Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Dewi Jones

Penderfyniad:

Ystyried yr Adroddiad Gwrthwynebu, y crynodeb o’r gwrthwynebiadau statudol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, a’r ymatebion a roddwyd i’r gwrthwynebiadau hynny, ac wedi gwneud hynny, gadarnhau’n derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad statudol i gau Ysgol Baladeulyn ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlae n, yn unol ag Adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru (011/2018).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Ystyried yr Adroddiad Gwrthwynebu, y crynodeb o’r gwrthwynebiadau statudol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, a’r ymatebion a roddwyd i’r gwrthwynebiadau hynny, ac wedi gwneud hynny, gadarnhau’n derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad statudol i gau Ysgol Baladeulyn ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen, yn unol ag Adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru (011/2018).

 

TRAFODAETH

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod Ysgol Baladeulyn wedi gwasanaethu’r ardal ers blynyddoedd maith, ac felly bod y drafodaeth hon yn un anodd. Amlygwyd nad yw’r cynnig hwn yn deillio o unrhyw fethiant nac yn adlewyrchiad o ansawdd yr addysg a gynigir i’r disgyblion.

Cyfeiriwyd at y newid mewn demograffeg yn y Sir, y lleihad yn nifer y plant oed cynradd sydd bellach yn ein cymunedau, ac effaith hyn ar stad ysgolion. Soniwyd yn ogystal am y ffactorau cymdeithasol ac economaidd sydd wedi cyfrannu at y newid hwn mewn demograffeg, a’r angen felly i ymateb i realiti’r sefyllfa a chydnabod yr heriau sydd wrth i ysgol wasanaethu cyn lleied o blant.

Cydymdeimlwyd â chymuned yr ysgol a diolchwyd i holl staff yr ysgol.

 

Croesawyd Aelod Lleol Ward Llanllyfni i’r cyfarfod.

Pwysleisiwyd bod yr Ysgol yn rhan annatod o’r gymuned ac y bydd effaith pellgyrhaeddol o gau’r Ysgol. Amlygwyd bod y ddeiseb i gadw’r Ysgol yn agored wedi’i harwyddo gan 500 o bobl, ac ategwyd nad yw’r nifer disgyblion sydd yn yr Ysgol yn adlewyrchu gwerth yr Ysgol i’r gymuned wledig. Pryderwyd y bydd hyn yn arwain at lai o deuluoedd ifanc yn symud i’r ardal, ac effaith posib hyn ar y Gymraeg yn y gymuned. Awgrymwyd mai ffederaleiddio gyda Ysgol Talysarn i greu adran ADY fyddai’r opsiwn orau, a phwysleisiwyd yr angen i ystyried effaith hir dymor y cynnig ar y gymuned.

 

Talwyd teyrnged i blant, staff a chymuned yr Ysgol, a diolchwyd am y trafodaethau urddasol a gafwyd drwy gydol y broses. Cadarnhawyd bod yr adroddiad blaenorol yn dangos yr opsiynau posib, a bod ystyriaeth wedi’i roi i ffederaleiddio Ysgol Baladeulyn gydag ysgol arall ond na fyddai’r model hwnnw’n addas yma nac yn mynd i’r afael â’r prif heriau sydd yma o ran niferoedd plant. Amlygwyd mai ceisio sicrhau’r addysg orau i’r plant yw’r flaenoriaeth, a golygai hynny bod angen gwneud penderfyniadau anodd ar adegau er mwyn gallu symud y sector yn ei flaen.

Manylwyd ar yr asesiad effaith a wnaethpwyd gan gydnabod effaith tebygol ar y Gymraeg a’r gymuned. Adnabuwyd mesurau lliniaru megis annog cymuned Talysarn i ehangu ei gweithgarwch i gynnwys cymuned Nantlle yn unrhyw weithgareddau. Sicrhawyd cadernid y Gymraeg yn Ysgol Talysarn yn ogystal, ac y gall yr Ysgol gynnig yr un profiadau addysgol a chymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Gofynnwyd am gapasiti Ysgol Talysarn petai Ysgol Baladeulyn yn cau. Mewn ymateb, amlygwyd bod asesiad wedi’i gwblhau fel rhan o’r broses a bod yr Adran yn hyderus bod capasiti digonol yn Ysgol Talysarn ar gyfer y plant hynny sy’n byw yn nalgylch presennol Ysgol Baladeulyn. Ychwanegwyd mai’r drefn mynediad arferol fydd yn cael ei dilyn mewn perthynas ag unrhyw geisiadau o du allan i’r dalgylch.

·       Holwyd am y cymorth a gaiff ei ddarparu i ddisgyblion Ysgol Baladeulyn. Sicrhawyd bod yr adran yn cynllunio ar gyfer anghenion bob plentyn gan sicrhau bod darpariaeth addas ar gael ar eu cyfer. Ategwyd y bydd llais y plentyn a llais y rhieni yn cael eu cynnwys yn y trafodaethau hyn ac y bydd camau er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth i’r plant.

·       Diolchwyd i gymuned Nantlle gan nodi fod pawb wedi ymdrin â’r broses yn barchus. Esboniwyd bod stad ysgolion y Sir yn wahanol erbyn hyn oherwydd y nifer gostyngol o blant sydd yng Ngwynedd. Awgrymwyd yr angen i ail ddychmygu sut y caiff addysg ei gynnig yn y Sir.

 

Awdur:Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Adran Addysg

Dogfennau ategol: