Aelod Cabinet – Y Cyng.
Gareth Roberts
I dderbyn adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal ar yr uchod.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr
Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd yn amlinellu gweledigaeth a chyfeiriad newydd
ar gyfer y Gwasanaeth Oedolion gan ganolbwyntio’n benodol ar faes gofal pobl
hŷn.
Amlinellodd yr Aelod
Cabinet Oedolion, ac Iechyd y cefndir gan nodi bod newid enfawr i ddigwydd nid
yn unig yng Ngwynedd ond drwy Gymru
gyfan. Nododd bod newid cyfeiriad yn
hynod bwysig ac mai gyrrwr allweddol y
newidiadau ydoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
ynghyd â barn pobl hŷn am y math o wasanaethau a darpariaethau maent am eu
gweld ar gyfer cyfnod eu henaint hwy.
Bydd angen cynnal gwaith cynhwysfawr gyda’r defnyddwyr ac yr un pryd ni
ellir anwybyddu’r toriadau cyllidol ac os am geisio
amddiffyn y sefyllfa bresennol golygai arbedion ariannol mewn meysydd eraill.
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
(a) Trafodwyd cofrestriad deublyg yn y gorffennol ar sawl achlysur a mynegwyd
pryder ynglŷn â’r drefn bresennol gyda chleifion
yn cael eu rhyddhau o’r ysbytai i gartrefi preswyl ar gyfer gofal canolradd a’r
staff heb gymwysterau priodol i warchod anghenion y cleifion. Teimlwyd ymhellach bod hyn yn fodd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gael cleifion
allan o’r ysbytai ynghynt.
(b) Anfodlonrwydd bod unigolion sydd wedi gweithio a chyfrannu yn ariannol ar
hyd eu bywydau yn gorfod talu am ofal a rhai eraill yn ei dderbyn yn rhad ac am
ddim.
(c) Bod pobl hŷn yn awyddus i fod yn annibynnol am gyn
hired â phosibl a bod eu hiechyd yn dirywio erbyn y diwedd.
(d) Cytunwyd â’r sylw uchod gan ychwanegu nad oedd yr
isadeiledd yn gywir a bod unigolion yn dod at y gwasanaeth pan fyddent mewn
argyfwng.
(e) Awgrymwyd y byddai o fudd i Aelodau’r Pwyllgor hwn dderbyn copi o’r Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ynghyd â hyfforddiant ar oblygiadau’r
ddeddf.
(f) Bod cynnwys yr adroddiad yn ddiystyriol ac mewn rhai rhannau yn gwamalu o
safbwynt anghenion pobl hŷn
(g) Tra’n cydnabod bod egwyddorion o’r weledigaeth yn wych, rhannwyd pryder ar
sut y byddir yn ei weithredu ar lawr gwlad a sut y byddir yn sicrhau
atebolrwydd
(h) Tra’n cytuno bod unigolion yn awyddus i fyw yn annibynnol rhaid cydnabod
bod cyfrifoldeb ar y gwasanaeth os ydynt yn dioddef hefyd ac yn y pen draw yn
fwy costus
(i) Pryder nad yw meddygon ifanc yn awyddus i weithio fel meddygon teulu yn
enwedig mewn ardaloedd gwledig.
(j) Mynegwyd bod yr angen am ddarpariaeth gofal yn cynyddu ar gyfer mewnfudwyr
sy’n symud i gefn gwlad ac angen darpariaeth gofal oherwydd nad oes ganddynt
gefnogaeth deuluol yn byw yn agos
(k) Bod gwasanaeth teleofal yn hanfodol i lawer o
bobl hŷn
(l) Nad oedd darpariaeth gofal ysbaid digonol yn ardal Arfon a bod gwir angen
darpariaeth o’r fath ar gyfer y gofalwyr
(m) Pwysigrwydd i gydweithio gyda’r trydydd sector a chyfeiriwyd at gynlluniau
megis “Cynllun Ffrindiau” sydd yn ddarpariaeth lwyddiannus
Ymatebodd yr Aelod
Cabinet Oedolion, ac Iechyd a’r swyddogion i’r sylwadau uchod fel a ganlyn:
(i)
Cydymdeimlir bod unigolion
sydd wedi cynilo ar hyd eu hoes yn gorfod talu am ddarpariaeth ond rhaid
cydymffurfio â rheoliadau deddf gwlad yn hyn o beth.
(ii)
ceisir peidio gwarchod
oedolion yn ormodol gyda’r canlyniad iddynt waethygu a’r syniad sydd gerbron
fel rhan o’r newidiadau ydyw i oedolion fod yn fwy bywiog yn gorfforol a meddyliol / cadw’n iach ac o
ganlyniad yn lleihau dirywiad i’r ymennydd
(iii)
rhaid parchu dymuniadau pobl
hŷn sydd yn awyddus i aros yn eu cartrefi
(iv)
mai darlun o’r math o
wybodaeth a gasglwyd a gyflwynir yn yr atodiadau i’r
adroddiad fel enghreifftiau a cheisir pwysleisio bod rhaid ymdrin hefo achosion
mewn ffurf wahanol yn sgil y newidiadau ac y byddai’r newid yn effeithio nid yn
unig ar staff ond ar fudiadau’r trydydd sector
(v)
bod safle gwefan Llywodraeth
Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd i roi sylw i ddymuniad yr unigolyn a bod hyn yn
cydymffurfio â strategaeth “Ffordd Gwynedd”
(vi)
Bod y Ddeddf yn creu newid
pellgyrhaeddol a mynegwyd pwysigrwydd i warchod yr unigolion mwyaf bregus. Nodwyd
ymhellach bod perygl i warchod rhai sydd ddim angen y ddarpariaeth a’i bod yn
bwysig gwrando ar unigolion a darparu yn unol â’u
hanghenion. Ni ellir cael unigolion yn
derbyn gwasanaeth statudol cyn iddynt fod ei angen ac felly nodwyd pwysigrwydd
i gael yr hafaliad yn gywir drwy warchod y rhai mwyaf bregus gyda chyfres o
wasanaethau ataliol. Pwysleisiwyd
pwysigrwydd i bawb chwarae rôl yn Aelodau etholedig a swyddogion ac i
gydweithio er mwyn llwyddo.
(vii)
Mewn ymateb i ymholiad gan
Aelod ynglŷn ag union ffigwr o safbwynt niferoedd gwelyau yng Nghartrefi
Preswyl Gwynedd, addawyd anfon manylion yn uniongyrchol i’r Aelod ynghyd â
gwybodaeth am restr aros.
(viii) Nad oedd cynllun penodol ar gyfer darpariaeth gofal ysbaid ac y byddir yn
edrych ar sut gall y datblygiad gyfrannu at hyn.
(ix)
Y cam cyntaf ydoedd cwblhau
darn o waith “Dechrau i’r Diwedd” ac y byddir mewn sefyllfa i gyflwyno
adroddiad i’r Pwyllgor Craffu hwn ym mis Medi
Penderfynwyd: (a)
Gofyn i’r Pennaeth Dros Dro Oedolion, Iechyd a Llesiant drefnu mewn
ymgynghoriad â’r Uned Hyfforddiant bod aelodau’r
Pwyllgor Craffu hwn yn derbyn hyfforddiant ar y Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
(b) Gofyn
i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol
gyflwyno:
(i) manylion ynglŷn â’r cynlluniau sydd wedi
eu paratoi o fewn y Cynllun Strategol i gyfarfod paratoi'r Pwyllgor Craffu hwn
i’w gynnal ar 28 Gorffennaf 2015.
(ii) adroddiad ar y
cynllun “Dechrau i’r Diwedd” i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu hwn i’w gynnal
ar 22 Medi 2015.