Alwen
Williams (Prif Weithredwr) I gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
1.
Nodi’r diweddariad ar y
trefniadau pontio ar gyfer y Gronfa Dwr Lleol ers yr adroddiadau perthnasol
gael eu cyflwyno i’r CBC yn mis Mawrth a Mehefin.
2.
Nodi bod y Cynllun Pontio
Blwyddyn 1 (2026-27) ar gyfer y Gronfa Dwf Lleol wedi ei gyflwyno ar y 9fed o
Fehefin i Lywodraeth Cymru gan Gyngor Gwynedd fel y corff atebol arweiniol ar
gyfer Blwyddyn 1, ac bod y cynllun yn nodi’r dull o gynnal parhad o Gronfa
Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) wrth baratoi’r rhanbarth ar gyfer model cyflawni
gwbl ranbarthol o dan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ym mlynyddoedd 2 a 3.
3.
Cymeradwyo’r rhaglen
waith arfaethedig a’r cerrig milltir sydd eu hangen cyn cyfarfod nesaf o’r
Is-bwyllgor Lles Economaidd ym mis Hydref 2026, gan gydnabod bod rhaid i’r
gwaith paratoi ddechrau ar unwaith os yw’r CBC am fod yn barod i gymryd
cyfrifoldeb am y Gronfa Dwf Lleol o fis Ebrill 2027 ymlaen, yn ddarostyngedig i
dderbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru.
4.
Awdurdodi’r swyddogion
i symud ymlaen gyda’r gofynion angenrheidiol gan gynnwys cynllunio, ymgysylltu,
comisiynu ac adeiladu capasiti dros yr Haf, gan ddefnyddio’r cyllid ddarparwyd gan
Lywodraeth Cymru i gefnogi’r paratoadau ar gyfer cyflawni’r Gronfa Dwf Lleol o
2027/28 ymlaen, yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru.
COFNODION:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Prif Weithredwr.
PENDERFYNIAD
1. Nodi’r
diweddariad ar y trefniadau pontio ar gyfer y Gronfa Dwr Lleol ers yr
adroddiadau perthnasol gael eu cyflwyno i’r CBC ym mis Mawrth a Mehefin.
2. Nodi bod y
Cynllun Pontio Blwyddyn 1 (2026-27) ar gyfer y Gronfa Dwf Lleol wedi ei
gyflwyno ar y 9fed o Fehefin i Lywodraeth Cymru gan Gyngor Gwynedd fel y corff
atebol arweiniol ar gyfer Blwyddyn 1, a bod y cynllun yn nodi’r dull o gynnal
parhad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) wrth baratoi’r rhanbarth ar gyfer
model cyflawni gwbl ranbarthol o dan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ym mlynyddoedd
2 a 3.
3. Cymeradwyo’r rhaglen waith arfaethedig a’r
cerrig milltir sydd eu hangen cyn cyfarfod nesaf o’r Is-bwyllgor Lles
Economaidd ym mis Hydref 2026, gan gydnabod bod rhaid i’r gwaith paratoi
ddechrau ar unwaith os yw’r CBC am fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb am y
Gronfa Dwf Lleol o fis Ebrill 2027 ymlaen, yn ddarostyngedig i dderbyn
cadarnhad gan Lywodraeth Cymru.
4. Awdurdodi’r
swyddogion i symud ymlaen gyda’r gofynion angenrheidiol gan gynnwys cynllunio,
ymgysylltu, comisiynu ac adeiladu capasiti dros yr Haf, gan ddefnyddio’r cyllid
a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r paratoadau ar gyfer cyflawni’r
Gronfa Dwf Lleol o 2027/28 ymlaen, yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad gan
Lywodraeth Cymru.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
I ddiweddaru’r Is-bwyllgor Lles Economaidd ar
y Gronfa Dwf Lleol ac i gael cefnogaeth yr Is-bwyllgor i fwrw ymlaen gyda’r
Gwaith sydd ei angen dros yr haf i gychwyn cynllunio i fodloni gofynion
Llywodraeth Cymru am fwy o gydweithredu rhanbarthol a chydlynu’r gronfa o 1af
Ebrill 2027.
TRAFODAETH
Eglurwyd
mai pwrpas yr adroddiad yw sicrhau bod gogledd Cymru yn barod ar gyfer
trefniadau cyfnewid y Gronfa Dwf Lleol, a’r disgwyliadau mae Llywodraeth Cymru
wedi ei osod allan ar gyfer Ebrill 2027 ymlaen.
Nodwyd
bod yr adroddiad yn darparu diweddariad i Aelodau ar ddatblygiadau, tra hefyd
yn chwilio am gymeradwyaeth i raglen waith paratoadol wrth blaen gynllunio i’r
newid hwn, a fyddai angen ei weithredu yn ystod haf 2026.
Atgoffwyd
bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) bellach yn cael ei ddisodli gan y Gronfa
Dwf Lleol. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod pwyslais yn cael ei roi ar dyfiant
cynhyrchiant, cydbwyso anghydbwysedd economaidd tra hefyd yn amlygu angen am
gyllideb cyfalaf mwy sylweddol.
Adroddwyd
bod y Gronfa Twf Lleol yn gweithredu ar dair blaenoriaeth, sef:
·
Cefnogi
busnesau cynhyrchiol a chystadleuol
·
Cynyddu
sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth
·
Gwella
isadeiledd rhanbarthol
Cadarnhawyd
bod blwyddyn ariannol 2026/27 yn cael ei hadnabod gan Lywodraeth Cymru fel
blwyddyn drosiannol, gan nodi bod trefniadau presennol ar gyfer SPF yn parhau i
fod yn weithredol. Amlygwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod arweiniol ar y
mater ar gyfer gogledd Cymru.
Datganwyd
mai Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer y Gronfa, a'u bod eisoes
wedi derbyn llythyr cynnig grant ar gyfer 2026/27 sy’n ei wneud yn ofynnol ar
weithrediad Cynllun Pontio trosiannol pragmataidd Atgoffwyd bod Cynllun
Datblygu Rhanbarthol terfynol wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 9
Mehefin 2026, fel modd o rannu gwybodaeth gyda’r Llywodraeth ar weinyddiaeth y
Cynllun yn ei flwyddyn gyntaf..
Nodwyd
bod yr awdurdodau lleol yn datblygu cynlluniau ar gyfer gweithredu’r cynllun ar
gyfer ei flwyddyn gyntaf. Ymhelaethwyd eu bod yn gwneud hynny drwy ystyried
blaenoriaethau’r Cynllun yn ogystal ag anghenion lleol.
Adroddwyd
bod canllawiau diweddar a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau’r
disgwyliad y bydd y cyfrifoldeb am gynllunio strategol, blaenoriaethu a
goruchwyliaeth o’r Gronfa yn symud i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig o Ebrill 2027
ymlaen (yn hytrach na’r Awdurdodau Lleol). Pwysleisiwyd bod y rhanbarth hwn wedi
datgan gwrthwynebiadau i’r penderfyniad hwn gan ei fod yn effeithio ar y gallu
i wneud penderfyniadau yn lleol. Sicrhawyd bod swyddogion wedi gwneud cais am
gadarnhad ffurfiol o safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, gan adrodd bod
llythyr gan Weinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni ar y ffordd er
mwyn darparu diweddariad. Pwysleisiwyd bydd y llythyr hwn yn cael ei rannu gyda
holl arweinyddion llywodraeth leol yng Nghymru.
Soniwyd
bod gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn glir o fewn y canllawiau, gan egluro bod
disgwyliad i Gyd-bwyllgorau Corfforedig baratoi cynllun twf rhanbarthol am
gyfnod o 10 mlynedd, er mwyn darparu fframwaith strategol ar gyfer
buddsoddiadau yn y dyfodol. Adroddwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd
wedi derbyn arian grant gwerth £200,000 er mwyn gweithredu ar y cais hwn, gan
nodi y disgwylir drafft o’r cynllun erbyn diwedd Medi 2026 a chynllun terfynol
erbyn diwedd Tachwedd 2026.
Pwysleisiwyd
nad oes bwriad i ddisodli blaenoriaethau lleol, ond i ddarparu mecanwaith ble
gallent fod wedi ei alinio gyda blaenoriaethau rhanbarthol er mwyn uchafu
cyfleoedd buddsoddi.
Nodwyd
bod y rhaglen waith ddrafft wedi cael ei gynnwys o fewn yr adroddiad, gan
gynnwys ystyried tystiolaeth a strategaethau presennol, adnewyddu’r waelodlin
economaidd bresennol, datblygu gwelediad twf hir dymor, ffurfio trefniadau
llywodraethu yn ogystal â chynnal gwaith ymgysylltu allweddol gydag awdurdodau lleol
a phartneriaid rhanbarthol. Tynnwyd sylw at y cerrig filltir sydd wedi cael ei
nodi gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r cynllun hwn, a phwysleisio bod methiant
i wneud hynny yn gallu arwain at risgiau wrth ymgeisio am gyllidebau yn y
dyfodol, a gall y Llywodraeth benderfynu sut i ddyrannu unrhyw arian yn
ganolog. Mynegwyd rhwystredigaeth bod yr amserlen a ddarparwyd gan Lywodraeth
Cymru yn heriol iawn, gyda swm sylweddol o waith angen ei gyflawni er mwyn ei gyflwyno
ar amser. Amlygwyd bod y cerrig filltir hynny fel a ganlyn:
·
30
Gorffennaf 2026 - Cyflwyno adroddiad cynnydd i Lywodraeth Cymru
·
30 Medi
2026- Cyflwyno Cynllun Twf Rhanbarthol drafft i Lywodraeth Cymru
·
2
Hydref 2026 - Cyflwyno’r Cynllun Twf Rhanbarthol drafft i’r Is-bwyllgor Lles
Economaidd er ystyriaeth
·
30
Tachwedd 2026 - Cyflwyno’r Cynllun Twf Rhanbarthol Terfynol i Lywodraeth Cymru
Ystyriwyd
mai’r blaenoriaethau cychwynnol yw ymgysylltu gyda’r awdurdodau lleol a phartneriaid
yn ogystal â dechrau ar y gwaith o sefydlu trefniadau llywodraethu.
Amlygwyd
bod yr adroddiad yn nodi’r angen i gychwyn ar y gwaith paratoadol tra mae
swyddogion yn parhau i geisio eglurder ar drefniadau hir dymor y Gronfa, er
mwyn sicrhau nad oes unrhyw oblygiadau ariannol negyddol yn cael effaith ar y
rhanbarth.
Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Ystyriwyd
ei fod yn hanfodol bod y Cyd-bwyllgor yn cyfarch amserlen dynn Llywodraeth er mwyn
sicrhau nad oes penderfyniadau a effeithir y rhanbarth yn cael eu penderfynu yn
ganolog, gan ystyried os oes capasiti gan swyddogion i wneud hynny yn amserol.
Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhad y Prif Weithredwr bod Llywodraeth Cymru
wedi darparu cyllideb grant gwerth £200,000 er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith
a’r capasiti i’w gyflawni, yn ogystal â chyhoeddi arweiniad ysgrifenedig ar y
Gronfa. Cydnabuwyd nad oes digon o gapasiti ar hyn o bryd i gyflawni’r gwaith,
ond bod cynllun ar waith er mwyn sicrhau bod adnodd digonol mewn lle. Nodwyd
bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cyfarch yr amserlen yn heriol,
gan nodi bod modd cyflwyno cynllun sydd yn manylu ar y Gronfa yn hytrach na’r
cynllun twf 10 mlynedd yn ei gyfanrwydd, yn dderbyniol. Fodd bynnag, ystyriwyd
ei fod yn amserol i ddatblygu cynllun 10 mlynedd newydd gan fydd hynny yn gyfle
i ddatblygu gweledigaeth economaidd hyd at ddiwedd cyfnod y Cynllun Twf a’r
Parth Buddsoddi yn 2036. Hyderwyd bydd modd cyfarch y targedau amser ar y
telerau hyn.
Mynegwyd
rhwystredigaeth Aelodau bod rhai materion ynghlwm a’r Cynllun yn aneglur, ac
nid yw eglurder ffurfiol wedi ei ddarparu gan y Gweinidog Cabinet hyd yma.
Pwysleisiwyd bod hyn yn ei wneud yn heriol i ddod i benderfyniad ar y mater.
Datganwyd
siomedigaeth bod criteria ar gyfer y Gronfa yn dra wahanol i’r SPF, a’i fod yn addasu
o fod yn gyllideb refeniw i gyllideb cyfalaf. Rhannwyd enghreifftiau o
wasanaethau allweddol sydd wedi cael eu hariannu gan SPF a’i gyllideb
flaenorol, ond sydd bellach yn anghymwys i’w gyllido o’r Gronfa.
Trafodwyd
pryder y gall y Gronfa gael ei golli o fewn gwaith ehangach y Cyd-bwyllgor,
petai’r Cyd-bwyllgor yn gyfrifol am ei weinyddiaeth a’i llywodraethant o Ebrill
2027 ymlaen. Ystyriwyd yr angen am sicrwydd bydd y Gronfa yn cael ei weinyddu
ar draws y chwe awdurdod lleol o fewn y rhanbarth,
gan beri gofid gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych, fel
safleoedd yng nghanol y rhanbarth, gael ei anghofio dros brosiectau yn
ardaloedd gorllewinol a dwyreiniol y rhanbarth. Gofynnwyd a byddai’r gyllideb o
fewn y Gronfa yn parhau i gael ei ddyrannu i bob Sir, fel y gwnaed wrth
weinyddu SPF.
Ystyriwyd
bod gweinyddiaeth SPF a blwyddyn gyntaf y Gronfa wedi bod yn effeithiol iawn.
Derbyniwyd sylwadau y byddai’n fuddiol i’r trefniadau aros yn y system gyfredol
gan fod sicrwydd eu bod yn gweithio.
Gofynnwyd
faint byddai’r gost i’r Cyd-bwyllgor weinyddu’r Gronfa, o’i gymharu â faint
mae’n costio i Gyngor Gwynedd wneud hynny ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd ei fod yn
angenrheidiol nad yw’r gost hwn yn sylweddol uwch i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig,
er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o arian cyhoeddus. Mewn ymateb, cadarnhaodd y
Prif Weithredwr bod trefniadau costau gweinyddu'r Gronfa yn aros yr un fath a’r
hyn a oedd yn weithredol ar gyfer SPF. Manylwyd y golyga hyn bod 4% o’r
gyllideb ar gael ar gyfer costau gweinyddu’r Gronfa - pe bai’n cael ei
ddefnyddio gan Gyngor Gwynedd neu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Eglurwyd bod yr
arian grant o £200,000 a gyfeiriwyd ato ddim ond ar gael ar gyfer y flwyddyn
drosiannol (2025/26).
Nodwyd
sylwadau bod y newid hwn i weinyddiaeth ranbarthol y Gronfa yn symud
penderfyniadau democratiaeth i ffwrdd o drigolion y rhanbarth, gan nad ydynt yn
cael eu penderfynu yn lleol.
Derbyniwyd
diweddariad gan yr Aelod dros Gyngor Sir Ynys Môn, a oedd yn nodi ei bod wedi
cael trafodaeth gyda’r Gweinidog Cabinet perthnasol yn ddiweddar, ble
cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i drefniadau blaenorol
ynghylch y Cynllun. Mynegwyd siomedigaeth bod y Llywodraeth yn parhau gyda’r
safbwynt hyn yn hytrach nag ymateb yn effeithiol i bryderon y rhanbarth, a
phryderwyd bod angen cymeradwyo’r adroddiad hwn er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn
cyrraedd y rhanbarth, neu beri risg na fyddai’n cael ei ddyrannu’n effeithlon.
Pwysleisiwyd byddai peidio derbyn yr arian yn heriol iawn, ac fe fyddai’n llai
heriol i newid trefniadau presennol er mwyn gweithredu’n rhanbarthol ar
weithrediad y Gronfa. Mewn ymateb i’r sylwadau, ystyriodd y Swyddog Monitro os
byddai’r Aelodau yn dymuno addasu’r Penderfyniad a Geisir fel bod modd
cymeradwyo’r adroddiad os yw’r cadarnhad ffurfiol gan y Gweinidog Cabinet yn
dod i law, a’i fod yn disgyn os nad yw’r cadarnhad hwnnw yn cyrraedd, petai’r
Aelodau o blaid cymeradwyo’r adroddiad.
Gofynnwyd
a oes asesiadau, gwerthuso neu fonitro wedi cael ei gwblhau, wrth i swyddogion
fynd ati i ddatblygu cynllun deg mlynedd newydd. Ystyriwyd hefyd, os oedd y
weledigaeth twf a nodwyd o fewn y cynllun gwreiddiol yn 2016 wedi ei gyrraedd.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod y weledigaeth a nodwyd yn 2016 yn
uniongyrchol berthnasol i’r Cynllun Twf gan mai dim ond y Cynllun Twf oedd yn
weithredol bryd hynny. Ychwanegwyd bod cynnydd y Cynllun hwnnw yn cael ei
adrodd i’r Is-bwyllgor yn rheolaidd, gan bwysleisio bod y Cynllun yn ymateb i
amcanion y weledigaeth a nodwyd yn 2016. Amlygwyd bod yr economi wedi addasu yn
sylweddol o fewn y ddegawd ddiwethaf ac mae’n bwysig adnewyddu’r weledigaeth
fel rhanbarth er mwyn sicrhau bod heriau cyfredol yn derbyn sylw. Cadarnhawyd bydd
cynnal gweithgareddau gwerthuso yn rhan o ddatblygu cynllun deg mlynedd newydd.
Yn yr un modd, ystyriwyd ei fod yn angenrheidiol i gael mewnbwn gan yr
awdurdodau lleol fel rhan o’r broses hwnnw.
Ystyriwyd
y posibilrwydd o drefnu cyfarfod i’r Aelodau drafod y mater hwn ymhellach yn
dilyn y penderfyniad hwn. Cysidrwyd byddai cynnal cyfarfod o’r fath yn caniatáu
ystyriaeth i weledigaeth o sut mae’r Gronfa yn gallu bod o’r buddiant fwyaf i drigolion
y chwe awdurdod, ac yn tawelu meddyliau’r aelodau tra mae’r sefyllfa yn
parhau’n annelwig gan Lywodraeth Cymru. Nododd y Cadeirydd ei gefnogaeth i’r
cyfarfod hwn, gan annog Aelodau i ddod i benderfyniad ar yr adroddiad er mwyn
sicrhau na fydd yr amserlen yn llithro ar ddatblygiad y Gronfa.
Pwysleisiodd
y Prif Weithredwr bod y penderfyniadau a ystyriwyd o fewn yr adroddiadau yn
caniatáu i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig baratoi at y newid hwn, canfod y ffyrdd gorau
y gallai gydweithio gyda’r awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod yr arian yn
effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau. Tynnwyd sylw nad dyma’r tro cyntaf i
Lywodraeth Cymru addasu dull ariannu yn y modd hwn, gan fod y Cyd-bwyllgor
Corfforedig wedi bod yn cydweithio gyda’r awdurdodau lleol perthnasol ar
brosiect Parth Buddsoddi Fflint a Wrecsam ers nifer o flynyddoedd ac wedi delio
gyda’r un ystyriaethau a heriau wrth sefydlu’r prosiect hwnnw. Pwysleisiwyd bod
meithrin perthynas glos gyda’r awdurdodau hynny wedi caniatáu i benderfyniadau
aros yn lleol o fewn y Siroedd, a gobeithir efelychu’r llwyddiant hwn gyda’r
Gronfa er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei weinyddu ar strwythur sydd yn
gweithio’n effeithiol i bawb.
Cynhaliwyd pleidlais ar yr
adroddiad, ble roedd 5 aelod o blaid ac 1 yn atal eu pleidlais.
Diolchwyd
am yr adroddiad.
Dogfennau ategol: