I ystyried
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr
gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi
trosolwg cyffredinol o weinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol dros y flwyddyn
ddiwethaf ynghyd a’r gweithgareddau sy’n cael eu
cynnal gan Gronfa Bensiwn Gwynedd i ymateb i
ddatblygiadau cyfredol, cynnal safonau gwasanaeth a gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod, a diweddariadau amrywiol brosiectau:
·
Diweddariad Rheoleiddiol
- Addas ar Gyfer y Dyfodol - pwyslais ar atebolrwydd, safonau proffesiynol a gwneud penderfyniadau effeithiol. Bydd gofyn i bob Cronfa CPLlL benodi Uwch
Swyddog CPLlL dynodedig i reoli
a gweinyddu’r Gronfa Bensiwn yn effeithiol
a phenodi Person Annibynnol
i gael ei
gynnwys ar y Pwyllgor Pensiynau i ddarparu her allanol, cefnogi penderfyniadau cadarn a chryfhau goruchwyliaeth llywodraethu - penodiadau yn eu lle
erbyn 31 Rhagfyr 2026
·
Cynnal Adolygiad
Llywodraethu i asesu effeithiolrwydd strwythurau llywodraethu presennol - y gwaith i’w gwblhau erbyn
31 Ragfyr 2026
·
Diwygiadau Mynediad
a Thegwch CPllL i wella cydraddoldeb,
hygyrchedd a thegwch ar draws y CPLlL. Y gwaith yn amlygu
sialens o gysoni ac adnabod achosion perthnasol i’r diwygiadau
·
Effaith ar
weinyddiaeth - cais i’r Gronfa adolygu
gweithdrefnau, asesu achosion hanesyddol, diweddaru prosesau gweinyddu a chyfathrebu Aelodau,
a pharatoi ar gyfer gofynion adrodd newydd
·
Diweddariad staffio
- croesawu penodiad Prentis
a Swyddog Pensiwn dan Hyfforddiant
·
Cyfraniadau Gwirfoddol
Ychwanegol - oherwydd heriau sy’n deillio
o drefniadau presennol y Gronfa, comisiynwyd Hymans
Robertson i adolygu’r farchnad i ganfod
gwell darparwr. Penodwyd Legal & General, sydd
â phrofiad a buddion da, i ddarparu trefniadau
cyfraniadau gwirfoddol ar gyfer aelodau’r
Gronfa a bod trafodaethau yn cael eu
cynnal i osod amserlen trosglwyddiadau.
·
System Gyflogres
Newydd - cynlluniau presennol
ar gyfer profi'r system newydd i ddechrau yn
ystod tymor yr Hydref 2026,
gyda disgwyliad i’r system newydd fod yn weithredol
yn gynnar yn 2027
·
Datrysiad McCloud - cynnydd yn parhau
i fod yn
gadarnhaol a gwaith ar y trywydd iawn
i gwblhau’r gwaith prosiect sydd yn weddill
(yn unol â’r amserlen a gytunwyd).
Cyfeiriwyd at lwyddiant parhaus
‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan
nodi bod aelodaeth y porth yn parhau i
dyfu’n gyson gyda 8,200 o Aelodau wedi cofrestru i’r porth
newydd. Adroddwyd bod
Cronfa Bensiwn Gwynedd yn archwilio cyfleoedd i ehangu ymarferoldeb
y porth ymhellach sydd yn cynnwys
cyflwyno ffurflenni digidol. Ategwyd, yn dilyn llwyddiant
fideos AI bod bwriad gwneud mwy o ddefnydd
o fideos fel bod modd i Aelodau gael mynediad at bynciau pensiwn penodol.
Tynnwyd sylw at yr Arolwg Boddhad Gwasanaeth sy’n cael ei anfon
at Aelodau ar ddiwedd prosesau allweddol, megis ymddeoliadau a thaliadau ad-dalu, i gasglu barn ar
ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd. Adroddwyd bod 89 o aelodau wedi cymryd
rhan yn yr arolwg gyda’r canlyniad
yn galonogol iawn (95% o’r defnyddwyr
yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd o safon uchel a 97% yn cytuno’n gryf neu gytuno bod y gwasanaeth a ddarparir gan staff yn bodloni safon
uchel).
Diolchwyd am yr adroddiad.
Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau’r
Bwrdd:
·
Yn diolch
am y wybodaeth.
·
Llawer o waith
yn cael ei
wneud mewn ymateb i newidiadau
a’r gwasanaeth yn parhau yn
foddhaol iawn
·
Diolch arbennig am y gwaith McCloud ac am gadw i’r amserlen
Yng nghyd-destun penodi person annibynnol ar gyfer y Pwyllgor
Pensiynau, fydd angen “i ffitio
i mewn”, a beth fydd y broses o ddewis y person hwnnw, nodwyd bod y fframwaith yn cynnwys manylion
unigolion sydd â chymwyseddau ar gyfer gwneud y dasg - y bwriad yw penodi o’r
pwl yma. Ategwyd bod Hymans Robertson yn arwain ar gyngor
mewn buddsoddi, ond bod hefyd angen
ystyried yr elfen llywodraethiant; Bydd angen i’r person llwyddiannus fod a phrofiad helaeth ym maes CPLlL
ynghyd a chael gwybodaeth arbenigol yn y meysydd buddsoddi
a llywodraethu.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r gyflogres newydd
ar heriau fydd yn wynebu’r
Uned o beidio argraffu a phostio slipiau cyflog neu ail adrodd y trefniant presennol lle dim ond pan fydd taliad
pensiwn o fwy na £10 o’i gymharu
â’r mis blaenorol y caiff slip cyflog papur ei gyhoeddi,
nodwyd er yn derbyn y bydd mwy
o alwadau ffôn, bydd y gwaith papur
yn lleihau yn sgil dyfodiad
Pensiwn ar Lein. Ategwyd bod mwyafrif o’r ymholiadau yn ymwneud a chod
treth newydd.
Yng nghyd-destun achosion hanesyddol o Ddiwygiadau
Tegwch a’r angen i edrych
yn ôl dros
15 mlynedd i sicrhau bod y buddion cywir yn cael
eu talu ac os oedd gan
yr Uned adnoddau digonol i gwblhau’r
gwaith o fewn yr amserlen, nodwyd bod cwmni systemau yn edrych i
mewn ar sut
i adnabod achosion ond nad
oedd y system honno yn gallu cyfrifo’r
buddion - y gwaith yn gorfod cael
ei gwblhau gyda llaw. Pan fydd y niferoedd wedi eu hadnabod,
y bwriad yw cynnal trafodaethau gyda’r cwmni systemau
i geisio datrys ffordd o gysoni’r wybodaeth.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adnoddau digonol i ymdopi gyda’r
gwaith ychwanegol, nodwyd bod penodiad Swyddog Pensiwn Dan Hyfforddiant yn un i’w groesawu
ac y bydd y swydd honno yn cael
ei defnyddio yn benodol ar
gyfer cefnogi’r elfen llywodraethiant. Ategwyd bod cwrdd â gofynion llywodraethiant yn heriol ac unwaith
bydd yr Uwch Swyddog CPLlL wedi
ei benodi, bydd cyfle i
adolygu’r strwythur i sicrhau bod y gwaith ychwanegol yn cael ei
gyfarch.
Mewn ymateb i sylw bod 8,200 o Aelodau wedi cofrestru i’r porth
newydd ac os oedd y nifer yn
cyfateb i gynrychiolaeth deg o’r holl Aelodau, nodwyd bod cynrychiolaeth dda o bob grŵp ond mai grŵp
oedran 30-40 oedd â’r canran lleiaf
ac efallai bod hynny oherwydd nad oedd
pensiwn yn flaenoriaeth iddynt ar hyn o bryd.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â risgiau yn codi
o drosglwyddo Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Aelodau o
Clerical Medical I Legal & General, nodwyd mai'r risg uchaf
fwyaf fyddai aros gyda Clerical Medical. Ategwyd
bod Legal & General yn cynnig
gwell profiad, ystod ehangach o ddewisiadau buddsoddi, ffioedd îs a gwell
ymarferoldeb ar lein.
Yng nghyd-destun yr Arolwg Boddhad ac os oedd 89 ymateb
allan o holl Aelodau’r Gronfa yn rhoi darlun
dibynadwy o’r sefyllfa, derbyniwyd bod y ffigwr yn isel,
ond bod parodrwydd gan Aelodau i gwyno
yn uniongyrchol os nad ydynt
yn hapus gyda’r profiad. Y bwriad yw cyflwyno holiadur
ar lein yn
hytrach nag ar bapur ac felly'r gobaith i’r dyfodol
yw cael gwell
ymateb.
PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth
Dogfennau ategol: