Cyflwynwyd gan:Cyng Dewi Jones
Penderfyniad:
Yn ddarostyngedig i ystyried cynnwys yr Adroddiad a’r
Atodiadau ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriadau ac ymgysylltu, penderfynu ar
fabwysiadu Polisi Cludiant Addysg newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Medi 2027.
Dirprwyo hawl awdurdod i’r Aelod Cabinet dros Addysg, mewn
ymgynghoriad â Phennaeth yr Adran Addysg, i gadw’r Polisi dan adolygiad o fewn
y fframwaith statudol cenedlaethol a gwneud newidiadau gweithredol a golygyddol
yn ôl yr angen yn ddarostyngedig fod unrhyw fater sydd yn ddarostyngedig i ofyn
ymgynghori i’w gyfeirio i’r Cabinet.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.
PENDERFYNIAD
Yn ddarostyngedig i ystyried cynnwys yr Adroddiad a’r
Atodiadau ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriadau ac ymgysylltu, penderfynu ar
fabwysiadu Polisi Cludiant Addysg newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Medi 2027.
Dirprwyo hawl awdurdod i’r Aelod Cabinet dros Addysg, mewn
ymgynghoriad â Phennaeth yr Adran Addysg, i gadw’r Polisi dan adolygiad o fewn
y fframwaith statudol cenedlaethol a gwneud newidiadau gweithredol a golygyddol
yn ôl yr angen yn ddarostyngedig fod unrhyw fater sydd yn ddarostyngedig i ofyn
ymgynghori i’w gyfeirio i’r Cabinet.
TRAFODAETH
Adnabuwyd ei bod yn amserol i adolygu a diweddaru’r Polisi
Cludiant Addysg. Soniwyd am yr ymgynghori helaeth a wnaethpwyd mewn perthynas
â’r Polisi, gan nodi bod addasiadau wedi eu gwneud yn sgil yr ymgynghori hwn.
Manylwyd ar y Cynllun Seddi Gweigion, gan esbonio bod seddi
gwag wedi bod yn cael eu cynnig i ddysgwyr nad oedd ganddynt hawl i gludiant
di-dâl os byddai argaeledd sedd ar gludiant, gan godi tâl am y sedd honno. Yn
dilyn eglurder pellach gan Lywodraeth Cymru, cadarnhawyd bod sail fwy cadarn i
barhau i gynnig y Cynllun Seddi Gweigion bellach, er bod rhai risgiau yn
parhau.
Aethpwyd ymlaen i egluro bod mwy o gyd-destun o ran yr
elfennau Preswyliad Deuol ac Ysgolion Ffydd yn y Polisi gerbron. Ychwanegwyd
bod yr elfen Cludiant Ôl-16 hefyd wedi’i gysoni fel bod mwy o eglurder. Nodwyd
bod y Polisi gerbron yn cynnig darparu cludiant ôl-16 i’r ysgol ddalgylch/addas
agosaf, ynghyd ag i’r safle coleg addas agosaf sy’n darparu’r cwrs hwnnw.
Amlygwyd mai mwy o fanylder ar rai rhannau sydd yma, nid
newidiadau mawr i’r Polisi.
Croesawyd Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
i’r cyfarfod.
Diolchwyd i’r Aelod Cabinet am ei waith ac aethpwyd ymlaen i
esbonio argymhellion y Pwyllgor Craffu. Mynegwyd balchder bod sylw penodol
wedi’i roi i’r Cynllun Seddi Gweigion yn dilyn argymhellion y Pwyllgor, a bod
ystyriaeth wedi’i roi i argymhellion eraill y Pwyllgor.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Mewn ymateb i gwestiwn am brif fanteision y
Polisi Cludiant gerbron, esboniwyd bod y Cynllun Seddi Gweigion wedi’i gynnwys
yn ôl yn y Polisi, gan hwyluso gallu teuluoedd sydd ddim yn gymwys i gludiant
yn unol â’r gofynion statudol i allu manteisio ar y seddi gweigion hyn. Soniwyd
bod canllawiau yn awgrymu’r angen i hyrwyddo’r ddarpariaeth i Ysgolion Ffydd,
gan egluro bod hyn yn ychwanegiad i’r Polisi. Gobeithiwyd hefyd y bydd yr
eglurder pellach yn y Polisi o ran Preswyliad Deuol yn hwyluso trefniadau
teuluoedd i fynd a’u plant i’r ysgol. Ategwyd bod eglurder pellach hefyd i’w
weld wrth gyfeirio at Gludiant Ôl-16. Cadarnhawyd mai ym mis Medi 2027 bydd y
Polisi hwn yn dod i rym, petai’n cael ei fabwysiadu.
·
Cyfeiriwyd at yr angen i gyfathrebu’r newid hwn,
a dywedwyd bod gwybodaeth ar wefan y Cyngor am yr holl elfennau hyn a bwriadwyd
defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd pobl ifanc yn ogystal.
Cynhaliwyd sesiynau gyda dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai fel rhan o’r
ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn cael eu barn am y newid. Bwriadwyd ymgysylltu â
phobl ifanc yn rheolaidd yng nghyd-destun cludiant er mwyn ceisio caglu barn yn
ogystal â rhannu gwybodaeth ynglŷn â’r ddarpariaeth gyda’r bobl ifanc.
·
Nodwyd bod yr Adran wedi gwrthod argymhelliad y
Pwyllgor Craffu i ddynodi plwyfi yn hytrach na phellter o ran cludiant i
Ysgolion Ffydd yn dilyn trafodaeth gyda chynrychiolydd o’r Eglwys Gatholig.
Cadarnhawyd nad yw darparu cludiant ar sail pellter am gael effaith ar y rheiny
sy’n derbyn y cludiant, a’i fod hefyd yn gyson gyda gweddill y Polisi Cludiant
Addysg.
Awdur:Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Adran Addysg
Dogfennau ategol: