Ailgyflwyno er mwyn derbyn cyflwyniad gan yr Athro Sally
Holland.
Cyflwynwyd gan:Cyng Nia Jeffreys
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gerbron sef y pedwerydd adroddiad chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen
Cynllun Ymateb.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad gerbron sef y pedwerydd adroddiad
chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.
TRAFODAETH
Datganwyd mai bwriad ail gyflwyno’r Adroddiad i’r cyfarfod
hwn yw derbyn cyflwyniad gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb, a
chroesawyd y Cadeirydd i’r cyfarfod.
Eglurwyd mai dyma’r pedwerydd adroddiad chwarterol gan
Gadeirydd y Bwrdd, er mwyn diweddaru’r Cabinet ar waith y Bwrdd Rhaglen Cynllun
Ymateb.
Cymerwyd y cyfle i gydnabod dewrder y dioddefwyr a
goroeswyr, gan bwysleisio eu bod ar flaen meddyliau pob un wrth drafod y pwnc
hwn.
Cadarnhawyd bod y Bwrdd wedi cyfarfod eto ers mis
Gorffennaf, gan nodi presenoldeb ac ymgysylltiad uchel y Bwrdd, ynghyd ag
ansawdd uchel y deunyddiau ysgrifenedig. Amlygwyd bod cynnydd wedi’i adrodd
ymhob maes, gyda’r holl adroddiadau yn destun trafodaeth a chraffu gan arsylwyr
annibynnol a’r aelodau Cabinet sy’n rhan o’r Bwrdd. Pwysleisiwyd bod aelodau’r
Bwrdd yn cadw’r dioddefwyr yn ganolog i’w meddyliau, ac ategwyd yr angen i
wneud newidiadau gwirioneddol i arferion er mwyn ad ennill ymddiriedaeth plant
a phobl ifanc yng Ngwynedd.
Cydnabuwyd y cynnydd sydd wedi’i wneud yn Ysgol Friars a bod hyn i’w weld yn adroddiad diweddar Estyn.
Adroddwyd ar y cynnydd a gaiff ei wneud mewn perthynas â’r Strategaeth Llais y
Plentyn, gan gyfeirio’n benodol at ddatblygiad y Fforwm Ieuenctid. Yn ogystal,
datganwyd bod cynnydd wedi bod wrth geisio sicrhau bod hyfforddiant diogelu ar
gael mewn gwahanol fformatau er mwyn diwallu anghenion staff. Mynegwyd balchder
bod trafodaethau Grŵp Ffocws pellach gyda gwahanol grwpiau o randdeiliaid wedi eu cynllunio, a bod y gwaith ar arferion
cyfyngol yn dod yn fwy sefydledig yn dilyn derbyn archwiliad annibynnol o’r
polisïau. Datgelwyd bod y Llywodraeth wedi ail sefydlu’r Grŵp Sicrwydd
Gweinidogol yn ogystal. Nodwyd yr angen i ganolbwyntio ar fesur effaith a
sicrhau y caiff newidiadau eu hymgorffori wrth fynd ymlaen.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
· Diolchwyd
i Gadeirydd y Bwrdd am ei gwaith parhaus, a chroesawyd bod holl ddogfennau’r
Bwrdd bellach yn gyhoeddus fel bod modd i’r cyhoedd weld y gwaith sy’n mynd
rhagddo. Pwysleisiwyd yr angen i fesur effaith y gwaith hwn maes o law, a
gofynnwyd sut y mae’r Cyngor yn bwriadu gwneud hyn. Mewn ymateb, esboniwyd bod
y Cyngor wrthi’n cyflawni’r gwaith ac yn ceisio gwreiddio’r newid hwn.
Crybwyllwyd nad oedd modd mesur effaith y gwaith yn syth, ond erbyn hyn ei bod
yn bosib symud ymlaen i edrych ar yr effaith. Soniwyd y bydd cyfle i wrando a
derbyn barn rhanddeiliaid drwy grwpiau ffocws, a rhoi cyfle i bobl fynegi hyder
yn nhrefniadau’r Cyngor.
Crybwyllwyd bod Cadeirydd y Bwrdd yn cyfarfod gyda
swyddogion y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd er mwyn rhoi mewnbwn i’r gwaith
parhaus sy’n mynd rhagddo yn y maes hwn. Nodwyd pwysigrwydd mesur effaith yn ogystal,
a phwysigrwydd rhoi mesurau a all barhau dros amser ar waith fel bod modd mesur
eu heffaith. Trafodwyd y cyfleoedd sydd i gymharu effaith y gwaith hwn ag
awdurdodau lleol eraill drwy arolygon cenedlaethol i blant.
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag a oes
unrhyw gefnogaeth neu adnoddau pellach y mae’r Bwrdd ei angen gan y Cabinet er
mwyn cynnal momentwm y gwaith, cadarnhawyd bod y Bwrdd yn rhedeg yn esmwyth a
chanmolwyd safon yr adroddiadau a’r gefnogaeth a ddarperir i’r aelodau.
Cyfeiriwyd at y buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y gwaith hwn, a chydnabuwyd
awydd y Cyngor i ddarparu’r adnoddau angenrheidiol hyn.
·
Mynegwyd balchder bod y Cabinet wedi sicrhau
arian parhaol i’r maes hwn. Gobeithiwyd y bydd awdurdodau lleol eraill yn gallu
blaenoriaethu’r gwaith hwn yn ogystal.
Awdur:Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr
Dogfennau ategol: