Cyflwynwyd gan:Cyng Dilwyn Morgan
Penderfyniad:
• Nodi cynnwys Siarter Angor Rhanbarthol Gogledd Cymru a
gymeradwywyd gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar yr 8fed Mai 2026.
• Nodi'r gwaith croesgyfeirio a gwblhawyd rhwng
ymrwymiadau'r Siarter a blaenoriaethau Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 a gwaith
dydd i ddydd y Cyngor.
• Cydnabod bod gwaith presennol y Cyngor eisoes yn
cyfrannu'n sylweddol at gyflawni amcanion y Siarter, a bod cyfle i ystyried
cyfleoedd i gryfhau’r cyfraniadau hyn yn unol â blaenoriaethau Cynllun y Cyngor
• Nodi’r cyfle i rannu dysgu o’r broses croesgyfeirio,
ynghyd ag enghreifftiau o ymarfer nodedig, gyda phartneriaid eraill dros y
rhanbarth fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i’r Fframwaith Lles, Atal ac Angor a
gymeradwywyd gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol ar yr 8fed Mai 2026
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.
PENDERFYNIAD

TRAFODAETH
Eglurwyd bod y Siarter wedi’i seilio ar y gred y gall
sefydliadau mawr cyhoeddus yr ardal ddefnyddio eu dylanwad i greu budd economaidd
a chymdeithasol i gymunedau lleol. Aethpwyd ymlaen i nodi mai’r Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol sy’n arwain ar y Siarter, fel rhan o waith ehangach y
Fframwaith Lles, Atal ac Angor Rhanbarthol. Esboniwyd mai pwrpas yr adroddiad
yw amlygu sut mae gwaith dydd i ddydd y Cyngor eisoes yn cyfrannu at amcanion y
Siarter. Cynigiwyd efallai bod cyfle i edrych ar be all y Cyngor ei wneud i
annog staff i wneud mwy yn eu cymunedau yn ogystal.
Datganwyd bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol eisoes wedi
mabwysiadu’r Siarter. Tynnwyd sylw at yr hunanasesiad sydd wedi ei gwblhau o
waith y Cyngor yn erbyn yr eitemau sydd yn y Siarter, ac amlygwyd bod rhan
helaeth o'r sgoriau yn gyson ond bod un maes yn isel. Manylwyd ar hyn gan nodi
bod sawl sefydliad yn rhoi amser i’w staff fynd i wirfoddoli, a chynhigiwyd bod
hyn yn rhywbeth i’w ystyried wrth fynd ymlaen. Adroddwyd bod awydd i
ddefnyddio’r wybodaeth a’r drafodaeth hon er mwyn galluogi i hyn fwydo i mewn i
ystyriaethau strategol wrth fynd ymlaen.
Croesawyd Rheolwr Partneriaethau Strategol, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod. Amlygwyd mai un o’r dangosyddion a
gaiff eu hystyried gan y Tîm Iechyd Cyhoeddus wrth asesu iechyd y boblogaeth yw
disgwyliad oes, ac esboniwyd bod y dangosydd hwn yn dirywio yng Ngogledd Cymru.
Dywedwyd bod gwahaniaeth yn y dangosydd hwn rhwng y bobl hynny sydd fwyaf a
lleiaf difreintiedig yn ein cymunedau. Er bod nifer o ffactorau yn chwarae rhan
yma, nodwyd mai dangosyddion ehangach megis addysg, bod mewn swydd sy’n talu’n
deg, byw mewn tŷ clyd a chymunedau diogel, sy’n cael y dylanwad mwyaf ar
iechyd a lles ac felly mai dyma sydd wrth wraidd y gwaith hwn. Datgelwyd mai’r
Cyngor yw’r cyntaf yng ngogledd Cymru i fynd drwy’r broses o hunanasesu, gan
ategu y caiff llawer o’r gwaith sydd yn y Siarter ei wneud yn barod o fewn y
Cyngor. Aethpwyd ymlaen i annog y Cyngor i edrych ar sut y gellir cryfhau’r
agweddau hyn ymhellach, ac ystyried pa gyfleoedd sydd i rannu ymarfer nodedig
tu allan i’r sefydliad.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Cydnabuwyd bod sgôr y Cyngor wrth annog a galluogi staff i
gymryd rhan mewn gweithgarwch cymunedol a gwirfoddol yn is na’r sgorau eraill
yn yr hunanasesiad, ac awgrymwyd efallai ei fod yn rhywbeth gall y Cyngor ei
ystyried wrth fynd ymlaen. Ategwyd y gall annog staff i wirfoddoli gyfrannu at
ymgais y Cyngor i gryfhau darpariaethau a chyfrannu’n gadarnhaol at ein
cymunedau.
Awdur:Dylan Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dewi Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor Dafydd Gwynne, Rheolwr Partneriaethau Strategol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dogfennau ategol: