw wedi canolbwyntio’n
benodol ar ganol trefi ac felly nad oedd y ffigurau ynddo’n
rhoi darlun cyflawn o holl waith yr Adran. Nodwyd nad oedd y ffigurau, er
enghraifft, yn cynnwys grantiau cymunedol a rhaglenni eraill a oedd yn cael eu
gweinyddu gan wasanaethau gwahanol o fewn yr Adran, a bod llawer o grwpiau mewn
ardaloedd gwledig yn derbyn cefnogaeth drwy’r ffrydiau hynny.
Pwysleisiwyd rôl busnesau a grwpiau lleol yn
y broses o adfywio canol trefi. Nodwyd bod partneriaethau lleol yn cael eu
datblygu ochr yn ochr â’r Cynlluniau Creu Lleoedd er mwyn cydlynu’r cynlluniau
gweithredu a chefnogi sefydliadau lleol i weithredu prosiectau. Cyfeiriwyd at
gynllun peilot y flwyddyn flaenorol ar gyfer cynghorau tref a chymuned, a
nodwyd ei fod wedi bod yn gymharol lwyddiannus ac y datblygwyd cynllun tebyg ar
gyfer y flwyddyn gyfredol.
Nodwyd bod y gymuned fusnes yn bartner
allweddol a bod y Gwasanaeth yn ceisio sicrhau bod llais busnesau lleol a’r
sector preifat yn cael ei gynnwys mewn partneriaethau lleol. Pwysleisiwyd mai’r
busnesau eu hunain oedd yn y sefyllfa orau i egluro’r heriau yr oeddent yn eu
hwynebu. Pwysleisiwyd bod y Gwasanaeth Rhaglenni Adfywio yn wasanaeth cymharol
fach ac nad oedd yr adroddiad yn cynnwys gwaith ehangach yr Adran megis cymorth
busnes a digwyddiadau. Mynegwyd y farn bod angen symud oddi wrth ganolbwyntio
ar grantiau yn unig ac ystyried sut y gellid cydblethu gwasanaethau a
darpariaethau gwahanol o fewn canol trefi, gan gynnwys parcio ac ymateb i
heriau ardrethi busnes.
Croesawyd y gwaith a amlygwyd yn yr
adroddiad, gan gyfeirio’n benodol at y Gronfa ar gyfer Cynghorau Tref a
Chymuned. Nodwyd bod datblygiad economaidd ac adfywio yn bwysig, ond bod gwaith
megis gwella llwybrau troed, llochesi bysiau, parciau chwarae a chyfleusterau
lleol eraill yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ansawdd bywyd trigolion ac yn
cael ei werthfawrogi’n fawr.
Nodwyd bod mesur effaith uniongyrchol gwaith
adfywio economaidd yn anodd. Mynegwyd y farn y gallai data ar nifer yr ymwelwyr
neu’r nifer a oedd yn cerdded drwy ganol trefi fod yn un ffordd o greu
tystiolaeth fwy uniongyrchol, ond nodwyd bod unrhyw gasgliadau ynghylch effaith
gweithgareddau unigol yn parhau’n rhannol ddamcaniaethol heb ddata o’r fath.
Cymharwyd yr her â gwaith adfywio’r Gymraeg, gan nodi bod y ddau faes yn wynebu
newidiadau cymdeithasol mawr nad oedd gan awdurdod lleol y gallu i’w rheoli’n
llawn ar lefel sirol.
Pwysleisiwyd bod rôl i atal penderfyniadau
gan rannau eraill o’r Cyngor rhag gwaethygu tueddiadau negyddol. Cyfeiriwyd at
leoliad archfarchnadoedd a datblygiadau masnachol, gan nodi bod lleoli siopau mawr
yng nghanol neu’n agos at ganol tref yn gallu cefnogi’r stryd fawr, tra bod
datblygiadau ar gyrion trefi yn gallu tynnu gweithgarwch oddi wrth y canol.
Cyfeiriwyd at Borthmadog a Chaernarfon fel enghreifftiau lle’r oedd
cyfleusterau mawr yn agos at ganol y dref, a chymharwyd hynny â Phwllheli a
Bangor lle’r oedd penderfyniadau cynllunio neu ddyrannu tir wedi arwain at fwy
o ddatblygiadau ar gyrion trefi. Mynegwyd y farn y dylid rhoi sylw i hyn wrth ystyried
dyraniadau tir ar gyfer archfarchnadoedd a datblygiadau tebyg yn y dyfodol.
Mewn ymateb, nodwyd bod y Gronfa Balchder Bro
wedi ei sefydlu gan y Cyngor cyn i gynllun y Llywodraeth o’r un enw gael ei
gyflwyno, a phwysleisiwyd bod gwella delwedd ac ansawdd trefi o fudd i’r
gymuned leol. O ran mesur nifer yr ymwelwyr, adroddwyd bod gwaith wedi dechrau
yn ystod y flwyddyn flaenorol i olrhain data canol trefi. Cyfeiriwyd at broffil
canol trefi Gwynedd ar gyfer 2025 a nodwyd y byddai ffigurau 2025/26 ar gael yn
fuan. Eglurwyd y gallai’r data ddangos tueddiadau a phatrymau dros amser, ond
na fyddai’n gallu profi cysylltiad uniongyrchol rhwng gweithgaredd penodol gan
y Cyngor a’r newid a welwyd. Cadarnhawyd y byddai’r gwaith o ddatblygu’r setiau
data yn parhau, gyda’r gobaith y byddent yn dod yn fwy gwerthfawr wrth i
dueddiadau tymor hir ddod i’r amlwg.
Cyfeiriwyd at gydweithio trawsadrannol a nodwyd
bod nifer o brosiectau adfywio presennol eisoes yn cynnwys gwaith ar y cyd.
Adroddwyd bod y Gwasanaeth yn cydweithio’n agos â’r Adran Priffyrdd, Peirianneg
ac YGC ar brosiectau canol trefi, ynghyd â chynlluniau ar y cyd gyda’r Adran
Tai ac Eiddo. Mynegwyd y gobaith y gellid ehangu’r cydweithio hwn ymhellach er
mwyn rhoi sylw i ystod ehangach o faterion.
Croesawyd gwaith yr Adran a chydnabuwyd y
pwysau ariannol sylweddol a wynebwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mynegwyd
pryder ynghylch lefel y cydweithio rhwng adrannau wrth wneud penderfyniadau a
oedd yn effeithio ar economïau lleol. Cyfeiriwyd yn benodol at y cynnydd
diweddar mewn ffioedd parcio, gan nodi’r argraff nad oedd digon o drafodaeth
wedi digwydd rhwng yr Adran Amgylchedd a’r Adran Economi a Chymuned cyn gwneud
y newidiadau. Pwysleisiwyd na ddylai penderfyniadau o’r fath gael eu gwneud ar
wahân, gan fod ffioedd parcio yn gallu cael effaith sylweddol ar fusnesau.
Nodwyd bod Gwynedd yn sir fawr ac amrywiol ac
nad oedd dull unffurf yn addas ar gyfer pob ardal. Cyfeiriwyd at ymdrechion i
gysoni ffioedd parcio ar draws y sir, ond mynegwyd y farn bod angen ystyried
amgylchiadau lleol gwahanol wrth bennu’r ffioedd, gan fod effaith newidiadau ar
fusnesau a chanol trefi yn gallu amrywio’n sylweddol rhwng ardaloedd.
Pwysleisiwyd ymhellach bod effaith ffioedd
parcio yn gallu amrywio’n sylweddol rhwng gwahanol ardaloedd a hyd yn oed rhwng
meysydd parcio unigol. Rhoddwyd Llandanwg fel enghraifft, gan nodi bod un
busnes bach yn dibynnu’n sylweddol ar bobl leol ac ymwelwyr a oedd yn aros am
gyfnod byr i gerdded ar y traeth ac ymweld â’r caffi. Eglurwyd bod y trefniant
blaenorol wedi galluogi pobl i dalu am awr, ond bod angen talu £4 am bedair awr
erbyn hynny. Nodwyd nad oedd pobl leol, ac yn aml ymwelwyr ar ddiwrnodau llai
ffafriol, yn dymuno aros am bedair awr, a bod colli hyd yn oed nifer fach o gwsmeriaid
yn gallu cael effaith sylweddol ar fusnes a oedd yn cyflogi ychydig o bobl mewn
ardal wledig. Pwysleisiwyd yr angen am well cydweithio rhwng adrannau ac am
asesu effaith economaidd penderfyniadau ar sail amgylchiadau pob ardal a, lle
bo’n briodol, pob maes parcio unigol.
Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y ffordd yr
oedd gwahanol drefi wedi eu diffinio yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at Harlech, a
oedd ar waelod y rhestr, ac at Lanbedr a Thalsarnau nad oeddent wedi eu cynnwys. Mynegwyd pryder y
gallai’r dull o flaenoriaethu buddsoddiad roi llai o bwyslais ar bentrefi a
threfi llai, er bod creu neu ddiogelu hyd yn oed nifer fach o swyddi yn gallu
gwneud gwahaniaeth sylweddol mewn ardal fach. Pwysleisiwyd bod angen rhoi sylw
i’r cymunedau llai yn ogystal â’r prif drefi.
Cyfeiriwyd at y gronfa ar gyfer cynghorau
tref a chymuned a chwestiynwyd a oedd yr arweiniad ynghylch yr hyn yr oedd modd
gwneud cais amdano wedi bod yn ddigon clir. Nodwyd bod ystod eang o brosiectau wedi
derbyn cefnogaeth, gyda rhai cynghorau wedi derbyn symiau sylweddol uwch nag
eraill a nifer heb dderbyn unrhyw gyllid. Mewn ymateb, eglurwyd bod yr Adran
wedi cysylltu â phob cyngor tref a chymuned i egluro’r cyfleoedd oedd ar gael,
ac wedi cysylltu eto â’r rhai nad oeddent wedi ymateb, gan arwain at geisiadau
pellach. Pwysleisiwyd nad oedd unrhyw gyngor wedi cael cais wedi ei wrthod, a
bod y bwriad wedi bod i roi’r rhyddid i’r cynghorau lleol benderfynu pa brosiectau
oedd fwyaf addas i anghenion eu cymunedau. Eglurwyd bod lefel y cyllid yn cael
ei dyrannu ar sail poblogaeth, ac felly bod ardaloedd mwy yn derbyn mwy o arian
nag ardaloedd llai.
Cwestiynwyd a oedd y cyfle i wneud cais am y
gronfa yn parhau ar agor. Mewn ymateb, eglurwyd bod y cylch diweddaraf newydd
gau ar ddechrau mis Gorffennaf. Nodwyd bod enghreifftiau o brosiectau
llwyddiannus y flwyddyn flaenorol wedi cael eu rhannu a bod cynghorau wedi cael
eu hannog i gyflwyno ceisiadau. Adroddwyd bod cyllid wedi ei glustnodi ar gyfer
pob cyngor tref a chymuned ar yr amod eu bod yn cyflwyno cais, a phwysleisiwyd
bod rhybudd o sawl mis wedi ei roi am y cyfnod i wneud cais. Cyfeiriwyd at
feysydd chwarae plant a mannau gwyrdd fel enghreifftiau o’r math o brosiectau y
gellid eu cefnogi er mwyn gwella cyfleusterau cymunedol.
Mewn ymateb i’r sylwadau ynghylch cydweithio
rhwng adrannau a thaliadau parcio, cadarnhawyd bod y sylwadau wedi eu nodi ac y
byddai’r Gwasanaeth yn awyddus i ddatblygu’r gwaith trawsadrannol ymhellach
dros y misoedd dilynol.
O ran y diffiniad o’r gwahanol drefi,
eglurwyd nad oedd y Gwasanaeth wedi ceisio creu diffiniad newydd o ganol tref,
ond wedi defnyddio’r fframwaith a oedd eisoes wedi ei gynnwys yn y Cynllun
Datblygu Lleol. Nodwyd bod y cynllun yn adnabod Bangor fel canolfan fanwerthu
is-ranbarthol, Caernarfon, Porthmadog a Phwllheli fel canolfannau manwerthu trefol,
ynghyd â nifer o ganolfannau manwerthu lleol. O fewn ardal y Parc Cenedlaethol,
nodwyd bod Dolgellau a’r Bala yn cael eu hadnabod fel canolfannau gwasanaeth
lleol, gydag Aberdyfi a Harlech yn aneddiadau gwasanaeth. Pwysleisiwyd bod
angen bod yn ymwybodol y gallai trefi llai wynebu heriau mwy, ac mai dyna un
o’r rhesymau dros fonitro nifer yr unedau gwag ar draws yr holl drefi. Nodwyd y
gallai canran uchel o unedau gwag mewn tref benodol roi sail i ystyried
ymyrraeth bellach.
Cyfeiriwyd at y data eiddo gwag, gan nodi nad
oedd y ffigur a roddwyd ar gyfer Harlech yn ymddangos yn cyd-fynd â’r sefyllfa
ar lawr gwlad.
Mewn ymateb, eglurwyd bod Swyddog Eiddo Gwag
yn ymweld â phob canol tref ym mis Mai bob blwyddyn ac yn cyfrif yr unedau gwag
ar y llawr gwaelod. Nodwyd bod yr ardal a gaiff ei hystyried yn seiliedig ar
ffin canol y dref yn y polisïau cynllunio, ac felly y gallai fod yn ardal
gymharol gyfyng. Eglurwyd bod y wybodaeth wedyn yn cael ei rhannu gyda’r Uned Ymchwil
ac yn cael ei haddasu lle bo angen. Eglurwyd nad oedd y system yn berffaith,
ond ei bod wedi ei mabwysiadu oherwydd nad oedd dull cyson arall o adnabod
eiddo gwag mewn ardaloedd lleol. Pwysleisiwyd mai ei phrif werth oedd darparu
ciplun cyson o flwyddyn i flwyddyn er mwyn gallu adnabod tueddiadau.
Cadarnhawyd bod y data ar gyfer Harlech yn ymwneud â chanol y dref yn ôl y
diffiniad cynllunio.
Cyfeiriwyd at yr heriau ehangach a oedd yn wynebu
busnesau lleol, gan gynnwys adeiladau mawr gwag megis cyn dafarndai neu siopau
a oedd wedi gadael canol trefi. Nodwyd bod y sefyllfa economaidd wledig,
newidiadau economaidd ehangach, diffyg arian ym mhocedi trigolion a chynnydd
mewn costau ynni oll yn effeithio ar hyfywedd busnesau lleol. Cyfeiriwyd at
gymorth ardrethi annomestig fel un ffordd y gallai’r Cyngor gynorthwyo busnesau
i gymryd eiddo gwag.
Gofynnwyd am ddiweddariad ynghylch adeilad gwag,
Gwesty’r Corbett Arms, yn Nhywyn, gan nodi’r gost barhaus i drethdalwyr a’r
pryder ynghylch faint o amser yr oedd y mater wedi ei gymryd i’w ddatrys. Mewn
ymateb, cadarnhawyd bod gwaith yn digwydd ac y byddai adroddiad yn cael ei
gyflwyno i’r Cabinet ym mis Medi. Eglurwyd bod materion yn ymwneud â bywyd
gwyllt wedi effeithio ar y gwaith, a chydnabuwyd bod yr adeilad yn broblem
sylweddol yr oedd y Cyngor wedi ei hetifeddu.
O ran eiddo gwag yn fwy cyffredinol, nodwyd bod
y Gwasanaeth eisoes yn gweithio gyda datblygwyr a pherchnogion drwy amrywiaeth
o gynlluniau grant. Nodwyd bod cysylltu â rhai perchnogion yn anodd, yn enwedig
ym Mangor, gan fod nifer yn byw tu allan i’r ardal neu hyd yn oed y tu allan i
Gymru. Mynegwyd pryder bod rhai unigolion yn prynu eiddo am bris cymharol isel,
yn eu cadw fel asedau ac yn caniatáu iddynt ddirywio. Nodwyd o ganlyniad bod
angen rhoi sylw i opsiynau gorfodi.
Eglurwyd bod cynllun grant ar waith ym
Mangor, ond cydnabuwyd bod cyfyngiadau i’r hyn y gellid ei gyflawni drwy
grantiau yn unig. Adroddwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i ystyried opsiynau mwy
rhagweithiol, gan gynnwys a allai’r Cyngor brynu, adfer a lesu adeiladau yn
uniongyrchol, neu gydweithio â phartneriaid lleol i wneud hynny. Nodwyd y
byddai goblygiadau i ddull o’r fath, ond y gallai roi mwy o reolaeth dros eiddo
problemus.
Croesawyd y gronfa gymunedol a nodwyd ei bod
wedi gweithio’n dda i nifer o gynghorau cymuned gwledig. Cwestiynwyd a allai cwmnïau
cymunedol di-elw, a oedd yn gweithredu siopau, caffis neu fentrau eraill ac yn
creu swyddi lleol, fod yn gymwys i wneud cais. Mewn ymateb, nodwyd y gellid
ystyried y mater yn y dyfodol, ond eglurwyd mai prif ddiben y gronfa benodol
oedd gwella delwedd cymunedau drwy gynghorau tref a chymuned, yn hytrach na
darparu cymorth economaidd uniongyrchol i fusnesau. Nodwyd bod cronfeydd eraill
ar gael a allai fod yn fwy addas ar gyfer mentrau o’r fath.
Cyfeiriwyd at syniad a oedd wedi ei godi ynghylch defnyddio maes parcio
aml-lawr ym Mangor fel safle parcio a theithio ar gyfer Ysbyty Gwynedd, gyda’r
posibilrwydd y gallai hynny ddenu rhagor o bobl i ganol y ddinas. Nodwyd nad
oedd sicrwydd y byddai’r syniad yn ymarferol, ond mynegwyd y farn bod angen bod
yn barod i ystyried syniadau gwahanol a dulliau newydd o ddenu pobl i ganol
trefi.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau.
·
Gofyn i’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned drafod
ffioedd meysydd parcio ac effaith newid oriau gorfodaeth mewn meysydd parcio ar
yr economi leol gyda’r Aelodau Cabinet a’r adrannau perthnasol.
Dogfennau ategol: