Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Dewi Jones

Penderfyniad:

Yn ddarostyngedig i ystyried cynnwys yr Adroddiad a’r Atodiadau ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriadau ac ymgysylltu, penderfynu ar fabwysiadu Polisi Cludiant Addysg newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Medi 2027.

 

Dirprwyo hawl awdurdod i’r Aelod Cabinet dros Addysg, mewn ymgynghoriad â Phennaeth yr Adran Addysg, i gadw’r Polisi dan adolygiad o fewn y fframwaith statudol cenedlaethol a gwneud newidiadau gweithredol a golygyddol yn ôl yr angen yn ddarostyngedig fod unrhyw fater sydd yn ddarostyngedig i ofyn ymgynghori i’w gyfeirio i’r Cabinet.

  

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Yn ddarostyngedig i ystyried cynnwys yr Adroddiad a’r Atodiadau ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriadau ac ymgysylltu, penderfynu ar fabwysiadu Polisi Cludiant Addysg newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Medi 2027.

 

Dirprwyo hawl awdurdod i’r Aelod Cabinet dros Addysg, mewn ymgynghoriad â Phennaeth yr Adran Addysg, i gadw’r Polisi dan adolygiad o fewn y fframwaith statudol cenedlaethol a gwneud newidiadau gweithredol a golygyddol yn ôl yr angen yn ddarostyngedig fod unrhyw fater sydd yn ddarostyngedig i ofyn ymgynghori i’w gyfeirio i’r Cabinet.

 

TRAFODAETH

 

Adnabuwyd ei bod yn amserol i adolygu a diweddaru’r Polisi Cludiant Addysg. Soniwyd am yr ymgynghori helaeth a wnaethpwyd mewn perthynas â’r Polisi, gan nodi bod addasiadau wedi eu gwneud yn sgil yr ymgynghori hwn.

Manylwyd ar y Cynllun Seddi Gweigion, gan esbonio bod seddi gwag wedi bod yn cael eu cynnig i ddysgwyr nad oedd ganddynt hawl i gludiant di-dâl os byddai argaeledd sedd ar gludiant, gan godi tâl am y sedd honno. Yn dilyn eglurder pellach gan Lywodraeth Cymru, cadarnhawyd bod sail fwy cadarn i barhau i gynnig y Cynllun Seddi Gweigion bellach, er bod rhai risgiau yn parhau.

Aethpwyd ymlaen i egluro bod mwy o gyd-destun o ran yr elfennau Preswyliad Deuol ac Ysgolion Ffydd yn y Polisi gerbron. Ychwanegwyd bod yr elfen Cludiant Ôl-16 hefyd wedi’i gysoni fel bod mwy o eglurder. Nodwyd bod y Polisi gerbron yn cynnig darparu cludiant ôl-16 i’r ysgol ddalgylch/addas agosaf, ynghyd ag i’r safle coleg addas agosaf sy’n darparu’r cwrs hwnnw.

Amlygwyd mai mwy o fanylder ar rai rhannau sydd yma, nid newidiadau mawr i’r Polisi.

 

Croesawyd Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i’r cyfarfod. 

Diolchwyd i’r Aelod Cabinet am ei waith ac aethpwyd ymlaen i esbonio argymhellion y Pwyllgor Craffu. Mynegwyd balchder bod sylw penodol wedi’i roi i’r Cynllun Seddi Gweigion yn dilyn argymhellion y Pwyllgor, a bod ystyriaeth wedi’i roi i argymhellion eraill y Pwyllgor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn am brif fanteision y Polisi Cludiant gerbron, esboniwyd bod y Cynllun Seddi Gweigion wedi’i gynnwys yn ôl yn y Polisi, gan hwyluso gallu teuluoedd sydd ddim yn gymwys i gludiant yn unol â’r gofynion statudol i allu manteisio ar y seddi gweigion hyn. Soniwyd bod canllawiau yn awgrymu’r angen i hyrwyddo’r ddarpariaeth i Ysgolion Ffydd, gan egluro bod hyn yn ychwanegiad i’r Polisi. Gobeithiwyd hefyd y bydd yr eglurder pellach yn y Polisi o ran Preswyliad Deuol yn hwyluso trefniadau teuluoedd i fynd a’u plant i’r ysgol. Ategwyd bod eglurder pellach hefyd i’w weld wrth gyfeirio at Gludiant Ôl-16. Cadarnhawyd mai ym mis Medi 2027 bydd y Polisi hwn yn dod i rym, petai’n cael ei fabwysiadu.

·       Cyfeiriwyd at yr angen i gyfathrebu’r newid hwn, a dywedwyd bod gwybodaeth ar wefan y Cyngor am yr holl elfennau hyn a bwriadwyd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd pobl ifanc yn ogystal. Cynhaliwyd sesiynau gyda dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn cael eu barn am y newid. Bwriadwyd ymgysylltu â phobl ifanc yn rheolaidd yng nghyd-destun cludiant er mwyn ceisio caglu barn yn ogystal â rhannu gwybodaeth ynglŷn â’r ddarpariaeth gyda’r bobl ifanc.

·       Nodwyd bod yr Adran wedi gwrthod argymhelliad y Pwyllgor Craffu i ddynodi plwyfi yn hytrach na phellter o ran cludiant i Ysgolion Ffydd yn dilyn trafodaeth gyda chynrychiolydd o’r Eglwys Gatholig. Cadarnhawyd nad yw darparu cludiant ar sail pellter am gael effaith ar y rheiny sy’n derbyn y cludiant, a’i fod hefyd yn gyson gyda gweddill y Polisi Cludiant Addysg.

 

Awdur:Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Adran Addysg

Dogfennau ategol: