Cyflwynwyd gan:Cyng Dewi Jones
Penderfyniad:
Ystyried yr Adroddiad Gwrthwynebu, y crynodeb o’r
gwrthwynebiadau statudol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, a’r
ymatebion a roddwyd i’r gwrthwynebiadau hynny, ac wedi gwneud hynny,
gadarnhau’n derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad statudol i gau Ysgol
Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Llanllyfni o 1 Ionawr
2027 ymlaen, yn unol ag Adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion (011/2018).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones
PENDERFYNIAD
Ystyried yr Adroddiad Gwrthwynebu, y crynodeb o’r
gwrthwynebiadau statudol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, a’r
ymatebion a roddwyd i’r gwrthwynebiadau hynny, ac wedi gwneud hynny,
gadarnhau’n derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad statudol i gau Ysgol
Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Llanllyfni o 1 Ionawr
2027 ymlaen, yn unol ag Adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion (011/2018).
TRAFODAETH
Cydnabuwyd bod yr eitem gerbron yn hynod anodd, a soniwyd am
rôl arbennig ysgolion gwledig o fewn eu cymunedau. Pwysleisiwyd nad yw’r cynnig
hwn yn deillio o unrhyw fethiant yn ansawdd yr addysg yn yr Ysgol.
Eglurwyd am y newid yn nemograffeg y sir a olygai bod llai o
blant oed cynradd bellach yng Ngwynedd o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.
Ymhelaethwyd ar hyn gan nodi bod yr her hon yn gyffredin ar draws y wlad, gyda
lleihad mewn cyfraddau geni a ffactorau economaidd a chymdeithasol ehangach yn
chwarae rhan yma. Cyfeiriwyd at ddyletswydd y Cyngor i gynllunio’n strategol ar
gyfer anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
Diolchwyd i holl gymuned Ysgol Nebo am eu cyfraniadau dros y
blynyddoedd.
Croesawyd Aelod Lleol Ward Clynnog i’r cyfarfod.
Deallwyd yr hyn sydd wedi arwain at gyflwyno’r eitem hon,
gan gydnabod y niferoedd isel o ddisgyblion sydd yn yr Ysgol a’r gost uchel
fesul disgybl. Mynegwyd tristwch am y ffaith fod y disgyblion yn Ysgol Nebo yn
gwneud cynnydd da yn y dosbarthiadau bach hyn, a chredwyd y dylid datblygu’r
Ysgol fel darpariaeth i gefnogi plant sydd angen cefnogaeth ychwanegol. Pe
bai’r cynnig yn cael ei dderbyn, gobeithiwyd bod gan y Cyngor gynllun ar gyfer
y plant hynny sydd angen darpariaeth fel hon, a chydnabuwyd y pwysau sydd ar y
gwasanaethau presennol yn y maes hwn. Pryderwyd hefyd am y
cynnydd yn y niferoedd sy’n derbyn addysg gartref. Soniwyd am bwysigrwydd y
cyswllt personol hwnnw rhwng yr adran Addysg â chymuned yr Ysgol wrth fynd
drwy’r broses hon. Cyfeiriwyd yn ogystal at gyfraniadau O.P. Hughes i’r Ysgol.
Diolchwyd i bawb sydd wedi ymwneud â’r Ysgol dros y blynyddoedd.
Talwyd teyrnged i staff a chymuned yr Ysgol, a chyfeiriwyd
at urddas y ffordd y mae’r adran a’r Ysgol wedi gweithio gyda’i gilydd drwy’r
broses. Manylwyd ar gyfrifoldeb yr awdurdod i adolygu stad ysgolion ac i
sicrhau gwerth gorau am arian. Soniwyd am y prosesau sydd rhaid eu dilyn, gan
gadarnhau y caiff y prosesau hyn eu hadolygu. Unwaith y mae penderfyniad
terfynol wedi cael ei wneud, sicrhawyd y bydd yr adran yn cyd-weithio gyda’r
tîm adnoddau dynol i gefnogi staff, ac yn cefnogi’r plant drwy gynlluniau
unigol. Nodwyd mai lles a chynaliadwyedd addysg i’r plant a phobl ifanc yw’r
flaenoriaeth.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag effaith
cau’r Ysgol ar y Gymraeg yn y gymuned, cadarnhawyd bod asesiadau effaith ar y
Gymraeg wedi eu llunio ar y cynnig a'u bod yn ystyried unrhyw dystiolaeth
newydd sydd wedi dod i’r amlwg drwy gydol y broses. Adnabuwyd bod effaith
ieithyddol posib ar y gymuned ac yn addysgol, ond aethpwyd ymlaen i nodi bod y
Gymraeg yn gadarn yn yr ysgol amgen a bod anogaeth i’r ysgol amgen ehangu ei
gweithgarwch i gynnwys cymuned Nebo.
·
Nodwyd yr angen i resymoli stad ysgolion er mwyn
gallu ceisio cynorthwyo plant y Sir i gyrraedd eu llawn botensial. Cyfeiriwyd
at ddarpariaethau sydd ar gael mewn ysgolion eraill er mwyn cefnogi’r plant,
a’r cyfuniad o geisio sicrhau tegwch a chysondeb o ran darpariaeth o fewn
ysgolion y Sir a’r profiadau y caiff y plant.
·
Wrth gyfeirio at y nifer o blant a gaiff eu
haddysgu gartref a’r gefnogaeth sydd ar gael i blant â gwahanol anghenion,
cydnabuwyd efallai nad yw’r ddarpariaeth bresennol yn cyrraedd y nod ar bob achlysur.
Nodwyd bod trafodaethau cenedlaethol yn mynd rhagddo ynglŷn â’r system
fregus hon a’r angen am gyllid, er enghraifft. Soniwyd hefyd am y cyfrifoldeb i
adeiladu cyfundrefn deg ar draws y Sir, ac ar gyfer y dyfodol.
Awdur:Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Adran Addysg
Dogfennau ategol: