Codi 20 o
dai fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau o'r B4354 ynghŷd â gwaith
cysylltiedig
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytundeb 106 neu gytundeb unochrog ar gyfer
cyfraniad addysgol a chyfarpar chwarae ar lecyn agored ynghyd a’r amodau
canlynol :
1. Amser
2. Datblygiad
yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd
3. Rhaid
cyflwyno a chytuno ar raglen ddarparu tai fforddiadwy
4. Rhaid
cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to
5. Tynnu’r
Hawliau Datblygu a Ganiateir
6. Amod
Dŵr Cymru/Draenio
7. Amodau
Priffyrdd
8. Amodau
Bioamrywiaeth/CNC
9. Cynllun
Rheolaeth Adeiladu
10. Rhoi
enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.
11. Cyfyngu’r
defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig
12. Cwblhau
tirlunio
Nodyn: Trwydded Ystlumod
Cofnod:
Codi 20 o dai fforddiadwy, creu mynedfa
newydd i gerbydau o'r B4354 ynghyd â gwaith cysylltiedig
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio mai cais llawn oedd yma i godi 20 tŷ
fforddiadwy ynghyd a chreu mynedfa gerbydol
newydd ynghyd a datblygiadau cysylltiedig. Adroddwyd bod y safle bellach wedi ei
ddiwygio ac wedi ei leoli yn
ei gyfanrwydd o fewn safle sydd
wedi ei ddynodi
yn benodol ar gyfer datblygiad
tai T64 o fewn ffin ddatblygu Chwilog, gyda’r nifer tai a gynigiwyd wedi lleihau o 25 i
20 i alluogi hyn.
Eglurwyd bod plotiau
rhifau 16-19 (2 dŷ 3 gwely, 1 tŷ 2 wely ac un byngalo
2 wely) o’r cynllun gwreiddiol wedi eu dileu,
a bod plotiau 24 - 25 wedi ei amnewid o ddau
fflat 1 gwely i 1 tŷ 2 wely.
Nid oedd y bwriad yn darparu
unedau y tu allan i’r ffin
ddatblygu; yn darparu 100% o dai fforddiadwy gyda chymysgedd o ran deiliadaeth. Roedd y cynllun arfaethedig yn cynnwys darparu man agored cyhoeddus ac ardal draenio gynaliadwy.
Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais wedi ei gyflwyno i
Bwyllgor Cynllunio 27ain o Ebrill 2026, lle penderfynwyd gwrthod y cais ar sail un rheswm sef ei fod yn groes
i Polisi TAI 16 Safleoedd Eithrio o’r CDLl
oherwydd nad oedd posib dangos
angen am y tir eithrio hyd nes
bod y safle dynodedig T64 wedi ei ddatblygu,
ac felly cyfeiriwyd y cais i gyfnod cnoi
cil. Ers hynny, cafodd y cais ei ddiwygio
yn benodol mewn ymateb i’r
rheswm gwrthod uchod. Amlygwyd bod nifer o ddogfennau a chynlluniau diwygiedig wedi eu cyflwyno
er mwyn adlewyrchu’r newid, gyda chyfnod
o ail-ymgynghori llawn, gan gynnwys ymgynghoriad
cyhoeddus, wedi cymryd lle. Gyda’r
bwriad wedi ei ddiwygio mewn
ymateb i wrthwynebiad y Pwyllgor
Cynllunio, roedd y cais yn cael ei
ail-gyflwyno am benderfyniad
ar sail y diwygiadau.
Cyfeiriwyd at
ymatebion yr ail ymgynghoriad
ac at y niferoedd hynny oedd â chysylltiad 5 mlynedd gyda Gwynedd ac yn dymuno byw yn
Chwilog, ynghyd a diweddariad i ffigyrau
angen Gwynedd gyfan sy’n cadarnhau bod 2103 o bobl ar gofrestr
Opsiynau Tai am Eiddo cymdeithasol gyda chysylltiad 5 mlynedd gyda Gwynedd ac 882 ar gofrestr Tai Teg. Cadarnhawyd bod
yr Adroddiad Anghenion Tai wedi ei gwblhau
gan yr Hwylusydd Tai Gwledig ac wedi ei gyflwyno fel
rhan o’r cais.
Nodwyd
y byddai’r bwriad yn cynnig 100% o dai fforddiadwy gyda statws pentref
Chwilog yn y CDLl yn golygu
mai unedau fforddiadwy ar gyfer gwasanaethu angen fforddiadwy Gwynedd yn ei gyfarwydd
oedd yn ddisgwyliedig
(fel yn achosion
safleoedd cyffelyb eraill sydd wedi
eu dynodi drwy’r Sir). Ategwyd bod yr angen wedi ei
brofi a bod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
TAI 3, TAI 8 a TAI 15 o'r CDLl.
Pwysleisiwyd nad oedd y bwriad yn
cynnwys darparu tai y tu allan i’r
ffin ddatblygu, ac felly nid oedd polisi
TAI 16 Safleoedd Eithrio
Bellach yn berthnasol i’r cais.
Ni
ystyriwyd y byddai’r tai yn achosi niwed
arwyddocaol i ansawdd adeiledig y safle na’r gymdogaeth
leol ac felly ystyriwyd bod
y datblygiad yn dderbyniol dan Bolisïau PCYFF 2 a
PCYFF 3 y CDLl
Nodwyd
fod yr Uned Iaith wedi cadarnhau bod y datganiad iaith wedi cynnwys rhagdybiaethau
rhuglder darpar denantiaid, a’r effaith ieithyddol posib. Er bod eu sylwadau diweddaraf yn gofyn am gadarnhad
o’r angen lleol, roedd eu
sylwadau blaenorol ar gyfer datblygiad
mwy o faint yn cadarnhau eu bod yn fodlon fod
yr asesiad wedi cadarnhau’r angen yn lleol. I’r
perwyl hynny, ni ystyriwyd fod
y bwriad yn groes i ofynion
polisi PS1 o’r CDLl.
Yng
nghyd-destun Llecynnau Agored, adroddwyd y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cynnig ardal agored
o faint 955m2 ar y safle, ond nad oedd
cyfarpar chwarae yn cael ei
gynnig. Ystyriwyd mewn achos o’r
fath, ac fel sydd wedi ei
gytuno eisoes gyda datblygiadau cyffelyb, y bwriad fydd sicrhau cyfraniad
ariannol trwy gytundeb 106 neu gytundeb unochrog gan sicrhau
fod y bwriad yn dderbyniol yn
unol â gofynion perthnasol polisi ISA 5.
Derbyniwyd
cadarnhad gan yr Adran Addysg fod capasiti
o fewn yr ysgolion lleol, ond o ystyried
sefyllfa Chwilog yn ei gyfanrwydd
o ran y dynodiadau eraill, ystyriwyd mai rhesymol
fyddai sicrhau cyfraniad ariannol drwy gytundeb 106 neu gytundeb unochrog yn yr achos yma,
fel sydd wedi ei wneud
gyda’r dynodiadau eraill. I’r perwyl
hyn, ystyriwyd bod yn y bwriad yn
dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisi ISA 1.
Cyfeiriwyd
at faterion priffyrdd, bioamrywiaeth, archeolegol a draenio tir gan
nodi eu bod yn dderbyniol.
Wrth
gloi, nododd yr Uwch Reolwr bod hwn yn gynnig
am ddatblygiad tai fforddiadwy
sydd wedi ei lunio i
gwrdd ag angen penodol sydd wedi
ei brofi ac sydd wedi ei
leoli yn ei gyfanrwydd ar
safle sydd wedi ei ddynodi
ar gyfer tai o fewn ffin ddatblygu’r
pentref ac sydd wedi derbyn cymeradwyaeth
yn y gorffennol am ddatblygiadau preswyl cyffelyb. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cynllun yn dderbyniol ar
sail egwyddor a'i fod yn cydymffurfio
â gofynion polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol. Yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais yn unol
ag amodau priodol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Bod cais ar ei newydd
wedd wedi ei gyflwyno gyda nifer unedau wedi lleihau o 25 i 20
·
Er hynny, ystyrioedd bod 20 uned newydd mewn pentref bach fel Chwilog
yn parhau yn ormod ac felly yn gwrthwynebu’r cais
·
Bod y Cyngor Cymuned yn
unfrydol wedi gwrthod y cais - sylwadau estynedig y Cyngor Cymuned wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad a'r rhesymau dros wrthwynebu yn glir a niferus
·
Bod bron pawb o’r
pentref yn erbyn y datblygiad - deiseb wedi ei llofnodi gan 160 o drigolion
(nifer sylweddol mewn pentref o faint Chwilog). Bod seiliau clir, priodol dros
wrthwynebu ar y ddeiseb - y bwriad yn ddatblygiad mawr fyddai yn newid cymeriad
y pentref; Chwilog yn bentref Cymraeg ac y byddai’r datblygiad yn debygol o
arwain at ostyngiad canran poblogaeth sy’n siarad Cymraeg; dim tystiolaeth o’r
angen yn lleol am dai o’r raddfa yma yn y ward, cynnydd yn lefelau traffig a
phwysau isadeiledd, capasiti
y system carthffosiaeth a gwasanaethau lleol, megis yr ysgol leol. Siomedig nad
oedd y ddeiseb wedi ei chynnwys fel atodiad i’r adroddiad - byddai hyn yn rhoi
chwarae teg i lais lleol.
·
Bod sawl sail gwrthod:
·
Yn groes i bolisi ISA2
ac ISA 1 - nid oes cyfleusterau cyfredol priodol yn Chwilog i ymdopi gyda
datblygiad; nid yw’r isadeiledd priodol yn ei le, dim llawer o wasanaethau a
dim lle digonol yn yr ysgol leol.
·
Cyflenwad dangosol
Chwilog yw 40 - 35 eisoes wedi eu
hadeiladu o fewn cyfnod cyfredol y CDLl. Byddai 20
ychwanegol ymhell dros y dynodiad o 40 uned fyddai’n arwain at or-ddatblygu ac
yn newid pentref gwledig Chwilog. Dwy stad o 15 o dai eisoes wedi eu hadeiladu
yn y pentref - hwn yn gais am 20 yn fwy
·
Methiant bodloni PS1
Is-gymal 4 – ‘achosi niwed i strwythur ieithyddol y pentref’. Byddai codi 20
uned ychwanegol yn ormod o newid i’r pentref allu ymdopi, ac yn newid
cydbwysedd ieithyddol y gymuned; bod maint y datblygiad yn anghymesur â maint y
pentref ac yn newid rhy fawr, yn rhy fuan; yn bygwth capasiti
ieithyddol yr ysgol a’r gymuned i gymhathu'r datblygiad yn ieithyddol - nid
yw’r asesiad iaith wedi asesu hyn
·
Yr asesiad iaith yn un
sydd wedi ei gomisiynu / dalu gan y datblygwr - nid yw’n ystyried bod %
siaradwyr Cymraeg Tai Cymdeithasol pob ardal wedi cwympo yn sylweddol dros
amser yn sgil newid meddiannaeth
·
Nid yw’r asesiad iaith
yn ystyried ystadegau ar gyfer stadau newydd mewn mannau eraill o Wynedd nac yn
canfod iaith aelwydydd na defnydd iaith . Nid yw yn rhoi darlun sydd yn cyfateb
i’r cyfrifiad o ostyngiad o siaradwyr Cymraeg ymhob cymuned ers cyfnod y CDLl
·
Nid yw’r asesiad iaith
yn ystyried y niwed ieithyddol o beidio cael trefn polisi gosod lleol yn ei le,
na defnydd o drefn bod % o dai yn cael eu gosod i siaradwyr Cymraeg; Polisi
Gosod Lleol yn angenrheidiol yn yr achos yma i liniaru niwed ieithyddol
·
Yn cyfeirio at
Compendiwm Prosiect Bro sydd yn nodi bod Chwilog ymysg y 4 ardal gryfaf yn Nwyfor o ran cadarnle
ieithyddol y Gymraeg (siaradwyr ac aelwydydd);
byddai niwed ieithyddol i’r pentref os daw meddianwyr y tai o ardaloedd
ehangach - dyma ddaw o drefn o ddewis meddianwyr i dai cymdeithasol.
·
Sefyllfa o godi stadau
mawr heb ddiwallu'r angen lleol
·
Bod y datblygiad yn
anghymesur i faint y pentref. Dim o’i le â thai cymdeithasol, ond y nifer yn yr
achos yma yn peri cwestiynau. Byddai 20 yn dyblu nifer tai cymdeithasol y pentref mewn un achos
·
Bod y data yn groes i’r
hyn sy’n cael ei argymell gan Polisi Cynllunio Cymru – sef yr angen am ddata
lleol wedi ei berthnasu yn lleol - yma
ceir data o ddiddordeb rhanbarthol eang sydd yn rhoi cam argraff o wir angen y
pentref – bod yr un rhai wedi ‘dewis’ Chwilog ac ardaloedd agos, ac eraill wedi
amlygu ‘diddordeb’ yn hytrach na gwir angen – nid yw hyn yn rhoi darlun o’r
gwir angen yn lleol
·
Bod sawl sail i wrthod y
cais. Yn y cyfarfod diwethaf lleisiwyd barn gan aelodau i wrthod y cais ac roedd yn eu hannog i wneud yr un peth eto
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd
gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad
Rheswm: Gwrthod ar sail Polisi Strategol 1: Is-gymal 4 - Byddai’r
datblygiad yn achosi niwed o sylwedd i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned
Chwilog
Mewn ymateb nododd y Swyddog Monitro bod y cais gerbron yn llai na’r un
blaenorol, er yn gais cyffelyb o ran nodweddion ac ardrawiad. Ym mhwyllgor
Ebrill 2026, gwrthodwyd y cais gydag un rheswm gwrthod - y rheswm gwrthod hwnnw
bellach wedi derbyn sylw ac ymateb gan yr ymgeisydd. O ran priodoldeb, y rheswm
gwrthod uchod yn un ychwanegol fydd angen tystiolaeth fyddai’n cyfiawnhau
gwrthod ar sail asesiad iaith.
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y tir ‘eithriedig’
bellach wedi ei ddileu a gweddill y safle wedi ei gynnwys yn y CDLl
·
Bod canran siaradwyr
Cymraeg yn ymddangos yn uwch mewn stadau tai cymdeithasol o gymharu â chanran y
pentref - pryder yma o amddifadu pobl Cymraeg o dai cymdeithasol
·
Nifer dynodiadau yn
Chwilog efallai yn ganlyniad i ddiffyg tir ar gyfer adeiladu ym Mhwllheli - hyn yn diwallu angen sydd yn ‘weddol leol’
·
Yn cydymdeimlo gyda’r
Aelod Lleol - 20 yn ormod i gefn gwlad, ond rhwym i bolisïau lleol, i'r CDLl ac i Arolygwyr
Cynllunio. Y dynodiad yn ormod i bentref
·
Yr egwyddor eisoes wedi
ei gymeradwyo
·
Y tai yn 100%
fforddiadwy
·
Yr angen wedi ei amlygu
– bod rhaid adeiladu tai cymdeithasol digonol
·
Os yw pobl lleol yn
dymuno aros yn lleol mewn tai cymdeithasol, eu dewis hwy ydy hynny, ac felly
rhaid darparu tai ar eu cyfer. Drwy wrthod bydd pobl leol yn symud i ffwrdd
·
Yn deall y pryder lleol,
ond y tir wedi ei glustnodi ar gyfer 21 o dai a rhai o’r rheiny yn dai marchnad
agored
·
Bod y datblygiad o fewn
y ffin datblygu. Byddai gwrthod yn arwain at gostau apêl.
·
Croesawu bod Adroddiad Anghenion
Tai wedi ei gwblhau gan yr Hwylysydd Tai Gwledig ac wedi ei gyflwyno fel
rhan o’r cais.
·
Er cymysgedd yn y math o
dŷ, nid yw yn cyfateb yn union i ofynion lleol : er bod 15 tŷ 2/3
llofft, 13 yw’r angen lleol; dim diddordeb i’r byngalo a gosod fflatiau un
person yn anodd
·
Yn gais cryf ar safle
wedi ei ddynodi, ond 20 o dai cymdeithasol yn ormod i bentref, gwledig, bychan
Chwilog
·
Angen ystyried yr
effaith ar gymeriad Chwilog - pentref o arwyddocâd ieithyddol
·
Byddai 10 tŷ yn nifer derbyniol ar y safle gyda
man chwarae i blant
·
Yr asesiad iaith yn nodi
‘gyda’r tystiolaeth gyfyngedig sydd a’r gael, rydym o’r farn y bydd caniatáu’r
cais yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar wydnwch ieithyddol Chwilog’. Hwn
yn ddatganiad cyfforddus, hyderus a hynny ar sail ‘tystiolaeth gyfyngedig’
·
Pwysau i ganiatáu’r cais
drwy awgrymu costau apêl uchel, ac y daw arolygydd o Gaerdydd i gyflwyno barn
er nad yn lleol i’r ardal nac yn ymwybodol o sefyllfa’r Gymraeg yn Chwilog.
·
Bod cais cynllunio byw
ar y safle - cais cynllunio am 21 o dai (7 tŷ fforddiadwy ar gweddill yn
dai marchnad agored), beth felly yw’r dadleuon dros gael 20 o dai
fforddiadwy? Hapus i ganiatáu tai
marchnad agored, ond dim i ganiatáu tai i bobl sydd wir angen tai yng Ngwynedd?
·
Y tai sydd eisoes wedi
ei hadeiladu yn Chwilog wedi cael effaith gadarnhaol ar yr iaith yno ac felly
sylw yn yr asesiad iaith yn cadarnhau be sydd wedi digwydd yn barod. Ysgol
Chwilog wedi ei hadnabod fel un o gadarnleoedd y Gymraeg
·
Yn ddatblygiad
cadarnhaol sydd yn unol â pholisïau Cyngor Gwynedd
·
Datblygiad diweddar yn
Nefyn - 3 tŷ allan o 14 sydd wedi eu gosod i bobl o Nefyn. Dim byd yma i
rwystro pobl / teuluoedd di-gymraeg rhag cael tai yn Chwilog
·
Os caniatáu, cais am
amod i ddefnyddio Polisi Gosod Tai Lleol i roi blaenoriaeth i bobl leol a
gwarchod y Gymraeg
Mewn ymateb i’r cais i osod amod cynllunio am
ddefnydd Polisi Gosod Tai Lleol, nododd y Swyddog Monitro nad oedd gosod amod
o’r fath o fewn grym y Pwyllgor.
Ategodd y Pennaeth Cynorthwyol, pe byddai’r
cais yn cael ei wrthod yn groes i’r argymhelliad, byddai rhaid ei gyfeirio at
gyfnod o gnoi cil oherwydd risgiau cysylltiedig.
d)
Gwnaed cais am bleidlais
gofrestredig:
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y
bleidlais ganlynol ar y cynnig i wrthod y cais:-
O blaid: 6 - Cynghorwyr Huw
Rowlands, Elwyn Edwards, Gareth T Jones, Elin Hywel. John Pughe Roberts,
Gruffydd Williams
Yn erbyn: 9 -
Cynghorwyr Delyth Griffiths, Berwyn Parry
Jones, Edgar Owen, Dafydd Meurig, Cai Larsen,
Dyfrig Siencyn, Louise Hughes, Anne Lloyd Jones, Gareth Coj Parry
Yn atal: 0
Disgynnodd y cynnig.
dd) Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol
â’r argymhelliad
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth
Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytundeb 106 neu gytundeb
unochrog ar gyfer cyfraniad addysgol a chyfarpar chwarae ar lecyn agored ynghyd
a’r amodau canlynol :
1. Amser
2. Datblygiad yn cydymffurfio gyda
chynlluniau a gymeradwywyd
3. Rhaid cyflwyno a chytuno ar raglen
ddarparu tai fforddiadwy
4. Rhaid cytuno’r deunyddiau allanol
gan gynnwys y llechi to
5. Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir
6. Amod Dŵr Cymru / Draenio
7. Amodau Priffyrdd
8. Amodau Bioamrywiaeth / CNC
9. Cynllun Rheolaeth Adeiladu
10. Rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai
unigol.
11. Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd
C3 yn unig
12. Cwblhau tirlunio
Nodyn: Trwydded
Ystlumod
Dogfennau ategol: