Cyflwynwyd gan:Cyng Dilwyn Morgan
Penderfyniad:
Cymeradwyo a mabwysiadu’r Compact: Cytundeb Cydweithio
Cyngor Gwynedd a’r Trydydd Sector fel fframwaith strategol ar gyfer y berthynas
rhwng y Cyngor a sefydliadau'r Trydydd Sector yng Ngwynedd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.
PENDERFYNIAD
Cymeradwyo a mabwysiadu’r Compact: Cytundeb Cydweithio
Cyngor Gwynedd a’r Trydydd Sector fel fframwaith strategol ar gyfer y berthynas
rhwng y Cyngor a sefydliadau'r Trydydd Sector yng Ngwynedd.
TRAFODAETH
Amlygwyd pwysigrwydd y berthynas rhwng y Cyngor a
sefydliadau’r Trydydd Sector, a diolchwyd i’r sector am eu cyfraniad at lesiant
pobl y Sir.
Eglurwyd bod y Compact yn ddarn o waith sydd wedi bod yn
cael ei wneud gan y Cyngor mewn partneriaeth agos gyda Mantell Gwynedd ers tro
bellach.
Esboniwyd bod y Compact yn arddangos sut y mae’r Cyngor yn
bwriadu cyd-weithio gyda’r Trydydd Sector er mwyn ceisio sicrhau y caiff
dyletswyddau’r Cyngor eu diwallu a’u
cyflawni’n rhagorol.
Nodwyd bod ymgynghori eang wedi cael ei wneud mewn perthynas
â’r Compact, a rhan o’r ymgynghori hynny wedi cael ei wneud gyda Mantell
Gwynedd.
Adnabuwyd gwerth cyd-weithio â’r Trydydd Sector er mwyn
peidio dyblygu gwasanaethau, a gan eu bod yn aml yn agosach at gymunedau, ac
felly’n gallu darparu gwasanaethau mewn dull sy’n ymwybodol o egwyddorion a
gwerthoedd y cymunedau hynny.
Croesawyd Prif Swyddog Mantell Gwynedd i’r cyfarfod.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod cryn amser wedi pasio ers y tro
diwethaf i’r Compact gael ei adolygu. Er mai dogfen gychwynnol yw hon,
cadarnhawyd y bydd cynllun gweithredu mewn lle a chaiff ei effaith ei fesur yn
ogystal. Datgelwyd bod y tirlun wedi newid yng Nghymru gyda deddfwriaeth newydd
bellach mewn grym, ac o ganlyniad, roedd angen edrych ar y berthynas rhwng y
Cyngor a’r Trydydd Sector mewn ffordd ychydig yn wahanol.
Mynegwyd balchder bod cytundeb cyd-weithio da bellach mewn
lle rhwng y Sector a’r Cyngor. Ymhelaethwyd ar yr ymgynghori sylweddol a
wnaethpwyd ar y ddogfen dros gyfnod o flwyddyn a mwy, gyda rhwydweithiau
amrywiol y Sector wedi cael mewnbwn iddi a sawl cyfle i ddarparu adborth.
Manylwyd ar y Trydydd Sector eang sydd yng Ngwynedd, gan
bwysleisio'r angen a’r awydd i gydweithio â phartneriaid i sicrhau ffyniant.
Nodwyd bod y ddogfen yn arddangos yr ymddiriedaeth rhwng y ddwy sector yn y
Sir, a diolchwyd i’r unigolion hynny a fu’n gefnogol iawn o’r Sector yn yr
ymgais i gyrraedd y pwynt hwn lle mae Compact mewn lle. Soniwyd am y
ddibyniaeth rhwng y Cyngor a’r mudiadau Trydydd Sector er mwyn gallu darparu’r
holl wasanaethau effeithiol. Ynghyd â’r cynllun gweithredu a fydd mewn lle,
amlygwyd y bydd Grŵp Cyswllt Trydydd Sector yn gyrru’r gwaith yn ei flaen.
Pwysleisiwyd mai lles pobl Gwynedd sydd wrth wraidd y
Compact hwn.
Yn ogystal, diolchwyd i’r Pwyllgor Craffu Gofal am eu gwaith
wrth graffu ar yr eitem.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Crybwyllwyd pwysigrwydd y Trydydd Sector i’r
economi yn ogystal, ac ymfalchïwyd yn y cyd-weithio da sydd bellach i’w weld
rhwng y ddwy sector. Nodwyd bod mesur gwerth gwaith yn bosib ac yn rhywbeth
sy’n mynd rhagddo drwy weithio ar y cyd gyda Mantell Gwynedd. Esboniwyd bod
mesur llwyddiant y Compact yn heriol, ond bod bwriad ail gydio yn y cyfarfodydd
hynny efo’r Trydydd Sector gan ofyn am eu hadborth. Soniwyd am y shifft y
Cyngor o fod yn gomisiynydd i fod yn bartner sy’n cyd-weithio, ond bod angen
ffordd o fesur y newid hwnnw. Ychwanegwyd bod posib defnyddio egwyddorion sydd
wedi’u sefydlu er mwyn mesur gwerth cymdeithasol y Compact yn ogystal.
·
Cwestiynwyd y penderfyniad ynglŷn ag enw’r
Compact yn sgil adborth o’r ymgynghori. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod yr adborth
wedi i’w ystyried ond mai Compact yw’r term a gaiff ei ddefnyddio gan
Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chynghorau eraill, felly
penderfynwyd cadw at yr enw hwnnw.
·
Cytunwyd bod mudiadau’r cymunedol yn agosach at
lawr gwlad ac felly bod modd iddynt ddarparu gwasanaeth mewn modd llai ffurfiol
efallai. Cyfeiriwyd yn ogystal at hyblygrwydd mudiadau Trydydd Sector.
·
Holwyd pwy fydd yn cynrychioli’r Cyngor ar y
Grŵp Cyswllt Trydydd Sector hwn o ran swyddogion a chynghorwyr. Nodwyd y
bydd swyddogion ac uwch swyddogion o amryw o adrannau’r Cyngor yn rhan o’r
Grŵp, ond y byddai’n syniad edrych ar yr eitemau hynny sydd ar agendau'r
cyfarfodydd gan wahodd y swyddogion perthnasol i’r eitemau hynny. O ran
Cynghorwyr, awgrymwyd y byddai’n syniad i’r aelodau Cabinet perthnasol fod yn
bresennol, ond eu bod yn agored i unrhyw argymhellion gan y Cabinet ynglŷn
â hyn.
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag a yw
mentrau cymdeithasol yn ran o’r Compact hwn, datganwyd bod unrhyw sefydliad
sy’n ceisio gwneud budd i’r gymuned leol yn ddi elw
yn rhan o’r hyn a gaiff ei ystyried yn Drydydd Sector.
·
Diolchwyd am y Trydydd Sector cryf sydd yng
Ngwynedd, a sicrhawyd ymrwymiad y Cyngor i’r Compact ac i’r Cynllun Gweithredu
sydd i ddilyn.
Awdur:Dylan Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ategol: