Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Nia Jeffreys

Penderfyniad:

Cymeradwyo Cynllun Gweithredu Cyngor Gwynedd ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, sy'n amlinellu'r gweithgareddau fydd yn cael eu cyflawni ar draws adrannau'r Cyngor fel rhan o ddull corfforaethol i gefnogi amcanion Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Llywodraeth Cymru (Atodiad 1).

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo Cynllun Gweithredu Cyngor Gwynedd ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, sy'n amlinellu'r gweithgareddau fydd yn cael eu cyflawni ar draws adrannau'r Cyngor fel rhan o ddull corfforaethol i gefnogi amcanion Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Llywodraeth Cymru (Atodiad 1).

 

 

TRAFODAETH

 

Rhybuddiwyd bod y pwnc hwn yn un sensitif iawn i’w drafod, a thynnwyd sylw at y cymorth sydd ar gael gan amryw o elusennau a sefydliadau yn y Sir.

 

Adroddwyd y bu Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yr wythnos ddiwethaf, ac y caiff mis Medi ei gydnabod yn eang fel Mis Ymwybyddiaeth ac Atal Hunanladdiad. Amlygwyd bod hunanladdiad yn gyfrifoldeb i bawb; sefydliadau, cymunedau, ac i unigolion. Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod yn barod i drafod y pwnc yn agored yn ein cymunedau.

 

Datganwyd bod yr adroddiad yn deillio o waith y Cyngor i ymateb i Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Llywodraeth Cymru. Pasiwyd Rhybudd o Gynnig, a oedd yn galw ar y Cyngor i ddatgan cefnogaeth i’r Strategaeth a sefydlu Cynllun Gweithredu ar gyfer Cyngor Gwynedd, yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr 2025.

Mynegwyd balchder bod llawer o waith da eisoes yn digwydd ar draws gwasanaethau’r Cyngor, yn ein hysgolion ac ar draws ein partneriaethau, a dywedwyd y bydd y Cynllun hwn yn dod a’r gwaith hwnnw ynghyd, gan gryfhau ymwybyddiaeth, hyfforddiant, ac ymyrraeth gynnar. Manylwyd ar y camau gweithredu a chadarnhawyd y bydd y gwaith yn adeiladu ar y gefnogaeth sydd eisoes ar gael mewn ysgolion, gan gryfhau trefniadau adnabod pryderon yn gynnar a sicrhau y gall plant a phobl ifanc gael mynediad at y gefnogaeth briodol. 

 

Diolchwyd i’r swyddogion, partneriaid, a’r cynghorwyr sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r Cynllun.

 

Mynegwyd tristwch bod y niferoedd o hunanladdiadau wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ac felly pwysleisiwyd pwysigrwydd cyd-weithio’n eang i godi ymwybyddiaeth a sicrhau fod pobl yn ymwybodol o le i droi am gymorth neu petai ganddynt bryder am berson arall.

Nodwyd y bwriad o gynnal sesiynau ymwybyddiaeth er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth pobl ar draws y Sir, ynghyd â gweithlu’r Cyngor, a hyrwyddo hyfforddiant penodol ar gyfer y gweithlu. Ymhelaethwyd ar hynny gan nodi’r bwriad o hyrwyddo hyfforddiant ehangach hefyd, megis hyfforddiant Trais Domestig, a bod yn effro i’r effaith benodol yn gall hyn ei gael ar unigolion.

 

Soniwyd am yr angen i ymdreiddio’r ddealltwriaeth yma a hybu lleisiant ar draws y system addysg yn ogystal. Cadarnhawyd bod yr adran Addysg yn effro i’r risgiau yn y maes hwn, ac yn cynyddu’r gefnogaeth a’r hyfforddiant i’r personau dynodedig mewn ysgolion. Credwyd bod y Strategaeth hon yn gam i’r cyfeiriad cywir ac yn sicrhau ei fod ar flaen ein meddyliau. Mewn achosion lle mae digwyddiad o’r fath wedi digwydd, nodwyd bod yr Adran wedi adlewyrchu ar drefniadau cefnogaeth i blant a phobl ifanc yr ysgolion, y staff a’r penaethiaid yn ogystal. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y gwaith hwn.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Croesawyd y Strategaeth a chytunwyd ynglŷn â phwysigrwydd codi ymwybyddiaeth y gymdeithas o’r materion hyn.

·       Mynegwyd tristwch bod un o’r elusennau sy’n gweithio yn y maes hwn wedi gorfod cau o ganlyniad i’w sefyllfa gyllidol. Soniwyd am bwysigrwydd yr elusennau hyn a gwaith y trydydd sector yn y maes hwn.

·       Cadarnhawyd y bydd y bydd y gwaith yn mynd gerbron y Pwyllgor Craffu ac y bydd yn rhan o waith y Panel Strategol Diogelu. Amlygwyd y bydd gofyn i’r Cabinet adolygu’r Cynllun ymhen amser yn ogystal.

·       Tynnwyd sylw at ymrwymiad y Cyngor i weithredu.

 

Awdur:Dylan Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol: