Agenda item

I dderbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2025/26.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2026

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sydd i’w gyflwyno yn y cyfrifon. Ategwyd bod y cyfrifon drafft yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru gyda bwriad cyflwyno’r fersiwn derfynol i'rPwyllgor yn Hydref 2026. Nodwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un brysur i’r Gronfa wrth barhau i fuddsoddi yn ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi bod ychydig o amrywiadau yn y cyfraniadau a’r buddion. Ategwyd bod lleihad yn y costau rheoli wrth gyflwyno mathau gwahanol o fuddsoddiadau i’r portffolio a lleihau buddsoddiadau gyda grŵp Partners sydd yn hanesyddol wedi cael ffioedd rheoli uwch. Ategwyd bod yr incwm buddsoddi wedi cynyddu a’r Gronfa wedi derbyn incwm rheolaidd gan y buddsoddiadau newydd megis isadeiledd ac ecwiti preifat o fewn PPC. Nodwyd bod cynnydd o oddeutu £280 miliwn yng ngwerth marchnad y Gronfa sydd yn unol â’r cynnydd graddol blynyddol.

 

Cyfeiriwyd at nodiadau statudol yr adroddiad oedd yn rhoi manylion tu ôl i’r ffigyrau ynghyd a manylion pellach am weithgareddau’r Gronfa a PPC.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

                                                                                                            

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Y sefyllfa ariannol yn parhau yn gryf

·        Yn diolch i’r tîm am eu gwaith cydwybodol - y sefyllfa yn un iach iawn

·        Bod y gwaith o ymateb i’r gofyn yn cynyddu bob blwyddyn a’r tîm yn cwblhau hynny yn effeithiol ac amserol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chefndir Nodyn 7: Cyfraniadau Derbyniaday a chyfeiriad at ‘Eraill’ (trafodion credyd ymadael) £5,129, nodwyd bod y swm yn gyfanswm a drosglwyddwyd yn dilyn dod a gwasanaeth addysg GwE i ben. Adroddwyd bod y chwe Awdurdod ar draws y Gogledd wedi derbyn swm oedd yn ymwneud ar hyn oedd yn weddill ac wedi cael ei weithredu yn unol â pholisi chredyd ychwanegol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Nodyn 15b Cysoniad Mesuriadau Gwerth Teg o Fewn lefel 3 (Cyfanswm Gwerth y Farchnad 31-03-26 = £636,228) ac, os oedd gwerth y buddsoddiadau yn amcangyfrifiad, sut felly oedd cael sicrwydd i'r gwerth, nodwyd bod eiddo yn cael eu prisio drwy dderbyn prisiau gan y Rheolwr Buddsoddi a’r sefyllfa ac unrhyw symudiadau yn cael eu monitro yn ddyddiol. Ategwyd, oherwydd y ganran uchel mewn ecwiti bod bwriad lleihau buddsoddiadau mewn ecwiti i feysydd sydd yn llai agored i newidyn feysydd mwy sefydlog fyddai’n wynebu llai o risg yn y farchnad agored.

 

Ynglŷn â Nodyn 21 - Ymrwymiadau Cyfredol a beth oedd wedi arwain at y newid rhwng £4,012,000 ym Mawrth 2025 a £8,387,000 ym Mawrth 2026, nodwyd eto mai taliad yn ymwneud a GwE oedd yma - un oedd heb ei dalu hyd y flwyddyn ddyledus - GwE wedi dod i ben 31ain o Fai 2025.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2025/26.

 

 

 

Dogfennau ategol: