David
Roberts (Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau
Rhanbarthol Gogledd Cymru) a Catherine Morris-Roberts
(Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol) I gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cymeradwyo Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth
Gogledd Cymru a’r blaenoriaethau fel y’u nodir yn y cynllun.
Gofyn i’r
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol gyflwyno adroddiad diweddariad ymhen 12 mis.
COFNODION:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Gadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a
Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol.
PENDERFYNIAD
Cymeradwyo Cynllun Sgiliau a
Chyflogaeth Gogledd Cymru a’r blaenoriaethau fel y’u nodir yn y cynllun.
Gofyn i’r Bartneriaeth Sgiliau
Rhanbarthol gyflwyno adroddiad diweddariad ymhen 12 mis.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Adrodd i’r
Is-bwyllgor Lles Economaidd ar Gynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru a
cheisio cymeradwyaeth o’i flaenoriaethau er mwyn cefnogi’r Gwaith o gyflawni yn
rhanbarthol.
TRAFODAETH
Eglurwyd
bod Cynlluniau Sgiliau a Chyflogaeth yn gweithredu ar gylchred 3 mlynedd o hyd,
gan nodi bod y cylchred diweddaraf wedi diweddu ar ddechrau’r flwyddyn hon.
Nodwyd nad oedd arweiniad clir wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn y
misoedd diwethaf gan fod paratoadau yn cael ei wneud ar gyfer Etholiad Senedd
Cymru ym mis Mai.
Adroddwyd
bod Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi penderfynu parhau
gyda Chynllun newydd am y tair blynedd nesaf er mwyn sicrhau datblygiad a
pharhad momentwm, gan obeithio bydd y Llywodraeth newydd yn ei fabwysiadu maes
o law. Cydnabuwyd y posibilrwydd bydd man addasiadau yn cael eu gwneud wrth i’r
Llywodraeth ei ystyried, ond hyderwyd bod y Cynllun yn ddigon cadarn i ymdopi
gyda hynny.
Tynnwyd
sylw bod Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru yn unigryw i’r tri
chynllun arall a welir yng Nghymru, gan ei fod wedi ei glymu yn agos gyda’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Hyderwyd bod hyn yn gryfder gan fod modd darparu cefnogaeth ar
lefel rhanbarthol.
Adroddwyd
bod oddeutu 30 o bartneriaid yn rhan o’r Bwrdd, gan gynnwys colegau a
phrifysgolion, gan nodi bod eu presenoldeb ar y Bwrdd yn eu cynorthwyo gyda’u
cynlluniau unigol. Mynegwyd balchder bod y Bwrdd wedi ymgysylltu gyda dros 350
o gyflogwyr ar draws y naw sector blaenoriaeth, drwy arolygon, rhwydweithiau
cyflogwyr a chyfarfodydd, er mwyn gallu datblygu’r Cynllun.
Cadarnhawyd
bod tair thema yn parhau o’r Cynllun blaenorol, er mwyn sicrhau parhad yng
ngwaith da'r Bwrdd a’r gefnogaeth a gynigir o fewn y rhanbarth. Manylwyd bod y
rhain yn cynnwys darparu cefnogaeth i gyflogwyr, unigolion ac addysgu sut y
darperir cefnogaeth a gwneud y cysylltiadau rhwng unigolion a chyflogwyr.
Eglurwyd
bod y cynllun yn cynnwys mewnwelediadau cyflogwyr am yr anghenion recriwtio a’r
sgiliau angenrheidiol o fewn y sectorau yn ogystal â gwybodaeth am y rhwystrau mae
unigolion yn eu hwynebu. Ymhelaethwyd bod y cynllun yn rhoi trosolwg o heriau
sylweddol a chyfleoedd sydd ar gael gyda phrosiectau buddsoddi mawr Tynnwyd
sylw bod nifer o brosiectau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi gwneud defnydd o’r
Cynllun yn y gorffennol. Nodwyd bod y cynllun yn cyfarch y ffaith bod y
farchnad lafur yn esblygu megis Deallusrwydd Artiffisial, Sero Net, a sut all
cyflogwyr wneud y defnydd gorau o’r materion hyn.
Amlygwyd
bod trafferthion cysylltedd economaidd yn effeithiol ar unigolion o fewn y
rhanbarth, gan gydnabod nad yw 15.1% o bobl 16-24 oed yng ngogledd Cymru mewn
addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant - y gyfradd uchaf yng Nghymru. Nodwyd mai
iechyd meddwl yw’r ffactor sy’n cyfrannu mwyaf at achosion economaidd
anweithredol ar hyn o bryd.
Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Diolchwyd i’r Bwrdd am eu
gwaith o ddatblygu sgiliau ar draws y rhanbarth.
Croesawyd y Cynllun newydd
gan ddatgan pryder am yr ystadegau brawychus nad yw 15.1% o bobl rhwng 16 a 24
oed mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant yn y rhanbarth. Pwysleisiwyd y
pwysigrwydd i ymchwilio i hyn ymhellach er mwyn cynorthwyo’r unigolion hynny.
Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Cadeirydd y Bwrdd y dymuna gweld gogledd
Cymru gyda’r cyfraddau isaf ar y mater hwn, gan bwysleisio ei fod yn
gyfrifoldeb i’r holl bartneriaid er mwyn sicrhau bod y sefyllfa yn gwella.
Cysidrwyd
bod angen gwaith ehangach ar y cyfleoedd prentisiaethau sydd ar gael yn y
rhanbarth. Cydnabuwyd nad oes modd i’r Bwrdd greu prentisiaethau, ond ystyriwyd
ei allu i roi pwysau ar y Llywodraeth i ystyried y system prentisiaethau,
cymharu gydag awdurdodau eraill, er mwyn cydnabod prentisiaethau fel modd o
darparu sgiliau i weithwyr. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Cadeirydd y
Bwrdd bod pwysau parhaus yn cael ei roi ar y Llywodraeth i fanteisio ar brentisiaethau
a darparu cyllidebau ar eu cyfer, gan gadarnhau bod anogaeth a gwybodaeth yn
cael ei rannu gyda chyflogwyr yn gyson fel rhan o weithrediad y Bwrdd, ar
brentisiaethau.
Teimlwyd
nas oes digon o bwyslais yn cael ei roi ar yr angen gwirioneddol ar draws y
rhanbarth i ddenu gweithwyr o fewn y maes gofal cymdeithasol ac iechyd.
Pwysleisiwyd bod heriau recriwtio o fewn y maes gofal yn her eithriadol i’r
awdurdodau lleol, a dylid amlygu hynny yn fanwl o fewn y Cynllun. Dymunwyd gweld
y maes hwn yn derbyn mwy o flaenoriaeth o fewn y Cynllun er mwyn denu pobl i
mewn i swydd yn y maes gofal yn ogystal â chanfod dulliau i ddatblygu gyrfa.
Cytunwyd gyda’r sylwadau hyn gan gydnabod bod angen amlygu’r sefyllfa o fewn y
Cynllun.
Amlygwyd bod bylchau mewn
sgiliau ac arbenigedd i’w weld o fewn yr awdurdodau lleol eu hunain, fel prif
gyflogwyr o fewn ardaloedd y rhanbarth. Cydnabuwyd nad yw hyn yn berthnasol i’r
mwyafrif o weithwyr ond ei fod yn cael effaith ar feysydd arbenigol megis
cynllunio a chyfreithiol. Dymunwyd gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn ehangach
o fewn y Cynllun.
Tynnwyd
sylw bod economi wledig o fewn y rhanbarth yn ddibynnol ar fusnesau bychan, yn
hytrach na chyflogwyr mawr sydd yn cyflogi nifer fawr o bobl. Pwysleisiwyd y
pwysigrwydd o sicrhau bod y cwmnïau hynny yn elwa ar y Cynllun, drwy nodi bod
sgiliau yn cael eu datblygu er mwyn i’r busnesau ffynnu. Mewn ymateb i’r sylwadau,
cadarnhawyd bod llais busnesau bach yn cael ei glywed, gan fod Ffederasiwn
Busnesau Bychan (FSB) yn bartner gwerthfawr. Nodwyd hefyd bod busnesau o bob
maint wedi cael mewnbwn i’r cynllun wrth i’r Bwrdd gynnal trafodaethau ac
arolygon. Cadarnhawyd bydd y cydweithio hyn yn parhau dros gyfnod y cynllun.
Yn
dilyn y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth, ystyriwyd gofyn i’r Bwrdd
am ddiweddariad ymhen 12 mis ar ddatblygiad y Cynllun.
Diolchwyd
am yr adroddiad.
Dogfennau ategol: